– Senedd Cymru am 5:02 pm ar 20 Medi 2022.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiweddariad ar COVID a phwysau'r gaeaf. Dwi'n galw ar y Gweinidog nawr i wneud ei datganiad. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd.
Rydym yn agosáu at yr hyn sy'n debygol o fod yn gyfnod gaeaf heriol iawn i bobl Cymru wrth i ni wynebu argyfwng costau byw ac ynni ac, wrth gwrs, pwysau parhaus o fewn ein systemau iechyd a gofal. Mae ein gwaith cynllunio ar gyfer y gaeaf ar gyfer y system iechyd a gofal wedi cael ei ddatblygu dros y misoedd diwethaf o fewn ein trefniadau cynllunio presennol. Mae ein cynllun gofal arfaethedig, a ddatblygwyd ar y cyd â chlinigwyr, yn cynnwys nifer o uchelgeisiau heriol ond cyraeddadwy, ac fe'i cefnogir gan £170 miliwn o gyllid rheolaidd. Bydd cynlluniau byrddau iechyd a phartneriaid i gefnogi gwasanaethau gofal cydnerth a brys dros y gaeaf yn adeiladu ar chwe nod lleol ar gyfer cynlluniau rhaglenni gofal brys ac argyfwng. Bydd y blaenoriaethau'n canolbwyntio ar gynyddu capasiti ambiwlansys brys, agor canolfannau gofal sylfaenol brys newydd, cyflwyno gwasanaethau gofal brys saith diwrnod, ar yr un diwrnod, a chynyddu'r capasiti cymunedol sydd ar gael i gefnogi rhyddhau cleifion yn brydlon. Byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig pellach ar y cynlluniau hyn cyn bo hir.
Rydym hefyd yn paratoi am drydydd gaeaf o fyw gyda COVID. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa o ran firysau anadlol yn fwy ansicr nag mewn blynyddoedd blaenorol, gan fod patrymau tymhorol wedi'u hamharu'n sylweddol oherwydd y pandemig. Gallem gael llawer o achosion o COVID-19 a'r ffliw, a rhaid i ni sicrhau bod ein systemau gofal cymunedol, iechyd a gofal cymdeithasol mor barod ag y gallant fod, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol. Heddiw, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y sefyllfa bresennol ynglŷn â COVID-19 a'n dull o baratoi ar gyfer cynnydd posibl mewn afiechydon anadlol dros y misoedd nesaf.
Ar ôl cynnydd mewn achosion o COVID-19 dros yr haf, wedi'i ysgogi gan y don omicron BA.4 a BA.5, mae nifer yr achosion yn y gymuned, diolch byth, wedi parhau i leihau, sydd wedi golygu bod y pwysau ar ein system gofal iechyd sy'n gysylltiedig â COVID-19 hefyd wedi gostwng, er bod pwysau eraill yn parhau. Yn ôl arolwg haint coronafeirws diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae cyfran y bobl yng Nghymru sy'n profi'n bositif ar gyfer COVID-19 wedi gostwng unwaith eto i un ymhob 110 o bobl, o un ymhob 95 yr wythnos flaenorol.
Mae'r ffaith bod nifer yr achosion yn lleihau, ynghyd â'r amddiffyniad a ddarperir gan ymyriadau eraill fel brechu, wedi caniatáu inni leihau profion, gan gynnwys saib ar brofion heb symptomau rheolaidd o 8 Medi. Yn unol â'n cynllun pontio COVID-19 hirdymor a'n hamcan i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed, byddwn yn parhau i ddarparu profion i gleifion â symptomau, y rhai hynny sy'n gymwys i gael triniaethau COVID-19, staff iechyd a gofal, preswylwyr cartrefi gofal a charcharorion. Ac fe fyddwn ni'n parhau i brofi cleifion wrth ryddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal.
Er ein bod mewn sefyllfa sefydlog ar hyn o bryd, rydym ni'n gwybod bod gan firysau tymhorol a COVID-19 y potensial i ychwanegu'n sylweddol at bwysau'r gaeaf sydd yn wynebu'r GIG, yn enwedig os yw tonnau heintiau'r ddau firws yn cyd-daro. Felly, rydym yn mabwysiadu dull cydgysylltiedig ar draws Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein dull o ddefnyddio firysau anadlol a fydd yn rhoi arweiniad i gefnogi cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac i'n cymunedau ar barodrwydd a chamau y gellir eu cymryd.
