– Senedd Cymru am 3:55 pm ar 27 Medi 2022.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog yr Economi ar Qatar 2022. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr. Gyda 55 diwrnod i fynd nes bod Cymru'n chwarae ei gêm gyntaf yn nhwrnamaint Cwpan y Byd FIFA i ddynion, yn erbyn yr UDA ar 21 Tachwedd, mae modd teimlo'r cyffro a'r disgwyliad o weld tîm cenedlaethol ein dynion yn cystadlu yn ein cwpan byd cyntaf ers 64 mlynedd ar hyd a lled y genedl. Gyda'n gobaith a'n huchelgeisiau ar ysgwyddau'r chwaraewyr, rydym ni’n cael un o'r cyfleoedd mwyaf grymus i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang, ac i gyflwyno Cymru i gynulleidfaoedd newydd.
Yn gyntaf, hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch Robert Page, y chwaraewyr, y staff hyfforddi a phawb yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru am eu llwyddiant gwych hyd yma. Beth bynnag ddaw ym mis Tachwedd, dylai'r tîm wybod eu bod nhw eisoes wedi gwneud Cymru'n falch dim ond drwy fod yno fel un o ddim ond 32 o wledydd i eistedd wrth fwrdd uchaf y gêm.
Mae Llywodraeth Cymru'n cydweithio'n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a phartneriaid allweddol eraill i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle unigryw hwn. Rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau heddiw am ein dull o weithredu. Gyda chynulleidfa fyd-eang o 5 biliwn o bobl, mae cwpan y byd yn cynnig llwyfan i gyflwyno Cymru i'r byd ac i adeiladu ar ein gweithgaredd blaenorol er mwyn ailgysylltu â chynulleidfaoedd sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys ein Cymry ar wasgar byd-eang. Dyma'r cyfle mwyaf arwyddocaol ar gyfer marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon a gyflwynwyd erioed i Gymru, o ystyried proffil y digwyddiad.
Yn Weinidog yr Economi, fi sydd â’r prif gyfrifoldeb gweinidogol am gydlynu cyflwyno rhaglen uchelgeisiol o weithgareddau a fydd yn ceisio manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn a gwireddu buddion a fydd yn cael eu cyflawni drwy ein pedwar amcan allweddol. Y rhain yw: hyrwyddo Cymru; rhannu ein gwerthoedd; sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn y twrnamaint; a sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol o'n cyfranogiad yng nghwpan y byd i ddynion.
O ran hyrwyddo Cymru, rwy'n falch o gyhoeddi bod llawer o gynnydd wedi'i wneud yn barod. Mae rhaglen o weithgaredd wedi'i rhoi ar waith sy'n ceisio manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn. Rydym yn gweithredu ymgyrch farchnata fanwl a fydd yn canolbwyntio ar farchnadoedd rhyngwladol targed craidd ar draws brand, busnes a thwristiaeth yn ogystal â phresenoldeb cryf yng Nghymru. Mae marchnadoedd targed yr ymgyrch yn cynnwys UDA, marchnadoedd Ewropeaidd allweddol, y DU a Qatar.
Mae'r ymgyrch farchnata hefyd yn bwriadu darparu gweithgareddau drwy waith gyda'n lladmeryddion gorau—y cefnogwyr a'r lleisiau o Gymru— yn ogystal â gyda'n partneriaid, y Cymry ar wasgar a llysgenhadon cwpan y byd, Lleisiau Cymru, a fydd yn gweithredu fel lleisiau cryf a dylanwadol i Gymru ar draws ein gweithgaredd. Mae cyllideb o £2.5 miliwn yn ei le i gyflawni'r rhaglen farchnata fanwl honno. Bydd modd hyrwyddo bwyd a diod yn Qatar, gan gynnwys cinio cyn y bencampwriaeth i hyrwyddo cynnyrch o Gymru.
Rydym ni eisoes wedi sefydlu cronfa gymorth i bartneriaid gyda'r nod o ychwanegu gwerth i nifer fach o brosiectau eithriadol a all gyflawni ein hamcanion craidd. Bydd y gronfa hon yn defnyddio arbenigedd amrywiaeth o sefydliadau i gefnogi a gwella ein rhaglen weithgareddau ac i ddatblygu cynnwys. Rydw i wedi cyhoeddi heddiw y 19 prosiect llwyddiannus gyda buddsoddiad cyfunol o £1.8 miliwn a fydd yn cefnogi ein hamcan i hyrwyddo Cymru a rhannu ein diwylliant, ein celfyddydau a'n treftadaeth i ddod yn rhan annatod o'r dathliad byd-eang hwn. Bydd gweithgareddau yn digwydd yma yng Nghymru, yn Qatar ac yn rhai o'n marchnadoedd allweddol, fel yr ydw i wedi sôn, megis UDA. Fel pecyn, bydd y prosiectau hyn yn cyflwyno ein cryfder ar y cyd fel cenedl gyda phartneriaeth ehangach sefydliadau, gwir ymgorfforiad tîm Cymru a'r mantra ein bod ni, yn wir, yn gryfach gyda'n gilydd.
I gefnogi ein nod i hyrwyddo Cymru ac ymgysylltu mewn diplomyddiaeth, bydd y Prif Weinidog, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Phrif Chwip a minnau yn mynychu amryw o ddigwyddiadau, yn ogystal â phob un o gemau grŵp Cymru yn erbyn UDA, Iran a Lloegr. Ac rwy’n gobeithio ychwanegu mwy, yn dibynnu ar gynnydd yn y twrnamaint. Nod craidd yr ymweliadau hyn fydd cefnogi mentrau a fydd yn helpu i ddatblygu'r economi, codi proffil Cymru a'n hyrwyddo fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae ein swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Dubai a Qatar wedi darparu rhaglen eang a llawn o ymrwymiadau i Weinidogion a fydd yn ceisio sicrhau'r gefnogaeth fwyaf gennym i'r mentrau hyn.
Byddwn ni hefyd yn defnyddio rhwydwaith ehangach Llywodraeth Cymru o swyddfeydd tramor i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i hyrwyddo Cymru ac ymgysylltu â rhanddeiliaid rhyngwladol allweddol, yn enwedig yn Qatar, Dubai, yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'n cenhadon o Lywodraeth Cymru, yn enwedig yn yr UDA a Dubai, a'n Cymry ar wasgar yn ehangach. Rydym ni’n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac, yn wir, y llysgenhadaeth yn Qatar, ar gyfleoedd i hyrwyddo Cymru. Bydd gennym ni ein presenoldeb Cymreig amlwg yn Doha a chynnwys Cymreig ym mhafiliwn gerddi UK GREAT, gŵyl GREAT a Diwrnod y DU. Bydd gennym dderbyniad VIP ar thema Cymru ar 21 Tachwedd, i gyd-fynd â gêm yr UDA, a gynhelir gan lysgennad Prydain i Qatar, gyda'n Prif Weinidog yn brif westai.
