3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol

– Senedd Cymru am 2:55 pm ar 11 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:55, 11 Hydref 2022

Eitem 3 y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad—cyhoeddi'r Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, dwi'n cyflwyno ein Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol. Yn y papur, rydyn ni'n ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer diwygio etholiadol a'r camau nesaf i foderneiddio trefniadau gweinyddu etholiadol yng Nghymru. Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 10 Ionawr. Mae'r cynigion yn gam arall ar ein taith i greu system etholiadol i'r unfed ganrif ar hugain—system sy'n rhoi mwy o gyfle i bleidleiswyr gymryd rhan er mwyn i bob dinesydd allu chwarae rhan lawn yn ein democratiaeth.

Fe wnaf i ddechrau trwy atgoffa'r Aelodau o rai o'r pethau rydyn ni wedi eu gwneud yn barod. Yn ystod y bumed Senedd, rhoddwyd y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a dinasyddion tramor cymwys. Cafodd hyn ei wneud trwy Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Dwi'n falch bod pobl ifanc, a phobl sydd wedi dewis byw yng Nghymru, yn cael llais nawr yn y gwaith o redeg eu gwlad. 

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:57, 11 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, fis Gorffennaf y llynedd fe gyhoeddais i fframwaith eglur ar gyfer diwygio etholiadol gyda chwe egwyddor a oedd yn adlewyrchu gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol a'r gwerth a roddwn ni ar ddemocratiaeth yng Nghymru: tegwch, hygyrchedd, cyfranogiad, gwell profiad i'r dinasyddion, symlrwydd ac uniondeb. Mae'r Papur Gwyn yr ydym ni'n ei gyhoeddi heddiw yn gofyn am farn ar yr egwyddorion hyn. Rydym ni'n dymuno defnyddio'r egwyddorion eglur hyn yn feincnod neu er mwyn meincnodi diwygiadau etholiadol ac ar gyfer arwain ein gwaith ni wrth gefnogi cyfranogi ac ymgysylltu democrataidd, ac rydym ni'n dymuno sicrhau eu bod nhw'n ennyn cefnogaeth eang.

Ychydig dros bum mis yn ôl, fe wnaethom ni gyflawni cyfres o newidiadau etholiadol yn llwyddiannus yn etholiadau lleol mis Mai mewn partneriaeth â phedwar awdurdod a'r gymdeithas etholiadol yn fwy eang. Yn gyntaf, fe wnaethom ni gefnogi pedwar cyngor i dreialu ffyrdd newydd o bleidleisio, gan roi mwy o hyblygrwydd i bobl ynglŷn ag amseru a lleoliad y pleidleisio. Rydym ni'n gwneud y mwyaf a allwn ni o gofrestru pleidleiswyr drwy fuddsoddi mewn niferoedd mwy yn nhimau etholiadau'r awdurdodau lleol, a chyfathrebu sy'n cael ei deilwra ar gyfer anelu at grwpiau sydd newydd eu rhyddfreinio. Fe wnaethom ni gefnogi'r trydydd sector a'r ysgolion wrth fod â gwell ymgysylltiad â phobl ifanc drwy gynnig cyfleoedd i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wleidyddiaeth a dinasyddiaeth. Yn olaf, fe wnaethom ni gyflwyno newidiadau gyda'r nod o wella cyfraddau o ran datganiadau o wallau ynglŷn â phleidleisiau post. Felly, rydym ni'n rhoi cynnig ar bethau newydd yng Nghymru ac yn dysgu gwersi o'n hymdrechion ni gyda phartneriaid sydd â'r un uchelgais â ninnau o ran gwella cyflwr iechyd y ddemocratiaeth yng Nghymru.

Ar ôl cyflawniad y cylch o etholiadau arferol i'r Senedd a llywodraeth leol, nawr yw'r amser iawn i gyflymu ein hagenda ni o ran y diwygiadau gan ragweld yr etholiadau datganoledig mawr nesaf yn 2026 a 2027. Mae ein Papur Gwyn ni'n nodi agenda uchelgeisiol gweledigaeth hirdymor uchelgeisiol ar gyfer moderneiddio gweinyddiaeth etholiadol a diwygio etholiadol ehangach, gan gefnogi cyflawniad ein rhaglen ni ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau diffygion yn y ddemocratiaeth. Mae hynny'n ategu'r gwaith i sicrhau diwygio'r Senedd a gytunwyd gan yr Aelodau ar gyfer 2026 ac ymlaen.

Felly, rydym ni'n gwahodd barn am gymysgedd o gynigion nad ydyn nhw'n ddeddfwriaethol ar gyfer hyrwyddo ymgysylltiad ag etholiadau, i wneud ymgeisio am swydd etholedig yn fwy diogel ac yn fwy syml. Rydym ni'n awyddus hefyd i gael barn pleidleiswyr am ein cynigion ni ar gyfer deddfwriaeth i foderneiddio gweinyddiad yr etholiadau, a gwella trefn adolygiadau etholiadol a chymunedol ar gyfer llywodraeth leol, ac atgyfnerthu cyfraith etholiadol, i'w cyflwyno yn ystod y tymor Seneddol hwn. Yn olaf, rydym ni'n nodi ein cynigion ni ar gyfer y tymor hwy o ran diwygiadau etholiadol er mwyn cefnogi democratiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Mae ein cynigion ni'n wahanol i lawer o'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n ymddangos fel pe baen nhw wedi cynllwynio i'w gwneud hi'n fwy anodd i bobl bleidleisio mewn etholiadau yn y DU. Rwyf i'n awyddus i fod yn eglur: ein blaenoriaeth ni yw bod â'r cyfranogiad mwyaf, yn hytrach na chodi rhwystrau wrth fynd i'r afael â bwgan twyll etholiadol.

