Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 12 Hydref 2022.
Fy ofn i ydy bod yr ardaloedd mwyaf gwledig yn mynd i golli allan wrth i'r ambiwlans fynd ar ôl targedau niferoedd cleifion gall cael eu cyrraedd efo'r hofrennydd heb ystyried yn iawn y tebygrwydd y gallai'r rheini gael eu cyrraedd yn reit gyflym ar y ffordd beth bynnag mewn ardaloedd poblog.
Liciwn i dynnu sylw y Gweinidog at adroddiad, 'Service Evaluation of the Emergency Medical Retrieval & Transfer Service (EMRTS) Cymru', a gafodd ei gyhoeddi llai na blwyddyn yn ôl. Mae o'n nodi,