Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, ein nod yng Nghymru yw cael gwasanaeth 'dim drws anghywir'. Mae gennym dargedau ar waith yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol a mynediad at wasanaethau eraill. Mae gwasanaethau dan bwysau ar hyn o bryd ac rydym yn cymryd camau i adfer perfformiad gyda'r byrddau iechyd.