1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa diogelwch adeiladau? OQ58400
Diolch. Mae cronfa diogelwch adeiladau Cymru ar agor i unigolion sy'n gyfrifol gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer adeiladau preswyl sy'n 11m neu'n uwch. Hyd yma, rydym wedi cael 261 datganiad o ddiddordeb ac mae angen cynnal arolwg ymwthiol o 163 ohonynt. Mae'r gwaith arolygu hwn yn mynd rhagddo, a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn gynnar yn yr hydref.
Diolch yn fawr, Weinidog. Nawr, efallai eich bod yn ymwybodol o ddau dân fis diwethaf ar falconïau yn natblygiad Victoria Wharf, heb fod ymhell o’r fan hon, ym Mae Caerdydd. Dywedodd Taylor Wimpey, datblygwr y datblygiad hwnnw, dros ddwy flynedd yn ôl y byddent yn fodlon gwneud y gwaith cyweirio yno, ond nid yw'r gwaith wedi dechrau o hyd. Nawr, rwyf wedi dweud ar goedd fy mod yn awyddus i gael Bil Cymru mewn perthynas â diogelwch adeiladau, ond roedd y Llywodraeth yn anghytuno. Pryd y byddwch yn rhoi'r amddiffyniadau cyfreithiol yn Neddf Diogelwch Adeiladau 2022 Llywodraeth y DU ar waith?
Diolch. Fel Llywodraeth, roeddem yn bryderus iawn wrth glywed am y tân diweddar y cyfeiriwch ato yn Victoria Wharf. Deallaf efallai ei fod wedi digwydd o ganlyniad i’r haul yn tywynnu drwy ddrws balconi agored ac yn cynnau darnau bach rhydd o bren ar falconi, a bod hynny wedi arwain at y tân. Rwy'n falch iawn na chafodd unrhyw un eu hanafu a bod y tân wedi'i ddiffodd yn gyflym.
Mae’r Gweinidog yn parhau i weithio’n agos gyda swyddogion yn Llywodraeth y DU, a bydd yn cyflwyno’r mater a godwch yn y dyfodol agos iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym ein cronfa diogelwch adeiladau ein hunain yng Nghymru a agorodd ar 30 Medi y llynedd, ac mae’n dda gweld y datganiadau o ddiddordeb hynny y cyfeiriais atynt yn y cwestiwn agoriadol. Credaf fod hynny’n sicr yn fan cychwyn ar gyfer sicrhau mynediad at gymorth, ac rwy’n falch o weld bod pobl o ddifrif wedi deall pwysigrwydd hyn.
Weinidog, erys y ffaith bod yr oedi cyn rhoi cronfa diogelwch adeiladau Llywodraeth Cymru ar waith wedi golygu bod llawer o drigolion a pherchnogion fflatiau ledled Cymru wedi’u rhoi mewn sefyllfa ariannol ansicr, wedi methu gwerthu neu ailforgeisio eu heiddo gan fod benthycwyr yn gwrthod benthyg arian pan nad oes tystysgrifau EWS1 ar gael, ac arolygon heb eu cynnal. Mae'r sefyllfa wedi'i gwaethygu gan na roddwyd amserlen bendant, ac mae pobl wedi bod mewn limbo ers blynyddoedd heb wybod a fydd y sefyllfa'n cael ei datrys byth. Nid yn unig fod hyn yn ddinistriol i'r rhai sy'n berchen ar eu heiddo ac wedi'i brynu gyda phob ewyllys da, ond mae wedi arafu'r farchnad eiddo i'r fath raddau fel y gallai llawer o ddarpar berchnogion fflatiau fod yn amharod i brynu yng Nghymru. Y ffaith amdani bellach yw bod hyn yn dinistrio’r hyn a fu unwaith yn farchnad eiddo iach. Weinidog, pa asesiad y mae’r Llywodraeth hon wedi’i wneud o effaith yr oedi wrth ddarparu arolygon ac asesiadau risgiau tân, a’r effaith y mae pasbortau diogelwch adeiladau wedi’i chael ar y farchnad eiddo yng Nghymru? Diolch.