A gaf i droi nawr i edrych ar rai o'r uchafbwyntiau yn y Papur Gwyn? I gefnogi ein hegwyddor ni o hygyrchedd, rydym ni'n nodi mesurau i gefnogi pleidleiswyr anabl a ffyrdd o gefnogi ymgeiswyr mwy amrywiol ar gyfer swyddi etholedig, gan gynnwys ymestyn y gallu sydd gan bobl wrth dynnu o gronfa swyddi etholedig, a mesurau i gefnogi diogelwch yr ymgeiswyr. I gefnogi ein hegwyddor ni o gyfranogiad, rydym ni'n nodi sut y gellid gweithredu cofrestriad awtomatig o bleidleiswyr, yr ydym ni'n awyddus i'w dreialu. Rydym ni'n gofyn am farn hefyd o ran rhoi gwybodaeth well i bleidleiswyr, ac am roi gwelliannau yn eu lle wrth gynnal adolygiadau etholiadol. I gefnogi ein hegwyddor ni o degwch, rydym ni'n gofyn a ddylid gwneud rhagor i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn y broses etholiadol, a gwneud awgrymiadau o ran sut y gallwn ni liniaru'r tangofrestru sydd yna ymhlith rhai fel myfyrwyr. I gefnogi ein hegwyddor ni o well profiad i'r dinasyddion, rydym ni'n holi a ddylid parhau â phleidleisio yn dilyn trywydd ein cynlluniau treialu ni, a sut y gellid gwella prosesau cyfredol fel pleidleisio trwy ddirprwy neu bleidleisiau'r absennol yn rhan o weledigaeth eglur ar gyfer democratiaeth ddigidol. I gefnogi ein hegwyddor ni o symlrwydd, rydym ni'n awgrymu y dylid ailosod y fasnachfraint ar gyfer etholiadau Cymru er mwyn lleihau cymhlethdod, a gofyn am fwy o gysondeb yng ngofynion cyllid ymgyrchu ar gyfer etholiadau datganoledig a neilltuedig. Ac ar gyfer cefnogi ein hegwyddor ni o uniondeb, rydym ni'n cynnig ffurfio bwrdd rheoli etholiadol newydd i sicrhau cydnerthedd yn y dulliau o weinyddu etholiadau, gan uno'r panel annibynnol ar gydnabyddiaethau a Chomisiwn Democratiaeth Leol a Ffiniau Cymru er mwyn adeiladu ar eu cryfderau nhw ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn i bawb sy'n gwneud i'n democratiaeth ni weithio, o'r bobl sy'n cyflwyno eu hunain i weithio i'w cymunedau nhw fel ymgeiswyr am swyddi etholedig, i'r gweinyddwyr sy'n gweithio mor galed y tu ôl i'r llenni drwy'r flwyddyn i wneud yn siŵr fod ein prosesau democrataidd ni'n gweithio yn ddi-dor, a phawb sy'n egluro sut mae'r system yn gweithio i'w ffrindiau nhw, eu cymdogion nhw a'r bobl ifanc, a hefyd i'r pleidleiswyr sydd wrth galon ein democratiaeth ni.

Am bedair blynedd yn unig yr ydym ni wedi bod yn gyfrifol am etholiadau Cymru, ac fe fydd llunio system etholiadol sy'n gweddu i'r unfed ganrif ar hugain gan gynyddu cyfranogiad pleidleiswyr, fel bydd pob dinesydd yn gallu bod â rhan lawn yn ein democratiaeth ni, yn cymryd amser. Rwy'n edrych ymlaen at glywed safbwyntiau ledled y wlad ar ein Papur Gwyn—pleidleiswyr, gweinyddwyr, ymgyrchwyr ac arbenigwyr. Mae ein democratiaeth yn eiddo i bawb ohonom ni, ac mae gan bob un ohonom ni ran wrth sicrhau ei bod hi'n addas i'r dyfodol. Diolch yn fawr.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 3:03, 11 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad yn ogystal â'r copi ymlaen llaw ohono a gefais i gennych chi.

Mae'n rhaid i mi ddweud nad ydwyf i'n gwrthwynebu gweld newidiadau yn y system bleidleisio. Nid wyf i'n gwrthwynebu gweld newidiadau yng ngweinyddiad etholiadau, nac yn wir, eu diwygio nhw, pe byddai hynny'n angenrheidiol. Ond mae gennym ni enw da iawn o ran cynnal etholiadau teg yma yng Nghymru, fel gwnawn ni mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Nid yw'n gymhleth, mae'n gweithio ac mae'n darparu canlyniadau. Nid ydym ni'n gweld y niferoedd yr hoffem ni eu gweld o ran pleidleisiau bob amser, ac mae cynyddu hynny'n her, ac rwyf i o'r farn bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni edrych arnom ni ein hunain i'w ddatrys, o ran rhoi'r ysbrydoliaeth i etholwyr fynd allan i bleidleisio mewn etholiadau. Nid ydych chi'n gallu gorfodi neb i fwrw'r bleidlais sydd ganddo i'w bwrw, ac mae'n rhaid i ni gymryd a derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am nad ydym ni, efallai, yn rhoi digon o ysbrydoliaeth i bobl.

Ond nid wyf i o reidrwydd yn gweld yr angen am bob un o'r newidiadau arfaethedig yr ydych chi'n eu cyflwyno yn y Papur Gwyn, nac ychwaith yn gweld hwn yn faes a ddylai fod yn llyncu amser Llywodraeth Cymru i gyd o bosibl o ran ei blaenoriaethau deddfwriaethol hi. Mae llawer o bethau eraill y gallai Llywodraeth Cymru fod yn ymdrin â nhw, ond am ryw reswm, mae hi'n ymddangos eich bod chi'n canolbwyntio ar bethau nad ydyn nhw o reidrwydd yn flaenoriaethau i'r cyhoedd.

