10. Dadl Fer: Chwaraeon yng Ngogledd Cymru: Sicrhau cyfleoedd i bawb

– Senedd Cymru am 5:23 pm ar 5 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:23, 5 Hydref 2022

Nid dyna ddiwedd y cyfarfod. Fe fydd y ddadl fer yn cael ei chynnal nawr. Fe ofynnaf i Aelodau adael y Siambr yn dawel.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:24, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Os gall yr Aelodau adael y Siambr yn dawel, y rhai sy’n gadael, fe ofynnaf i Sam Rowlands gynnig y ddadl fer. Sam Rowlands.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heno, rwy’n falch iawn o gael cyfle i gyflwyno fy nadl fer. Hon yw fy nadl fer gyntaf, mewn gwirionedd, ar fater hynod bwysig, sef chwaraeon yng ngogledd Cymru, sicrhau cyfleoedd i bawb. Ac rwyf wedi cytuno—yn hael, wrth gwrs—i roi o leiaf un munud o fy amser i Tom Giffard, Carolyn Thomas, Gareth Davies a Ken Skates, ac rwy'n ddiolchgar iddynt. Rwyf am sôn am hyn mewn tair rhan heno. Yn gyntaf, rwy’n mynd i sôn yn gyffredinol am bwysigrwydd chwaraeon; yn ail, rwyf am sôn am yr her yng ngogledd Cymru'n benodol; ac yna, yn drydydd, rhai o'r cyfleoedd y gallem edrych arnynt i sicrhau bod yr heriau hyn yn cael eu datrys.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 5:25, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Un o’r prif resymau pam fy mod am gael dadl fer ar chwaraeon yw bod chwaraeon mor bwysig, fel y gwyddom, rwy’n siŵr, i’n hiechyd, ein llesiant, ein hymdeimlad o le a’n hymdeimlad o gymuned. Mae ganddynt bŵer, fel y gwelwn o bryd i’w gilydd—yn amlach na pheidio, mewn gwirionedd—i uno ein cymunedau lleol a phŵer i’n huno fel gwlad hefyd. Fel gwlad gymharol fach o ychydig dros 3 miliwn o bobl, rydym yn sicr yn ymladd y tu hwnt i'n pwysau ar lwyfan chwaraeon y byd—ac nid oeddwn yn bwriadu mwyseirio, ond fe wnes, ac rwy'n addo mai dyna fydd y tro olaf.

Ond er gwaethaf ein poblogaeth lai, gwelwn ganlyniadau gwych. Mae tîm pêl-droed y dynion ar hyn o bryd yn y pedwerydd safle ar bymtheg yn y byd ac yn mynd i gwpan y byd, fel y gwyddom, fis nesaf; mae ein tîm rygbi yn Rhif 7 yn y byd; mae gennym chwaraewr dartiau gorau'r byd, sy'n Gymro—gwn y bydd James Evans yn falch iawn o hynny; ac yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022 yn ddiweddar, enillodd Cymru 28 o fedalau aur, sy’n gyfanswm gwych i ni, a dylem fod yn falch iawn. Os edrychwn ar chwaraeon menywod, rydym yn parhau i weld chwaraeon menywod yn tyfu ac yn ffynnu, ynghyd â chynulleidfaoedd, gyda 12,000 o bobl wedi mynychu gêm bêl-droed menywod Cymru yn erbyn Slofenia fis diwethaf. Wrth gwrs, mae pob un ohonom yn llawn cyffro wrth weld bod tîm pêl-droed menywod Cymru ar fin cyrraedd cwpan y byd.