Rydym yn hynod ymwybodol o'r heriau sylweddol wrth gynnal digwyddiad o'r natur hon yn Qatar, gyda'r cydbwysedd gwych rydym ni ei angen rhwng manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a hyrwyddo ein gwerthoedd craidd fel cenedl. Mae cynnal cwpan y byd yn Qatar wedi taflu goleuni ar hawliau dynol y wlad honno a hanes hawliau gweithwyr. Rydym ni’n gwybod na fydd rhai o'n cefnogwyr LHDTC+ yn teithio i'r wlad, oherwydd ei safiad ar hawliau LHDTC+, er enghraifft. Byddwn yn defnyddio ein llwyfan fel cyfle i fynegi ein gwerthoedd ac i ddangos bod Cymru yn genedl o werthoedd ar lwyfan y byd. Byddwn yn gwneud hyn drwy ein hymgyrch farchnata fanwl a'n hymgysylltiad rhyngwladol, gan gynnwys trwy hyrwyddo straeon amrywiol y Gymru fodern sydd ohoni ac, yn wir, o Gymru fel cenedl noddfa. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod amrywiaeth ein perthynas fyd-eang yn golygu na fydd pob un o'r gwledydd y mae gennym ni berthynas â nhw yn rhannu'r un gwerthoedd. Rydym ni’n defnyddio dull cytbwys tuag at ein hymgysylltiad rhyngwladol, gan hyrwyddo gwerthoedd Cymru ac ymgysylltu'n adeiladol â phartneriaid a rhanddeiliaid ar draws y materion hyn. I sicrhau diogelwch a diogeledd dinasyddion Cymru yn Qatar, a chroeso i bawb, rydym yn ymgysylltu'n barhaus â Llywodraeth y DU drwy gyfarfodydd rheolaidd ac amryw o asiantaethau'r Llywodraeth. Mae sianeli cyswllt rheolaidd wedi'u sefydlu ar gyfer y newyddion diweddaraf am faterion diogelwch a diogeledd gan bwyllgor goruchaf Qatar, sef y pwyllgor sy'n gyfrifol am reoli a threfnu'r digwyddiad.
Fel Llywodraeth, a gyda'n partneriaid ehangach, mae angen i ni sicrhau ein bod yn adeiladu gwaddol o gwpan y byd sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fechgyn a merched. Yn bwysicach fyth, rydym ni eisiau datblygu gweithgarwch corfforol a chyfranogiad chwaraeon i gefnogi iechyd a llesiant ein cenedl. Er mwyn helpu i sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol, mae ein rhaglen lywodraethu eisoes yn ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, gyda chyllideb gyfalaf o £24 miliwn dros y tair blynedd nesaf i gefnogi buddsoddiad mewn cyfleusterau ar draws pob camp. Rydym ni hefyd yn buddsoddi mewn cyfleusterau drwy'r rhaglen gyfalaf ysgolion ac, yn wir, yn uniongyrchol drwy awdurdodau lleol. Ond, y tu hwnt i hynny, mae cyfle i bob un ohonom ni, fel unigolion, busnesau, sefydliadau ac, yn wir, fel arweinwyr cymunedol yn yr ystafell hon a thu hwnt, i gofleidio gwaddol ein cyfranogiad yn y cwpan y byd hwn.
Wrth ddathlu llwyddiant y dynion, mae gennym ni lawer hefyd i ymfalchïo ynddo gyda chynnydd tîm y merched. Gyda Chwpan y Byd Merched FIFA 2023 yn Awstralia a Seland Newydd ar y gorwel, pe bai ein tîm merched yn llwyddo i gyrraedd yno drwy'r gemau ail-gyfle, fel rydym ni’n ei obeithio, dylem ni geisio adlewyrchu gweithgaredd a dysgu cefnogi'r tîm ar eu taith eu hunain yng Nghwpan y Byd. Ac rydym ni, wrth gwrs, i gyd yn dymuno'n dda i'r tîm yn eu gemau ail gyfle sydd i ddod yn erbyn Bosnia a Herzegovina ar 6 Hydref.
Dirprwy Lywydd, fel y gwelwch chi, rydym ni wedi sefydlu ystod uchelgeisiol a chyffrous o weithgareddau i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle unigryw hwn. Fy mwriad yw rhoi datganiad a diweddariad pellach ym mis Tachwedd cyn seremoni agoriadol cwpan y byd ar 20 Tachwedd. Yn y cyfamser, dymunaf yn dda i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'i phartneriaid wrth baratoi.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ddod â'r datganiad hwn i'r Senedd heddiw? Am gyfle anhygoel sydd gennym ni yma. Am foment hanesyddol yn ein hanes i weld Robert Page a gweddill Tîm Cymru yn ein cwpan y byd cyntaf ers 1958—ein cwpan y byd cyntaf mewn 64 mlynedd, rwy'n credu. Fe wnaethom ni sicrhau ein lle yn ôl ym mis Mehefin mewn gêm yr wyf fi’n credu eich bod chi yno, ac roeddwn i’n sicr yno, Gweinidog—rwy'n credu fy mod wedi eich gweld chi yno. Roedd hi’n fraint fawr i’r ddau ohonom ni gael bod yn bresennol, yn yr achos hwnnw. Dim ond 54 diwrnod a hanner sydd gennym ni cyn dechrau'r hyn sy'n gyfle euraidd i arddangos ein cenedl wych i weddill y byd. A'r ffordd orau i ni arddangos ein gwlad wych i weddill y byd yw trwy ein cefnogwyr Cymreig gwych, oherwydd maen nhw'n gwybod nad dim ond pan fydd cwpan y byd yn dechrau y gallwn ni arddangos Cymru; mae 'na gyfle i roi blas i bobl ar fywyd Cymru a chyfle i ni adael gwaddol yn Qatar. A does dim enghraifft well o hynny na'r arddangosfa enghreifftiol gan gefnogwyr teithiol Cymru yn y gêm oddi cartref ddiweddar yng Ngwlad Belg, lle roedden nhw'n codi sbwriel ym Mrwsel i sicrhau nad oedden nhw'n gadael unrhyw ôl troed ar ôl.
