Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 20 Medi 2022.
Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad a'ch diweddariad heddiw. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi. Roeddwn yn falch o weld yr eitem agenda hon yn cael ei hychwanegu heddiw. Er hynny, roeddwn i'n disgwyl datganiad heddiw yn manylu ar eich cynllun iechyd a gofal cymdeithasol dros y gaeaf, ond nid dyna yw hwn heddiw. Yr hyn y byddwn i'n ei ofyn heddiw, Gweinidog, yw pryd ydyn ni'n mynd i gael y cynllun hwnnw, o ystyried y ffaith bod y cynllun, y llynedd, wedi bod yn hwyr iawn. Yn wir, roeddem ni eisoes ymhell i mewn i'r gaeaf. Hefyd, mae'n debyg, dim ond gofyn am eglurder ynglŷn â phwy sy'n darparu'r cynllun hwnnw. Rwy'n credu, y llynedd, mai'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wnaeth baratoi cynlluniau'r gaeaf. Mewn blynyddoedd blaenorol, byrddau iechyd wnaeth hynny. Felly, a gaf i ofyn am y cadarnhad hwnnw mai'r byrddau partneriaeth rhanbarthol fydd yn darparu'r cynllun hwnnw y byddwch yn ei gyhoeddi?
Hefyd ar hynny, byddai'n ddefnyddiol deall sut mae uned gyflawni GIG Cymru yn cael ei chynnwys yn y cynlluniau hefyd. Nawr, rydyn ni'n gwybod, neu rydyn ni'n disgwyl, bod triniaethau arferol yn debygol iawn o gael eu gohirio mewn ar adegau penodol o'r gaeaf. Efallai bod hynny'n annheg a byddwn i'n gwerthfawrogi eich barn am hynny. Dyna fyddai fy asesiad i. Er mwyn helpu i leihau'r ôl-groniad yn Lloegr, mae GIG Lloegr yn cynnig defnyddio technoleg i fynd i'r afael â rhestrau aros hir, gan gynnwys opsiwn ar ap y GIG i ddod o hyd i ysbytai sydd â chapasiti ar gyfer triniaethau penodol. Nawr, wrth gwrs, rydyn ni'n dal i ddefnyddio peiriannau ffacs ac rydyn ni'n dal i aros i e-bresgripsiynau gael eu cyflwyno'n llawn, a does gennym ni ddim ap GIG byw. Felly, allwch chi ddweud wrtha i, Gweinidog, sut rydych chi'n defnyddio technoleg i leddfu pwysau'r gaeaf, gan arwain at helpu i leihau'r angen i ganslo triniaethau arferol?
Ychydig o gwestiynau am y gweithlu, Gweinidog, yr ydych chi wedi sôn amdanynt yn eich datganiad heddiw. Wrth gwrs, mae yna fygythiad o streiciau gan nyrsys—mae hynny'n mynd i'r bleidlais yn fuan. Rwy'n ymwybodol bod 6.2 y cant o staff yn y GIG i ffwrdd ar hyn o bryd yn sgil salwch. Mae hynny fel arfer yn 5 y cant, yn y cyfnod cyn COVID, felly cadwch hynny mewn cof. Mae pum bwrdd iechyd yng Nghymru sydd wedi gwario bron i £200 miliwn ar staff asiantaeth mewn un flwyddyn ariannol yn unig. Felly, mae nifer o faterion yn ymwneud â'r gweithlu yn hynny o beth. Beth yw eich cynlluniau i gynyddu capasiti yng ngweithlu'r GIG fel bod darpariaeth iechyd, wrth gwrs, yn cael ei darparu fel y dylai fod dros gyfnod y gaeaf?
Byddwn hefyd yn codi, Gweinidog, ochr yn ochr â hyn, fod Conffederasiwn GIG Cymru wedi mynegi pryder am y capasiti sydd ei angen i gyflawni strategaeth frechu Llywodraeth Cymru ar gyfer y gaeaf hwn, sy'n cynnwys rhoi, wrth gwrs, y brechiadau ffliw a COVID ar draws ystod eang o grwpiau. Felly, yn eich asesiad, a oes capasiti i gyflawni'r strategaeth frechu, a pha heriau, Gweinidog, ydych chi'n eu rhagweld, o ystyried hefyd yr heriau eraill yn y gweithlu yr wyf hefyd wedi'u hamlinellu?
Rydym hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod llawer o bobl wedi marw o COVID, yn drist, ar ôl mynd i'r ysbyty gyda salwch arall, mewn gwirionedd. Ac rydyn ni'n gwybod bod hynny wedi digwydd i raddau mwy yng Nghymru na mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, rydych chi wedi amlinellu rhai datganiadau heddiw yn eich cyfraniad, ond a gaf i ofyn pa wersi sydd wedi'u dysgu o ran beth fydd yn cael ei wneud yn wahanol i sicrhau bod heintiau sy'n cael eu caffael mewn ysbytai yn cael eu cadw cyn lleied â phosib? Does dim modd eu dileu'n llwyr, ond beth sy'n cael ei wneud i gadw hynny mor isel â phosib?
Ac yn olaf, Gweinidog, gwelsom gyfyngiadau ar fywydau pobl yn cael eu cyflwyno y Nadolig diwethaf yn sgil yr amrywiolyn omicron. Tybed pa wersi a ddysgwyd o ymateb Llywodraeth Cymru i'r amrywiolyn newydd hwnnw y llynedd. Beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol y gaeaf hwn mewn sefyllfa debyg? A beth, i bob pwrpas, yw eich sbardunau ar gyfer cyflwyno unrhyw gyfyngiadau dros y gaeaf?