1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2022.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mwy o bobl yng Nghwm Cynon i gael gwaith? OQ58336
Llywydd, diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Ym mis Medi, byddwn yn estyn y cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i'r rheini mewn addysg a hyfforddiant. Bydd hwnnw'n cefnogi mwy o fenywod yng Nghwm Cynon yn arbennig i gael gwaith, ochr yn ochr â holl ymyriadau eraill Llywodraeth Cymru yn y farchnad lafur.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Mae hefyd yn gadarnhaol iawn gweld yr ystod o ymyriadau posibl o dan ReAct+ i gefnogi pobl i gael gwaith. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'r cyfleoedd a grëir mewn economi werdd wrth i ni symud tuag at sero net, fel y gall pobl yng Nghwm Cynon hyfforddi ac ailhyfforddi ar gyfer y swyddi y mae arnom eu hangen yn awr ac yn y dyfodol?
Wel, Llywydd, byddwn ni'n cyflwyno cynllun sgiliau sero net Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach eleni. Wrth wneud hynny, byddwn yn gweithio'n agos gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd a'i phartneriaeth sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod gennym ymdeimlad mor agos â phosibl o'r union fath o sgiliau y mae Vikki Howells yn cyfeirio atyn nhw, a'r angen sy'n bodoli am y sgiliau hynny yng Nghwm Cynon yn benodol. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, Llywydd, am ailhyfforddi pobl, ac mae rhaglen cyfrifon dysgu personol Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, wedi bod yn llwyddiant sylweddol iawn, oherwydd mae'n caniatáu i bobl sy'n cael eu cyflogi eisoes uwchsgilio, i ailsgilio a sicrhau eu bod yno ar gyfer swyddi'r dyfodol. Byddwn yn buddsoddi £54 miliwn dros dair blynedd yn awr yn y rhaglen honno. Dyrannwyd £10 miliwn ychwanegol i'r rhaglen yn gynharach eleni, yn enwedig i ddiwallu anghenion meysydd lle mae prinder sgiliau. Cyfeiriwyd £4 miliwn o'r £10 miliwn hwnnw i gefnogi hyfforddiant mewn ynni gwyrdd, cerbydau hybrid a thrydan, ac adeiladu sero net, yr union fath o feysydd y mae Vikki Howells wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma. A gwn y bydd yn falch bod Coleg y Cymoedd wedi cael £2.3 miliwn ar gyfer cyfrifon dysgu personol yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf i sicrhau y bydd y bobl hynny yng Nghwm Cynon sy'n dymuno ailhyfforddi ar gyfer swyddi yn y dyfodol yn gallu manteisio ar yr union fathau o gyfleusterau sgiliau ac addysg a fydd yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny.
Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, gall pobl sy'n ei chael yn anodd cael gwaith weithiau ddioddef o broblemau sy'n gysylltiedig â hunanhyder isel, ac mae cael eu gwrthod dro ar ôl tro am swyddi, heb wybod hyd yn oed y rhesymau pam mewn rhai achosion, yn gallu bod mor niweidiol i rai pobl fel eu bod yn rhoi'r gorau i geisio, er eu bod yn aml yn fwy na chymwys i wneud ystod eang o swyddi. Un o'r ffyrdd o oresgyn hunanhyder isel yn y gweithle yw drwy ddefnyddio cynlluniau mentora, gan baru'r rhai sy'n dymuno cael gwaith gyda phobl sy'n gweithio mewn meysydd perthnasol. Gall mentoriaid helpu pobl i wireddu eu potensial llawn, ac maen nhw mewn gwell sefyllfa i allu gwerthuso pam mae eu mentoreion yn ei chael hi'n anodd cael gwaith. Diolch.
Llywydd, diolch i'r Aelod am hynny, a bydd yn falch o wybod bod amrywiaeth o gynghorwyr a mentoriaid arbenigol yn gweithredu yng Nghwm Cynon, i wneud yn union yr hyn y mae Joel James wedi'i ddweud, i helpu'r bobl hynny sy'n wynebu rhwystrau cymhleth rhag cael gwaith, i lywio eu ffordd o'r man lle maen nhw heddiw i'r swyddi sydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Mae'r gwasanaeth gyrfaoedd yn gweithredu o Aberdâr. O fis Medi ymlaen, bydd ym Mhontypridd hefyd, yn helpu pobl sy'n byw yng nghwm Cynon isaf i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio allan o Barc Gwledig Cwm Dâr ar hyn o bryd. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn enghraifft dda iawn o ymateb i'r union faterion y mae Joel James wedi'u crybwyll, Llywydd. Mae yna bobl sydd â'r ymrwymiad, sydd â'r sgiliau weithiau, i gael y swydd y byddai ei hangen arnyn nhw, ond nid oes ganddyn nhw yr hyder. Ac yn enwedig os ydyn nhw wedi cael y mathau o brofiadau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw—gwneud cais am swyddi a pheidio â'u cael, peidio â chael adborth ynghylch pam mae hynny'n wir—yna mae angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnoch, ar lawr gwlad, i drwsio'r diffyg hyder hwnnw ac i roi syniadau a chefnogaeth newydd i bobl ar hyd y daith honno, sicrhau, mewn cyfnod sy'n agos iawn at gyflogaeth lawn yng Nghymru, lle mae llawer o gyflogwyr yn chwilio am bobl i fanteisio ar gyfleoedd gwaith y maen nhw'n ei chael yn anodd eu llenwi, y gallwn ddod â'r ddau beth hynny at ei gilydd.