Roedd llawer o'ch datganiad heddiw, Gweinidog, yn rhoi sylw i ymgyrch Lleisiau Cymru, sy'n neilltuo £2.5 miliwn i gyflwyno'r hyn yr ydych chi'n ei alw'n rhaglen farchnata fanwl. Ond, mae'r pethau hyn fel arfer dim ond gwerth y papur y maen nhw'n cael eu hysgrifennu arno os ydych chi hefyd yn cyhoeddi nid yn unig y ffigur ariannol ond y metrigau y byddai'r cynllun hwn yn cael ei farnu'n llwyddiant arnynt. Felly, sut mae llwyddiant yn edrych, yn union, ar gefn y gronfa arbennig hon? Sut gallwn ni farnu p’un a gafodd yr arian hwnnw ei wario'n dda ai peidio? A fyddwch chi'n ymrwymo i rannu'r metrigau penodol hyn â'r Senedd?
Ffordd arall i gefnogi Cymru yn rhyngwladol, fel y soniwyd amdano yn eich datganiad, yw drwy gronfa gymorth partner cwpan y byd. Fe wnaethom ni rybuddio ar y pryd y byddai'r ffenestr fer iawn ar gyfer ceisiadau o ddim ond 11 diwrnod yn anfantais sylweddol i amrywiaeth eang o ymgeiswyr o bob cwr o Gymru, a bydd yn hytrach yn ffafrio sefydliadau sydd â pherthnasau blaenorol â Llywodraeth Cymru a oedd â'r capasiti a'r wybodaeth i gael y cyllid hwn. Mae gen i ofn dweud bod eich datganiad ysgrifenedig wedi cadarnhau hynny’n gynharach heddiw. Mae cyfanswm o £1.9 miliwn wedi'i ledaenu ar draws 19 o sefydliadau yng Nghymru. Y buddiolwyr mwyaf yw sefydliadau fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, S4C, Cyngor y Celfyddydau a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru—pob un yn achos teilwng yn eu rhinwedd eu hunain, ond collodd Llywodraeth Cymru yma gyfle i wneud pethau'n wahanol ac ymgysylltu â nifer fawr o sefydliadau ledled Cymru, nid dim ond y sefydliadau mawr arferol sydd wedi'u lleoli yma yng Nghaerdydd. Felly, Gweinidog, o fyfyrio, ydych chi'n derbyn y gallai'r amserlen dynn fod wedi cael ei hymestyn rhywfaint er mwyn caniatáu mwy o ehangder o gyfle i grwpiau llai ledled y wlad gymryd rhan? A gaf i ofyn hefyd, Gweinidog, faint o sefydliadau yn gyfan gwbl a ymgeisiodd am y gronfa benodol hon, a beth oedd rhai o'r prosiectau'n ei gynnwys yn y grwpiau hyn? Sut fydd Llywodraeth Cymru'n rhoi cyfle i'r grwpiau hynny oedd naill ai'n aflwyddiannus neu, efallai, nad oedd ganddyn nhw'r amser i ymgeisio, i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau, o gwmpas adeg cwpan y byd ac wedi hynny?
Yn olaf, roeddwn i eisiau codi un sefydliad nad yw’n ffitio'r mowld fel y mae'r lleill yn ei wneud yn eich rhestr, a’r Barry Horns yw’r rheiny, sydd, rwyf wedi ei weld, wedi derbyn £17,032 o arian trethdalwyr o gronfa gymorth partner cwpan y byd. Allwch chi egluro sut y gwnaed y penderfyniad penodol hwn a beth oedd y rhesymeg dros eu cynnwys? Os yw'r cwpan y byd hwn i ddod â ni at ein gilydd fel cenedl a lledaenu cynwysoldeb yn y ffordd yr ydych chi'n ei awgrymu, mae'n bwysicach nag erioed bod Llywodraeth Cymru yn ymbellhau oddi wrth y sefydliad arbennig hwn. Bydd unrhyw un sy'n treulio hyd yn oed ychydig bach o amser ar gyfryngau cymdeithasol yn gweld mai ‘The Barry Horns' yw un o'r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol mwyaf difrïol a gwenwynig yng Nghymru heddiw. Ni does modd ail-adrodd y rhan fwyaf o'u cynnwys yn y Siambr hon, ond maen nhw’n ceisio cystwyo unrhyw unigolyn gyda safbwynt gwleidyddol gwahanol i'w safbwynt eu hunain. Rydw i fy hun wedi gorfod eu rhwystro ar Twitter am y ffordd y maen nhw wedi fy nghystwyo i'n bersonol, ac mae nifer o fy nghyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig yma wedi gorfod gwneud yr un peth.
Mewn cenedl lle mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ail blaid fwyaf o ran cynrychiolaeth seneddol yn y ddwy Senedd, sut y gallwn ni ddefnyddio arian trethdalwyr yn gyfreithlon i ariannu sefydliad sy'n lledaenu casineb a bustl tuag at gyfran mor fawr o'r boblogaeth? Yn wir, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn ceisio cuddio eu hymlyniad gwleidyddol; gan gofio bod gennym ni gêm yn erbyn Lloegr i ddod yng Nghwpan y Byd, fe ddywedon nhw'n ddiweddar fod Cymru'n cael ei dinistrio gan reolaeth Lloegr. Yn etholiad y Senedd, fe wnaethon nhw ddefnyddio'r hashnod 'cicio'r Torïaid allan o'r Senedd', a hyd yn oed y llynedd roedden nhw'n postio, 'Ydych chi wedi ymuno â Phlaid Cymru eto? Gwnewch hynny nawr.' Mae'n egwyddor sydd wedi hen ennill ei phlwyf yn y wlad hon na ddylem ni fod yn defnyddio arian trethdalwyr i ariannu achosion gwleidyddol pleidiau, a dylem ni gymryd gofal ychwanegol i sicrhau nad yw'r canfyddiad bod hyn yn digwydd yn cael cydio chwaith. Felly byddwch yn deall fy syndod o'u gweld yn cael eu cynnwys yn y rhestr hon, a thrwy eu hariannu, fe allech chi daflu cyhuddiad yn erbyn Llywodraeth Cymru eu bod yn cymeradwyo nifer o'u sylwadau ymfflamychol. Felly yn olaf, Gweinidog, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r ffigur o £17,000 a ddyfarnwyd gan eich Llywodraeth i'r grŵp hwn?
Diolch am y gyfres o gwestiynau. O ran y metrigau y byddwn ni’n eu defnyddio, byddaf yn rhannu rhywfaint o'r wybodaeth yr ydym ni’n mynd i fod yn ei defnyddio i farnu, ond hefyd rydym ni'n mynd i gael gwerthusiad ar yr effaith hefyd, a byddaf yn awyddus iawn i rannu hynny— nid yn unig yn y Senedd; efallai mai dyma'r math o beth y byddwn i'n disgwyl y byddai gan y pwyllgor pwnc perthnasol ddiddordeb mawr ynddo. Ac mae dewis yno ynglŷn â'r ddau bwyllgor a allai fod â diddordeb efallai, oherwydd mae effaith economaidd sylweddol yn ogystal â'r heriau ehangach i'r pwyllgor mae Delyth Jewell yn ei gadeirio ar y celfyddydau, diwylliant ac i’r perwyl hwnnw hefyd.