Rwy’n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o’r Siambr yn mwynhau amrywiaeth eang o chwaraeon, boed yn chwaraeon prif ffrwd fel pêl-droed a rygbi, neu rai o’r chwaraeon llai prif ffrwd efallai, sef cors-snorclo neu golff-troed. Ond yn ogystal, mae’r chwaraeon hyn yn rhan bwysig iawn o’n cymuned, gyda chlybiau cymdeithasol, bariau a man gwych i bobl ddod at ei gilydd. Mae ganddynt fanteision gwych o ran iechyd meddwl a lles. Mae’r rhain yn aml yn llawer gwell, wrth gwrs, pan fyddwn yn ennill, nad yw bob amser yn digwydd i mi, ond mae’n helpu o bryd i’w gilydd. Yn ogystal â hyn, gwyddom fod chwaraeon hefyd yn darparu buddion corfforol clir, a dyma un o’r ffyrdd gorau o gadw’n heini ac iach, neu o leiaf geisio gwneud hynny. Gall pob oedran neu ddemograffeg a phob cymuned gymryd rhan mewn chwaraeon.

Ail ran, a’r rhan rwyf am ganolbwyntio’r rhan fwyaf o fy amser arni heno, a’r prif reswm dros fy nadl fer, yw tynnu sylw at y ffaith nad oes gan lawer o bobl ledled y gogledd ddigon o’r cyfleoedd hyn. Nid ydym yn gweld yr un mynediad at gyfleoedd chwaraeon â rhannau eraill o’r wlad, ac mae angen inni dynnu sylw at yr annigonolrwydd hwn a chymryd camau brys i’w unioni. Rhai enghreifftiau o hyn: gyda phoblogaeth o oddeutu 700,000 o bobl yn y gogledd, un tîm chwaraeon proffesiynol yn unig sydd gennym, sef Clwb Pêl-droed Wrecsam. Yng Nghymru, fel y gwyddom wrth gwrs, mae gennym bedwar tîm rygbi proffesiynol, ond mae pob un o’r rheini yn y de. Ac yn y gogledd, nid oes gennym unrhyw bwll nofio maint Olympaidd.

Y diffyg cyfleusterau a’r diffyg cyfleoedd hyn i bobl sy’n amharu ar allu pobl, yn gyntaf oll, i gymryd y cam nesaf tuag at lefel elitaidd neu broffesiynol, ac mae’n sicr yn lleihau dylanwad arwyr lleol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddynion a menywod ym myd chwaraeon. Mae'n rhwystredig iawn fod y rhan fwyaf o chwaraeon yng Nghymru yn aml oddeutu pedair awr oddi wrth y trigolion rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru. Er bod gennym faes chwarae gwych a hanesyddol y Cae Ras yn Wrecsam a stadiwm sy'n tyfu ym Mae Colwyn, mae digwyddiadau chwaraeon yn rhy aml wedi eu lleoli yn y de.

Yn ogystal â hyn, nid oes gan bobl y gogledd gysylltiadau trafnidiaeth digonol, hyd yn oed, i fynd yn ôl adref ar ôl digwyddiadau os ydynt yn y de. Yr wythnos diwethaf yn unig, chwaraeodd Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ond yn sicr, cafodd y gogleddwyr a oedd wedi teithio i lawr gryn drafferth i deithio adref oherwydd prinder trenau.

Fel y byddwch yn ei nodi yn eich ymateb, rwy’n siŵr, Ddirprwy Weinidog, cyrff llywodraethu a sefydliadau chwaraeon, megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, sy’n gyfrifol am eu chwaraeon perthnasol. Serch hynny, Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch yn iawn rwy'n siŵr, mae eich rhestr o gyfrifoldebau gweinidogol yn cynnwys chwaraeon elitaidd, ynghyd â chwaraeon cymunedol, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol yng Nghymru, gan gynnwys noddi Cyngor Chwaraeon Cymru. Felly, mae rôl glir yma i Lywodraeth Cymru weithio gyda’r cyrff llywodraethu perthnasol i sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i bawb mewn perthynas â chwaraeon yng ngogledd Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i alluogi ein cyrff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau chwaraeon llwyddiannus ar draws y gogledd gan osod y cywair a’r disgwyliad cywir ynghylch tegwch a mynediad i bawb.

Yn ogystal, Ddirprwy Weinidog, mae adrannau gwariant mawr a allai wneud gwahaniaeth sylweddol i bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn y gogledd. Mae’r rhain, wrth gwrs, yn cynnwys ein gwasanaeth iechyd, addysg, llywodraeth leol a hyd yn oed adrannau ymarferol, megis tir ac ystadau—gallem alluogi'r gwaith o ddatblygu cyfleusterau yng ngogledd Cymru.