Mae brechu'n parhau i gynnig yr amddiffyniad gorau rhag COVID-19 a'r ffliw, ac mae ein rhaglen frechu anadlol dros y gaeaf, a lansiwyd ar 1 Medi, yn cyfuno'r rhaglenni brechu COVID-19 a'r ffliw eleni i sicrhau'r nifer fwyaf o bobl sy'n manteisio ar y ddau frechlyn. Mae data gwrthgyrff ONS yn dangos bod pigiad atgyfnerthu gwanwyn 2022 wedi llwyddo i gynnal lefelau gwrthgyrff uchel mewn poblogaethau agored i niwed, hŷn. Felly, rydym ni'n mynd ymlaen i annog pawb sy'n gymwys i ddod am eu brechiadau i wneud hynny. Bydd gwahoddiadau ar gyfer brechlyn COVID-19 yn cael ei roi i bob unigolyn cymwys erbyn diwedd mis Tachwedd, a bydd y brechlyn ffliw yn cael ei gynnig erbyn diwedd Rhagfyr. Bydd ymgyrch gyfathrebu genedlaethol ar frechu anadlol dros y gaeaf yn cael ei lansio'r wythnos nesaf.
Fel nodais i gynnau, mae ein timau profi ac olrhain cysylltiadau nawr yn canolbwyntio ar ddiogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae pobl sy'n wynebu risg uchel o fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i COVID-19 yn gymwys i gael triniaeth gyda therapïau gwrthfirol neu wrthgyrff. Os yw'r bobl sy'n gymwys i gael triniaeth yn profi'n bositif am COVID-19 ac yn adrodd eu canlyniad prawf llif unffordd, fel arfer byddant yn cael neges destun neu alwad ffôn gan y gwasanaeth gwrthfirol cenedlaethol o fewn 48 awr yn cynnig triniaeth iddynt. Rŷn ni hefyd yn defnyddio profion PCR aml-ddangosiad ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal a phobl eraill, ac mae'r profion hyn yn profi am firysau anadlol eraill yn ogystal â COVID-19. Gall hyn gynorthwyo gyda rhoi triniaeth a rheoli achosion.
Y gaeaf hwn, byddwn yn cryfhau ein system wyliadwriaeth er mwyn adnabod unrhyw waethygiad yn y sefyllfa o ganlyniad i amrywiolion newydd sy'n peri pryder a firysau anadlol eraill. Un o brif ddibenion y system wyliadwriaeth yw penderfynu a yw Cymru wedi symud o sefyllfa COVID sefydlog i sefyllfa COVID brys, naill ai drwy'r dangosyddion—oh, gosh, mae'n anodd i ddweud hwn, onid yw e? Epidemiolegol. Neu drwy—. Oedd hwnna'n ocê—epidemiolegol? Neu drwy wyliadwriaeth genomig sy'n awgrymu presenoldeb amrywiolyn mwy difrifol.
Yn ystod yr hydref a'r gaeaf hwn, rŷn ni'n canolbwyntio ar wella a sefydlu systemau gwyliadwriaeth cymunedol ac ysbytai sy'n fwy cadarn ac a fydd yn cryfhau ymhellach y wybodaeth rŷn ni'n ei chael gan yr arolwg Swyddfa Ystadegau Gwladol, y dadansoddiad dŵr gwastraff a gwybodaeth arall. Mae asesiad cyson o'r ffynonellau data hyn yn cyfrannu at ein gwyliadwriaeth barhaus.
Er ein holl gynlluniau yn ymwneud â brechu, profi, triniaethau a gwyliadwriaeth, rŷn ni'n gwybod bod COVID-19 wedi rhoi pwysau cyson ar yr NHS yng Nghymru, ac mae hynny o ganlyniad i'r angen i drin pobl ar gyfer COVID-19 yn uniongyrchol a phobl sy'n profi'n bositif ond yn cael triniaeth am faterion eraill, ynghyd ag absenoldebau staff o ganlyniad i'r haint, gofynion i hunanynysu a salwch teuluol. Oherwydd natur neu raddfa eithriadol rhai o'r risgiau posibl sy'n ein hwynebu y gaeaf hwn, yn enwedig yn ymwneud â COVID a feirysau anadlol eraill, a gallu'r system i ymateb i'r galw, mae canllawiau ychwanegol ar gyfer cynllunio i weithredu yn ystod y gaeaf yn cael eu datblygu ar gyfer sefydliadau'r gwasanaeth iechyd. Bydd angen i sefydliadau'r NHS sicrhau bod cynlluniau cadarn a gwydn ar waith, gan gynnwys camau gweithredu ar y cyd drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol.
