– Senedd Cymru am 3:58 pm ar 11 Hydref 2022.
Symudwn ymlaen y prynhawn yma i'r eitem nesaf, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ymdrin â feirysau anadlol. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rhoddais ddiweddariad i'r Aelodau ynghylch COVID-19 a phwysau'r gaeaf ar 20 Medi. Tynnais sylw at y ffaith ein bod yn paratoi ar gyfer trydydd gaeaf o fyw gyda COVID, ond bod y sefyllfa o ran feirysau anadlol yn fwy ansicr na'r blynyddoedd blaenorol oherwydd bod patrymau tymhorol wedi cael eu hamharu'n sylweddol oherwydd y pandemig. Mae'r cynnydd diweddaraf mewn achosion yn dangos nad yw COVID-19 wedi diflannu, ac mae angen i ni fod yn wyliadwrus a pharatoi. Yn ôl arolwg haint coronafeirws diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd cyfran y bobl yng Nghymru yn cael prawf COVID-19 positif yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 26 Medi tua 1 ymhob 50 o bobl.
Er mwyn helpu i baratoi ein cymunedau a'r systemau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer yr hyn a allai fod yn aeaf heriol, heddiw, rydym ni'n cyhoeddi ein dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â feirysau anadlol ar gyfer hydref/gaeaf 2022-23. Ochr yn ochr â'r cyhoeddiad hwn, byddwn hefyd yn darparu cyngor technegol pellach ar senarios a chamau gweithredu sydd eu hangen o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn ychwanegu ymhellach at y cynllunio presennol a ddechreuwyd fisoedd lawer yn ôl yn y GIG, fel y nodir yn fframwaith cynllunio'r GIG. Felly, mae cynllunio ar gyfer cynnydd mewn pwysau yn ymarfer gydol y flwyddyn ac mae mwy o ddatblygu ymyriadau wedi bod a fydd yn galluogi cryfder o fewn gwasanaethau gofal brys ac argyfwng dros y gaeaf.
Bydd y cyngor technegol ar fodelau gaeaf 2022-23, a gyhoeddir heddiw hefyd, yn gymorth pellach i gynllunio parhaus y GIG yng Nghymru drwy ddarparu pedwar model COVID-19. Dros y ddau gyfnod gaeaf blaenorol, rydym wedi gweld lefelau isel o ffliw a feirysau syncytiol anadlolyn cylchredeg o'i gymharu â blwyddyn arferol, ac roedd hynny'n fwyaf tebygol oherwydd cyfyngiadau a oedd ar waith yn gysylltiedig â COVID-19. Mae llawer o ansicrwydd, felly, ar gyfer gaeaf 2022-23, gan nad yw'r cyfyngiadau hynny mewn grym bellach. Nawr, mae'r modelau gaeaf hyn ar gyfer COVID-19 a feirysau anadlol eraill yn archwilio sefyllfa 'beth os' pe bai'r feirysau hyn yn dod at ei gilydd, a bydd hynny'n helpu cynllunwyr y GIG a phartneriaid eraill i baratoi ar gyfer senario gwaethaf rhesymol a senario brys o ran COVID, ynghyd â phwysau a heriau eraill.
Hoffwn gymryd y cyfle heddiw i dynnu sylw at y negeseuon allweddol yn ein dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â feirysau anadlol ar gyfer hydref/gaeaf 2022-23. Nawr, yn ganolog i'r dull yr ydym wedi ei gymryd yw ein hamcan i amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas rhag clefyd difrifol. Mae hyn yn parhau i fod yn bwyslais allweddol pan fyddwn yn gweithredu mewn amgylchedd sy'n sefydlog o ran COVID, lle'r ydym yn disgwyl tonnau pellach o'r haint ond nid ydym yn disgwyl i'r rhain roi pwysau parhaus, anghynaladwy ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, fel yr ydym yn ymwybodol, gall amgylchiadau newid yn gyflym gyda chynnydd parhaus mewn achosion neu effaith amrywiolion yn y dyfodol o ran eu gallu i ledaenu, ymateb imiwnedd a brechlynnau ddim yn gweithio a difrifoldeb. Bydd angen i ni weithredu'n gyflym i ymateb i amgylchiadau sy'n newid, a gallai hyn gynnwys cyflwyno mesurau eraill a chyngor cryfach ar ymddygiadau amddiffynnol, gan gynnwys, er enghraifft, defnyddio gorchuddion wyneb a chyflwyno profion ychwanegol i ddiogelu'r rhai sy'n fwy agored i niwed.