Felly, mae gennym ni’r her hon o nodi'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud o ran nifer y bobl a fydd â mwy o ymwybyddiaeth o Gymru a'r hyn sydd ar gael yma, o fewn y wlad hon a hefyd wrth fasnachu a pherthnasoedd eraill ymhellach i ffwrdd, a dyna pam mae gennym ni ddiddordeb arbennig yn y pwyslais ar farchnadoedd targed. Mae’n hap a damwain mewn sawl ffordd, ond nid yn hap a damwain llwyr, ein bod ni wedi cael digwyddiad gyda'r reslo—mae hynny'n farchnad enfawr yn America, ac os byddem wedi gorfod talu am hynny byddai wedi costio swm enfawr o arian i ni gael y math yna o ffocws a sylw. Nawr mae gennym ni’r gêm gyntaf yng nghwpan y byd gyda'r Cymry ar wasgar yno hefyd, a gyda dau lysgennad yno sy'n gweithio'n galed iawn gyda ni ar eu cysylltiadau eu hunain i hyrwyddo Cymru hefyd. Ac yna'r hyn yr ydw i'n bositif iawn amdano yw o ran ein gallu i fanteisio ar y gwaddol uniongyrchol o ganlyniad i'r twrnamaint ac yn y tymor hirach. Felly byddaf yn fwy na bodlon i roi mwy o wybodaeth mewn ffordd sy'n ddefnyddiol i Aelodau'r Senedd fod yn ymwybodol ohoni ac, yn wir, i graffu arni, ond dydw i ddim yn credu y bydd mor syml ag un set o fesurau o fewn wythnos oherwydd, fel rwy'n dweud, mi fydd gwerthusiadau i edrych arnyn nhw hefyd.
Ar gyflymder y ceisiadau a'r penderfyniadau a wnaed, mae cydbwysedd yma bob amser, onid oes? Fe wnaethom ni fynd drwodd i gwpan y byd pan wnaethom ni, felly nid oeddem ni wir yn gallu cynllunio a darparu proses ymgeisio cyn hynny. Yna cawsom nifer o siociau ac anawsterau penodol, yna dod o hyd i gyllideb, yna'r angen i'w hysbysebu ac yna'r angen i wneud dewisiadau. A rhan o'r her wrth wneud y dewisiadau hynny yw bod angen i ni roi digon o amser i sefydliadau gyflwyno cais, i edrych arno, i'w sgorio ac i graffu arno ac yna i allu ei gyhoeddi, fel bod gan y sefydliadau gyfle i gynllunio a chyflawni eu gweithgaredd. Ac yn syml, dydw i ddim yn derbyn cynnen yr Aelod fod hyn i gyd ynghylch sefydliadau o Gaerdydd. Mae gan Glybiau Bechgyn a Merched Cymru, er enghraifft, ôl troed ar draws y wlad. Os ydych chi'n meddwl am yr Urdd, efallai bod ganddyn nhw swyddfa yn llythrennol dros y ffordd o fan hyn, ond maen nhw'n fudiad Cymru gyfan i raddau helaeth ac maen nhw'n rhedeg prosiect fydd yn mynd i bob un ysgol gynradd yng Nghymru. Felly, mae yna lawer, llawer o brosiectau Cymru gyfan, ac mewn gwirionedd, os edrychwch chi ar y canolbwynt daearyddol, a lle nad oes ond un ddaearyddiaeth benodol lle mae wedi'i lleoli, Wrecsam mewn gwirionedd sy'n gwneud yn well na rhannau eraill o Gymru, oherwydd yr amgueddfa bêl-droed a'r gwaith sy'n mynd i gael ei wneud yno, a gŵyl arbennig sy'n mynd i gael ei chynnal yn Wrecsam hefyd. Mae'r mwyafrif helaeth o'r hyn yr ydym ni'n ei gefnogi yn gefnogaeth Gymru gyfan, a rhywfaint o weithgaredd penodol o fewn Gogledd America hefyd, sydd, fel rwyf yn dweud, yn farchnad fawr i ni.
Rwy'n credu pan ddaw at y gwaddol ehangach, nid yn unig mewn gweithgaredd corfforol a'r buddsoddiad mewn cyfleusterau sydd eu hangen—oherwydd ni fydd y digwyddiad ynddo'i hun yn gwarantu, ymhen 10 mlynedd, y bydd Cymru'n genedl fwy heini ac iachach, ond mae'n sbardun posibl gyda buddsoddiad yn y gêm gymunedol, gan wella cyfleusterau i fwy o bobl allu cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol—mae hynny'n rhan o'n newid ac o’r symudiad yn ein diwylliant ni fel cenedl. Mae cryn dipyn o newid diwylliant y mae angen i ni ei weld i ailnormaleiddio ffyrdd o wneud pethau, boed hynny'n symud, cyrraedd llefydd, ac yn wir mwynhau chwaraeon drwy bob oed a phob gallu hefyd.
Mi wnaf fi droi at eich pwynt olaf o'r diwedd, ac yn wir eich man cychwyn. Roedd y man cychwyn yn ymwneud ag effaith ein cefnogwyr fel llysgenhadon, ac mae'r Wal Goch wedi bod yn llysgenhadon enfawr dros Gymru. Rwyf i'n ddigon hen—efallai nad ydych chi, ond rwyf i'n ddigon hen, hyd yn oed fel dyn canol oed—i gofio pan nad oedd cefnogwyr pêl-droed yn dilyn y tîm cenedlaethol bob amser yn haeddu'r clod sy'n cael ei gydnabod yn fyd-eang bron nawr. Doedd hi ddim wastad yn wir y byddai cefnogwyr Cymru mor rhadlon tuag at ei gilydd, heb sôn am tuag at y lleoedd yr oedden nhw’n ymweld â nhw. Roedd gormod o enghreifftiau o ymddygiad na fyddem ni yn falch ohono, ac mewn gwirionedd, am gyfnod hir bellach, mae ein cefnogwyr wedi bod yn llysgenhadon anhygoel, nid yn unig i'r tîm ond i'r wlad, ac rwy’n gwybod o gwrdd â busnesau eraill, o gwrdd â llysgenhadon eraill ar gyfer gwledydd eraill, ac, mewn gwirionedd, rhai o'r tîm llysgenhadol yn y rhanbarth, sy'n cydnabod, mewn gwirionedd, o'u teithiau blaenorol, pan fo Cymru wedi chwarae gemau yn y gorffennol mwy diweddar, mae gwaddol positif iawn wedi cael ei adaael ar ôl gan y cefnogwyr hynny, ac rwy'n falch iawn o hynny. Mi weles i hyn fy hun yn 2016 yn yr Ewros yn Bordeaux, lle yr oedd cefnogwyr Cymru'n eistedd lawr, yn yfed ac yn bwyta cyn y gêm gyda chefnogwyr Slofenia, a doedd dim awgrym o drafferth. Ac mae gen i ofn, gyda'n ffrindiau dros y ffin, fod yna lawer o gefnogwyr sy'n ffitio'n union i'r mowld hwnnw—sy'n gefnogwyr go iawn, sydd eisiau mynd â'u teuluoedd i fwynhau'r gêm—ond, yn anffodus, mae ganddyn nhw broblem fwy na ni o hyd o ran ymddygiad rhai o'u cefnogwyr. Mae'n gryfder gwirioneddol i ni ac mae gwir angen cadw gafael arno—neges uno'r tîm ac ymddygiad y cefnogwyr.