Felly, y sefyllfa sydd gyda chi pan wnaethoch chi gychwyn ar eich cynlluniau treialu pleidleisio cynnar yn gynharach eleni; a dweud y gwir, roedden nhw'n drychinebus—roedden nhw'n gyfan gwbl a hollol drychinebus. Fe wnaethoch chi wario £1.5 miliwn—£845 i bob unigolyn a bleidleisiodd yn gynnar. Dyna'r canlyniad. A lleihau mewn gwirionedd a wnaeth nifer y pleidleisiau yn yr ardaloedd hynny a oedd â'r cynlluniau treialu i bleidleisio yn gynnar ynddyn nhw, ac roedd hwnnw'n ostyngiad gwaeth nag a welwyd yn nifer y pleidleisiau yn y cnawd trwy Gymru gyfan. Felly, fe ostyngodd hyd yn oed yn waeth na'r gostyngiad o 3 y cant a welwyd trwy Gymru gyfan. Felly, nid llwyddiant mo hwnnw. Felly, fe atebwyd un cwestiwn i chi, yn fy marn i, mewn ffordd ysgubol oherwydd methiant nodedig y cynlluniau treialu pleidleisio cynnar hyn o ran na ddylech fod yn bwrw ymlaen ag unrhyw fwriad pellach o fod â phleidleisio cynnar yn y dyfodol.

Rydych chi wedi trafod, yn eich Papur Gwyn, gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Nawr, nid yw hi'n eglur i mi pam y gallai hynny fod yn angenrheidiol. Mae miliynau lawer o bobl yng Nghymru yn cofrestru i bleidleisio gyda'r system gofrestru bleidleisio bresennol heb unrhyw broblemau o gwbl. Ac wrth gwrs mae yna rai heriau sy'n dod i'r amlwg gyda chofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Fe allech chi, yn y pen draw, weld pobl yn cael eu cofrestru i bleidleisio ddwy waith, er enghraifft, mewn dau gyfeiriad, gyda chynnydd o bosibl yn y perygl y bydd yr unigolion hynny'n pleidleisio ddwy waith mewn un etholiad—[Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs, fe allai hynny ddigwydd nawr, ond mae hynny'n fwy tebygol o ddigwydd os ydych chi wedi cofrestru yn awtomatig mewn dau le ar yr un pryd.

Rydych chi'n cyfeirio at fyfyrwyr yn benodol; y gwir amdani yw bod llawer o fyfyrwyr yn awyddus i fod wedi eu cofrestru yng nghyfeiriad eu cartrefi yn unig, eu cartrefi parhaol nhw, nid eu cyfeiriad nhw yn ystod y tymor. Nawr, mae hwnnw'n fater iddyn nhw os ydyn nhw'n dewis cofrestru yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Mater iddyn nhw yn llwyr yw hwnnw sef mai y nhw sy'n gallu dewis, ond rydych chi'n cymryd y dewis hwnnw oddi wrth bobl os ydych chi'n eu cofrestru nhw'n awtomatig i bleidleisio yn eu cyfeiriad nhw yn ystod y tymor. Nid yw hi'n eglur sut rydych chi am oresgyn rhai o'r heriau hynny, lle gallai pobl fod yn dymuno mynegi eu dewis i fod wedi eu cofrestru mewn un lle yn hytrach nag arall, ac nid yw hi'n eglur, yn y Papur Gwyn, sut rydych chi am fynd i'r afael â'r posibilrwydd o bobl yn pleidleisio ddwywaith yn yr un gyfres o etholiadau pan nad oes ganddyn nhw hawl i wneud felly.

Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, y cynlluniau treialu sydd wedi digwydd, a chyflwyno cofrestriad pleidleiswyr awtomatig sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r byd. Yng Nghaliffornia, er enghraifft, cafodd 1,500 o bleidleiswyr eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol yn awtomatig yn anghymwys o ganlyniad i gyflwyno cofrestru pleidleiswyr awtomatig yno, a dyblygwyd 84,000 o enwau pobl ar y gofrestr yng Nghaliffornia ei hun yn unig. Nawr, rwy'n gwybod bod poblogaeth Califfornia yn llawer mwy, ac fe fyddwn i wrth fy modd yn cael mynd draw yno i weld sut mae'r cwbl yn gweithio a'm llygaid fy hun, ond y gwir amdani yw nad ydym ni'n dymuno bod mewn sefyllfa lle byddai pobl yn teimlo, heb yn wybod, efallai, fel pe byddai ganddyn nhw ddau neu dri chyfle i bleidleisio oherwydd eu bod nhw'n berchen ar ddau neu dri o dai mewn dau neu dri gwahanol le, neu am eu bod nhw'n cofrestru yn rhywle yn ystod amser tymor ac yn cofrestru yn rhywle arall rywbryd arall. 

Fe gefais i fy siomi hefyd, Gweinidog—[Anghlywadwy.]—Llywodraeth Cymru i ymestyn yr etholfraint i fwy o garcharorion. Rwy'n credu bod hynny'n siomedig iawn yn wir, eich bod chi'n parhau i fod â'r safbwynt hwnnw yn y Llywodraeth. Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU yn eich atal chi rhag gwneud hynny ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio na fydd Llywodraeth y DU yn newid, o ran yr ymagwedd honno wrth symud ymlaen.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:09, 11 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Darren, rydych chi wedi mynd ymhell dros eich amser, rwy'n awyddus i gynnwys pobl eraill. 

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Iawn. Y pwynt olaf, os caf ei godi, os yw hynny'n iawn, Dirprwy Lywydd, yw fy mod i'n awyddus i wybod sut rydych chi am gadw'r egwyddor hon o symlrwydd ynghylch etholiadau pan ydych chi mewn gwirionedd am gyflwyno mwy o gymhlethdod i'r system etholiadol, oherwydd po fwyaf yr ydym ni'n ymwahanu yng Nghymru oddi wrth y system bleidleisio a ddefnyddir ar gyfer etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ac ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU, yna po fwyaf o gymhlethdod y mae hynny'n mynd i'w achosi i bobl o ran gorfod ymdopi, a cheisio ei ddeall wrth fynd i fwrw eu pleidlais. Felly, pe byddai cofrestru awtomatig gennym ni, er enghraifft, ar gyfer rhai etholiadau ac nid eraill, fe allai pobl gymryd yn ganiataol eu bod nhw wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol eisoes ond efallai na fyddai hynny'n wir, ac rwy'n credu bod cymhlethdod fel hyn yn anfoddhaol iawn. A dyna pam rwyf i'n eich annog chi i weithio yn agosach gyda Llywodraeth y DU ar gyfer ceisio, pe byddem ni'n bwrw ymlaen ag unrhyw ddiwygiadau, y gallwn ni geisio gwneud hynny gyda chysondeb ar gyfer pob etholiad, i wneud yn siŵr nad yw'r cymhlethdod hwnnw'n bresennol.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:10, 11 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y sylwadau hynny, a diolch, hefyd, am groesawu'r amcan cyffredin o fod ag awydd am system etholiadol sy'n gweithio yn iawn, yn effeithlon a chadarn.