Yn gysylltiedig â hyn, mae cyfleusterau yn y gogledd yn un o dri maes allweddol y credaf ei bod yn bwysig inni ganolbwyntio arnynt, a’r lleill yw cyllid a chysylltiad pobl â chwaraeon. Mae'n anffodus fod llawer o'n clybiau a'n sefydliadau chwaraeon ledled y gogledd yn parhau i ddioddef o ddiffyg adnoddau, ac mae'r seilwaith yn parhau i fod o ansawdd gwael. Mae llawer o’n clybiau chwaraeon yn parhau i gael trafferthion ariannol ac yn dioddef o ddiffyg adnoddau, yn ogystal â seilwaith gwael. Heb fuddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon elitaidd yn y gogledd, bydd llawer o fabolgampwyr y dyfodol yn parhau i wynebu rhwystrau rhag cystadlu, gyda llawer yn gorfod teithio oriau lawer i wneud rhywbeth y maent yn ei garu. Mae tuedd amlwg i bobl roi'r gorau iddi pan fyddant yn cyrraedd y lefel elitaidd honno. Felly, mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol i'w chwarae yn gweithio gyda'r sefydliadau cyfrifol, ynghyd ag awdurdodau lleol a'n cymunedau, i wneud yn siŵr ein bod yn cydweithredu i sicrhau nad yw chwaraeon wedi eu lleoli'n ormodol mewn un rhan o Gymru. Gellir gwneud hyn drwy ddarparu cymorth a buddsoddiad mewn chwaraeon elitaidd a chwaraeon llawr gwlad, lle gallwn sicrhau mwy o gyfle i bawb.

O ran cysylltiad â chwaraeon a chwaraeon elitaidd a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny, mae'n dal yn rhwystredig i mi, hyd yn oed gyda phoblogaeth o 700,000 o bobl, a chyda rygbi'n gamp mor bwysig yng Nghymru, nad oes gennym dîm rygbi rhanbarthol proffesiynol yn y gogledd. Felly, o’r ddadl heddiw, byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Dirprwy Weinidog amlinellu hefyd pa drafodaethau y mae’n eu cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch gwaith ar ddod â thîm rygbi rhanbarthol proffesiynol i'r gogledd. Ni all fod yn iawn fod pedwar tîm rhanbarthol proffesiynol yng Nghymru, a bod pob un o’r rhain bedair awr oddi wrth y trigolion rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru. Yn y cyfamser, efallai y gallai dull interim o ddod â’r lefel elitaidd hon o chwaraeon yn nes at drigolion y gogledd gynnwys rhywbeth tebyg i’r hyn y mae clwb criced Morgannwg yn ei wneud. Gallem weld pedwar tîm rygbi proffesiynol Cymru yn dod i chwarae un o’u gemau bob tymor yn y gogledd, a fyddai’n ffordd wych o wella mynediad at chwaraeon a mynediad at chwaraeon ar lefel elitaidd yn y gogledd, gan wneud gwahaniaeth enfawr i'r economi leol hefyd. Gallwch ddychmygu un o’r timau proffesiynol i lawr yma yn y de yn chwarae gêm i fyny yn y gogledd, yn erbyn tîm o Iwerddon efallai, a’r budd economaidd y byddai hynny'n ei gynnig i ogledd Cymru a'r dylanwad a gâi hynny ar ein pobl iau yn enwedig o allu gweld chwaraeon yn cael eu chwarae ar y lefel honno.

Weinidog, deallaf na allwch fynnu hyn, ond yn sicr, byddai eich cefnogaeth i’r mathau hyn o syniadau'n dod â’r cyfleoedd hyn yn llawer agosach. Wrth gwrs, yn y gogledd, mae gennym sylfaen wych ar gyfer tîm rygbi proffesiynol, gyda'r Gogs yn chwarae ym Mae Colwyn yn rheolaidd iawn, ac mae'r academi sy'n gweithredu yno'n dda iawn. Gellid adeiladu ar hynny, ac felly, Weinidog, hoffwn eich annog i edrych ar hynny a sut y gallwch weithio gydag URC i sicrhau bod hynny’n digwydd.

