Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 12 Hydref 2022.
Wel, mae e eisoes yn digwydd. Rŷn ni mewn proses barhaus o ddarparu adnoddau cynyddol yn y maes hwn ac mewn rhannau eraill o'r cwricwlwm hefyd. Mae'r adnoddau sydd eisoes ar gael wedi'u cyhoeddi ar Hwb, sydd ar gael i bob ysgol. Dyw pob ysgol, dwi ddim yn credu, ddim yn dewis cael mynediad ato fe, ond mae'r adnoddau yno ar-lein i bawb. Ond beth efallai fyddai'n ddefnyddiol byddai i mi ysgrifennu at bob un Aelod yn rhoi linciau i'r rheini, fel eich bod chi'n gallu, fel Aelodau, os ŷch chi'n dymuno, rhannu'r rheini ymhellach gydag etholwyr lleol a phreswylwyr lleol sy'n dod i gysylltiad â chi, i sicrhau ein bod ni i gyd yn rhannu'r wybodaeth iawn am y cwricwlwm.