– Senedd Cymru am 2:25 pm ar 20 Medi 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae busnes Cyfarfod Llawn yr wythnos hon yn ôl yr hyn sydd wedi'i nodi ar yr agendâu y Cyfarfod Llawn a gafodd eu cyhoeddi y bore yma. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Gweinidog, gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog addysg ar ddatblygu sgiliau codio yma yng Nghymru?
Yr wythnos cyn diwethaf, gwnes i ymweld â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd lle cafodd pryderon eu codi gan fynegi nad oes digon o bwyslais yn cael ei roi ar ddysgu sgiliau codio mewn ysgolion a'i bod yn alwedigaeth sy'n canolbwyntio'n gryf ar ddynion ar hyn o bryd. Yn ddiau, mae codio'n sgil sydd ei angen ar bob sefydliad, a heddiw, mae codio wedi'i gyfannu mor llwyr, nid yn unig ledled busnesau, ond hefyd ledled ein bywydau cyfan, bod gan bron bob busnes rhyw fath o god wrth ei graidd.
Mae dysgu pobl ifanc sut i lwyddo yn y byd digidol yn gwbl hanfodol, yn fy marn i, ac un mater mawr yw bod y sgiliau sydd eu hangen arnom i ni lwyddo yn ein bywydau digidol yn newid mor gyflym fel bod addysgwyr wir yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae lefel gallu digidol unigolyn yn prysur ddod yn un o'r pethau allweddol sy'n penderfynu ei rym i ennill cyflog, ac eto yng Nghymru, mae'n ymddangos ei fod yn glytwaith o sgiliau digidol. Ym mis Mehefin 2017, lansiodd y Gweinidog Addysg ar y pryd 'Cracio'r cod: Cynllun i ehangu clybiau codio ym mhob rhan o Gymru', a wnaeth sawl ymrwymiad o dan benawdau strategol gwahanol. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad o ran canlyniadau'r strategaeth a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol nawr i sicrhau bod disgyblion Cymru yn cael sgiliau digidol arbenigol i gyd-fynd â maint yr heriau sydd o'n blaenau ni? Diolch.
Diolch. Fel mam i ferch sy'n codio, rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y sector; ei fod yn un i ddynion yn bennaf. Nid wyf i'n gwybod a ydych chi'n ymwybodol—rwy'n siŵr eich bod chi—ei bod hi'n Wythnos Codio Genedlaethol yr wythnos hon. Gwnaeth hynny ddechrau rai blynyddoedd yn ôl nawr i gydnabod yr angen i lenwi'r bwlch sgiliau cynyddol hwnnw a oedd yno.
Gwnaeth y Gweinidog gyflwyno'r fframwaith cymhwysedd digidol yng Nghymru 2022 dim ond eleni. Mae'n rhan annatod, yn amlwg, o'r cwricwlwm newydd sydd wedi dod i fodolaeth y mis hwn, ac mae'n faes dysgu sy'n nodi sut i ddysgu'r wybodaeth, y gallu a'r sgiliau sydd eu hangen ar blant i allu defnyddio technoleg a systemau yn hyderus, a hefyd yn greadigol ac yn feirniadol. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn parhau i weithio'n agos gyda'r pedair partneriaeth sgiliau rhanbarthol i nodi blaenoriaethau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol, ac mae hynny'n gwbl seiliedig ar yr hyn y mae cyflogwyr yn ei ddweud wrthym ni eu bod angen wrth symud ymlaen. Gofynnodd y Gweinidog yn benodol bod partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ystyried sgiliau digidol fel rhan o'r gwaith hwn.
Oes modd cael datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â chyfathrebu gyda'r cyhoedd am newidiadau i wasanaethau Trafnidiaeth i Gymru, yn arbennig rhai munud olaf? Mae nifer o bobl wedi cysylltu gyda fi y bore yma wedi cael trafferth yn cyrraedd y gwaith, coleg, ysgolion ac apwyntiadau brys oherwydd bod trenau ddim yn rhedeg rhwng Pontypridd a Chaerdydd. Nid peth unigryw mo hwn; mae'n digwydd yn aml bod gwasanaethau yn cael eu canslo ar y funud olaf gyda dim digon o fysus ar gael i fynd â phobl pan nad yw'r trenau yn rhedeg. Mewn un enghraifft y bore yma, gwerthwyd tocyn trên i berson tua wyth cyn yna dweud wrthynt yn syth bin nad oedd trên yn rhedeg a byddai bws mini bob 15 munud. Gyda chymaint yn aros, roedd yn amlwg y byddai yn oriau tan fyddant yn cyrraedd Caerdydd, gan olygu eu bod wedi gorfod ffeindio ffordd amgen o gyrraedd. Nid yw hyn yn ddigon da ac mae cyfathrebu gyda'r cyhoedd yn echrydus, felly hoffwn wybod pa drafodaethau mae'r Llywodraeth yn eu cael er mwyn gwella cyfathrebu.