Rŷn ni hefyd yn ymwybodol iawn o'r heriau sylweddol sy'n wynebu ein cymunedau y gaeaf hwn o ganlyniad i'r argyfwng costau byw. Byddwn yn datblygu cyngor ac arweiniad ymarferol i gefnogi unigolion a chymunedau i gadw'n iach y gaeaf hwn. Er enghraifft, rŷn ni'n gwybod bod sicrhau ymddygiadau allweddol sy'n ein hamddiffyn—ac rŷn ni i gyd yn gyfarwydd â nhw erbyn hyn—yn gallu arwain at fanteision sylweddol y tu hwnt i COVID-19. Bydd parhau â'r ymddygiadau hyn yn helpu i leihau effaith tonnau o'r haint yn y dyfodol ac yn lleihau effeithiau heintiau anadlol eraill hefyd. Er hyn, yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw a thlodi tanwydd, rŷn ni'n cydnabod y bydd y rhain yn fwy heriol y gaeaf hwn ac yn ystod y tywydd oer. Felly, y neges allweddol i ddiogelu eich hunain, eich teulu ac eraill yw i sicrhau eich bod chi'n cael eich brechu ac yn manteisio ar unrhyw frechlynnau atgyfnerthu COVID-19. Diolch, Llywydd.
Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad a'ch diweddariad heddiw. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi. Roeddwn yn falch o weld yr eitem agenda hon yn cael ei hychwanegu heddiw. Er hynny, roeddwn i'n disgwyl datganiad heddiw yn manylu ar eich cynllun iechyd a gofal cymdeithasol dros y gaeaf, ond nid dyna yw hwn heddiw. Yr hyn y byddwn i'n ei ofyn heddiw, Gweinidog, yw pryd ydyn ni'n mynd i gael y cynllun hwnnw, o ystyried y ffaith bod y cynllun, y llynedd, wedi bod yn hwyr iawn. Yn wir, roeddem ni eisoes ymhell i mewn i'r gaeaf. Hefyd, mae'n debyg, dim ond gofyn am eglurder ynglŷn â phwy sy'n darparu'r cynllun hwnnw. Rwy'n credu, y llynedd, mai'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wnaeth baratoi cynlluniau'r gaeaf. Mewn blynyddoedd blaenorol, byrddau iechyd wnaeth hynny. Felly, a gaf i ofyn am y cadarnhad hwnnw mai'r byrddau partneriaeth rhanbarthol fydd yn darparu'r cynllun hwnnw y byddwch yn ei gyhoeddi?
Hefyd ar hynny, byddai'n ddefnyddiol deall sut mae uned gyflawni GIG Cymru yn cael ei chynnwys yn y cynlluniau hefyd. Nawr, rydyn ni'n gwybod, neu rydyn ni'n disgwyl, bod triniaethau arferol yn debygol iawn o gael eu gohirio mewn ar adegau penodol o'r gaeaf. Efallai bod hynny'n annheg a byddwn i'n gwerthfawrogi eich barn am hynny. Dyna fyddai fy asesiad i. Er mwyn helpu i leihau'r ôl-groniad yn Lloegr, mae GIG Lloegr yn cynnig defnyddio technoleg i fynd i'r afael â rhestrau aros hir, gan gynnwys opsiwn ar ap y GIG i ddod o hyd i ysbytai sydd â chapasiti ar gyfer triniaethau penodol. Nawr, wrth gwrs, rydyn ni'n dal i ddefnyddio peiriannau ffacs ac rydyn ni'n dal i aros i e-bresgripsiynau gael eu cyflwyno'n llawn, a does gennym ni ddim ap GIG byw. Felly, allwch chi ddweud wrtha i, Gweinidog, sut rydych chi'n defnyddio technoleg i leddfu pwysau'r gaeaf, gan arwain at helpu i leihau'r angen i ganslo triniaethau arferol?