Efallai fod y mathau hyn o gamau'n ymwneud â sicrhau bod mwy o glybiau’n chwarae yn y gogledd yn edrych yn symbolaidd, ond byddent yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran helpu i ysbrydoli ac ymgysylltu â phobl, ac fel y dywedais, i hybu’r economi drwy sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar chwaraeon. Ni ellir diystyru pa mor bwysig yw chwaraeon i bob agwedd ar ein bywydau. Mae pob ymdrech a wneir i wneud chwaraeon hyd yn oed yn fwy o lwyddiant hefyd yn sicrhau nad yw gogledd Cymru'n cael eu gadael ar ôl.

Felly, i gloi fy nghyfraniad heddiw, Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed straeon gwerthfawr yr Aelodau eraill am eu profiadau gyda chwaraeon, ynghyd â’u barn ar sicrhau bod gennym gyfle i bawb yng Nghymru, ac yn enwedig yn y gogledd. Edrychaf ymlaen hefyd at ymateb Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod sêr chwaraeon y dyfodol yng ngogledd Cymru'n cael y mynediad a’r cyfle y maent yn eu haeddu. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 5:34, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Sam am roi ychydig o amser i mi gyfrannu at y ddadl hon, ac am ei chyflwyno yn y lle cyntaf? Rwy'n credu y gallwn gytuno ei bod hi'n amlwg iawn fod Sam Rowlands yn teimlo'n angerddol am ogledd Cymru a'r ardal y mae'n ei chynrychioli. Rydych chi'n ei hyrwyddo'n gadarn iawn, ac rwy'n credu'n gryf fod hynny wedi'i gyfleu yn eich sylwadau ar ran ail ranbarth gorau Cymru [Chwerthin.] Ond rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth yn wir—mae gan weddill Cymru y tu allan i Gaerdydd gymaint i'w gynnig.

Ond roeddwn am ddefnyddio'r cyfle yma i sôn am yr adroddiad diweddar, 'Sicrhau chwarae teg', a gafodd ei ryddhau gan y pwyllgor rwy'n aelod ohono gyda chyfrifoldeb am chwaraeon. Edrychai ar y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig. Gwyddom fod Sefydliad Iechyd y Byd yn 2020 wedi dweud, yn fyd-eang, nad oedd un o bob pedwar oedolyn yn cyflawni'r lefelau byd-eang a argymhellir o weithgarwch corfforol, a chyn y pandemig, dim ond 32 y cant o oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon dair gwaith yr wythnos, tra bod dros 40 y cant yn gwneud dim o gwbl.

Yn ystod yr ymchwiliad, clywsom gan ystod o randdeiliaid fod nifer o rwystrau'n wynebu'r rheini mewn ardaloedd difreintiedig rhag cymryd rhan mewn chwaraeon ac mewn gweithgarwch corfforol. Maent yn amrywio o addasrwydd cyfleusterau, prinder mannau diogel ar gyfer gwneud ymarfer corff, dyrannu llai o amser ar gyfer chwaraeon, ac ystrydebau sy'n perthyn i'r gorffennol a bod yn onest. Felly, rwy'n awyddus i glywed gan y Dirprwy Weinidog yn ei hymateb sut y mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny ledled Cymru drwy weithio gyda Chwaraeon Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod chwaraeon yn rhywbeth sy'n hygyrch i bawb, ni waeth beth fo'u hiechyd, eu cefndir neu ble rydych chi'n byw.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 5:36, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Sam Rowlands am roi munud o'i amser i mi a chyflwyno'r ddadl hon heddiw. Gogledd Cymru hardd yw cartref chwaraeon awyr agored a hamdden. Boed yn feicio ar fryniau Clwyd, sgrialu i fyny'r Wyddfa neu gaiacio oddi ar Ynys Môn, ceir cymaint o gyfleoedd i gysylltu chwaraeon â byd natur. Mae chwaraeon yn aml yn dechrau ar lawr gwlad, drwy'r ysgol, rhannu diddordeb gyda ffrind, neu rywun yn y gymuned sy'n teimlo'n angerddol am gamp benodol. Mae gennym leoliadau gwych, megis clwb rygbi'r Rhyl a chlwb rygbi Shotton, sydd wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn cynnwys y gymuned hefyd ac yn gwneud gwaith gwych. Mae clwb pêl-fasged yr Wyddgrug hefyd yn haeddu sylw arbennig. Mae'r clwb bellach yn llawn, diolch i arweinyddiaeth wych ac angerdd James, sydd wedi helpu i ddod â rowndiau terfynol pêl-fasged cenedlaethol i ogledd Cymru, i Wrecsam, a hefyd y bencampwriaeth 3x3 i'r Fflint yng ngogledd Cymru yn ogystal ag i Abertawe a Chaerdydd.