Rydym wedi nodi cynlluniau i gyflawni, mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, system wyliadwriaeth effeithiol, ar y cyd sy'n rhoi gwybodaeth amserol i helpu asesiad risg effeithiol a phenderfyniadau rheoli risg i leihau niwed gan COVID-19 a feirysau anadlol eraill. Bydd hyn yn fwy allweddol y gaeaf hwn, gyda diwedd profion cymunedol torfol ar gyfer COVID-19 ym mis Ebrill 2022 a'r ansicrwydd o ran effaith bosibl ar gyfer COVID-19 a feirysau anadlol eraill. Rydym hefyd wedi amlinellu ein prosesau sydd wedi llwyddo yn y gorffennol a phrofion ar gyfer rheoli achosion o glefydau trosglwyddadwy, gan gynnwys feirysau anadlol.
Mae ein dull gweithredu yn pwysleisio mai brechu sy'n dal i gynnig yr amddiffyniad gorau rhag COVID-19 a'r ffliw. I'r rhai sy'n gymwys i gael eu brechu, dyna yw'r cam pwysicaf y gallan nhw ei gymryd i ddiogelu eu hunain ac eraill. Cafodd ein rhaglen frechu gaeaf yn erbyn firysau anadlol ei lansio ar 1 Medi ac, hyd yma, mae dros 360,000 o frechiadau COVID-19 wedi cael eu rhoi.
Yn ein cyngor a'n dull gweithredu, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar alluogi ac annog ymddygiadau gan unigolion i ddiogelu eu hunain, diogelu ein gilydd ac, yn enwedig, i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae angen gwneud hyn oherwydd bod hyn yn gallu cael budd sylweddol o ran lleihau trosglwyddiad firysau anadlol. Dylen ni i gyd, erbyn hyn, fod yn gyfarwydd â'r mesurau amddiffyn hyn, sy'n cynnwys aros adref os ŷch chi'n sâl a gwisgo gorchudd wyneb mewn llefydd llawn dan do ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Rŷn ni hefyd wedi cynnwys cyngor wedi'i dargedu ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau allweddol fel iechyd, gofal cymdeithasol, carchardai ac addysg.
Elfen allweddol arall o'n dull o ymdrin â feirysau anadl yw sut y gallwn ni amddiffyn pobl sydd â risg uchel o fynd yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19. Rŷn ni wedi amlinellu cyngor i'r rhai sy'n gymwys i gael eu trin gyda therapi gwrthfeirysol neu therapi gwrthgyrff, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd a sut i gael mynediad at driniaeth. Mae ein dull profi yn cael ei dargedu bellach hefyd, i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Bydd e'n helpu'r broses wyliadwriaeth, yn rhoi cefnogaeth os bydd achosion lluosog, ac yn helpu cynllunio ar gyfer ton posibl o'r feirws a senario COVID brys. Rŷn ni'n parhau i ddarparu profion ar gyfer cleifion symptomatig, staff iechyd a gofal, carcharorion, a phreswylwyr cartrefi gofal. Ar gyfer y gaeaf, rŷn ni hefyd yn darparu mwy o brofion aml-ddadansoddiad, sef multiplex testing, mewn sawl lleoliad. Mae'r profion hyn yn gallu rhoi diagnosis o feirysau anadlol eraill heblaw am COVID-19, a sicrhau bod triniaeth addas a mesurau amddiffyn yn cael eu rhoi ar waith.
Bydd ein hymgyrchoedd cyfathrebu yn canolbwyntio ar yr arferion amddiffynnol y gall pawb eu dilyn bob dydd i atal feirysau anadl rhag lledaenu, er mwyn diogelu'r bobl sydd yn wynebu'r risg fwyaf. Bydd y negeseuon yn sensitif i'r cynnydd mewn costau byw, ac fe fyddan nhw'n canolbwyntio ar arferion sy'n hawdd ac yn syml i bawb gadw atynt ac yn ein helpu i ymateb i'r heriau fydd i ddod yn ystod y gaeaf yma. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma, ac rwy'n cefnogi'r neges honno'n fawr, annog pobl i fynd am eu brechiad ffliw a'u pigiad atgyfnerthu hefyd. Roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, i annog pobl i gymryd eu pigiad ffliw; rwy'n gwybod y cefais i a llawer o Aelodau eraill eu pigiad ffliw yn y digwyddiad hwnnw'r wythnos diwethaf.
Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad heddiw, fe orffennoch chi drwy siarad am ymgyrch i annog pobl i fynd am eu brechlyn ffliw a'u pigiad atgyfnerthu. Ydych chi'n disgwyl i fyrddau iechyd gynnal yr ymgyrch honno ym mhob un o ardaloedd y byrddau iechyd lleol, neu oes elfen o Lywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o ymgyrch fwy Cymru gyfan? Efallai y gallech chi ddweud ychydig mwy wrthym am hynny.
Roeddech chi'n sôn am bwysigrwydd, yn gwbl briodol, wrth gwrs, bod staff gofal iechyd ac eraill yn mynd am eu brechiad hefyd. Fel rwy'n ei ddeall, ar hyn o bryd, dim ond 29 y cant o staff gofal iechyd sydd wedi cael eu brechiad COVID 2022-23, ac mae un o bob tri oedolyn dros 65 oed wedi cael eu pigiad atgyfnerthu. Erbyn hyn, hyd yma, mae hynny, wrth gwrs, ymhell y tu ôl i darged Llywodraeth Cymru o weld 75 y cant yn manteisio ar y brechiad. Felly, mae gen i ddiddordeb, hefyd, yn eich asesiad dros y 12 mis diwethaf o ran y nifer sydd wedi ei gael. Mae'r pryder hwnnw, wrth gwrs, wrth i amser fynd yn ei flaen, fod pobl yn rhoi'r flaenoriaeth honno yn is i lawr eu hagenda blaenoriaeth. Pa mor llwyddiannus y mae'r 12 mis diwethaf hynny wedi bod o ran pobl yn cymryd eu pigiadau atgyfnerthu? Ydych chi'n poeni am y ffigyrau yr wyf newydd eu hamlinellu nawr? Ydych chi'n mynd i gyrraedd eich targed o 75 y cant, a pham 75 y cant? Sut gafodd y targed hwnnw ei gyflwyno, a beth mae'n ei olygu os nad yw eich targed yn cael ei gyrraedd? Hefyd, mae pryder fod rheoli heintiau ymhlith nifer o fyrddau iechyd wedi mynd i'r gwellt braidd, er gwaethaf y gwersi a ddysgwyd yn ystod COVID-19. Felly, y llynedd, dim ond 57 y cant o staff gofal iechyd â chyswllt uniongyrchol â chleifion wnaeth gymryd eu brechiad ffliw. Felly, efallai y caf ofyn i chi: a yw hynny'n bryder i chi a sut ydych chi'n bwriadu gwrthdroi hynny?
Roedd gen i gryn ddiddordeb i chi ddweud yn eich datganiad, Gweinidog, y bydd eich cyngor a'n dull gweithredu
'yn parhau i ganolbwyntio ar alluogi ac annog ymddygiadau gan unigolion i ddiogelu eu hunain'.
Felly, rwy'n darllen hynny ac yn ceisio deall hynny yn fy ngeiriau fy hun. A wnewch chi gadarnhau mai hunan gyfrifoldeb bellach yw dull Llywodraeth Cymru o reoli COVID yn y dyfodol?
Yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, cyhoeddwyd adroddiad y gell gynghori dechnegol. Roedd yn ddarllen diddorol, wrth i mi ddarllen trwy hwnnw. Y pennawd mawr yno yw bod cyfraddau ysbytai yn llawer uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, yn sylweddol, ac, wrth gwrs, rydyn ni'n gwybod bod cyfraddau marwolaeth yng Nghymru yn uwch nag yn unrhyw ran o'r DU fesul poblogaeth. Mae gen i ddiddordeb ym mha wersi yr ydych chi wedi'u dysgu yn hynny o beth i lywio dulliau o ymdrin ag achosion anadlol yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. Wel, gallaf eich sicrhau chi y bydd yna ymgyrch genedlaethol ochr yn ochr â'r ymgyrchoedd sy'n digwydd, rwy'n siŵr, ar lefel awdurdodau lleol. Os ydw i'n onest, rydyn ni braidd yn siomedig â nifer y bobl sydd wedi cyflwyno eu hunain hyd yn hyn o ran staff iechyd a gofal, a dyna pam rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i ysgrifennu at y byrddau iechyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cefnogaeth a bod ni'n ysgogi'r lefelau hynny o frechu ar gyfer ffliw a COVID ymysg staff iechyd a gofal. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld hynny'n digwydd. Rydyn ni'n gweithio gydag undebau llafur hefyd i geisio gweld a allan nhw ein helpu ni gyda rhai o'r negeseuon yna.