Ychydig o gwestiynau am y gweithlu, Gweinidog, yr ydych chi wedi sôn amdanynt yn eich datganiad heddiw. Wrth gwrs, mae yna fygythiad o streiciau gan nyrsys—mae hynny'n mynd i'r bleidlais yn fuan. Rwy'n ymwybodol bod 6.2 y cant o staff yn y GIG i ffwrdd ar hyn o bryd yn sgil salwch. Mae hynny fel arfer yn 5 y cant, yn y cyfnod cyn COVID, felly cadwch hynny mewn cof. Mae pum bwrdd iechyd yng Nghymru sydd wedi gwario bron i £200 miliwn ar staff asiantaeth mewn un flwyddyn ariannol yn unig. Felly, mae nifer o faterion yn ymwneud â'r gweithlu yn hynny o beth. Beth yw eich cynlluniau i gynyddu capasiti yng ngweithlu'r GIG fel bod darpariaeth iechyd, wrth gwrs, yn cael ei darparu fel y dylai fod dros gyfnod y gaeaf?
Byddwn hefyd yn codi, Gweinidog, ochr yn ochr â hyn, fod Conffederasiwn GIG Cymru wedi mynegi pryder am y capasiti sydd ei angen i gyflawni strategaeth frechu Llywodraeth Cymru ar gyfer y gaeaf hwn, sy'n cynnwys rhoi, wrth gwrs, y brechiadau ffliw a COVID ar draws ystod eang o grwpiau. Felly, yn eich asesiad, a oes capasiti i gyflawni'r strategaeth frechu, a pha heriau, Gweinidog, ydych chi'n eu rhagweld, o ystyried hefyd yr heriau eraill yn y gweithlu yr wyf hefyd wedi'u hamlinellu?
Rydym hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod llawer o bobl wedi marw o COVID, yn drist, ar ôl mynd i'r ysbyty gyda salwch arall, mewn gwirionedd. Ac rydyn ni'n gwybod bod hynny wedi digwydd i raddau mwy yng Nghymru na mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, rydych chi wedi amlinellu rhai datganiadau heddiw yn eich cyfraniad, ond a gaf i ofyn pa wersi sydd wedi'u dysgu o ran beth fydd yn cael ei wneud yn wahanol i sicrhau bod heintiau sy'n cael eu caffael mewn ysbytai yn cael eu cadw cyn lleied â phosib? Does dim modd eu dileu'n llwyr, ond beth sy'n cael ei wneud i gadw hynny mor isel â phosib?
Ac yn olaf, Gweinidog, gwelsom gyfyngiadau ar fywydau pobl yn cael eu cyflwyno y Nadolig diwethaf yn sgil yr amrywiolyn omicron. Tybed pa wersi a ddysgwyd o ymateb Llywodraeth Cymru i'r amrywiolyn newydd hwnnw y llynedd. Beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol y gaeaf hwn mewn sefyllfa debyg? A beth, i bob pwrpas, yw eich sbardunau ar gyfer cyflwyno unrhyw gyfyngiadau dros y gaeaf?
Gwych. Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu bod angen i mi fod yn gwbl glir ein bod ni wedi rhoi arweiniad clir iawn i fyrddau'r GIG, mewn gwirionedd, bod yn rhaid gwneud cynlluniau'r gaeaf yn gynnar. Felly, rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud fel rhan o'u gwaith cynllunio arferol, oherwydd os ydych chi'n ei adael tan nawr mae'n rhy hwyr; mae angen pethau yn eu lle yn barod. Felly, rydyn ni wedi rhoi'r arian iddyn nhw, roedd angen iddyn nhw gynnwys hwnnw yn eu rhaglen. Mae eu cynlluniau tymor canolig integredig i gyd wedi ystyried sut olwg fydd ar y gaeaf nesaf. Ac wrth gwrs rydym ni eisoes wedi rhoi, er enghraifft, £25 miliwn i gyflwyno'r chwe blaenoriaeth ar gyfer gofal brys ac argyfwng. Felly, mae hynny i gyd wedi mynd, achos pe bydden ni wedi aros tan nawr, fel y dywedoch chi, byddai wedi bod yn anodd i ni fod wedi cyflwyno pethau. Felly, maen nhw wedi gwybod beth oedd yn dod, rydyn ni wedi rhoi arweiniad clir iawn iddyn nhw o ran yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl o ganlyniad i hynny.