Mae trafnidiaeth yn hanfodol yng ngogledd Cymru wrth i'r diddordeb mewn chwaraeon dyfu. Mae chwarae mewn pencampwriaethau ar draws y rhanbarth, o Wrecsam i Gaergybi, yn galw am deithio cryn bellter, a phan fydd y diddordeb yn tyfu ymhellach a'ch bod yn cael chwarae i Gymru, mae'n golygu teithio i Gaerdydd bob penwythnos ac aros yno gyda rhiant sy'n gefnogol, gobeithio—rheswm arall pam fod sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, ddibynadwy ac effeithlon yn hanfodol ar gyfer ein rhanbarth. Diolch.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 5:37, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy ddatgan diddordeb fel aelod llawn o Glwb Rygbi'r Rhyl a'r Cylch. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Sam Rowlands am gyflwyno a thrafod y pwnc pwysig hwn heddiw. Mae'n hollol gywir yn dweud y dylem fod yn gwneud popeth a allwn i gael pobl i ymarfer corff a gwneud chwaraeon, am ei fod yn cynyddu eu cryfder corfforol a meddyliol, ac mae'n rhywbeth y dylem i gyd anelu at ei gyflawni.

Hoffwn roi un enghraifft gyflym, fel y nododd Carolyn, yn y Rhyl, sydd â chlwb rygbi llewyrchus ar Ffordd Tynewydd. Wedi'i leoli ynghanol y gymuned, mae'n cynnig cyfle i ferched, bechgyn, dynion a menywod o bob oed gymryd rhan yn y gamp, a phrofwyd bod gwneud hynny'n gwella disgyblaeth a gwaith tîm. Ac nid clwb rygbi yn unig mohono; mae hefyd yn dafarn, yn ystafell ddigwyddiadau, yn faes chwarae a chanolfan gymunedol, sydd, gyda'i gilydd, yn creu manteision diddiwedd i bobl o bob oedran yn y Rhyl gymdeithasu a chymryd rhan mewn chwaraeon, sy'n allweddol ar gyfer cynyddu hunan-barch ac iechyd meddwl pobl. Ond yn anffodus, nid oes digon o enghreifftiau o hyn yng ngogledd Cymru, a gall unrhyw un sy'n chwilio am ysbrydoliaeth edrych ar glwb rygbi'r Rhyl i weld enghraifft o sut y dylid ei wneud.