Rwy'n credu mai craidd hyn yw bod y byd yn newid: mae'r dechnoleg gennym ni, rydym ni wedi dysgu am gyfleoedd, yn union fel gwnaethom ni yn y Senedd hon gyda chyfarfodydd hybrid—rydym ni wedi dysgu sut i ddefnyddio'r rhain. Ac ymgynghoriad yw hwn, ac nid ei ddiben yw gorfodi unrhyw un i bleidleisio, ond sicrhau eich bod chi'n gallu rhoi'r cyfle gorau i'r bobl i gyd, i'r amrywiaeth o alluoedd ledled y gymdeithas ac yn y blaen i allu cymryd rhan yn y pleidleisio. Oherwydd bwriad hyn yw gwneud y mwyaf o bleidleisio, gwneud y mwyaf o'r cyfle i bleidleisio, yw creu democratiaeth sy'n iach iawn. Mae hwnnw wedi bod bob amser, mewn gwirionedd, yn un o'r nodau llesiant gwirioneddol i mi, y dylem ni i gyd fod yn anelu ato, oherwydd mae cymdeithas lle nad yw niferoedd cynyddol o bobl â rhan ar lwybr peryglus iawn yn fy marn i, ac rwy'n credu ein bod ni'n gweld hynny'n fyd-eang.

Rydych chi'n sôn y bydd hyn yn llyncu amser, wel, wrth gwrs, yn 2017, fe gawsom ni gyfrifoldebau arbennig i'n galluogi ni i newid yn wirioneddol a diwygio ein cyfraith etholiadol ni, ac rydym ni'n gweld cyfleoedd yn hynny o beth. Pwrpas yr ymgynghoriad yw archwilio'r cyfleoedd hynny ac ystyried sut y gallem ni dynnu ein system etholiadol i'r unfed ganrif ar hugain. Wedi'r cyfan, yr hyn a gawsom ni yn y gorffennol hyd nawr oedd rhai cynlluniau treialu, nad ydyn nhw wedi ymwneud—nid oedd neb erioed o'r farn y byddai'r pedwar cynllun treialu y gwnaethom ni eu cynnal yn trawsnewid y niferoedd sy'n pleidleisio ar amrantiad ac roedd rhuthr enfawr am fod i bleidleisio yn yr etholiadau. Roedd hyn bob amser am ymdrin â'r gwaith technegol o ran sut y gallem wneud pethau yn wirioneddol wahanol, i ddangos y gallem ni ddigideiddio, i ddangos y gallem ni gynnal etholiadau mewn ffordd wahanol, ac ar ben hynny—ac i'r graddau hynny, roedden nhw'n llwyddiannus iawn. Pe byddem ni'n gofidio yn wirioneddol ynglŷn â llyncu amser, fe allai hi fod o ddefnydd pe byddech chi'n galw ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r gyfraith UE a ddargedwir, a fydd yn llyncu llawer iawn o amser mewn ffordd gwbl ddiangen. Rwy'n gadael hynny i un ochr.

Rwy'n gweld gwir atyniad yn nefnydd y pwerau sydd gennym ni i roi golwg ar sut y gall technoleg wneud pleidleisio yn rhywbeth mwy deniadol, a'i gwneud hi'n haws, a chynnal y cadernid a'r symlrwydd. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn i'n gwrando ar rai o'ch sylwadau chi, eich bod wedi gwneud i mi feddwl am ryw fath o Gapten Ludd—wyddoch chi, y sawl a aeth o gwmpas yn gwrthwynebu, Darren y Ludiad [Chwerthin.] Ac rwyf i o'r farn mai dyna yw ychydig o'r anhawster ynglŷn â'r dull hwn. Fe ddylech chi ddilyn esiampl David Cameron mewn gwirionedd, ac fe ddywedodd David Cameron,

'Mae'r newidiadau yr ydym ni'n eu gwneud...yn moderneiddio gyda phwrpas. Y pwrpas hwnnw yw sicrhau ein bod ni'n gallu ymateb i heriau mawr ein hoes'.

Ac mewn llawer ffordd, os ydych chi'n cymryd cyflwr ein democratiaeth ni o ddifrif, mae wynebu'r heriau hynny ac ystyried sut y gall technoleg wneud ein system etholiadol ni'n fwy deniadol, sy'n werth ei archwilio yn drylwyr yn fy marn ni, ac os oes yna bethau y mae'r cynlluniau treialu yn rhoi tystiolaeth y gallai'r pethau hynny weithio, yna fe ddylem ni wneud hynny.

Cofrestru awtomatig: wel, mae hi'n ymddangos i mi fod cael cymaint o bobl â phosib yn gallu pleidleisio ac sydd â hawl i bleidleisio ar y gofrestr etholiadol wir yn amcan y dylem ni fod ag ef mewn gwirionedd. Ac o ran mater cofrestru ddwy waith, wel, ar hyn o bryd, nid wyf i'n credu ei bod hi'n drosedd i fod wedi cofrestru ddwy waith neu gofrestru dair gwaith hyd yn oed. Yr hyn sydd yn drosedd yw pleidleisio mewn mwy nag un man. Rwy'n cofio pan oeddwn i'n fyfyriwr, roeddwn i wedi fy nghofrestru mewn dau le trwy'r amser: tref fy magwraeth ac ym mha le bynnag yr oeddwn i'n dibynnu ar y man y byddwn ni pan fyddai'r etholiad yn digwydd mewn gwirionedd.