Mae hynny'n dod â fi at The Barry Horns, oherwydd rwy'n credu bod angen i chi allu datgysylltu cyfrif Twitter gan rywun sydd â barn benodol, y mae gan bobl hawl iddi mewn gwlad ddemocrataidd—a, gadewch i ni fod yn glir, nid yw'r person sy'n rhedeg y cyfrif Twitter hwnnw yn gefnogwr i mi a fy mhlaid chwaith, a does gen i ddim problem gyda hynny. Ond mae'r band ei hun yn rhan fawr iawn o'r hyn sy'n digwydd o amgylch y gêm, ac, os ydych chi wedi bod i nifer o gemau, yna fe fyddwch chi'n gwybod bod The Barry Horns, ymhlith y cefnogwyr, yn rhywbeth mae pobl yn ei hoffi mewn gwirionedd ac yn mwynhau am yr awyrgylch sydd wedi’i greu, a dyna beth yr ydym ni'n bwriadu ei hyrwyddo. Felly, nid yw'n gymeradwyaeth o farn unigol aelodau unigol yn y band ei hun nac o'i gwmpas; mae'n ymwneud â'r hyn mae'r band yn ei wneud fel cyflwyniad cadarnhaol iawn ac ymestyniad o’r Wal Goch. A phan fo nhw'n rhan o dîm Cymru a'r Wal Goch, rwy'n credu y gall pob un ohonom ni weld rhywbeth i fod yn falch ohono ac mae hynny'n ychwanegu at yr awyrgylch a'r amgylchedd. Byddwn yn parhau i fod â gwahaniaethau ar faterion eraill mewn bywyd cyhoeddus, ond rwy'n gyfforddus â'n penderfyniad i gefnogi The Barry Horns a'u hymgysylltiad â'r Wal Goch ehangach yn Qatar.
Diolch, Weinidog, am y datganiad yma heddiw.
Fel y gwyddoch chi, roeddwn i’n awyddus iawn i glywed y datganiad yma cyn yr haf. Roeddwn i'n bryderus cyn y toriad nad oedd cynlluniau ar waith, ond rwyf wrth fy modd yn gweld y cyhoeddiadau hyn heddiw. Roeddwn i’n arbennig o falch o weld eich bod wedi derbyn 97 o geisiadau i gyd a allai fod wedi bod yn werth £7.1 miliwn, sydd yn dangos y creadigrwydd hwnnw sydd wedi'i ysbrydoli gan y digwyddiad hanesyddol hwn. Ac rwy'n credu mai rhan o'r her i ni yw edrych ar sut, gyda gwaddol, sy'n parhau o ran y ffrwd honno o gefnogaeth, y cynnydd mewn hyder, sut y gallwn ni barhau gyda'r gwaddol hwnnw o greadigrwydd hefyd.
Elfen bwysig arall, wrth gwrs, yw'r cyfle y mae'n ei roi o ran y Gymraeg; y ffaith mai'r tîm biau'r gair hwnnw 'Cymru' bellach. Pan ydym ni'n chwarae, Cymru sydd yno yn erbyn unrhyw wlad arall, yn hytrach na Wales, felly mae’r berchnogaeth a’r arwahanrwydd yn dod ar draws yn glir. Ac fe hoffwn ofyn, Gweinidog, sut o fewn yr ymgyrch farchnata mae’r ymgorfforiad hwnnw o Gymru yn cael ei gofleidio gan Lywodraeth Cymru, oherwydd rwy'n credu ers i'r tîm a Chymdeithas Bêl-droed Cymru bersonoli a pherchnogi'r gair hwnnw fel ei fod yn cael ei normaleiddio a'i ddefnyddio gan bawb, p'un a ydyn nhw'n siarad yr iaith ai peidio—sut allwn ni wneud y mwyaf o hynny fel ei fod yn cael ei ddefnyddio'n rhyngwladol i adnabod Cymru?
Hoffwn ofyn hefyd—. Rydych chi wedi sôn yma am swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru a'r rhan bwysig y maen nhw'n ei chwarae. Mewn swyddogaeth flaenorol, ymwelais â Qatar a gwelais mai un aelod o staff sydd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru. Felly, a gaf fi ofyn pa adnoddau ychwanegol sydd wedi'u rhoi yn swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru yn Qatar er mwyn sicrhau ein bod ni'n gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny?
Roeddwn i hefyd eisiau gofyn a wnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth am sut yr ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y cyfleoedd i hyrwyddo Cymru yn Qatar, ac, yn benodol, rydych chi wedi cyfeirio at ŵyl GREAT a Diwrnod y DU. Fe fyddwch chi'n gwybod fy mod i wedi codi pryderon yn y gorffennol am y risg y bydd Cymru dan y faner ymgyrchu GREAT honno, a sut mae gennym ni ein presenoldeb penodol. Felly, tybed a wnewch chi efallai dynnu sylw at sut y bydd yr hunaniaeth benodol honno'n cael ei chynnal, ac nad ydym yn gweld jac yr undeb yn hytrach na'n baner ein hunain yn ein cynrychioli, a fyddai, mewn gwirionedd, yn tanseilio llawer o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru pe bai hynny'n digwydd. Rwy'n gobeithio ei fod wedi'i ddatrys ac nad yw’r risg honno’n bodoli, oherwydd rydych chi wedi sôn am ein hunaniaeth benodol, ond hoffwn weld sut mae hynny'n mynd i weithio gyda'r syniad hwn o Ŵyl y DU a gŵyl GREAT ac yn y blaen—sut yr ydym ni'n mynd i gymryd ein lle yno.