Fe wnaethoch chi ofyn a yw ein rhaglen wedi bod yn llwyddiannus; rwy'n credu y bu'n hynod o lwyddiannus. Os ydych chi'n ei chymharu â rhannau eraill o'r byd, rydyn ni wedi cael lefelau uchel iawn o bobl yn eu cymryd. Y cwestiwn yw: sut mae cadw'r momentwm hwnnw, sut mae cadw'r brwdfrydedd pan fo peryg o laesu dwylo oherwydd ein bod ni i gyd yn mynd yn ôl i normal—am y tro cyntaf, gadewch i ni ei wynebu, mewn tua thair blynedd? Felly, yr hyn rydyn ni wedi'i osod yw'r targed hwnnw o 75 y cant. Rydyn ni'n credu bod hwn yn darged realistig. Rydym ni'n cydnabod, bob tro, bod llai o bobl yn debygol o ddod am eu brechiadau. Dydy e ddim yn ddelfrydol, nid dyna lle'r ydyn ni eisiau bod, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall na allwch chi orfodi pobl i mewn i'r pethau hyn, mae'n rhaid i chi ddod â'r bobl gyda chi. Y ffordd orau o ddod â phobl gyda ni yw eu hargyhoeddi a'u cael i ddeall, nid yn unig eu bod yn cefnogi eu hunain, eu bod nhw'n amddiffyn eu hanwyliaid ac maen nhw'n amddiffyn y gymuned ehangach os ydyn nhw'n manteisio ar y cyfle hwn.
Rwy'n credu, o ran rheoli heintiau o fewn cyfleusterau'r GIG a lleoliadau gofal, yr hyn yr ydyn ni wedi'i wneud yw ein bod wedi caniatáu i bobl wneud dewisiadau ar lefel leol. Felly, yn amlwg, mewn rhai rhannau, bydd gennych chi gyfraddau COVID uwch nag mewn eraill. Felly, mae'n iawn ein bod ni'n rhoi'r hyblygrwydd yna iddyn nhw. Pe byddem yn gweld y niferoedd yn codi'n aruthrol, yna mewn gwirionedd, byddai'n rhaid i ni feddwl a oedd angen i ni gyflwyno fersiynau mwy llym o'r canol. Ond, rydych chi'n gofyn a yw hunan-gyfrifoldeb yn rhan o'r ymateb; mae wastad wedi bod yn rhan o'r ymateb. Mae'n rhan o'r ymateb, nid dyma'r unig ymateb. Brechu yw ein arf allweddol yn ein harfau yn erbyn COVID. Ond, hunan-gyfrifoldeb—wyddoch chi os ewch chi i ystafell orlawn sydd dan do yng nghanol y gaeaf, ac mae cyfraddau yn un o bob 50, y siawns yw bod eich risg yn uwch. Felly, wrth gwrs, pobl sy'n dewis cymryd y cyfrifoldeb hwnnw eu hunain a deall y risgiau maen nhw'n eu cymryd.
Fe wnaethoch chi ofyn, yn olaf, am heintiau COVID. Byddwch chi wedi gweld yr wythnos ddiwethaf, os edrychwch chi ar nifer yr heintiau COVID o'i gymharu â Lloegr, bod 57 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru wedi'u heffeithio o'i gymharu â 71 y cant o'r cyhoedd yn Lloegr wedi'u heffeithio. Felly, roedd marwolaethau gormodol 20 y cant yn is yng Nghymru nag yn Lloegr, ond rydych chi'n iawn i ddweud bod mwy o achosion yn yr ysbytai, ond rydych chi'n disgwyl hynny mewn poblogaeth sy'n hŷn, sy'n salach, sy'n dlotach ac sy'n fwy agored i niwed.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Dwi'n cytuno'n gyffredinol efo'r cynllun fel y mae wedi cael ei amlinellu gan y Gweinidog heddiw. Mae'r Gweinidog yn iawn, wrth gwrs, i ddweud bod COVID ddim wedi ein gadael ni, bod hwnnw'n dal yn gysgod, a'r cysgod yn cynyddu, ac wrth gwrs, mae hi'n bryder y gallai'r ffliw gymryd gadael y gaeaf yma mewn ffordd nad ydy o wedi ei wneud ers sawl blwyddyn. Dwi yn ddiolchgar i Dr Harri Pritchard a'r tîm yng Nghanolfan Iechyd Amlwch am roi fy mrechiad ffliw i fi, ac rydw innau hefyd, wrth gwrs, fel pawb yma, yn annog y rheini sydd yn gymwys i gael y brechiad—y rhai sydd dros 50 oed, y rhai oedd yn gorfod gwarchod mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn ystod y pandemig—i fynd a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y brechiad hwnnw ac i gysylltu efo meddyg teulu neu fferyllfa.