Ynglŷn â masnachfraint carcharorion, yn sicr mae gennym ni uchelgais sydd, rywbryd yn y dyfodol, ynglŷn â chategori arbennig o garcharorion, yn rhan o adsefydlu carcharorion ac yn rhan o ymgysylltu pobl sy'n ailgyflwyno yn y broses ddemocrataidd ac mae hynny'n rhywbeth sydd ag apêl. Ni fydd hynny'n digwydd y tro hwn; rhywbeth i'r tymor hwy ydyw'n bendant, yn bennaf oherwydd ar gyfer cyflawni hyn, bydd angen ymgysylltiad cadarnhaol ag agweddau o'r system gyfiawnder gyfeiriedig nad ydyn nhw i'w cael i ni ar hyn o bryd.

O ran symlrwydd, a gaf i ddim ond dweud bod y sylw a wnaethoch chi ynglŷn â pheidio ag ymwahanu, nad wyf i o'r farn ein bod ni'n ymwahanu? Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw moderneiddio. Llywodraeth y DU sy'n ymwahanu mewn gwirionedd—yn ymwahanu oddi wrth egwyddorion sylfaenol drwy greu rhwystrau a fydd yn ei gwneud hi'n fwy anodd i bobl gofrestru i bleidleisio ac o ran gallu i bleidleisio hefyd. Ond, fel y dywedais i, ymgynghoriad yw hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at gynnwys eich cyfraniad chi ac, yn ddiamau, cyfraniad eich plaid yn y broses honno o ymgynghori. Fe fydd y safbwyntiau hynny, yn amlwg, yn cael eu hystyried, fel y caiff pob barn.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:15, 11 Hydref 2022

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol, ac rŷn ni fel Plaid Cymru yn croesawu unrhyw ymgais i'w gwneud hi'n haws i bobl bleidleisio. Rŷn ni'n edrych ymlaen i weld y manylion wrth i'r ymgynghoriad fynd yn ei flaen.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Pam nad ydym ni'n fodlon newid y system bleidleisio? Mae popeth arall yn y byd yn newid. Ond mae Mr Ludiad draw fan hyn yn dymuno i ni aros yn oes yr injan stêm o ran pleidleisio, yn hytrach na mynd gyda'r oes ddigidol. Ond prin ei bod hi'n syndod, serch hynny, i glywed Darren Millar yn gwrthwynebu newid. Wrth gwrs, fe wrthwynebodd ei blaid bob diwygiad ers Deddf Diwygio 1832, oni wnaethon nhw? Felly, mae hynny yn ôl y disgwyl o leiaf. Ei ymosodiad ar y cynlluniau treialu—. Wel, dim ond cynlluniau treialu yw'r rhain, onid e? Profion ydyn nhw. Pethau i ddysgu oddi wrthyn nhw, ac fe fyddwn i'n cefnogi unrhyw gynllun treialu sydd â nod o geisio annog mwy o bobl i bleidleisio. Mae ef yn sôn am ddryswch. Fe newidiodd ei blaid ef y system bleidleisio, ar y cyd â'r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda Deddf y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, i system cyntaf i'r felin. Nid oedd unrhyw sôn am ddryswch bryd hynny. Y nhw oedd y rhai a oedd yn dymuno cyflwyno prawf o hunaniaeth gan bleidleisiwr. Ni fu unrhyw sôn am achosi anhrefn bryd hynny.

Rwy'n siŵr, Cwnsler Cyffredinol, eich bod chi wedi aros ar eich traed yn hwyr neithiwr i wrando ar fy ffrind a fy nghyd-Aelod Sioned Williams ar y rhaglen Sharp End. Roedd hi'n dweud, fel gydag ymestyn yr hawliau pleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed, na chaiff pobl eu grymuso i bleidleisio oni bai eu bod yn cael eu hysbrydoli i bleidleisio, ac mae hynny'n eithriadol o bwysig. Roeddwn i'n cytuno gyda Darren ynglŷn â hynny. Mater i bob un ohonom ni yw ysbrydoli, ond mae addysg yn allweddol o ran gwleidyddiaeth. Mae Sioned yn iawn. Addysg wleidyddol—pa swyddogaeth sydd gan addysg wleidyddol yn hyn i gyd?

Fel llawer o bobl, rydym ni'n curo ar ddrysau ar adeg etholiad. Ac mae pobl yn dweud wrthym ni, 'O, wel, dim ond ychydig fisoedd yn ôl y gwnaethon ni symud yma, ac nid ydym ni wedi cofrestru.' Fe fydd hyn yn datrys hynny. Yr hyn na fydd yn ei ddatrys yw rhai wardiau—. A gaf i fynd â chi i rai wardiau yng Nghaerdydd, lle rydych chi'n mynd ar hyd stryd ar ôl stryd, gan fynd heibio tŷ ar ôl tŷ o bobl heb gofrestru? Ni wnaiff hyn ddatrys y broblem honno, ond yr hyn a welwn ni mewn sawl ward yng Nghaerdydd, ac ym Mhontypridd rwy'n siŵr, lle mae'r cyfraddau pleidleisio ar hyn o bryd yn yr ugeiniau isel, yw y bydd y canran pleidleisio yn plymio ymhellach eto, ond o leiaf fe fyddai hynny'n adlewyrchiad cywir o niferoedd pobl sy'n pleidleisio.

