2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am sefyllfa gwasanaethau deintyddol a ddarperir drwy’r GIG yn Arfon? OQ58352
Wrth i academi ddeintyddol gogledd Cymru gael ei sefydlu yn yr hydref eleni, a gan fod 96 y cant o gyllid deintyddiaeth yr NHS ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynd i bractisau sy’n rhan o'r broses diwygio’r contract, dwi’n disgwyl gweld gwelliannau sylweddol o ran mynediad i gleifion yn y gogledd yn y dyfodol agos.
Dwi'n falch iawn o glywed hynny, oherwydd mae nifer fawr o etholwyr Arfon yn cysylltu â mi am y diffyg darpariaeth. Mae yna nifer cynyddol yn methu â chofrestru efo deintydd NHS, yn cynnwys plant, a does yna ddim lle efo deintyddion yn unman yn y gogledd. Mae'r gwasanaeth brys dan straen hefyd, efo un claf yn honni iddo geisio cysylltu â'r rhif arbennig dros 200 o weithiau mewn diwrnod, ac eraill yn honni eu bod nhw wedi gorfod aros ar y ffôn am dair awr cyn cael ateb gan y gwasanaeth brys. Mi fedrwn i fynd ymlaen ac ymlaen yn rhestru mwy a mwy o'r problemau sy'n cael eu hadrodd imi. Dwi yn falch fod yna rywfaint o oleuni ar gyfer y cleifion yma rŵan. Fedrwch chi roi amserlen ynglŷn â datblygiad yr academi ym Mangor, a phryd ydych chi'n meddwl y gwelwn ni newid sylweddol yn y sefyllfa yn fy etholaeth i?
Diolch yn fawr. Mae'r sefyllfa yn un anodd o ran deintyddiaeth ar draws Cymru. Wrth gwrs, rŷn ni dal mewn sefyllfa lle mae COVID wedi effeithio ar y gwasanaeth. Roeddem ni i lawr at 50 y cant tan yn ddiweddar iawn, ac rydym ni nawr nôl at tua 80 y cant. Wrth gwrs, mae lot o bobl nawr eisiau gweld deintydd ar ôl aros cyhyd.
O ran yr academi newydd, rwy'n falch iawn y bydd adcademi newydd yn agor ym Mangor yn hydref eleni, ac unwaith y bydd hi wedi ei sefydlu'n llawn, fe fyddwn ni'n disgwyl gweld access i 12,000 i 15,000 o bobl, a bydd honno ar agor chwech diwrnod yr wythnos. Felly, fe fydd hwnna'n gwneud newid sylweddol, gobeithio.
Ond am y tymor byr, mae'r bwrdd iechyd wedi creu mwy o access i bobl sydd yn ffeindio'u hunain mewn sefyllfa urgent, ac maen nhw wedi creu access i'r rheini sy'n ffeindio eu hunain heb ddeintydd os oes yna emergency.
Wrth gwrs, nid yw hyn yn newydd. Cyn y pandemig, roedd etholwyr yn cysylltu â mi ynglŷn â diffyg deintyddion y GIG yn Arfon. Fel y nododd un ohonynt yn 2019,
'Mae fy merch a minnau wedi bod heb ddeintydd ers ymhell dros flwyddyn erbyn hyn. A oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i ddatrys problem diffyg deintyddion y GIG ym Mangor a thu hwnt?'
Ysgrifennais atoch fis Awst diwethaf ar ran etholwr a ddywedodd,
'Rwy'n ysgrifennu i dynnu eich sylw at y prinder eithafol o ddarpariaeth ddeintyddol y GIG yng ngogledd-orllewin Cymru. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn aelod o bedwar practis deintyddol gwahanol, i gyd o amgylch fy nghartref neu yn ninas Bangor. Mae'r pedwar naill ai wedi cau neu wedi rhoi'r gorau i drin cleifion y GIG.'
Yn eich ateb, fe ddywedoch chi
'Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwneud llawer o gynnydd gyda'u cynlluniau i sefydlu academi ddeintyddol newydd ar gyfer gogledd Cymru ym Mangor, a bydd honno'n rhoi cyfle i'r bwrdd iechyd gynyddu'r ddarpariaeth ddeintyddol yn sylweddol, gan wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG', fel y nodoch chi yn eich ateb cychwynnol, a'ch bod yn gwneud cynnydd da gydag adfer gwasanaethau deintyddol. Ond hanner blwyddyn yn ddiweddarach, tynnodd arweinydd yr wrthblaid sylw'r Prif Weinidog at achos athro ym Mangor a oedd yn ei chael hi'n amhosibl dod o hyd i ddeintydd GIG newydd—
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda.
—pan roddodd ei ddeintydd presennol y gorau i gynnal triniaethau GIG a bod rhestr aros o ddwy flynedd o leiaf. Mae pobl mewn poen yn awr. Mae'n wych fod cymorth yn dod yn y pen draw, ond beth a wnewch yn ei gylch i'r bobl sydd ei angen yn awr?
Diolch yn fawr. Rwy'n treulio llawer o amser ar hyn, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych. Mae gennym brif swyddog deintyddol newydd, a chredaf ei fod o ddifrif yn ceisio deall y sefyllfa, ac mae'n deall difrifoldeb y sefyllfa. Nid yw'n sefyllfa sy'n unigryw i Gymru, mae'n fater sy'n her ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Rydym ymhellach ymlaen nag y maent yn Lloegr gyda'r contract newydd a gobeithiwn y bydd hynny'n darparu 112,000 o gyfleoedd newydd ar gyfer mynediad i gleifion, a chredaf y bydd hynny'n arwyddocaol. Yn y gogledd, o ran y contract, mae 96 y cant o'r practisau wedi ymrwymo i'r contract newydd hwnnw. Felly, bydd newid yn y ffordd y mae deintyddion yn ymdrin â'r mater hwn, ond rydym yn gobeithio y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth. Ac wrth gwrs, rydym yn canolbwyntio yn awr hefyd ar hyfforddi mwy o therapyddion deintyddol a dyna yw hanfod academi Bangor.