Hoffwn ddiolch yn gyflym i glwb rygbi'r Rhyl a'r cylch am yr holl waith y maent yn ei wneud yn y gymuned yn ddyddiol, a dymuno'r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol, ac annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwaraeon i gysylltu â'u clwb, grŵp neu gymdeithas leol. Diolch.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:38, 5 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf innau hefyd yn ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw. Rwy'n mynd i wneud pedwar pwynt cyflym y byddaf yn ymhelaethu arnynt mewn gohebiaeth, Weinidog: yn gyntaf oll, mae'n hanfodol fod cyllid perfformiad elît yn dilyn yr athletwr ac nad yw'n mynd yn syth i gyrff llywodraethu neu ganolfannau cenedlaethol. Mae hynny oherwydd bod rhaid i fabolgampwyr gogledd Cymru allu manteisio ar hyfforddiant yng ngogledd-orllewin Lloegr, a chystadlaethau yn wir, o gofio fod cymaint o hyfforddiant a chymaint o gystadlaethau yng Nghymru wedi'u lleoli'n rhy bell i ffwrdd, i'r de o'r M4. Yn ail, ac yn gysylltiedig â hyn, fel y mae Sam Rowlands wedi nodi, mae angen datganoli cyrff llywodraethu chwaraeon a chanolfannau hyfforddi cenedlaethol o ardal Caerdydd. Yn drydydd, nid wyf yn credu bod dringwyr elît Prydeinig yng Nghymru yn gallu cael arian Chwaraeon Cymru ar hyn o bryd am nad oes gennym gorff llywodraethu yng Nghymru ar gyfer dringo. Mae hyn yn hollol annheg, yn enwedig os ydym eisiau i ddringwyr yng ngogledd Cymru gymryd rhan yn y gemau Olympaidd. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai Chwaraeon Cymru'n gallu ymgysylltu â GB Climbing a Chyngor Mynydda Prydain er mwyn datrys y broblem.

Ac yn olaf, mae cwrlo Cymru, sef un corff llywodraethol, un gamp, sydd â'i phencadlys yng ngogledd Cymru, yn wynebu'r her fwyaf erioed i'w dyfodol gyda'r cynnydd yng nghost ynni. Byddwn yn hynod ddiolchgar pe bai Llywodraeth Cymru neu Chwaraeon Cymru yn gallu ymgysylltu â chwrlo Cymru ynglŷn â'u presenoldeb yng nghanolfan sglefrio Glannau Dyfrdwy yn y dyfodol.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:40, 5 Hydref 2022

Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl. Dawn Bowden. 

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch yn fawr iawn i Sam Rowlands am gyflwyno'r ddadl fer y prynhawn yma? Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau a'u cyfraniadau meddylgar. Fel y mae Sam eisoes wedi dweud, mae gennym draddodiadau chwaraeon gwych yng Nghymru. Rydym yn rhagori mewn llawer o chwaraeon, ac edrychwn ymlaen at Gwpan Rygbi'r Byd y menywod yn Seland Newydd sy'n dechrau yr wythnos nesaf, a gobeithio y bydd pêl-droed y menywod yn mynd â ni gam yn nes at gyrraedd cwpan y byd yn Awstralia a Seland Newydd y flwyddyn nesaf. 

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod gogledd Cymru—. Rydym wedi siarad am Gymru gyfan, ond mae gan ogledd Cymru yn enwedig draddodiad a threftadaeth chwaraeon i ymfalchïo ynddynt. Mae wedi cynhyrchu llawer o fabolgampwyr gorau a mwyaf llwyddiannus ein gwlad, megis Gary Speed, Tom Price, Sabrina Fortune, Ian Rush, a Jade Jones. Rwy'n siŵr fod llawer mwy; gallai'r rhestr barhau. Ond mae hefyd yn gartref i gyfleusterau o'r radd flaenaf a lleoliadau eiconig, sy'n bwysig iawn i'n gwlad. Rydych chi eisoes wedi sôn am y Cae Ras yn Wrecsam, lleoliad ein gêm bêl-droed ryngwladol gartref gyntaf, ac wrth i'r cyffro adeiladu ynglŷn â chwpan y byd y dynion fis nesaf—mae wedi cyrraedd yn eithaf cyflym, onid yw; mae'n llai na 50 diwrnod bellach—rwy'n siŵr y bydd Wrecsam a gogledd Cymru i gyd yn chwarae rhan fawr yn darparu ffocws i gefnogwyr a helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno—cwpan y byd a'i waddol a sut y bydd yn ysbrydoli'r hyn y byddwn yn ei wneud i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn pêl-droed. 