Fel roeddech chi'n dweud, nid peth newydd mo cofrestru awtomatig. Roeddwn i, yn fy neuadd breswyl, wedi cofrestru yn awtomatig i bleidleisio yn Lloegr, yn eu hetholiadau lleol nhw, ac fe allaf i ddweud wrthych chi mai dyna'r unig etholiad erioed i mi beidio â phleidleisio i Blaid Cymru. [Chwerthin.] Nid wyf i am ddweud wrthych chi i bwy y gwnes i bleidleisio, ond nid yw'r blaid honno erioed wedi bod â chynrychiolaeth yn y fan hon, ac mae'r blaid honno'n cefnogi annibyniaeth i Gymru, felly fe'ch gadawaf chi i ddyfalu. Ond mae hi'n bwysig bod pobl yn gwybod eu bod nhw wedi cofrestru. Sut ydych chi am ddweud wrth bobl eu bod nhw wedi cael eu cofrestru? Sut fydd yr hysbyseb yn cael ei thalu amdani? Ai'r awdurdodau lleol sydd am fod yn gyfrifol, unwaith eto, i dalu'r bil hwnnw?

Pryd ac ymhle y bydd y cynlluniau treialu yma'n digwydd, oherwydd dim ond ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau Cymru y gallwch chi eu cael nhw? Wel, mae'r rhain yn bell iawn i ffwrdd, felly pryd fyddan nhw'n digwydd a pha mor gyflym fydd y gwerthusiad yn cael ei gwblhau wedyn?

Rwy'n siomedig—. Ac rwyf i am atgoffa Darren Millar o eiriau Iesu Grist yn yr efengyl yn ôl Mathew: 'Bûm yng ngharchar, ac ymwelsoch â mi, daethoch ataf.' Wel, fe hoffwn i gofio am y carcharorion heddiw. Nid yw'r ffaith nad yw Darren Millar yn dymuno cynnwys carcharorion—. Fe ddylai pawb sy'n byw yn y wlad hon fod yn rhan o'r gymdeithas ddinesig, ac fe ddylech chi wrando, dylech wrando ar eiriau eich gwaredwr, Iesu Grist, yn y Testament Newydd, Darren Millar. Nawr, rwyf i'n annog Llywodraeth Cymru i roi hyn yn ôl ar yr agenda—rhywbeth y mae fy mhlaid a minnau'n teimlo yn gryf iawn ynglŷn ag ef.

Ychydig o bethau technegol i gloi: beth yw'r bwrdd rheoli etholiadol hwn yr ydych chi'n sôn amdano? A yw'r un peth â'r bwrdd cydlynu etholiadol y mae'r Comisiwn Etholiadol wedi bod yn holi yn ei gylch? Fe nodais i, reit ar ddiwedd eich datganiad, eich bod chi wedi sôn am uno'r panel taliadau annibynnol a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Lleol Cymru. Nawr, rydych chi'n gwybod bod y panel taliadau annibynnol yn ymdrin â chyfraddau tâl aelodau etholedig y cynghorau, ond ag awdurdodau'r parciau cenedlaethol a'r awdurdodau tân ac achub hefyd. Sut mae hynny'n cysylltu â'r comisiwn ffiniau, a sut fydd hynny'n effeithio ar unrhyw adolygiadau o ffiniau pan gaiff ei roi gerbron yma? Diolch yn fawr. Ac o fewn pum munud. [Chwerthin.]

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:20, 11 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i chi am eich sylwadau? Roeddwn i'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r sylwadau, ac rwy'n cytuno yn bendant â'r sylwadau a wnaethoch chi o ran profi hunaniaeth pleidleiswyr. Er mae'n debyg y byddwn i'n anghytuno â chi ar hynna, oherwydd fe geir llawer o annibendod yn deillio oherwydd sut ar y ddaear a fyddai hynny'n gweithio a'r heriau posibl o ran egluro i bobl beth sy'n ofynnol ganddyn nhw a sut fyddai hynny'n gweithio mewn gwirionedd, a meddwl ydw i tybed a fydd hynny'n digwydd mewn gwirionedd. 

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon—[Anghlywadwy.]

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod y sefyllfa ychydig yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon, o ran ei phroses arbennig hi. Rwy'n credu, o ran y farn gyffredin sydd ymysg pob un o'r pleidiau, ein bod ni i gyd yn gytûn o ran yr angen i wleidyddion fod yn ysbrydoli pobl, ac mae honno'n ddyletswydd i ni. Rwy'n credu, ar gyfer ysbrydoli, ei bod hi'n rhaid i ni gynnig cyfleoedd ar gyfer gwir ymgysylltiad hefyd, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n rhywbeth y mae angen ei ystyried gyda'r system addysg ac ati. Wrth gwrs, fe geir amrywioldeb, ac yn amlwg mae yna gyfleoedd drwy'r cwricwlwm newydd o ran grymuso addysg ddinesig, sydd yn gwbl sylfaenol yn fy marn i, ond y gallu hefyd i ymgysylltu mewn ffordd deg â phleidleiswyr ifanc—gydag ysgolion ac yn y blaen—mewn ffordd deg ac amhleidiol ynglŷn â'r ffordd y mae'r system etholiadol yn gweithio, ond o ran sut fath o faterion sy'n gallu codi hefyd.

Ar nodyn personol, rwyf i bob amser wedi teimlo yn siomedig iawn am nad yw cymaint â hynny o ysgolion yn dysgu pobl am undebau llafur, am y mudiad cydweithredol a phethau o'r fath—mae pethau fel hynny wedi bod yn bwysig iawn yn ein hanes ni—ond mater arall ydyw hwnnw. Yn amlwg, fe fydd yna broblem o ran unrhyw newidiadau a sut mae rhoi cyhoeddusrwydd iddyn nhw a'r broses ymgysylltu yn hynny o beth, dyna rywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn yr ymgynghoriad, ond yn amlwg mae hynny'n hynod bwysig.

O ran y cynllun treialu, rwy'n credu mai'r pwynt pennaf fydd hwn: os byddwn ni'n sefydlu cronfa ddata genedlaethol o ran cofrestru awtomatig—yn y bôn, digideiddio'r system etholiadol yw hyn—ni allwn ni wneud hynny mewn gwirionedd, oherwydd nid yw'r gallu gennym ni i wneud hynny. Mae angen sefydlu'r ddeddfwriaeth; fe allwn ni gael y cynllun treialu wedyn. Fe ddaw'r cynllun treialu ar ôl i ni gael y ddeddfwriaeth, a dyna pam mae'r amserlen yn bwysig iawn. Fe fydd y cynllun treialu hwnnw gennym ni i asesu'r gwahanol ffynonellau y gellir cael y wybodaeth ohonyn nhw, oherwydd mae'n rhaid i ni sicrhau bod y system sy'n cael ei sefydlu gennym ni a'r cronfeydd data yr ydym ni'n eu defnyddio ac argaeledd y wybodaeth a sut y caiff ei chynnal wedyn (1) yn parchu preifatrwydd, ond yn gadarn ac yn cynnal hyder yng ngonestrwydd y system etholiadol.