Yn ail, hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad gan Wenidog yr Economi ynglŷn â'r paratoadau ar gyfer manteisio ar y proffil a ddaw yn sgil tîm dynion Cymru yn y pêl-droed yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.
Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf, rydych chi'n hollol gywir, mae'r diffyg cyfathrebu'n annerbyniol os oedd fel yr oeddech chi wedi'i amlinellu, yn enwedig yn yr achos y gwnaethoch chi ei nodi y bore 'ma. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyfarfod yn rheolaidd â phrif weithredwr a swyddogion eraill Trafnidiaeth Cymru, ac yn sicr, byddaf yn gofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau os oes unrhyw beth arall i'w ddweud.
O ran manteisio ar y llu o gyfleoedd yr wyf yn credu y bydd yna ar draws nifer o'n portffolios yn Llywodraeth Cymru o ran Cwpan y Byd ym mis Tachwedd yn Qatar, yn amlwg, mae Gweinidog yr Economi yn arwain ar ddigwyddiadau mawr, ond bydd Gweinidogion eraill hefyd yn cymryd rhan. Rwy'n gwybod, o safbwynt fy mhortffolio i, bwyd Cymru, ac hyrwyddo bwyd Cymru, byddwn ni'n cynnal digwyddiad cyn Cwpan y Byd yn Qatar i hyrwyddo hynny, a bydd Gweinidogion yn cyflwyno datganiadau fel bo'n briodol.
Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os yn bosibl. Rydym ni'n deall bod datganiad economaidd neu gyllidol yn cael ei wneud gan Lywodraeth y DU yn ddiweddarach yr wythnos hon. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut bydd hynny'n effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Rydym ni eisoes yn bryderus, rwy'n credu, llawer ohonom ni ar bob ochr y Siambr, fod camreolaeth economaidd ac anllythrennedd economaidd yn Llundain eisoes yn effeithio ar ein gallu ni yma i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Mae effaith chwyddiant ar garlam yn mynd i gael effaith ar ein cyllidebau, ac, ar yr un pryd, os yw Llywodraeth y DU yn mynd i ddilyn polisi toriadau treth i'r cyfoethog, rydym ni'n mynd i weld effeithiau gwirioneddol yn ein gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i bawb yn y wlad hon. Felly, byddwn i'n ddiolchgar os gallem ni gael datganiad ar hynny.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano, Gweinidog, yw hyn: un o'r materion yr ydym ni wedi'i weld yn ystod y misoedd diwethaf yw'r effaith gynyddol a'r niwed a gafodd ei wneud i'n heconomi drwy adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi gweld penderfyniadau buddsoddi yn barod yn symud i ffwrdd o Gymru, yn symud i ffwrdd o'r DU. Rydym ni wedi gweld twll du gwerth £40 biliwn yn Nhrysorlys y DU o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni'n gweld twf yn cael ei effeithio arno o ganlyniad i Brexit. A fydd Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf reolaidd i'r holl Aelodau yma ynghylch y niwed sy'n cael ei wneud i'n lles economaidd gan Brexit a drwy ddilyn y polisïau economaidd ffôl y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn, fel y gallwn ni i gyd ddeall y niwed y mae Brexit yn ei wneud i'n heconomi a'n cymunedau?
Diolch. Wel, os oes yna ddatganiad cyllidol yn dod gan Lywodraeth y DU, rwy'n sicr y bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Rydych chi'n hollol gywir am y misoedd diwethaf. Fel Llywodraeth, mae gennym ni £600 miliwn yn llai o bŵer gwario ers yr adolygiad gwariant cynhwysfawr a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU y llynedd, felly rydym ni'n ymwybodol iawn o'r effaith ar ein cyllideb. Felly, rwy'n credu y bydd y Gweinidog yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau os oes datganiad o'r fath yn ddiweddarach yr wythnos hon neu yn wir y mis hwn.
