Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Wel, y darn cyntaf o gyngor y byddwn yn ei roi yw y dylid cynnal pwysigrwydd cyfraith ryngwladol a rheolaeth y gyfraith. Yr ail ddarn o gyngor y byddwn yn ei roi yw gwrthwynebu a pheidio â chefnogi unrhyw ddeddfwriaeth sy'n tanseilio'r egwyddorion hynny, ac un ohonynt, yn amlwg, fyddai gwrthwynebu cyfeiriad y bil hawliau, sydd, mewn gwirionedd, yn trosglwyddo hawliau cyfreithiol i ddinasyddion o lysoedd y DU i Lys Hawliau Dynol Ewrop, felly mae'n symud i ffwrdd oddi wrth hawliau pobl mewn gwirionedd, ac yn ei hanfod, byddai'n sail i'r egwyddorion hynny ym mhob deddfwriaeth sydd gennym i sicrhau eu bod wedi'u hymwreiddio'n gyfansoddiadol ac i gefnogi'r camau sy'n angenrheidiol i alluogi'r gwledydd datganoledig—Seneddau datganoledig y Deyrnas Unedig—i allu sicrhau eu bod hefyd wedi'u hymwreiddio o fewn eu systemau cyfreithiol eu hunain.