Mae gennym ni eisoes, wrth gwrs, lawer iawn o gronfeydd data. Mae gan y GIG gronfa ddata enfawr yn barod. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs—. Un o'r pethau yw y byddai'r gofrestr etholiadol, fel y cyfryw—neu'r gronfa ddata honno—yn rhestr gaeedig. Felly, ni fyddai honno ar gael i'w gwerthu, fel y mae hi ar hyn o bryd mewn rhai ffyrdd. Ac rwy'n credu mai peth da iawn fyddai hynny. Fe fyddai hi ar gael i'r awdurdodau priodol fynd ati hi yn ôl yr angen.

O ran y bwrdd rheoli a chydlyniad etholiadol, wel, wrth gwrs, mae hwnnw'n rhywbeth a sefydlwyd yn gwbl wirfoddol ymhlith swyddogion cofrestru etholiadol. Y ni yw un o'r ychydig leoedd nad oes bwrdd rheoli etholiadol cenedlaethol statudol mewn gwirionedd. Felly, yr hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei gynnig yw ein bod ni'n creu un felly mewn gwirionedd—creu, mewn gwirionedd, strwythur cenedlaethol addas ydym ni ar gyfer rheoli a chydlynu etholiadau o gwmpas Cymru mewn ffordd wirioneddol, gyda'r holl fanteision a fyddai'n dod o ran gwneud y mwyaf o ddefnyddio technoleg, systemau, cysondeb, cydnerthedd ac yn y blaen.

O ran y bwrdd taliadau, rwy'n credu mai mater mewn gwirionedd yw hwnnw o fod â chyfle i ymgorffori rhywbeth mewn corff arall sydd yn y bôn yn fater o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn y ddeddfwriaeth. Felly, fe geir cynnig ynglŷn â hynny hefyd. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ateb y pwyntiau i gyd.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:24, 11 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr iawn. Rwy'n croesawu unrhyw fesurau i'w gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl, y rhai sydd ag anableddau corfforol a synhwyraidd, wrth fynd i orsaf bleidleisio. Weithiau, mae mynd i'r orsaf bleidleisio yn gallu bod yn anodd iawn ynddo'i hun i bobl sydd ag anableddau fel hyn. A beth mae pobl yn ei wneud? Dydyn nhw ddim yn trafferthu, oherwydd mae hi'n ormod o drafferth.

Rwy'n croesawu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Fe wnaeth llawer o fy etholwyr i a oedd wedi dod i bleidleisio i mi ddarganfod nad oedden nhw wedi eu cofrestru, mewn gwirionedd, ac roedd hynny'n hynod siomedig i mi, er nad felly i neb arall o reidrwydd. Ond, mewn difrif, mae honno'n broblem: pobl yn tybio eu bod nhw wedi eu cofrestru ac yna'n darganfod ar ôl cyrraedd yno nad ydyn nhw. Mae'r rhain yn tueddu i fod yn anghymesur o ifanc; ac yn tueddu i fod yn anghymesur yn bobl o ardaloedd mwy tlawd.

Yr un newid mawr sydd wedi gweithio yn dda iawn yw'r pleidleisiau post ar alw, mae'r rhain yn wir wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ond mae dwy broblem yn hyn o beth: niferoedd y bobl sydd, ar eu pleidlais bost nhw, yn cael ei gwrthod hi am eu bod nhw'n llenwi'r dyddiad y maen nhw'n ei anfon i mewn, ac nid dyddiad eu geni; a'r bobl nad yw eu llofnod nhw'n cyfateb i'r llofnod a anfonwyd i mewn ganddyn nhw. Yn aml, mae'r bobl hyn yn dioddef cyflyrau dirywiol, pethau fel sglerosis ymledol neu bethau fel clefyd Parkinson, ac mae eu llofnod nhw wedi newid dros amser. Felly, fy nghais i yw: a fyddai hi'n bosib dychwelyd y pleidleisiau hyn i'r bobl er mwyn caniatáu iddyn nhw gywiro'r gwallau hyn? Oherwydd y cyfan yr ydych chi'n ei wneud yw cymryd yr amlen allanol; nid ydych chi'n ddim yn cyffwrdd â'r bleidlais o gwbl.

Yr ail un yw: Mae gen i ofn nad yr anhawster wrth bleidleisio sy'n atal pobl rhag pleidleisio—ond diffyg awydd i bleidleisio o gwbl, ac mae honno'n her i ni ar y meinciau hyn i gyd sydd yma, ac aelodau pleidiau nad oes â chynrychiolaeth yma, i wneud i bobl ystyried eu bod nhw'n dymuno pleidleisio i ni.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:26, 11 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaethoch chi gyntaf ynghylch cynhwysiant, mewn gwirionedd, am rai sydd ag anableddau, yn alluoedd synhwyraidd efallai ac yn y blaen, yn wirioneddol bwysig. Mae digideiddio ac yn y blaen yn creu llawer o gyfleoedd ar gyfer newid a chynhwysiant wrth eu cymryd. Y rhain yr ydym ni'n awyddus i'w harchwilio, ac fe geir llawer o enghreifftiau mewn gwledydd ledled y byd yr wyf i'n gwybod iddyn nhw gael eu hystyried cyn hyn, ond rwy'n credu bod digideiddio eto yn creu cyfleoedd yn hyn o beth.