O ran eich cais ynghylch rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar yr effaith gronnus, os mynnwch chi, o'r difrod yr ydym ni'n credu sydd wedi'i wneud i'n gwlad o adael yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n credu y byddai'n anodd iawn dod â'r cyfan at ei gilydd mewn datganiad, ond rwy'n credu yn sicr y ffordd yr ydym ni wedi cyflwyno ein polisïau—ac yn sicr, yn fy mhortffolio fy hun, bydda i'n cyflwyno'r Bil amaethyddol er enghraifft ac yn dangos sut, y gefnogaeth i ffermwyr, sut yr ydym ni'n gorfod addasu i hynny oherwydd nid ydym ni'n gwybod beth fydd ein cyllideb ni.
Gweinidog, ym mis Chwefror eleni, cwympodd tyrbin gwynt yn Gilfach Goch i'r llawr, gan ddinistrio ei lafnau. Ers hynny, rwyf i wedi herio'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghylch y potensial i hyn ddigwydd rhywle arall a pha fesurau y mae modd eu cymryd gyda thirfeddianwyr i sicrhau diogelwch. Wrth i ni o bosibl weld cynnydd yn natblygiad ynni gwynt ar y tir, ac wrth i ni werthuso sut i sicrhau ein diogelwch ynni tymor hir, mae angen hyder ar bobl bod tyrbinau o'r fath yn ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei nod o blaid ynni glân, felly a wnaiff y Gweinidog drefnu dadl ynghylch sut y mae modd cyflawni hyn mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy? Diolch.
Yn sicr fe gaf drafodaeth gyda'r Gweinidog priodol ac adrodd yn ôl atoch.
Trefnydd, rŷn ni wedi clywed yn barod am y pryderon sydd wedi cael eu mynegi gan drigolion canolbarth a gogledd Cymru am y bwriad posibl o ad-drefnu gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru. Ac rŷn ni wedi clywed gan y Prif Weinidog efallai mai nid lle Llywodraeth Cymru yw delio â hyn. Ond buaswn i'n dadlau bod y gwasanaeth ambiwlans yn rhan o'r jig-sô mawr yna, yn rhan o'r ystod o wasanaethau sydd yn delio ag achosion brys mewn ardaloedd gwledig.
Nawr, yn ogystal â'r pryder am yr ambiwlans awyr, mae yna bryder hefyd am amseroedd ymateb ambiwlansys cyffredin. Ym Mhowys, dim ond 43 y cant o alwadau coch ddechrau'r flwyddyn hon oedd yn cael eu hateb o fewn yr amser targed. Felly, yn sgil yr holl bryderon, a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth am ba gamau sy'n cael eu cymryd i wella darpariaeth iechyd brys yn ein cymunedau gwledig?
Diolch. Wel, fel y gwnaethoch chi ddweud, gwnaeth y Prif Weinidog gyfeirio at hyn yn ystod ei sesiwn holi ac ateb, ac yn bendant, nid wyf i'n anghytuno, a dydw i ddim yn credu y byddai'r Prif Weinidog, bod yr ambiwlans awyr yn rhan o jig-so. Fodd bynnag, mae'n ffyrnig annibynnol. Rwy'n cofio, pan oeddwn i'n Weinidog Iechyd, 11 mlynedd yn ôl, roedden nhw'n ffyrnig annibynnol bryd hynny hefyd. Nid ydyn nhw'n cael unrhyw arian uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, felly mae'r penderfyniadau y maen nhw'n eu cymryd nawr yn fater iddyn nhw'n llwyr, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn derbyn y gwahoddiad gan eu prif weithredwr i gael trafodaethau parhaus gydag Aelodau. O ran amseroedd ambiwlans a gwasanaethau ambiwlans, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiadau yn rheolaidd o ran hynny.
Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf ar gefnogaeth i blant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan feigryn. Yn ystod wythnos olaf toriad haf y Senedd, ar 4 Medi i 10 Medi, cafodd Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn ei chynnal, ac ar ddechrau'r wythnos, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Meigryn adroddiad byr yn nodi ymchwil y maen nhw wedi'i gynnal i'r effaith ar blant a phobl ifanc a chyflwyno argymhellion i wella eu lles yn yr ysgol ac mewn lleoliadau eraill, oherwydd yr amcangyfrif yw bod un o bob 10 plentyn a phobl ifanc yn byw gyda meigryn a gall hyn effeithio ar eu datblygiad a'u cyfranogiad mewn addysg, gweithgareddau cymdeithasol a rhannau allweddol eraill o dyfu i fyny. Eu nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael gwybodaeth a chefnogaeth a chanllawiau effeithiol yn benodol ar gyfer gofalwyr, ysgolion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.
