Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Wel, mae'n amhosib gorbwysleisio pwysigrwydd y diwydiant ffermio i Gymru wledig. Busnesau ffermio yng Nghymru ydy asgwrn cefn economi wledig Cymru, yr echel y mae cymunedau gwledig yn troi o'i chwmpas. Mae cynhwysion crai sydd yn cael eu cynhyrchu yma yn ganolog i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, sy'n werth miliynau o bunnoedd ac yn cyflogi dros 239,000 o bobl yma. Ond mae diciâu mewn gwartheg yn parhau i daflu cysgod tywyll ar draws y diwydiant yng Nghymru, ac mae'n un o'r prif fygythiadau i gyflawni'n gweledigaeth o ddiwydiant amaethyddol cynhyrchiol, blaengar a phroffidiol yma. Mae'r dicter a'r rhwystredigaeth yn y diwydiant o ran methiant Llywodraethau olynol dro ar ôl tro i weithredu strategaeth gynhwysfawr i ddileu diciâu yng Nghymru ar ei mwyaf erioed.
Dwi am atseinio barn yr undebau amaethol ynghylch eu gwrthwynebiad i system prisio yn ôl tabl—y tabulation rydym ni wedi clywed amdano—fel modd o bennu iawndal yn sgil y diciâu. Mae gan gynnig o'r fath ddiffygion sylweddol, ond oherwydd cyfyngder amser, dwi am bwysleisio un gwendid yn benodol, sef nad ydy system o'r fath yn deg i'r ffermwyr nac i'r Llywodraeth, oherwydd mae system sy'n seiliedig ar gyfartaleddau yn debygol o greu cynifer o achosion o orbrisio ag sy'n cael eu creu o danbrisio. Fedrwn ni ddim derbyn prisio yn ôl tabl heb sicrwydd felly fod ffermwyr am gael pris teg.
Mae'r sector filfeddygol yn wynebu heriau sylweddol ar hyn o bryd, a hynny yn sgil Brexit wrth i nifer o filfeddygon adael y wlad yma a mynd yn ôl i wlad eu mebyd. Mae hyn yn ei dro yn achosi trafferthion wrth brofi ar gyfer y diciâu ac fe glywodd y pwyllgor bryder fod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ffermydd a phrofion y diciâu. Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru wedi cael eu cosbi oherwydd diffyg personél ac adnoddau milfeddygol. Felly, dwi’n annog y Llywodraeth i sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael cyn cyflwyno unrhyw ofynion profi cynyddol. Un ateb posibl, fel rydyn ni wedi'i glywed yn y cyswllt hwn, ydy cyflwyno profwyr lleyg; felly, mi fyddwn yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio i hyn cyn gynted â phosibl.
Mae’r sefyllfa bresennol wedi dwysáu ymhellach gan raglen lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021, sy’n datgan y bydd yn gwahardd difa moch daear i reoli lledaeniad y diciâu mewn gwartheg. Mae hyn yn gam gwag. Does yna ddim brechiad parod ar gyfer y diciâu mewn gwartheg na bywyd gwyllt, felly'r unig erfyn effeithiol sydd gennym ni ydy difa, ac mae’n rhaid i ddifa fod yn rhan o’r mix, er lles gwartheg a bywyd gwyllt. Mae yna dystiolaeth i gefnogi polisi effeithiol o ddileu’r diciâu dros y ffin yng Nghaerloyw a Gwlad yr Haf, ac fe welon ni ostyngiad o 66 y cant a 37 y cant yn nifer yr achosion yn y cyfnod difa yno. Does yna ddim ffordd arall wedi cael ei chynnig i fynd i’r afael â’r diciâu, felly mae’n rhaid defnyddio’r unig erfyn sydd gennym ni ar hyn o bryd, sef difa.
O ddarllen adroddiad y pwyllgor, mae’n rhyfeddol i mi ddeall nad oes yna ddata cywir ar lefel y clefyd ym mywyd gwyllt ychwaith. Dylai gwybodaeth o’r fath fod yn elfennol wrth ddatblygu polisi i fynd i’r afael â’r clefyd. Dydy o ddim yn syndod nad yw’r camau sydd wedi cael eu cymryd hyd yma ddim wedi llwyddo, gan mai dim ond un ochr o’r dystiolaeth sy’n cael ei hystyried. Mae’r diffyg yma yn y data yn gadael ein ffermwyr a bywyd gwyllt i lawr; mae’n rhaid gwella ar y data yma, felly. Mae’n rhaid i’r broblem yma ddod i ben. Mae pawb yma yn gytûn na all y sefyllfa bresennol barhau, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ffermwyr yn cael digon o gefnogaeth i ddileu’r clefyd erchyll yma o’r gwartheg ac o fywyd gwyllt.