1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Medi 2022.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd dŵr? OQ58424
Diolch. Mae gwella ansawdd dŵr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n dilyn dull dalgylch integredig hirdymor sy'n canolbwyntio ar gydweithrediad aml-sector ac atebion sy'n seiliedig ar natur i ysgogi gwelliant. Bydd buddsoddiad, fel rhaglen adfer mwyngloddiau metel, ysgogiadau deddfwriaethol, fel Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) 2021, a fframwaith rheoleiddio cadarn yn helpu i ysgogi gwelliant ar draws ein holl gyrff dŵr.
Diolch am eich ateb, Trefnydd.
Ddiwedd mis Awst, cafodd carthion eu gollwng i'r dŵr ym Mhont-yr-ŵr yn fy etholaeth i, gan arwain at y gyfarwyddeb dŵr ymdrochi yn canfod bod ansawdd y dŵr yn annerbyniol. Roedd y digwyddiad llygredd hwn yn un o nifer ar draws arfordir de Sir Benfro. Yn aml, caiff digwyddiadau fel hyn eu hachosi gan orlif carthffosiaeth cyfunol, neu CSOs. Gan fod ansawdd dŵr yn fater sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr, yn gyfan gwbl o fewn rheolaeth y Llywodraeth Cymru hon, pa gamau uniongyrchol mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau y gall ymdrochwyr nofio mewn dyfroedd glân yr haf nesaf?
Mae lleihau effeithiau o orlif storm yn sicr yn flaenoriaeth, ac rydym ni angen angen dull cyfannol traws-sector i gyflawni hynny. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth yw canolbwyntio ar atebion cynaliadwy sy'n seiliedig ar natur i ddargyfeirio cymaint o ddŵr wyneb i ffwrdd o'r systemau carthffosiaeth â phosibl. Dim ond un o'r ysgogiadau sydd eu hangen i wella ansawdd ein hafonydd yw lleihau nifer y gollyngiadau CSO, ac rydym ni wedi bod yn eglur iawn, ac fe nodais yn fy ateb agoriadol i chi, ynghylch yr holl bethau yr ydym ni'n eu gwneud i fynd i'r afael â hynny. Bellach mae'n rhaid i gwmnïau dŵr gyhoeddi gwybodaeth fanwl sy'n dangos hyd, cyfnod a lleoliad gollyngiadau gorlif storm, ac rwy'n credu bod hynny'n beth da, oherwydd rwy'n credu ei fod wedi arwain at ymwybyddiaeth y cyhoedd a mwy o ddiddordeb ynddo.
Gweinidog, roeddwn i'n ddiolchgar iawn o glywed bod y Prif Weinidog wedi ail-gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r moratoriwm ar ffracio yma yng Nghymru. Mae'n dangos ymrwymiad ac ymroddiad Llywodraeth Lafur Cymru i adeiladu dyfodol cynaliadwy, gan ddiogelu iechyd ac eiddo pobl yng Nghymru. Yn anffodus, gallai cymunedau ar y ffin, fel y rhai rwyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd, ddal i gael eu heffeithio gan ffracio. Yn benodol, mae halogi ansawdd y dŵr yn fygythiad difrifol. Pa sylwadau fydd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU ynglŷn â phryderon am ddiogelu dŵr rhag ffracio yma yng Nghymru?
Diolch. Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n eglur iawn na fydd ffracio yn digwydd yng Nghymru, ac unrhyw ffracio sy'n digwydd yn Lloegr, os yw'n croesi dros ffin Cymru, byddai hynny'n gofyn am drwydded petroliwm Cymru, cynllunio a hefyd trwyddedau amgylcheddol. Ac, yn amlwg, fydden ni ddim yn caniatáu unrhyw drwyddedau a fyddai'n galluogi hyn.
Mae ansawdd dŵr yng Nghymru yn cael ei fonitro'n barhaus, ac, os daw'n amlwg bod y ffracio hwnnw'n cael unrhyw effaith ar hyn, byddem ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU weithredu yn unol â rheoliadau a lofnodwyd—rwy'n credu ei bod hi tua phum mlynedd yn ôl bellach mae'n debyg—rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae gennym ni brotocol rhyng-lywodraethol. Oherwydd roedd hwnnw yno—. Cafodd hwnnw ei roi yno i wneud yn siŵr nad oedd unrhyw effaith niweidiol ddifrifol ar ein hadnoddau dŵr, ein cyflenwad dŵr nac ansawdd ein dŵr yn Lloegr yn deillio o unrhyw weithredu neu ddiffyg gweithredu.
Yn 2015, fe wnaeth Ysgrifennydd amgylchedd y DU, Liz Truss, frolio am dorri 34,000 o arolygiadau fferm. I bob pwrpas, caniataodd i ffermwyr yn Lloegr ollwng gwastraff fel plaladdwyr a baw anifeiliaid yn uniongyrchol i afonydd, gan gynnwys dyffryn Gwy, lle canfu gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerhirfryn fod 3,000 tunnell o ffosfforws gormodol, wedi'i achosi gan amaethyddiaeth, yn diferu i ddyfrffyrdd y dyffryn. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod yr esgeulustod dybryd yma a'i etifeddiaeth o lygredd a gyrhaeddodd ein glannau'r haf hwn yn tanlinellu pam roedd Llywodraeth Cymru yn hollol gywir i fabwysiadu dull Cymru gyfan o ddeddfu yn erbyn llygredd amaethyddol? Ac a allwch chi ein diweddaru ynghylch sut bydd y £40 miliwn y mae eich Llywodraeth yn ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf i fynd i'r afael â'r mater hwn yn cael ei dargedu?
Diolch. Wel, yn anffodus, fel y gwyddoch chi, doeddwn i ddim wir eisiau cyflwyno'r rheoliadau hynny. Nid wyf i'n credu bod neb yn hoffi rhywun yn dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Ond nid oedd y dull gwirfoddol wedi gweithio, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni wedi cyflwyno'r rheoliadau hynny, sy'n targedu gweithgarwch y mae'n hysbys ei fod yn achosi llygredd, lle bynnag y bydd yn digwydd. Felly, rwy'n credu bod dull Cymru gyfan yn golygu camau ataliol a pheidio ag aros i'n cyrff dŵr fethu.
Fe wnaethoch chi ofyn yn benodol ynghylch y £40 miliwn a roddwyd gennym ni, rwy'n credu, dros y tair blynedd nesaf, i fynd i'r afael ag achosion eraill o broblemau ansawdd dŵr ledled Cymru, ac mae'r cyllid hwnnw yn cael ei ddefnyddio—eto, soniais amdano yn fy ateb agoriadol i Sam Kurtz—yng nghyswllt adfer mwyngloddiau metel ac adfer addasiadau i ddyfrffyrdd.