Mae fy nghais olaf am ddatganiad yn ymwneud â chefnogi a grymuso pobl fyddar yng Nghymru. Y mis hwn, mis Medi, mae'n Fis Ymwybyddiaeth o Fyddardod Rhyngwladol. Yr wythnos hon, 19 Medi i 25 Medi, mae'n Wythnos Ryngwladol Pobl Fyddar, a dydd Sul nesaf mae'n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Fyddardod y Byd. Mae ymwybyddiaeth o fyddardod yn gyfle gwych—neu mae'r mis ymwybyddiaeth o fyddardod yn gyfle gwych—i wir ddathlu a chefnogi'r gymuned fyddar, annog hygyrchedd ac addysgu ein hunain ac eraill am fyddardod. Thema Wythnos Ryngwladol Pobl Fyddar eleni yw datblygu cymunedau cynhwysol i bawb, ac mae Diwrnod Byd Pobl Fyddar ddydd Sul yn cydnabod hawliau pobl fyddar ledled y byd ac yn galw ar sefydliadau gwahanol i gynnal yr hawliau hyn.
Rydych chi'n ymwybodol, ar lefel y DU, fod Deddf Iaith Arwyddion Prydain wedi bod yn ddiweddar, ond nid yw honno'n ymestyn dyletswyddau adrodd na chanllawiau i Lywodraethau Cymru na'r Alban, a dim ond deddfwriaeth Cymru a all wneud hynny. Fel y gwnaeth etholwr o'r gogledd a defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain ddweud mewn e-bost ataf yn ddiweddar, 'nid yw llais pobl anabl yn cael ei glywed o hyd. Mae bron pob cynnyrch a gwasanaeth yn dal i gael eu rheoli gan bobl nad ydyn nhw'n anabl a phobl sy'n gallu clywed sy'n ddefnyddio'r model meddygol o anabledd. Mae symud i'r model cymdeithasol o anabledd yn hanfodol i fy nghymuned a defnyddwyr anabl'. Felly, rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny yng nghyd-destun y mis, yr wythnos a'r diwrnod sydd i ddod ddydd Sul, ond hefyd yng nghyd-destun cynigion Llywodraeth Cymru i lenwi'r bwlch yng Nghymru sydd nawr wedi'i lenwi yn Lloegr o ran deddfwriaeth nad yw'n berthnasol i wasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw.
Diolch. Y ddau gwestiwn y gwnaethoch chi eu gofyn, rwy'n credu ei bod yn dangos pwysigrwydd cael diwrnodau neu wythnosau neu fisoedd ymwybyddiaeth. Nid oeddwn i'n ymwybodol mewn gwirionedd ei bod hi'n fis ymwybyddiaeth o fyddardod. Fel arfer mae gen i restr hir cyn y datganiad busnes, ond nid oeddwn i'n ymwybodol o hynny, felly diolch yn fawr iawn am dynnu sylw at hynny. Mae'r ddau gyflwr yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn gwanychu'n fawr, ac rwy'n credu bod y pwyntiau yr ydych chi'n eu codi ynghylch meigryn mewn plant a phobl ifanc—os hoffech chi anfon yr adroddiad hwnnw at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol rwy'n siŵr y byddai'n hapus iawn i edrych ar yr argymhellion. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n datblygu cynwysoldeb gymaint ag y gallwn ni ar gyfer pobl sy'n dioddef o fyddardod. Rwy'n credu bod allgáu yn rhywbeth sy'n annerbyniol yn yr oes sydd ohoni.
