Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 4 Hydref 2022.
A gaf i ddiolch i Tom Giffard am y sylwadau a'r cwestiynau yna? Os wnaf i gychwyn gyda'i sylwadau cyntaf ynglŷn â'r rhaglen ymgysylltu a rheoli ymwelwyr, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n amlwg yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned leol yn ei gylch, gydag amgueddfa gogledd Cymru a sefydliadau rheoli tirwedd lechi, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, parc cenedlaethol Eryri ac ati. Felly, bydd ymgysylltu parhaus â'r sefydliadau hynny a fydd yn cyflawni'r ymgysylltu hwnnw, a byddwn yn gobeithio gallu dod yn ôl atoch chi rywbryd yn y dyfodol agos gyda diweddariad ar sut mae hynny wedi gweithio'n ymarferol a beth fu lefel yr ymgysylltu ag ymwelwyr ar gyfer hynny.
Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau eraill am dreftadaeth a thwristiaeth yn yr ardal, ac rydych chi'n hollol briodol yn cyfeirio at y ffaith bod gennym ni ddau safle treftadaeth y byd o bwys—nid yn unig y tirweddau llechi, ond cestyll y Brenin Edward ac ati. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod y safleoedd hynny'n denu tua 500,000 i 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Yn sicr yr hyn yr ydym ni’n gobeithio yw y bydd y datblygiad yr ydym ni wedi buddsoddi ynddo yng nghastell Caernarfon yn gweld nifer yr ymwelwyr hynny'n cynyddu. Rhan o bwrpas y datblygiad hwnnw yw dod â mwy o ymwelwyr i'r rhan honno o Gymru, ond hefyd i sicrhau nad ydym chwaith yn anghofio’r stori yr ydym eisiau i gastell Caernarfon ei hadrodd. Mae rhan o'r buddsoddiad hwnnw'n ymwneud â dweud y stori honno ac er mwyn i bobl weld y stori honno gyda'i holl ffaeleddau, yn ei holl onestrwydd, a thrwy holl gyfnodau cythryblus hanes y castell hwnnw. Ond, rhaid i ni gofio, uwchben y castell hwnnw heddiw mae baner Cymru yn cyhwfan, ac, wrth gwrs, dyna'r swyddogaeth olaf bwysig yn hanes castell Caernarfon.
O ran y sylwadau am y wifren sip, yn amlwg mae hwn yn atyniad twristaidd enfawr eto yn yr ardal honno. Mae o fewn y dirwedd dreftadaeth, felly rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda pherchnogion y wifren sip er mwyn iddyn nhw allu gweithio i ddatblygu eu cynnig a'u safle gydag agwedd gydymdeimladol tuag at yr hyn sy'n atyniad sy'n eistedd yng nghanol yr hyn sydd yn awr yn dirwedd dreftadaeth y byd.
Rydych chi'n hollol gywir yn cyfeirio at y materion sy'n ymwneud â threftadaeth chwaraeon. Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands, sydd â dweud y gwir, yn cyflwyno dadl yfory ar hynny, a byddaf yn ymateb i honno. Felly, efallai y bydd rhai o'r cwestiynau yr ydych chi wedi’u codi yn cael eu hateb yn yr ymateb i'r ddadl honno. Ond, rydych chi'n hollol gywir: mae ein treftadaeth chwaraeon yn un y dylem ni fod yn falch iawn ohoni, ac mae llawer o bethau ynghylch treftadaeth chwaraeon y gogledd yn arbennig y dylem fod yn falch iawn ohonyn nhw. Fe ddywedaf fwy am hynny yfory mewn ymateb i ddadl Sam. Roedd fy natganiad heddiw yn benodol am y tirweddau llechi ac am gastell Caernarfon.
O ran yr ardoll dwristiaeth, rwy'n codi fy het i Tom ac i'w holl gyd-Aelodau Ceidwadol sy'n ceisio codi'r mater hwn ynghylch yr ardoll dwristiaeth bob cyfle a gânt. Dyna yr ydych chi’n ei wneud; chi yw'r wrthblaid, ac rwy’n deall mai dyna sydd angen i chi ei wneud. Yn amlwg, rydym ni eisiau gweld diwydiant twristiaeth ffyniannus, wrth gwrs, ac rydym ni eisiau gweld yr adferiad cryf yna ar ôl y pandemig. Mae angen ei bwysleisio dro ar ôl tro—oherwydd dywedwyd lawer gwaith—bydd yr ardoll ymwelwyr yn ardoll ddewisol er mwyn i awdurdodau lleol benderfynu drostyn nhw eu hunain p’un a ydyn nhw'n teimlo y dylai cyfran fach iawn o wariant ymwelwyr yn eu hardal gael ei chymryd mewn ardoll dwristiaeth a fydd yn helpu i ddatblygu twristiaeth yn yr ardal honno.
Rydw i wedi dod yn ôl o'r Eidal yn ddiweddar. Es i i'r Eidal ar wyliau yn yr haf, ac roeddwn i'n ffodus iawn i gyrraedd tirwedd winllan treftadaeth y byd, sef Piedmont yng ngogledd yr Eidal. Roedd hi'n anodd iawn llusgo fy hun oddi yno—roedd yn brydferth—ond roeddwn i'n hapus i dalu ardoll dwristiaeth pan oeddwn i yno, fel yr ydw i’n ei wneud yn unrhyw un o'r lleoliadau gwyliau y byddaf yn mynd iddyn nhw. Fel y bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol, bydd Cwpan Rygbi'r Byd Merched yn dechrau'r wythnos nesaf yn Seland Newydd, ac, fel Gweinidog chwaraeon, byddaf yn mynd allan i Seland Newydd er mwyn cynnig cefnogaeth y Llywodraeth a chenedl Cymru i'n menywod sy'n chwarae rygbi allan yna. Rydw i newydd orfod gwneud cais am fisa i fynd i mewn i Seland Newydd ac wele, wrth wneud cais am y fisa hwnnw roedd yn rhaid i mi dalu ardoll dwristiaeth o £18 hefyd. Dyna fel mae hi. Mae gan fwy na 40 o wledydd a chyrchfannau gwyliau ledled y byd ardoll ymwelwyr, ac rwy'n credu pe bai'r ardoll ymwelwyr mor ddinistriol ag yr ydych chi’n awgrymu y gallai fod, byddai'r rhan fwyaf o'r gwledydd hynny wedi cefnu arni erbyn hyn.