Ond bydd yr Aelodau'n gwybod bod buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, chwaraeon elît a llawr gwlad, yn elfen sylweddol eisoes yn ein rhaglen lywodraethu, gan amlygu'r cysylltiad pwysig rhwng cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan ac iechyd a lles ein cenedl. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod cyfleusterau ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hygyrch i bawb os ydym yn mynd i ryddhau manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru, boed hynny ar lawr gwlad, neu'r holl ffordd drwodd i chwaraewyr elît. Mae cyfleusterau modern, hygyrch a chynaliadwy yn hanfodol i annog pobl i ddychwelyd at chwaraeon, neu i ddod at chwaraeon yn y lle cyntaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at dderbyn gohebiaeth gan Ken Skates ynghylch y mater penodol yr oedd am gael trafodaeth bellach gyda mi yn ei gylch. Ond dyna pam ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi £24 miliwn o gyllid cyfalaf dros y tair blynedd nesaf i Chwaraeon Cymru ddatblygu cyfleusterau newydd a chyfleusterau sy'n bodoli eisoes ledled Cymru. 

Drwy Chwaraeon Cymru, rydym wedi darparu symiau sylweddol o gyllid, sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r nifer o bobl yng Nghymru sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon, beth bynnag fo'u hoedran, eu gallu a'u cefndir. Ac er enghraifft, ar draws y gogledd, mae llawer o brosiectau sy'n gysylltiedig â gwahanol chwaraeon eisoes wedi elwa o'n buddsoddiad. Rydym bob amser yn gwybod y gallem wario mwy. Pe bai gennym bwll diwaelod o arian, gallem wario mwy o arian. Ond mae'n werth cydnabod bod nifer o sefydliadau wedi elwa. Er enghraifft, mae clwb pêl-droed Llanelwy wedi llwyddo i ffurfio timau newydd o ferched dan 16 oed a bechgyn dan 16, diolch i gyllid ar gyfer offer a hyfforddiant. Mae Clwb Hwylio'r Bala wedi gallu prynu offer i wella'r dull o symud cychod i ac o'r dŵr, a fydd yn helpu pobl hŷn neu anabl yn enwedig sy'n cymryd rhan. Mae Clwb Bowlio Porthaethwy wedi cael cyllid i brynu gwahanol eitemau o offer, gan gynnwys ffurelau ffyn cerdded a chymhorthion codi bowliau i helpu pobl hŷn ac anabl sy'n cymryd rhan. Mae cyngor sir Ynys Môn wedi cael cyllid i ddatblygu cyfleuster 3G newydd yn Amlwch. Bydd y ddau gae llifoleuadau i dimau bach yn ddelfrydol at ddibenion hyfforddi adrannau mini ac iau eu tîm pêl-droed lleol. Ac rwy'n gwybod bod datblygiadau cyffrous ar y gweill hefyd ar gyfer felodrom awyr agored yn ardal Rhuthun, sef yr unig un yn y gogledd. A'r gobaith yw y bydd y prosiect cyffrous hwn, dan arweiniad Beicio Cymru a Denbighshire Leisure Ltd, yn arwain at ddatblygu clwb cynaliadwy newydd yn y cyfleuster, a sefydlu canolfan feicio gyffredinol, gyda phwyslais ar feicio i fenywod ac ieuenctid. Ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn edrych ymlaen at weld y prosiect hwnnw'n datblygu dros y misoedd nesaf. Ac roeddwn hefyd yn falch o glywed y bydd canolfan sglefrio Glannau Dyfrdwy, a grybwyllwyd gan Ken Skates hefyd, ac a gâi ei defnyddio fel canolfan frechu dorfol yn ystod y pandemig, yn ailagor yn fuan fel arena iâ Glannau Dyfrdwy. 

Nawr, Sam, fe wnaethoch chi ein herio i fabwysiadu ymagwedd draws-adrannol, ac mae'n rhaid imi ddweud bod hynny eisoes yn digwydd mewn sawl maes. Rydym yn darparu symiau sylweddol o arian i gynyddu defnydd cymunedol o ysgolion a'u cyfleusterau, i gynorthwyo ysgolion i weithredu a datblygu fel ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Bydd ein cefnogaeth yn galluogi ysgolion i estyn allan ac ymgysylltu â theuluoedd, a gweithio gyda'r gymuned ehangach, i gefnogi pob disgybl, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi. Mae fy nghyd-Aelod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cyllid o £24.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi'r gwaith, sy'n cynnwys £20 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn caniatáu i ysgolion ddatblygu ymhellach fel asedau cymunedol.

