Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 6 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:36, 6 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch ichi am y cwestiwn difrïol iawn hwnnw, a rhoddaf ateb sydd efallai'n llai difrïol iddo. Y pwyntiau a wnewch am Brexit, nid wyf yn credu bod unrhyw anghydweld gwirioneddol ymhlith pobl resymol a diduedd nad yw Brexit wedi bod yn dda i Gymru, nad yw wedi bod yn dda i'r Deyrnas Unedig, ac nad yw wedi bod yn dda i Ewrop. Y cwestiwn cyfansoddiadol yw sut yr awn ati i ddatblygu masnach heb wrthdaro gydag Ewrop, sy'n rhywbeth yr ydym i gyd am ei weld, ac wrth gwrs, ymdriniodd y Prif Weinidog â hynny'n drwyadl iawn ddoe.

O ran y rheini sydd â hawl i fynychu llinellau piced, wel, roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r Aelod ychydig yn ôl, yng ngorsaf Caerdydd, i gefnogi'r bobl yn y rhwydwaith rheilffyrdd a oedd yn gweithredu'n ddiwydiannol yn erbyn Network Rail, y cwmnïau rheilffyrdd, ac i bob pwrpas, yn erbyn Llywodraeth y DU, ond nid yn erbyn Llywodraeth Cymru.