Eisiau gofyn un cwestiwn syml ydw i ynglŷn â'r impact y gallai cynnydd mewn cyflyrau anadlol drwy COVID a'r ffliw a'r firysau eraill ei gael ar y gwasanaeth iechyd. Dwi'n wirioneddol bryderu bod y Gweinidog yn dal yn dweud wrthym ni ei bod hi'n hyderus o gyrraedd targedau'r Llywodraeth o ran rhestrau aros, ei bod hi'n ffyddiog y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt erbyn diwedd eleni na fydd unrhyw un yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol am y tro cyntaf. Dydyn ni ddim yn agos at fod ar y trywydd tuag at gyrraedd y targed hwnnw, ac os ydyn ni'n gweld pwysau ychwanegol oherwydd cyflyrau anadlol, mae'r pwysau yn mynd i fod yn fwy fyth, yn ei gwneud hi'n anos i gyrraedd at y targed. Felly, pa bryd bydd y Gweinidog yn gwneud asesiad i weld beth ydy'r impact mae cyflyrau anadlol yn ei gael ar allu’r Llywodraeth i gyrraedd at y targedau yna? Achos beth dwi angen ei wybod ydy bod y Llywodraeth yn barod i ailasesu yn ddigon buan, newid cyfeiriad yn ddigon buan, neu mi fydd holl asgwrn cefn cynlluniau’r Llywodraeth i ddod â rhestrau aros i lawr, amseroedd aros i lawr, yn dioddef.
Diolch. Wel, rŷn ni, fel rŷch chi’n gwybod, wedi modelu ac wedi edrych ar beth fyddai’n gallu digwydd dros y gaeaf yma, ac mae’r gwasanaeth iechyd yn paratoi ar gyfer y modelu rŷn ni wedi ei weld, lle byddwn ni’n debygol o weld peak, yn ôl y modelu, ym mis Rhagfyr a Ionawr, felly mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer hynny, a dyna yw'r amser, wrth gwrs, nid jest am broblemau COVID, ond dyna yw’r amser pryd mae pobl eisiau cymryd amser off ar gyfer y Nadolig, a dyna pryd mae'n debygol y gwelwn ni ffliw hefyd. Felly, mae’r pethau yna yn sicr o gael effaith ar ein gallu ni i gyrraedd rhai o’n targedau ni, ond dyna pam mae’n bwysig ein bod ni’n cael y cynllun yma mewn lle, fel bod pobl yn cymryd y cyfle i gael eu vaccines nhw, fel eu bod nhw’n gallu diogelu eu hunain.
Y ffaith yw bod 1,000 o bobl ddylai fod yn gweithio yn yr NHS heddiw sydd ddim yn gweithio o ganlyniad i COVID. Nawr, mae hwnna yn mynd i gael effaith ar ein gallu ni. Un o’r pethau rŷn ni’n ei wneud i blygio’r gaps yna yw defnyddio nyrsys asiantaeth, sy’n anodd, ac mae hynny’n cynyddu’r gost inni o faint rŷn ni’n gwario ar nyrsys asiantaeth. Dyw e ddim yn rhywbeth rŷn ni eisiau ei wneud, ond mae’n rhywbeth rŷn ni angen ei wneud os ŷn ni eisiau parhau i trial cyrraedd y targedau rŷn ni wedi’u gosod. Bydd yn anodd cyrraedd y targedau rŷn ni wedi’u gosod ar gyfer y rhestrau aros, ond dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni’n gwneud ein gorau glas i gyrraedd y lefelau yna, a chyrraedd y nod yna, achos beth rŷn ni’n sôn am fan hyn yw bywydau pobl, ac mae angen i bobl gael eu gweld. Dwi yn sicr yn rhoi pwysau ar y byrddau iechyd i sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gynted ag sy’n bosibl. Dwi’n edrych ymlaen yfory i gael summit canser gydag aelodau o’r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog.