Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 12 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 2:27, 12 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Dywedodd eich arweinydd Llafur yn y DU, Keir Starmer, y byddai Llywodraeth Lafur yn y DU yn gwarantu triniaeth iechyd meddwl o fewn mis, ond mae ystadegau eich gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc yn dangos bod y Llywodraeth yma yng Nghymru yn methu. Dim ond 50 y cant o blant sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu hasesiad o fewn mis. Mewn rhai byrddau iechyd, mae tri phlentyn o bob pedwar yn aros yn hwy na mis ar gyfer asesiad, ac yn Aneurin Bevan, mae 85 y cant o blant yn aros yn hwy na mis am ymyrraeth therapiwtig. Mae hyn yn annerbyniol a dweud y gwir. Felly, a ydych yn credu bod eich Llywodraeth yn gwneud cam â phlant sydd ag anghenion iechyd meddwl yng Nghymru?