Fe ddylwn i ddweud un peth, wrth gwrs, sef yr un peth hwnnw yr ydym ni'n cyfeirio ato yn y papur—nid ei ystyried ar gyfer y gyfres nesaf o etholiadau, ond yn y dyfodol—sef wrth gwrs pleidleisio ar-lein. Rydym ni o'r farn bod yna broblemau o ran technoleg, diogelwch ac yn y blaen ar hyn o bryd, ond wrth gwrs mae digideiddio yn agor y drws i hynny, ac rwy'n credu ei fod yn beth gwahanol iawn. Mae gan lawer ohonom ni brofiad ohono mewn sawl ffordd yn barod, ac felly mae hyn yn ymwneud â'r defnydd o'r dechnoleg, ar yr amod y gellir ei wneud gyda diogelwch, mewn ffordd gadarn ac, yn fy marn i, yn gwbl syml.

Rwy'n credu bod y pwynt y gwnaethoch chi ei godi o ran pleidleisiau post yn hollol gywir. Wrth gwrs, digwyddodd rhai newidiadau ar ôl yr etholiadau diwethaf o ran fformat y papurau ar gyfer pleidlais bost, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef eich bod chi'n hollol iawn o ran y dryswch. Fe wnes i gamgymeriad fy hun ac roedd hi'n rhaid i mi fynd i chwilio am bapur arall ar gyfer gwneud hynny, am yr un rheswm yn union—mae rhywun yn llofnodi yn y lle anghywir neu beth bynnag. Ac mae'r rhain yn gamgymeriadau sy'n hawdd eu gwneud. Felly, un o'r pethau yn y maes yma sy'n cael ei gynnwys yn y papur ar gyfer ymgynghori yw'r mater hwn o olrhain, wrth gwrs. A sicrhau bod y rhai sy'n awyddus i bleidleisio ac sy'n defnyddio pleidleisiau post—os oes rhesymau am hynny, bod gwallau technegol fel hyn ac ati, bod cyfleoedd i'w cywiro nhw ac yn y blaen. Nid wyf i'n credu bod hynny'r tu hwnt i'n gallu ni o gwbl.

Rwyf yn diolch i chi am y sylwadau eraill.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 3:28, 11 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da, Cwnsler Cyffredinol. Munud sydd gennyf i siarad am ddemocratiaeth, pan mai fi yw'r unig gynrychiolydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Ond rwy'n dymuno dweud ar goedd fy mod i'n cefnogi egwyddor y diwygiadau hyn, oherwydd mae democratiaeth yn y DU mewn dyfroedd dyfnion, mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddion ar ei gwanaf erioed, mae'r niferoedd sy'n pleidleisio mewn etholiadau yn parhau i fod yn isel, mae cyfranogiad mewn democratiaeth yn parhau i leihau, ac mae gennym lawer i'w wneud—yn wahanol i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, sy'n benderfynol o ddifetha ein democratiaeth ni a dwyn ein rhyddid democrataidd sylfaenol ni oddi wrthym.

A bod yn onest, mae'r ymdrech i waradwyddo carcharorion hyd yn oed yn fwy yn anfaddeuol yn fy marn i. Gyda'r parch mwyaf, Darren Millar, mae hi'n anfaddeuol eich bod chi'n ceisio gwadu'r hawl iddyn nhw drafod a phleidleisio ar bethau sydd mor bwysig iddyn nhw—mor bwysig iddyn nhw ag yr ydyn nhw i ninnau. Felly, mae'n rhaid i ni ddiddymu rhwystrau a'i gwneud hi'n symlach i bobl bleidleisio, ac rwy'n ddiolchgar am y datblygiadau a gafodd eu gwneud yn y datganiad heddiw.

Dyma rai syniadau i roi hwb wirioneddol hyd yn oed ymhellach o ran pleidleisio yng Nghymru. Fe hoffwn i weld symudiad lle mae'n rhaid i bob cyngor ethol cynghorwyr trwy Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Rwy'n dymuno gweld cyllidebu cyfranogol, fe hoffwn i weld mwy o arloesi o amgylch cynulliadau dinasyddion, ac rwy'n dymuno ein gweld ni'n arwain y ffordd ar ddata a thechnoleg, yr ydych newydd gyfeirio ato. Mae yna gymaint i'w groesawu yma, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni fwrw ymlaen ymhellach â hyn yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:29, 11 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i chi am y sylwadau yna? Rwy'n credu bod hwn yn ymgynghoriad cyffrous iawn, oherwydd mae wedi dangos y gallwn ni, yng Nghymru, wneud rhywbeth gwahanol, y gallwn ni ei wneud yn well ac y gallwn ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni. Rwy'n credu mai'r dull sydd wedi bod gennym ni, ac sy'n rhywbeth a gafodd ei ystyried dros nifer o flynyddoedd ers 2017, yw'r ffordd y gallwn ni foderneiddio a thynnu ein system bleidleisio ni i'r unfed ganrif ar hugain—. A gadewch i ni wynebu'r peth, nid yw ein system bleidleisio, yn y bôn, wedi newid rhyw lawer mewn 100 mlynedd. Pleidleisiau ar bapur mewn rhestrau yw hi o hyd, gyda phensiliau a phapurau a phrenau mesur, ac rydych chi'n tynnu llinellau drwodd ac yn y blaen, ac yn amlwg nid yw hi'r tu hwnt i'n gallu ni i gynhyrchu rhywbeth llawer gwell mewn gwirionedd, ac rwy'n edrych ymlaen at eich syniadau chi yn hyn o beth 

A gaf i ddim ond dweud rhywbeth ynglŷn â'r syniadau a'r sylwadau wnaethoch chi o ran cynghorau lleol a Phleidlais Sengl Drosglwyddadwy? Wel, wrth gwrs, o ganlyniad i ddeddfwriaeth a basiwyd yma, mae gan gynghorau lleol gyfle i ddewis cyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn eu systemau pleidleisio nhw os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny, yn fy marn i, o fewn y ddwy flynedd gyntaf, ond mae hwnnw'n ddewis sydd ganddyn nhw'n lleol mewn gwirionedd. Diolch.