Mae llawer o broblemau gennym o hyd o ran oedi wrth drosglwyddo gofal. Felly, mae'n debyg mai dyna'r prif beth sy'n achosi pen tost i mi ar hyn o bryd: sut mae cael pobl allan o ysbytai pan fyddan nhw'n barod i gael eu rhyddhau, oherwydd mae cryn bwysau oherwydd y mater hynny o gynyddu'r capasiti gofal cymunedol hwnnw. Felly, mae gennym ni fenter y mae'r GIG wedi bod yn gweithio arni gyda llywodraeth leol dros yr haf cyfan, lle rydyn ni'n adeiladu'r capasiti gofal cymunedol hwnnw. Gallaf roi ychydig mwy o fanylion i chi am hynny yn ddiweddarach, ond mae'r rheini'n rhaglenni datblygedig iawn, yn fanwl iawn, ac mae pobl wedi bod yn gweithio ar hynny'n ddwys dros yr haf.
O ran capasiti ysbytai, rwy'n glir iawn nad ydw i eisiau oedi o ran gofal wedi'i gynllunio, a dyna pam rwyf wedi bod yn gofyn, er enghraifft, o ran orthopaedeg, bod gennym ni welyau wedi'u cadw, oherwydd mae yna wastad bwysau yn mynd i fod. Nid yw'r pwysau'n mynd i fynd i ffwrdd, ond mae angen i ni fynd trwy'r rhestrau aros hynny. Ac o ran digidol, gallaf eich sicrhau bod hwn yn fater sydd ar frig fy rhestr o flaenoriaethau. Rwy'n cael cyfarfodydd bron yn wythnosol ar y gwahanol agweddau ar ddigidol y mae angen i ni eu defnyddio i drawsnewid y ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau yng Nghymru. Ac mi fydd yna newyddion diddorol i chi ar ap y GIG yn fuan iawn. Felly, rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid i ni ganslo gormod o driniaethau arferol dros y gaeaf, ond wrth gwrs mae'n dibynnu ar sut olwg allai fod ar y don honno neu beidio. Mae salwch staff yn amlwg yn rhywbeth rydyn ni'n poeni'n fawr amdano, a dyna pam mae cael y cyfraddau hynny i lawr yn sylweddol is na gweddill y pedair gwlad yn sefyllfa dda i fod ynddi, ond rydyn ni'n gwybod ei fod yn batrwm tonnog, felly mae'n rhaid i ni gadw llygad ar hwnnw.
O ran cynyddu capasiti yng ngweithlu'r GIG, fe fyddwch yn ymwybodol, Russell, ein bod eisoes wedi ymgymryd â recriwtio sylweddol yn ystod y pandemig. Pan fo'n dod at y gwasanaeth ambiwlans, er enghraifft, dros y blynyddoedd diwethaf ry'n ni wedi recriwtio o leiaf 200 arall. Bydd rhai newidiadau i'r rhestrau gwaith ambiwlans yn fuan, sy'n mynd i ryddhau cyfwerth â thua 72 o bobl ychwanegol. Felly, rwy'n hyderus bod gennym gynllun clir iawn o ran yr hyn y mae angen i ni ei wneud o ran gofal brys ac argyfwng.