Mae angen inni sicrhau hefyd fod cyfleoedd i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn ar gael i bawb, ac rwy'n falch iawn fod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wedi edrych ar y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig. Mae gennym ymrwymiad clir iawn eisoes yn ein rhaglen lywodraethu ar gymryd rhan mewn chwaraeon, ymrwymiad sydd wedi ei nodi yn y llythyr cylch gwaith at Chwaraeon Cymru, ac mae wedi'i ymgorffori yn strategaeth Chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, mae adroddiad y pwyllgor, 'Sicrhau chwarae teg', wedi gwneud argymhellion sy'n procio'r meddwl, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor, ac Aelodau eraill wrth gwrs, ar eu cyflawni lle gallwn wneud hynny.

Er hynny, rhan o'r darlun yn unig yw'r arian. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol er mwyn darparu cyfleusterau newydd a chynyddu cyfleoedd yn llwyddiannus. Er mwyn ymdrin yn benodol â ble'r ydym arni gyda'n strategaeth a sut y gweithiwn gyda phartneriaid i wella cyfleusterau a'r niferoedd sy'n cymryd rhan, fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, Sam, fod Chwaraeon Cymru yn arwain newid i'r system drwy ddatblygu'r partneriaethau chwaraeon, ac mae partneriaeth chwaraeon yn dod â chydweithrediad rhanddeiliaid allweddol ynghyd mewn rhanbarth diffiniedig, rhanddeiliaid sy'n deall y pwysigrwydd ac sy'n canolbwyntio ar gyflawni manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Wedi'u harwain gan eu dealltwriaeth, nod y partneriaethau hyn yw bod yn gatalydd i fynd i'r afael â dau fater hirsefydlog.

Yn gyntaf, sicrhau bod y gefnogaeth a'r cyfleoedd cywir ar gael i'r rhai nad ydynt yn gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd, a chan ganolbwyntio'n glir ar ddileu rhwystrau i'r rhai sydd angen y cymorth mwyaf. Yn ail, bydd dull partneriaeth yn gweithredu i ateb galw talent uchel gan y rhai sy'n cymryd rhan ond sydd eisiau gwneud llawer mwy. A bydd sefydlu Chwaraeon Gogledd Cymru yn ddiweddar, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn ei gwneud hi'n bosibl darparu chwaraeon a gweithgarwch cymunedol fel y nodwyd gan Chwaraeon Cymru, a fydd yn cydweithio'n lleol i greu dull cyfannol, gan gynhyrchu trawsdoriad ehangach o effeithiau cymdeithasol.

Ym mis Mehefin 2022, fe gynhaliodd Chwaraeon Gogledd Cymru eu cynhadledd gyntaf i randdeiliaid. Cyfle oedd hwn i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, i ddechrau archwilio gweledigaeth a diben sy'n datblygu ar gyfer eu partneriaeth. Mae gwaith yn parhau ar ymgysylltu ac ymgynghori ar draws y rhanbarth drwy gydol yr hydref, ac mae disgwyl i'r bartneriaeth gael ei lansio'n swyddogol ddechrau'r gwanwyn 2023.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n meddwl ei bod yn adeg gyffrous ar chwaraeon yng ngogledd Cymru, ac rwy'n credu y gall y rhanbarth edrych ymlaen gyda chryn dipyn o optimistiaeth. Mae ymgysylltu cadarnhaol eisoes yn digwydd, gyda phartneriaid cenedlaethol a lleol, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru, y cyfeirioch chi atynt, ynglŷn â chyflawni'r amcanion a rannwn, ac rwy'n gwybod y bydd yr ysbryd cydweithredol hwn yn parhau wrth inni wneud cynnydd ar ryddhau talent chwaraeon a chyflawni ar gyfer holl bobl Cymru. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i bawb ohonoch am eich cyfraniadau y prynhawn yma.

Photo of David Rees David Rees Labour

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:48.