Nid wyf yn cydnabod y senario y mae’r Aelod yn ei disgrifio; mae 163 o adeiladau eisoes wedi eu nodi ar gyfer cynnal arolygiadau ymwthiol. Er fy mod yn sylweddoli mai’r gobaith oedd cwblhau’r gwaith erbyn diwedd yr haf, fel y dywedaf, mae wedi'i ymestyn i’r hydref. Mae hynny'n bennaf oherwydd yr angen i sicrhau caniatâd gan y perchnogion cyfrifol i gael mynediad i adeiladau. Mae’r Gweinidog yn parhau i weithio’n agos iawn gyda datblygwyr yng Nghymru a chyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi mewn perthynas â'r cytundeb datblygwyr. Credaf fod hwnnw'n waith pwysig iawn a fydd yn dod â chryn dipyn o gysur i lawer o'r bobl y cyfeiriwch atynt. Bydd y contractau’n cael eu llofnodi cyn bo hir, a gwn fod y Gweinidog i fod i gyfarfod â’r datblygwyr fis nesaf, ddechrau mis Hydref. Credaf fod angen ichi edrych ar y gwaith sylweddol a wnaethom mewn perthynas â hyn. Mae hwn yn waith pwysig iawn sy’n flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo.
A gaf fi ddymuno'n dda i’r Gweinidog Newid Hinsawdd, y gwn na all fod yma heddiw, a diolch i chi am ateb y cwestiynau? Hoffwn adleisio pryderon fy nghyd-Aelod, Rhys ab Owen, mewn perthynas â’r tân a ddigwyddodd yn ddiweddar. Tân yw tân. Sut bynnag y dechreuodd, y pryder oedd y gallai fod wedi lledu ac y gallem fod wedi wynebu sefyllfa ofnadwy, fel a ddigwyddodd yn Grenfell bum mlynedd yn ôl. Mae sawl agwedd ar hyn, ac roeddwn yn awyddus i ganolbwyntio ar un, os caf. Mae llawer o berchnogion tai wedi mynd â'r datblygwyr eu hunain i'r llys. Mae’r datblygwyr hynny wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru y byddant, wrth gwrs, yn cyweirio eu heiddo ac yn cadw at y cytundeb datblygwr. Gwyddom na all pobl fforddio gwneud dim heblaw aros, yn gorfforol, o ran eu diogelwch eu hunain, ac yn emosiynol hefyd, gyda'r straen sydd arnynt. O'r rhestr a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, gwyddom fod chwe datblygwr, sydd wedi’u henwi, nad ydynt wedi ymgysylltu eto. Er tryloywder, tybed a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi rhestr o ba ddatblygwyr sydd wedi cytuno i lofnodi'r cytundeb datblygwyr, pa rai sydd wedi gwrthod neu sydd heb ymgysylltu, a beth y gallai’r canlyniadau fod. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rhannaf eich pryderon ynglŷn â'r tân yn Victoria Wharf. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn ystyried eich cais. Yn sicr, o'r wybodaeth sydd gennyf yma, credaf ein bod yn aros am gadarnhad gan un datblygwr arall ynghylch adeiladau canolig neu uchel. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o rai achosion—sawl achos, rwy’n credu—lle mae’r unigolyn cyfrifol a’r asiantau rheoli wedi ymgysylltu ag ymgynghorwyr yn breifat i wneud y gwaith arolygu hwnnw, a gwn fod y Gweinidog yn edrych ar ad-dalu costau arolygon ac yn edrych ar ariannu ôl-weithredol. Credaf ei bod bob amser wedi nodi'n glir iawn na ddylid gorfodi lesddeiliaid i dalu am broblemau diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol am eu creu, a gwn fod ganddi gyfarfod arall, fel y dywedais, wedi'i gynllunio gyda datblygwyr.