Part of 1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 12 Hydref 2022.
Yn anffodus, mae arnaf ofn fod y modd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflwyno polisi cymdeithasol i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn achos clasurol o'r Llywodraeth yn plesio'r rhyfelwyr woke yn ein plith. [Torri ar draws.] Ac efallai nad ydych yn hoffi clywed hyn, Weinidog, ond dyma'r realiti yn anffodus. Pwy yw'r wladwriaeth i ddweud wrth blant beth sydd orau iddynt? Nid eich lle chi yw gwneud hynny, nid fy lle i yw gwneud hynny, nid yw'n fusnes i neb—