Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:35, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Cytunaf â chi, Gwnsler Cyffredinol: mae'r ateb yma yng Nghymru. Ac roeddwn braidd yn bryderus pan oedd y Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fel pe bai'n awgrymu mai Llywodraeth Lafur yn San Steffan oedd yr ateb. Nawr, mae Brexit yn gwbl anghydnaws â chytundeb Dydd Gwener y Groglith ac mae'n arwain tuag at ailuno Iwerddon. Ni fydd arweinydd y Blaid Lafur yn cyfaddef bod Brexit yn drychineb. Ni fydd Llywodraeth San Steffan a Phlaid Lafur San Steffan yn caniatáu hunanbenderfyniaeth i bobl yr Alban. Mae Llywodraeth San Steffan yn ceisio diddymu deddfwriaeth sylfaenol Gymreig, tra bo'r arweinydd Llafur yn San Steffan yn gwahardd aelodau cabinet yr wrthblaid rhag cefnogi gweithwyr. Gwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n aelod o Lafur dros Annibyniaeth eto? [Chwerthin.]