1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch dŵr yng Nghymru? OQ58387
Diolch. Mae ein hadnoddau naturiol dan bwysau o ganlyniad i newid hinsawdd, tywydd eithafol a thwf y boblogaeth. Bydd ymagwedd fwy integredig a chynaliadwy tuag at y ffordd yr ydym yn rheoli ein hadnoddau dŵr yn ein galluogi i wneud y mwyaf o fuddion economaidd a chymdeithasol mewn ffordd deg, gan ddiogelu ecosystemau hanfodol a'r amgylchedd ar yr un pryd.
Diolch, Weinidog. Gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon fod yr haf hwn wedi bod yn eithriadol o boeth a sych am gyfnod hir o amser; yn wir, mae’n debygol mai mis Mawrth i fis Awst eleni fydd y cyfnod o chwe mis sychaf ond dau ers i gofnodion ddechrau ym 1865. Er gwaethaf cynnydd diweddar mewn glawiad, cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gynharach y mis hwn fod pob rhan o Gymru wedi newid i statws sychder. Yn amlwg, mae hyn yn peri pryder i bobl ledled y wlad y bydd angen cyflenwad dŵr dibynadwy arnynt ar gyfer gweithgarwch sylfaenol o ddydd i ddydd. Mae’r diffyg glawiad wedi rhoi mwy fyth o bwysau ar y sector amaethyddol ar adeg sydd eisoes yn anodd, gan gynyddu costau bwyd ymhellach o bosibl. Weinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel Llywodraeth y DU, Dŵr Cymru a CNC i sicrhau gwell cyflenwadau dŵr yng Nghymru, a pha ystyriaethau a roddir gennych i gyrchu cyflenwadau dŵr ychwanegol? Rhoddaf enghraifft i chi yn fy etholaeth i, lle mae’r dŵr sy’n cael ei bwmpio allan o dwnnel Hafren—y ffynnon anferth, oddeutu 11 miliwn o alwyni y dydd—yn cael ei arllwys i aber afon Hafren. Mae rhywfaint o’r dŵr hwnnw eisoes yn cael ei ddefnyddio gan fragdy lleol, roedd rhywfaint yn arfer cael ei ddefnyddio gan yr hen felin bapur, ond mae yna 11 miliwn o alwyni y dydd, a gallai hwnnw fod yn ddŵr perffaith y gellid ei gyfeirio a’i dwnelu i mewn i gronfeydd dŵr lleol, neu beth bynnag. Mae'n enghraifft o sut y gallem wneud mwy yn yr oes hon o newid mawr.
Diolch. Mae’r Aelod yn llygad ei le; rydym mewn statws sychder ledled Cymru, ac yn sicr, rydym wedi gweld tywydd sych am gyfnod hir eleni. Credaf, unwaith eto, fod hyn yn adlewyrchu’r heriau yr ydym yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Credaf mai un o'r pethau cyntaf y byddwn yn eu dweud yw ei bod yn bwysig iawn ein bod oll, pob un ohonom—pob aelod o'r cyhoedd, pob busnes—yn defnyddio dŵr yn ddoeth, a'n bod yn parhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth, nid yn unig tra byddwn mewn statws sychder, ond drwy'r amser, ac yn rheoli'r adnodd gwerthfawr hwn ar yr adeg hon. Daeth Llywodraeth Cymru â grŵp cyswllt sychder ynghyd—cafodd ei gynnull, yn ôl pob tebyg, ddechrau mis Awst, rwy'n credu. Mae'n parhau i gyfarfod yn wythnosol, gan ddod â’r holl randdeiliaid o bob rhan o Gymru ynghyd i helpu i lywio’r cyfeiriad a chytuno ar y camau gweithredu sydd eu hangen arnom i ddiogelu adnoddau dŵr Cymru. Mae timau sychder CNC ledled Cymru yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd, ac yn sicr, o’m portffolio i, o safbwynt amaethyddol, mae fy swyddogion yn parhau i gyfarfod â hwy hefyd. Mae llawer o fonitro ecolegol yn mynd rhagddo. Maent yn ymateb i ddigwyddiadau'n gyflym iawn.
Ar y pwynt a godwch ynglŷn â thwnnel Hafren, rwy'n ymwybodol o hynny. Credaf fod rhai trafodaethau pellach wedi bod, neu credaf fod y Gweinidog yn bwriadu, efallai, cael trafodaethau pellach—gwn fod rhai wedi bod yn y gorffennol—rhwng y cwmnïau dŵr a Network Rail i weld beth y gellid ei wneud, efallai'r posibilrwydd o drosglwyddo'r dŵr a bwmpiwyd o'r twnnel, er enghraifft, i'r prif seilwaith cyflenwi. Ni chredaf fod unrhyw ddatblygiadau diweddar wedi bod, ond fel y dywedaf, rwy'n credu bod y Gweinidog yn edrych i weld beth arall y gellir ei wneud.