Hoffwn godi ddau fater efo'r Trefnydd y prynhawn yma. Gobeithio bydd y teulu brenhinol yn cael cyfle am alaru tawel, personol, rŵan bod y cyfnod galaru cyhoeddus ar ben. Mae yna rai cwestiynau pwysig yn codi o rai o gyhoeddiadau'r wythnos diwethaf, a hoffwn wybod sut mae'r Llywodraeth am ymateb i'r rhain. Yn benodol, wrth gwrs, mae'r penderfyniad i roi'r teitl 'Tywysog Cymru' i William, a hynny heb ymgynghori efo Llywodraeth na phobl Cymru. Yna, mae adroddiadau am gynllunio arwisgiad. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol rŵan i arwain sgwrs genedlaethol efo pobl Cymru ar y materion yma, ac mae gan y Senedd hefyd rôl hollbwysig fel y corff gafodd ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli barn pobl Cymru. Felly, a wnewch chi gadarnhau bod y Llywodraeth yn cynllunio i neilltuo amser yn yr amserlen seneddol i ganiatáu i'r Senedd gael pleidlais ystyrlon ar y materion yma?
Ac, yn ail, mi hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg yn rhoi diweddariad am gyflwyno addysg rhyw a pherthnasoedd fel rhan statudol o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae Plaid Cymru'n gwbl gefnogol i'r newid yma, ond rydym ni'n ymwybodol bod newyddion ffug yn cael ei ledaenu a bod protestiadau ar sail cam wybodaeth wedi cael eu cynnal, gan gynnwys yn fy etholaeth i yng Nghaernarfon. Mae aelod cabinet addysg Gwynedd, Beca Brown, wedi'i thargedu mewn modd cwbl anfoddhaol, ond rwy'n sefyll efo hi. Hoffwn i ofyn i'r Llywodraeth egluro beth maen nhw'n ei wneud i atal lledaenu newyddion ffug o'r math yma, sydd yn arwain at ymddygiad cwbl amhriodol gan rai o fewn ein cymdeithas.
Diolch. O ran eich ail gwestiwn, mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg eisoes wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 26 Awst ynghylch yr wybodaeth ffeithiol anghywir iawn a oedd, yn anffodus, yn cael ei thrafod mewn parth cyhoeddus gan grŵp penodol o bobl. Rwy'n credu bod y Gweinidog Addysg yn glir iawn yn ei ddatganiad ysgrifenedig—rwy'n gobeithio eich bod chi wedi cael y cyfle i'w weld—i nodi safbwynt Llywodraeth Cymru.
O ran eich cwestiwn cyntaf, rwy'n cytuno'n llwyr â chi fy mod i'n gobeithio y bydd y teulu brenhinol nawr yn gallu galaru. Rwy'n meddwl ei fod wedi bod yn hollol anhygoel y ffordd maen nhw wedi bod yn mynd o amgylch y wlad, yn enwedig y Brenin a'r Frenhines Gydweddog, i siarad â phobl ac ymweld â gwahanol rannau'r DU. Rwy'n gobeithio bod ganddyn nhw'r amser preifat yna nawr.
Byddwch chi'n ymwybodol, oherwydd ei fod wedi bod yn y parth cyhoeddus, hyd yn oed os nad oedd y Prif Weinidog wedi gallu dod o hyd i ddwy funud i siarad â'r Prif Weinidog, gwnaeth Tywysog Cymru, yn ystod ei gyfnod o alaru, ffonio'r Prif Weinidog. Mae'r penderfyniad yma wedi cael ei wneud nawr, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i'w gydnabod. Ond yr hyn y gwnaeth y Prif Weinidog yn glir iawn oedd ei bod hi'n bwysig sut mae'n datblygu ei rôl wrth fwrw ymlaen, ac mae dadl i'w chael ynghylch hynny.
Diolch yn fawr. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg—wrth iddo droi o gwmpas. Yn ystod yr yr haf, rydw i, fel nifer o Aelodau eraill y Senedd, wedi gweld llwyth o e-byst gan rieni pryderus yn ofni bwriad Llywodraeth Cymru pan ddaw hi at newidiadau posibl mewn addysgu gartref. Mae pryderon gwirioneddol bod cynigion sydd wedi'u gosod gan y Llywodraeth hon yn mynd yn rhy bell, ac yn negyddol tuag at y gymuned addysgu gartref. A gaf i ofyn am ddatganiad llafar gan y Gweinidog Addysg a fydd yn rhoi eglurder i addysgwyr gartref ar hyd a lled Cymru ar unrhyw gynigion gan y Llywodraeth a allai effeithio arnyn nhw'n sylweddol? Diolch.
Diolch. Wel, nid oes unrhyw gynigion wedi'u cyhoeddi ar hyn o bryd—fe fyddan nhw maes o law—ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg yn siarad â'r sefydliadau a'r partneriaid perthnasol.
Diolch i'r Trefnydd am hynny.