Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch i Luke am gyflwyno’r cynnig hwn. Mae'n un rwyf wedi'i gefnogi ers tro, ac yn wir, mae'r ddeiseb i'r Senedd i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes', a lofnodwyd gan fwy na 850 o bobl, yn tarddu o fy etholaeth i yng Ngogledd Cymru gan Sam Swash.
Ar lefel egwyddorol, mae'n gwbl annheg fod y gallu i fod yn berchen ar anifail anwes yn dibynnu, ar hyn o bryd, ar p'un a ydych yn berchen ar dŷ ai peidio. Mae diffyg deddfwriaeth sy'n gwahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' yn gosod cosb bellach ar y nifer cynyddol o bobl, yn enwedig pobl ifanc, nad ydynt yn gallu mynd ar yr ysgol dai. Byddai’n well gan y rhan fwyaf o’r bobl hyn gael eu cartref eu hunain, ond ni allant wneud hynny oherwydd anghydraddoldeb cyfoeth, prisiau tai uchel iawn a phrinder tai fforddiadwy. Maent yn aml yn cael eu gorfodi i rentu o anghenraid, gan dalu mwy mewn taliadau rhent nag y byddent mewn taliadau morgais, am fod ein system dai wedi torri i'r fath raddau. Ac mae cyfyngu ymhellach ar ryddid y grŵp hwn o bobl i fod yn berchen ar anifail anwes, a fyddai'n dod â chysur mawr iddynt, yn halen ar y briw.
Nid yw unrhyw gymdeithas sy’n rhoi cyfyngiadau ar hawliau pobl yn seiliedig ar eu gallu i fforddio eiddo yn un sydd â’r hawl i alw ei hun yn flaengar. Mae tenantiaid ac anifeiliaid anwes yn dioddef bob dydd ledled Cymru oherwydd y gwaharddiadau cyffredinol cosbol hyn ar anifeiliaid anwes. Y prif reswm a roddir dros roi cŵn mewn canolfannau ailgartrefu yw oherwydd newid yn amgylchiadau pobl, sef methu byw mewn eiddo rhent gydag anifail anwes. Mae’n gwbl amlwg fod y ddeddfwriaeth bresennol yn methu. Nid oedd annog landlordiaid i fod yn fwy cymwynasgar drwy rannu arferion gorau â hwy byth yn mynd i fynd i'r afael â'r broblem hon, fel yr amlygir yn y ffaith bod llai na 7 y cant o eiddo rhent preifat yn cael eu hysbysebu fel rhai sy'n gyfeillgar i anifeiliaid anwes—llai na 7 y cant.
Rwy'n aml yn clywed esgusodion am y niwed posibl y gallai anifeiliaid anwes ei wneud i eiddo rhent, ac eto ychydig iawn o denantiaid preifat sy’n berchen ar anifeiliaid anwes sy’n achosi difrod i’r eiddo y maent yn ei rentu—nid yw’n digwydd. Yn ychwanegol at hynny, yn ôl Shelter Cymru, nid yw 34 y cant o lety rhent preifat yng Nghymru yn bodloni'r safonau ar gyfer amodau byw boddhaol beth bynnag. Pan nad yw mwy na thraean o dai rhent preifat yng Nghymru yn bodloni safonau byw derbyniol, mae’n amlwg nad yw’r landlordiaid hyn yn ddarostyngedig i'r un safonau â thenantiaid, pan fydd tenantiaid yn cael eu cosbi'n llym ar sail digwyddiadau damcaniaethol, posibl.
Nid yw’r sefyllfa yng Nghymru yn un gynaliadwy mwyach, a chaiff hyn ei waethygu gan y ffaith bod Llywodraeth y DU, nad yw’n enwog am ei hagweddau blaengar, eisoes wedi deddfu i roi diwedd ar yr arfer hwn. A byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i roi cynnig Luke ar waith cyn gynted â phosibl i sicrhau nad ydym yn parhau i wahaniaethu yn erbyn tenantiaid ag anifeiliaid anwes yma yng Nghymru.