Felly, o ran cynllunio'r gaeaf, yna, rydym wedi gosod fframwaith sy'n egluro ein disgwyliadau i fyrddau iechyd weithio gyda phartneriaid er mwyn datblygu'r rhaglen chwe amcan honno, ac mae rhai o'r blaenoriaethau hynny'n cynnwys ymgyrch gyfathrebu genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o GIG 111, i optimeiddio rôl y gwasanaethau trydydd sector, i recriwtio 100 o glinigwyr ambiwlans newydd, ac i sicrhau ein bod yn lleihau'r oedi hir hynny wrth drosglwyddo ambiwlansys, oherwydd rydym yn gwybod os yw'r pwysau hwnnw'n drwm nawr, mae'n mynd i fynd yn anoddach yn nes ymlaen. Mae datrys hynny nawr yn hollbwysig i ni. Felly, mae cynyddu'r capasiti gofal cymunedol hwnnw yn dal i fod ar frig fy rhestr o flaenoriaethau.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Diolch am y datganiad. Mewn termau seneddol, rydyn ni'n gosod rhyw fath o baseline heddiw, am wn i. Mae'r datganiad yma'n dod reit ar ddechrau'r tymor ar amser sy'n pontio rhwng yr haf a'r gaeaf, neu gallwn i ddweud cyfnod o bwysau'r haf a chyfnod o bwysau y gaeaf, achos mae wedi dod yn fwy a mwy amlwg, wrth gwrs, bod yr NHS yn anghynaladwy ar bob adeg o'r flwyddyn, a bod yr haf yn llawn mor eithriadol â'r gaeaf. A dwi'n gwybod o brofiad personol yr haf yma beth ydy aros 10 awr am driniaeth mewn adran frys. Alla i ddim beirniadu'r staff oedd yn gweithio mor galed, yn gwneud eu gorau, ond dydy o ddim yn dderbyniol, a dwi'n diolch ac yn dymuno'n dda i'r staff ymroddgar ar draws NHS Cymru wrth iddyn nhw wynebu'r gaeaf yma.
Lle ydyn ni arni heddiw? Lle mae NHS Cymru arni? Mae gennym ni ddatganiad yma sydd yn cyfeirio at barhad pandemig, wrth gwrs, ond lle mae pwysau oherwydd COVID yn lleihau, meddai'r Gweinidog. Rydyn ni mewn stable position, meddai hi, ond rydyn ni yn cael darlun o'r bygythiadau rydyn ni'n eu hwynebu wrth i COVID a'r ffliw a firysau anadlol eraill ddod ar draws ei gilydd. Mae canllawiau ychwanegol ar gyfer y gaeaf yn cael eu paratoi, meddai'r Gweinidog, a bydd angen i sefydliadau'r NHS sicrhau bod cynlluniau cadarn a gwydn ar waith.
Mae angen i ni sicrhau bod cynlluniau cadarn a chydnerth ar waith, meddai'r Gweinidog wrthym. Rwy'n cytuno â'r Aelod dros y Ceidwadwyr wrth iddo ddweud y dylai'r cynlluniau hynny fod ar waith yn barod. Sut yn y byd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gadael tan ddiwedd mis Medi cyn gallu cyhoeddi'r sicrwydd hynny? Efallai y gall y Gweinidog fynd i'r afael â hynny ymhellach.
Ond hoffwn ganolbwyntio, os caf i, ar ganfyddiadau pryderus adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn ac mewn print yr wythnos hon gan y New Scientist, yn dweud wrthym y bu ymhell dros 20,000—22,500—yn fwy o farwolaethau nag y byddem yn eu disgwyl yn y DU rhwng Ebrill ac Awst eleni, tua 10 y cant yn fwy na'r cyfartaledd pum mlynedd. Credir bod COVID wedi cyfrannu at hynny'n uniongyrchol, a'r ffigyrau'n awgrymu bod dwywaith cymaint o farwolaethau yn ymwneud â COVID-19 yn uniongyrchol dros yr haf o'i gymharu â haf y llynedd. Ond mae hynny ond yn cyfrif am efallai hanner y marwolaethau ychwanegol. I'r gweddill, credir y gallai effeithiau anuniongyrchol y pandemig fod ar waith yma, ac, mewn gwirionedd, eu bod yn debygol o fod. Mae yna darfu ar ein system gofal iechyd. Mae'r oedi mewn profion a thriniaeth am ganser yn sgil y cyfnod clo i'w teimlo nawr yng nghyfnod olaf 2022. Mae oedi, wrth gwrs, yn costio bywydau, a dyna pam roedd cymaint o ddicter pan gafodd triniaethau ac apwyntiadau a oedd i fod i ddigwydd ddoe eu canslo.