Hoffwn hefyd wybod pa gyllid sydd wedi'i sicrhau gan Lywodraeth y DU i gefnogi hyrwyddo Cymru yn benodol a hunaniaeth Gymreig fel rhan o hyn. Oherwydd, yn amlwg, rydym ni’n cystadlu yn erbyn ein cymdogion, Lloegr; mae gennym ni ddau dîm ar wahân. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer iawn o hyrwyddo tîm Lloegr—rydym ni eisoes yn ei weld mewn archfarchnadoedd ac yn y blaen, lle mae rhai cwmnïau mawr wedi anghofio bod dau dîm yng Nghwpan y Byd o'r Deyrnas Unedig—ac mae'n bwysig felly bod gennym ni’r hunaniaeth benodol honno, felly hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd.
Rydych chi hefyd wedi cyfeirio, wrth gwrs, am y pryder allweddol i lawer, sef ynghylch hawliau dynol o ran hawliau LHDTC+ a hawliau gweithwyr. Ac yn amlwg, mae'r ffaith nad yw rhai o'n cefnogwyr yn teimlo'n ddiogel i deithio yn bryder enfawr, ac rwy'n nodi'r trafodaethau yr ydych chi wedi bod yn eu cael, ond, yn amlwg, rwy'n credu un o'r pethau—. I unrhyw gefnogwyr sy'n LHDTC+ sy'n teithio, rwy'n credu ei fod yn bwysig ein bod ni’n ei gwneud yn glir eu bod nhw'n gwybod bod eu diogelwch yn cael ei sicrhau ac y byddan nhw'n cael eu cefnogi. Hefyd, o ran y cwpan y byd hwn, mae'n debygol o osod safonau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, felly mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud safiad dros hawliau dynol. Rwy'n falch o'ch gweld yn cyfeirio at hynny, ond rwy'n credu y byddai rhywfaint o wybodaeth ychwanegol yn ddefnyddiol. Oherwydd, fel y gwyddoch chi, fe wnaeth arolwg YouGov, a gomisiynwyd gan Amnest Rhyngwladol, ganfod fod 73 y cant o bobl o blaid defnyddio refeniw cwpan y byd i ddigolledu gweithwyr a ddioddefodd wrth baratoi. Ac mae hyn yn cynyddu i 84 y cant i'r rhai sy'n debygol o wylio o leiaf un gêm, ac mae 67 y cant eisiau i'w cymdeithasau pêl-droed cenedlaethol ddweud eu dweud. Felly, a all y Gweinidog gofnodi cefnogaeth i'r galwadau hyn i FIFA a Llywodraeth Qatar, i sicrhau bod gweithwyr sydd wedi dioddef yn cael eu digolledu ac na ddylid derbyn na goddef y lefel hon o gam-drin hawliau dynol ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
Yn olaf, os caf, rydych chi wedi sôn am waddol o ran y cyfleusterau chwaraeon hynny. Fe fyddwch chi’n gwybod bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud, er mwyn gallu mynd i'r afael â chyfleusterau gwael yng Nghymru, y byddai angen buddsoddiad o £343 miliwn dros yr 20 mlynedd nesaf. Felly, a allwn ni geisio sicrhau, ar ôl y gwerthusiad a phopeth, fod gwaddol hwnnw yn ganolog i'n cynlluniau? Oherwydd, gobeithio, y byddwn ni’n cyrraedd y gystadleuaeth cwpan y byd nesaf a gallwn ni ddechrau ein paratoadau ar gyfer gwneud y mwyaf o'r gwaddol hwnnw ar ôl yr hon. Fel y gwnaethoch chi'i ddweud yn eich datganiad, rydym ni'n dymuno'n dda i Gymru yng nghwpan y byd. Mae cynlluniau cyffrous iawn yma, ac rwy'n falch o'ch gweld yn eu cyhoeddi, ac rwy'n edrych ymlaen at allu cefnogi'r tîm—o Gymru; yn anffodus, ni fyddaf yn teithio fel chi. Diolch.
Wel, mae yna lawer o feichiau mewn bywyd gweinidogol, ond fe wnaf fi gymryd un dros y tîm, yn llythrennol. Edrychwch, o ran y gwaddol creadigol, rwy'n credu mewn gwirionedd, gyda'r rhaglen yr ydym ni wedi'i chyhoeddi, o fewn y gwaddol creadigol hwnnw, bydd nid yn unig y prosiectau nad ydym wedi gallu eu hariannu, ond hefyd llawer o sefydliadau a grwpiau, yn rhedeg eu gweithgareddau eu hunain beth bynnag. Nid ydym wedi cael unrhyw sgwrs go iawn am barthau cefnogwyr, yn rhannol oherwydd bod y twrnamaint ym mis Tachwedd ac mae'n debyg y bydd hi'n dywyll yma erbyn i'r gemau ddechrau mewn gwirionedd, yn wahanol i 2016, pryd cawsom haf gwych ar gyfer pob un o'r gemau y gwnaethom ni eu chwarae. Ond, mewn gwirionedd, bydd llawer o weithgareddau, nid yn unig mewn lleoliadau sydd eisoes yn bodoli ac a fydd eisiau dangos y gêm a chael pobl i ddathlu, ond yn y cyfnod cyn hynny hefyd.
Rwy'n cofio—rwy'n dal i gofio—bod yn ifanc a gweld cwpanau pêl-droed dynion eraill a dim tîm Cymru yno, ond, mewn gwirionedd, mae twymyn cwpan y byd yn anodd iawn i'w osgoi pan ddaw hi i gwpan pêl-droed y byd. Mae'n jygarnot mor anferth o gêm, ac mae hyd yn oed yn fwy nawr nag oedd hi pan oeddwn i'n wirioneddol ifanc, yn hytrach nag yn ifanc i wleidydd. Ac rwy'n credu, o fewn ein gwlad ni, o ystyried bod 64 mlynedd wedi mynd heibio, dros yr wythnosau nesaf, y bydd hi'n anodd iawn osgoi cwpan y byd, ac rwy'n credu bydd llawer o bobl yn bwriadu cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol. A'r hyn yr ydym ni'n ei wneud o fewn y rhaglen hon yw ei gwneud hi'n hawdd i lawer o bobl gymryd rhan. Fel y dywedais, bydd pob ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn o leiaf un o'r prosiectau.
