Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

5. Pa gymorth y mae’r Llywodraeth yn ei roi i ysgolion Arfon a'r awdurdod lleol wrth iddynt gyflwyno’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd? OQ58513

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:58, 12 Hydref 2022

Rŷn ni’n parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd a gyda chonsortiwm GwE i sicrhau bod ysgolion yn Arfon yn cael eu cefnogi’n llawn i weithredu’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan gynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol ac adnoddau. Rŷn ni wedi cyhoeddi pecyn adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb ar Hwb i gefnogi ysgolion i drafod y mater sensitif hwn gyda rhieni a gofalwyr.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:59, 12 Hydref 2022

Rydych chi'n ymwybodol iawn o'r camwybodaeth sy'n cael ei ledaenu gan rai yn fy etholaeth i a thu hwnt i hynny am y cod. Mae'r ffug newyddion mewn perig o danseilio'r polisi a'r gwaith o gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb, polisi rydym ni ar y meinciau yma yn gyfan gwbl gefnogol ohono fo. Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae yna bryder nad ydy'r adnoddau a'r deunyddiau dysgu newydd wedi bod yn cyrraedd yr ysgolion yn brydlon. Mae angen y deunyddiau newydd yma i gefnogi'r cod newydd, ac mae hyn wedi creu rhywfaint o wagle ar gyfer lledaenu'r ffug wybodaeth. Dwi'n falch o glywed bod pethau yn symud ymlaen efo hynny, ond fyddwn i’n licio cael sicrwydd gennych chi y prynhawn yma fod yna amserlen bendant mewn lle ar gyfer cyflwyno digonedd o'r adnoddau dysgu yma sydd eu hangen, yn ychwanegol i'r hyn sydd wedi cael ei ddarparu'n barod. So, fedrwch roi ryw syniad o bryd fydd hynny'n digwydd?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:00, 12 Hydref 2022

Wel, mae e eisoes yn digwydd. Rŷn ni mewn proses barhaus o ddarparu adnoddau cynyddol yn y maes hwn ac mewn rhannau eraill o'r cwricwlwm hefyd. Mae'r adnoddau sydd eisoes ar gael wedi'u cyhoeddi ar Hwb, sydd ar gael i bob ysgol. Dyw pob ysgol, dwi ddim yn credu, ddim yn dewis cael mynediad ato fe, ond mae'r adnoddau yno ar-lein i bawb. Ond beth efallai fyddai'n ddefnyddiol byddai i mi ysgrifennu at bob un Aelod yn rhoi linciau i'r rheini, fel eich bod chi'n gallu, fel Aelodau, os ŷch chi'n dymuno, rhannu'r rheini ymhellach gydag etholwyr lleol a phreswylwyr lleol sy'n dod i gysylltiad â chi, i sicrhau ein bod ni i gyd yn rhannu'r wybodaeth iawn am y cwricwlwm.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 2:01, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, mae arnaf ofn fod y modd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflwyno polisi cymdeithasol i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn achos clasurol o'r Llywodraeth yn plesio'r rhyfelwyr woke yn ein plith. [Torri ar draws.] Ac efallai nad ydych yn hoffi clywed hyn, Weinidog, ond dyma'r realiti yn anffodus. Pwy yw'r wladwriaeth i ddweud wrth blant beth sydd orau iddynt? Nid eich lle chi yw gwneud hynny, nid fy lle i yw gwneud hynny, nid yw'n fusnes i neb—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A gawn ni ganiatáu i'r Aelod barhau â'i gwestiwn, os gwelwch yn dda? A gawn ni rywfaint o dawelwch?

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Nid eich lle chi yw gwneud hynny, nid fy lle i yw gwneud hynny, nid yw'n fusnes i neb ar wahân i'r rhieni. Hwy ddylai fod yn penderfynu pa fath o addysg y mae eu plentyn yn ei chael ac a ydynt am ymgysylltu ag addysg rhyw, ac nid chi, Weinidog. Sut ar y ddaear y disgwyliwch i blant mor ifanc â phump oed ddeall neu ddechrau deall y math yma o wybodaeth? Mae rhieni ar hyd a lled Cymru yn rhyfeddu at y ffaith bod y Llywodraeth hon yn gweithredu'r polisi hwn. Ac o edrych ar rai o enwau'r llyfrau sy'n cael eu cynnig o dan y polisi hwn i blant rhwng pump a saith oed, o'r enw Jacob's New DressPink is for Boys, Oliver Button is a Sissy, a Princess Kevin, i enwi ond ychydig, ai dyma'r cyfeiriad yr ydym eisiau anelu ato mewn gwirionedd, Weinidog? A pha fath o neges y mae hyn yn ei roi i rieni yng Nghymru sy'n awyddus i weld eu plant yn adeiladu ar eu deallusrwydd academaidd yn hytrach na pha mor woke ydynt? Ac yn olaf, i ofyn cwestiwn syml: oes neu nac oes, a oes gennych chi ffydd fod rhieni'n gwybod beth sydd orau i'w plant?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:02, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae camddisgrifio'r cwricwlwm er mantais wleidyddol yn anhygoel o amharchus. Ef yw'r ail Aelod o'i feinciau i ddefnyddio'r cyfle hwn—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn credu bod y Gweinidog angen unrhyw help gan aelodau'r meinciau cefn ar hyn. Rwyf am ganiatáu i'r Gweinidog barhau mewn tawelwch, os gwelwch yn dda.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

—i bardduo'r gwaith y mae athrawon yn ei wneud ar draws ysgolion i sicrhau bod ein pobl ifanc yn ddiogel ac yn iach. Rwy'n ymroddedig i hynny ac rwy'n siomedig o glywed nad ydyw ef.