Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Un o'r darnau cyntaf o waith achos ces i ar ôl cael fy ethol oedd apêl am help gan fenyw oedd wedi cael ei hail-gartrefi a'i had-leoli yn sgil dianc o gamdriniaeth ddomestig. Roedd hi mewn cyflwr hynod fregus, wedi gorfod symud o'i chartref a'i chymuned i dref newydd, wedi gorfod symud ei merch i ysgol newydd, yn ceisio gwneud ffrindiau newydd ac ymdopi â'r trawma a ddioddefodd yn sgil trais domestig.
Roedd ganddi hi hwyaid, ac fe soniodd hi wrthyf i fod gwylio'r hwyaid a gofalu amdanynt yn ei helpu i ymdopi â'r straen meddyliol oedd arni, ond doedd y gymdeithas tai ddim yn fodlon iddi gadw'r hwyaid am eu bod yn cael eu cyfrif nid fel anifeiliaid anwes ond fel da byw.
Es i i'w gweld. Nifer fach o hwyaid bach oedd y rhain, wedi eu cadw yn lan ac yn ddestlus mewn cwt bach pwrpasol pert yn ei gardd gefn—anifeiliaid anwes oedd yn dod â phleser a chysur i berson bregus oedd dirfawr angen y pleser a'r cysur hwnnw. Dwi'n cofio hi'n dweud wrthyf i, 'Dwi'n cael fy nhrin yn wahanol gan nad ydw i'n medru fforddio prynu fy nghartref.'
Fe ildiodd y gymdeithas tai yn y pen draw, ar ôl i fi ymyrryd, ond faint yn fwy o bobl sy'n derbyn gorchmynion ac yn eu derbyn, heb y gallu na'r egni na'r wybodaeth o ran sut i'w herio? Pam ddylai rhywun sydd yn methu â fforddio prynu eu cartref, neu sydd wedi gorfod symud i gartref newydd am ba bynnag rheswm, gael eu hamddifadu o'r gwmnïaeth, o'r cymorth i iechyd meddwl, o'r pleser a'r cariad y gall anifeiliaid anwes eu darparu? Rwy'n eich annog chi i gefnogi'r cynnig hwn a fyddai'n sicrhau bod pawb yn gallu elwa o gadw anifail anwes, beth bynnag eu hamgylchiadau.