Ond, yn fwy na hynny, rwy'n credu y byddwch chi'n gweld llawer o wahanol glybiau a sefydliadau yn ceisio ymgysylltu â'u cefnogwyr eu hunain, a llawer o gynnwys digidol hefyd ar gyfer yr hyn sy'n cael ei wneud yn rhai o'r pethau yr ydym ni wedi'u cefnogi. Ac o fewn hynny, fe welwch naratif Gymraeg gref a defnydd cryf iawn ohoni yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud nid yn unig yng Nghymru ond, yn wir, rhai o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud dramor hefyd. Felly, yng Ngogledd America—ac un o'r digwyddiadau yr ydym ni eisiau ei wneud yno, gyda S4C—bydd digon o gynnwys Cymraeg yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud wrth hyrwyddo'r iaith yno. Ac, yn wir, mae wedi bod yn un o'r rhesymau pam rwy'n credu bod dau berchennog newydd Wrecsam wedi bod yn gymaint o lwyddiant: (a) oherwydd bod ganddyn nhw synnwyr digrifwch—maen nhw'n amlwg wedi dod gydag enw sy'n gwneud i bobl eraill ymddiddori, ond rwy'n meddwl eu bod nhw wedi bod yn bositif iawn ac yn barchus o ran hyrwyddo'r iaith Gymraeg, ac maen nhw wedi gwneud pethau mewn ffordd rwy'n credu na allai Aelodau etholedig eu gwneud mae'n debyg. Maen nhw wedi defnyddio'r gofod hwnnw'n greadigol iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n rhoi sylfaen dda i ni gael hyd yn oed mwy o esboniad a pholisi drws agored positif i edrych ar ddwy iaith ein gwlad, nid dim ond un ohonyn nhw. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gyfle mawr iawn, a gobeithio y gwelwch chi hynny nid yn unig yn y ceisiadau, ond yn yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd hefyd.
O ran adnoddau ychwanegol, bydd gennym ni bobl ychwanegol ar lawr gwlad, yn ystod y twrnamaint ac yn ystod rhywfaint o'r cyfnod cyn y twrnamaint, yn y rhanbarth, ond hefyd yn yr Unol Daleithiau, i gynorthwyo gyda rhywfaint o'r marchnata a'r ymgysylltu yno hefyd. Ond nid yw'n ymwneud â nifer y bobl yn unig, mae’n ymwneud â beth maen nhw'n gallu ei wneud, ac, unwaith eto, peth o'r cynnwys digidol y byddwn ni’n gallu ei ddefnyddio a gweithio gyda sefydliadau partner. Pe byddem ni’n dim ond eisiau gwneud hyn ein hunain, ni fyddai gennym ni’r nifer cywir o bobl nac, yn wir, y dolenni cywir sy'n bodoli.
Felly, bydd y Cymry ar wasgar a sefydliadau rhyngwladol Cymru sydd eisoes yn bodoli yn Dubai a Qatar yn bwysig iawn i ni wrth geisio datblygu ac ehangu ein cysylltiadau a'n hamlygiad yno, ac rwy'n credu bod hynny hefyd yn berthnasol i'r ymgysylltu â digwyddiadau sydd â brand y DU. Mae hynny'n rhannol oherwydd i mi gael y cyfle i fynd i Dubai yn ystod Expo y Byd, ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd eich pryderon am jac yr undeb yn cael eu hystyried yn gyfnewidiadwy, mewn ffordd, â chroes San Siôr, mewn gwirionedd pan gawson ni Ddiwrnod Cymru ym mhafiliwn y DU, fe wnaeth Cymru wirioneddol gymryd drosodd, ac ni allech chi fynd i unrhyw le ger pafiliwn y DU heb gydnabod ein bod ni yno yn hyrwyddo Cymru nid yn unig gyda'r bwyd a diod, ond yn yr hyn a ddigwyddodd y tu allan yn ogystal â'r tu mewn hefyd.
Felly, rwy'n credu bod ein staff llysgenhadaeth mewn gwahanol rannau o'r byd yn cydnabod eu cyfrifoldeb i bob gwlad o fewn y DU. Rydym ni eisoes wedi cael ymgysylltu da iawn â'r llysgenhadaeth gyda'r Prif Weinidog a minnau yn ceisio sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn wirioneddol yn cefnogi pob cenedl. Rydym ni’n siarad â Llywodraeth y DU am Ddiwrnod y DU a'r gweithgaredd brand ‘GREAT' i fod yn glir nad jac yr undeb yn unig fydd yno; bydd ein baner ni yno ochr yn ochr â hi hefyd, yn arbennig ar y pethau yr ydym ni'n eu gwneud, a bydd yn adlewyrchu'r ffaith bod dwy genedl o'r DU wedi cyrraedd y cwpan y byd hwn. Ac, o ran cwpanau'r byd yn y dyfodol, wrth gwrs, bydd cwpan y byd i ferched, a dyma, gobeithio, fydd y cwpan y byd nesaf y byddwn ni’n cael trafod a siarad am ein cyfranogiad uniongyrchol ynddo.
O ran cefnogwyr LHDTC+, mae hynny'n rhan o'n her ni, yn y ffordd yr ydym ni'n rhoi'r sicrwydd a'r hyder i bobl na fydd modd osgoi eu problemau a'u pryderon. Dyna pam rwy'n siarad am fod yn bositif ynghylch ein gwerthoedd a phwy ydym ni fel Cymru heddiw a phwy yr ydym ni am fod yn y dyfodol, ac i gefnogwyr fynd yno ac i fod yn nhw eu hunain ac i fod yn ddiogel a chael gofal. Mae goruchaf bwyllgor Qatar sy'n trefnu'r twrnamaint yn eithaf sensitif i hyn, gan nad ydyn nhw eisiau i unrhyw un beidio â theimlo croeso. Ac nid Cymru'n unig sy'n sôn am hyn—mae bron pob cymdeithas bêl-droed Ewropeaidd wedi siarad am hyn yn rhagweithiol, oherwydd y newidiadau mawr sy'n digwydd ledled Ewrop. Mewn gwirionedd, pe bai'r twrnamaint yma wedi digwydd 50 mlynedd yn ôl, ni fyddem wedi bod yn siarad am hyn, oherwydd, mewn gwirionedd, ar draws Ewrop, roedd agwedd wahanol iawn. Ac mewn gwirionedd, 50 mlynedd yn ôl—. Wel, yn sicr pan oedd Cymru yn y twrnamaint y tro diwethaf, doedd hi ddim yn gyfreithlon yn y wlad yma i fod yn hoyw ac mewn perthynas. Felly, rydym ni’n cydnabod ein bod ni wedi gwneud cynnydd yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf, ac mae peth o hyn yn ymwneud â gwneud yn siŵr nad yw'r enillion hynny'n cael eu rhoi i un ochr neu eu hosgoi er mwyn chwaraeon, ond maen nhw’n rhan o'n hymgysylltiad. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar ein hymgysylltiad â gwahanol rannau o'r byd, fel rwyf wedi cyfeirio yn fy natganiad fy hun, i nodi ein dull o ymdrin â sut y byddwn yn ymgysylltu â gwahanol wledydd yn y byd heb aberthu ein gwerthoedd ein hunain.