Mae dau gwestiwn yn codi o hyn. Mae'r ffigyrau hynny ar farwolaethau ychwanegol yn manylu ar y sefyllfa yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, ond does gennym ni ddim ffigyrau ar gyfer Cymru. A fydd y Gweinidog yn ymrwymo i ymchwilio i faint o farwolaethau ychwanegol ddigwyddodd yng Nghymru? Oherwydd mae'n siŵr y bydd angen y math yna o ddata cyn gallu asesu'r hyn a arweiniodd at yr hyn sy'n ymddangos yn ymchwydd sylweddol mewn marwolaethau. Onid yw'r ffigyrau hynny ar gyfer yr haf, gan dybio—ac rwy'n credu y gallwn ni—y bydd Cymru'n dilyn patrwm tebyg i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ond ynghyd â'r rhybuddion rydyn ni wedi'u clywed gan y Gweinidog ei hun heddiw, yn dweud wrthym na allwn ni aros diwrnod yn hirach am y cynllun cadarn hwnnw ar gyfer y gaeaf? Mae hi eisoes yn hwyr, ac mae'r ffigyrau hynny yn y New Scientist yn awgrymu i mi y gallai pwysau arferol y gaeaf gael eu dwysáu eleni gan batrwm cyffredinol o fwy o farwolaethau sydd eisoes ar waith. Mae hynny, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno, yn destun rhywfaint o bryder.
Diolch yn fawr. Mae yna bwysau enfawr ar ein gwasanaethau ni ar hyn o bryd. Fe wnaf i ond rhoi syniad i chi o'r anhawster sydd gennym i chi, yn arbennig o ran oedi wrth drosglwyddo gofal. Rydym ni wedi cyrraedd pwynt nawr lle mae gennym ni tua 1,200 o bobl yn barod i adael ein hysbytai. Oherwydd yr anhawster o'u cael nhw allan oherwydd nad yw'r system gymorth yno yn y cymunedau, mae gennym ni tua 1,200 o bobl yn aros, sy'n gyfran eithaf uchel. Felly, mae'n system anodd iawn, pan fo'n amlwg yn anodd recriwtio i'n gwasanaeth gofal er gwaetha'r ffaith ein bod ni yng Nghymru yn talu'r cyflog byw go iawn. Mae cynlluniau cadarn ar waith yn barod ar gyfer y gaeaf, mae gennym ni'r rheini yn y cynlluniau tymor canolig integredig, a'r rhai rwyf i wedi'u cymeradwyo, felly mae gennym ni y cynlluniau hynny'n barod.
Fe wnaethoch chi holi am farwolaethau ychwanegol, ac, yn amlwg, mae un farwolaeth yn ormod o ran marwolaethau ychwanegol pan nad oeddem yn ei ddisgwyl. Fy nealltwriaeth i yw bod ein tîm gwybodaeth a dadansoddeg wedi edrych ar y marwolaethau ychwanegol o ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gallai'r rhain fod yn ffigyrau ychydig yn hŷn nag sydd gennych chi, ond yn sicr yn Lloegr, roedd yn awgrymu bod marwolaethau gormodol ar 14.5, ac yng Nghymru 11.7, felly mae ychydig o wahaniaeth yn y fan yna. Tra yn Lloegr roedd marwolaethau fesul 100,000 yn 217, fesul 100,000 yng Nghymru roedd yn 212. Felly, mae yna ychydig o wahaniaeth. Pan fydd pobl yn dod ac yn sôn am yr ystadegau hyn, mae yna ffigwr marwolaethau safonol sy'n cael ei ddefnyddio fel arfer, felly mae'n rhaid i chi fynd i fanylion beth yn union maen nhw'n ei awgrymu yma.
Rwy'n credu mai'r peth i gofio yw'r ffaith bod gan Gymru boblogaeth hŷn a salach. Rydym wedi cael ychydig o dystiolaeth ddiddorol yn ddiweddar i awgrymu ein bod ni, o ran nifer y bobl a ddaliodd y feirws, yn sylweddol is na rhannau eraill o Loegr, ond o ran y niferoedd a derbyniwyd i ysbyty, roedd ein ffigyrau ni yn uwch. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn ymwybodol, mewn gwirionedd, os yw'r boblogaeth hŷn, salach honno'n dal y feirws, eu bod mewn trafferth ddyfnach. Dyna rydyn ni'n ei wybod am y feirws hwn: ei fod wir yn effeithio ar y bobl fwyaf bregus hynny.
Diolch i'r Gweinidog.