Yna, ar y pwynt mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi'i wneud, mae'n gais dewr, deniadol a beiddgar i gael £343 miliwn o gyfalaf allan o'r Gweinidog Cyllid pan, mewn gwirionedd, rydym ni’n gwybod ein bod wedi cael toriad ymarferol ac, mewn gwirionedd, toriad arian yn ein cyllideb gyfalaf. Felly, mae 'na lawer o bwysau. Felly, yr arian yr ydym ni wedi'i roi i mewn yn barod yw arian sy'n flaenoriaeth mewn cyfnod anodd iawn. Ein her fydd canfod sut a lle y gallwn ni gael cyfalaf a sut yr ydym ni’n defnyddio hwnnw i wella cyfleusterau, ac, yn hollbwysig, yn y ffordd yr ydym ni’n edrych ar gyfleusterau chwaraeon, sut y gallwn ni gael amlddefnydd ar gyfer gwahanol chwaraeon. Mae hynny eisoes yn digwydd rhwng amrywiaeth o sefydliadau, ond yn sicr bydd llawer mwy i'w wneud o ran gwella cyfleusterau llawr gwlad a chymunedol a llawer o weithgareddau eraill ar ôl y twrnamaint.
Yn fy marn i, nid wyf yn credu y dylai Qatar fod yn cynnal cwpan y byd o gwbl; rwy'n credu ei fod yn adlewyrchiad echrydus o werthoedd FIFA bod gwlad sydd â hanes hawliau dynol fel ei hanes nhw, ac nid yn unig wrth drin pobl LHDTC+—ond hefyd y driniaeth echrydus o weithwyr mudol a ddatgelwyd gan Gary Neville yn ddiweddar yn dangos na ddylai'r cwpan y byd hwn erioed fod wedi mynd i Qatar.
Yn ei ddatganiad, dywed y Gweinidog:
'Byddwn yn defnyddio ein llwyfan fel cyfle i fynegi ein pryderon a dangos bod Cymru yn genedl o werthoedd ar lwyfan y byd.'
Hoffwn wybod, gyda Gweinidogion yn mynd yno, a fyddan nhw'n cymryd y cyfle i fynegi'r pryderon hynny'n uniongyrchol i'r swyddogion y maen nhw'n cyfarfod â nhw ac unrhyw rai yn y Llywodraeth y maen nhw'n cyfarfod a nhw, ac yn dweud nad yw'r gwerthoedd hynny sydd gan Qatar yn werthoedd sy'n cael eu harddel gan wlad barchus? Ac a wnaeth y Llywodraeth ystyried Gweinidogion yn boicotio cwpan y byd o gwbl?
Diolch am y pwyntiau a'r sylwadau. Edrychwch, nid ydym yn gyfrifol am ddewisiadau FIFA o ran y ffordd y mae'n gweithredu fel sefydliad ar nifer o lefelau. Rydym ni yn gyfrifol am weithio ochr yn ochr â'r gêm, y bobl sy'n ei rhedeg, a'r bobl sy'n ei chwarae a'i chefnogi. Dyna pam yr ydym ni wedi gosod y cydbwysedd yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau diogelwch pobl sy'n teithio, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i Gymru yn sgil y twrnamaint, lle bynnag y mae'n digwydd, ac yn wir, y pwynt am ein gwerthoedd a pheidio â cholli golwg ar ein gwerthoedd yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud. Dyna pam y bydd datganiad y Prif Weinidog hyd yn oed yn fwy defnyddiol am fod Hefin David yn mynegi barn y mae llawer o Aelodau yn ei rhannu, ac rwy'n cydnabod hynny. Ac, o ystyried fy nghefndir fy hun fel cyfreithiwr cyflogaeth ar gyfer undebau llafur ac yn stiward llawr gwaith undeb llafur, rwy'n cydnabod llawer o'r pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud ynghylch sut mae ein gweithlu ein hunain yn cael ei drin a'r ffaith bod y gwerthoedd hynny'n rhyngwladol ac nid ar gyfer pobl yr ydym ni yn digwydd eu hadnabod ein hunain yn unig. Felly, bydd ein gwerthoedd a'n dull o weithredu yn allweddol, a bydd hynny'n llywio ein hymgysylltiad â phobl yn Qatar hefyd.
Ein her ni, rwy'n credu, yw pan fyddwn ni'n siarad am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a'r math o Gymru ydym ni, byddwn ni'n sôn am sut beth yw Cymru fodern, ac mae'n werth myfyrio ar y ffaith, mewn rhai rhannau o'r rhanbarth hwnnw, fod yna bobl sy'n awyddus i wneud cynnydd ac maen nhw'n awyddus i wneud cynnydd mewn cyfnod llawer byrrach na'r ychydig ganrifoedd neu bump neu chwe degawd y mae wedi cymryd i ni wneud y cynnydd yr ydym bellach yn ei werthfawrogi a'i barchu heddiw. A'r hyn sydd angen i ni ei wneud, rwy'n credu, yw dangos, mewn gwirionedd, fod gwlad fodern sy'n parchu ei holl ddinasyddion mewn sefyllfa well i ffynnu yn y dyfodol yn hytrach nag un nad yw'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r holl wahaniaeth ac amrywiaeth sydd gennych o fewn eich gwlad. Rydych chi'n colli talent yn ogystal â'r bobl hynny fydd yn edrych arnoch chi ac yn meddwl na fydden nhw eisiau cael yr holl berthnasoedd y gallen nhw eu cael fel arall o ran rhannau eraill o'r byd. Felly, gallaf roi'r sicrwydd i'r Aelod y bydd y ffordd y bydd Gweinidogion yn ymgysylltu yn gadarnhaol ynghylch pwy ydym ni, pwy yw ein cefnogwyr, a sut yr ydym eisiau gweithio gyda gweddill y byd.
Wrth ystyried boicot, rydym wedi ystyried pob dewis, ond rydym yn credu mai'r peth iawn yw i Weinidogion fynd, i gefnogi ein tîm, ac i wneud y mwyaf o'r cyfle, hynny yw o ran yr hyn y mae'n ei wneud ar gyfer Gymru ar y llwyfan, ond hefyd y pwynt cadarnhaol hwnnw ynghylch cyflwyno a bod yn falch o'n gwerthoedd heddiw.
Diolch i'r Gweinidog.