Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 12 Hydref 2022.
'Er i'r gwasanaeth wneud gwelliannau mawr o ran cydraddoldeb yn gyffredinol, roedd anghydraddoldeb yn parhau yn y ddarpariaeth yn y Gogledd Orllewin, a nodwyd y dylid ystyried ehangu i'r ardal hon.'
Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Ebrill eleni, wrth ymateb i'r adroddiad hwnnw, roedd y Gweinidog yn ganmoliaethus iawn ynghylch—ac rwy'n dyfynnu—'canfyddiadau cadarnhaol' yr adroddiad.
Nawr, rwy’n siŵr y gellid gwneud yr un dadleuon ar gyfer Powys, ond ar y mater penodol hwn, sut y gall symud yr hofrennydd ymhellach i ffwrdd, symud y cerbydau ffyrdd ymhellach i ffwrdd, fod yn gyfystyr ag ehangu gwasanaethau Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys yn y gogledd-orllewin yn benodol? Ni all ymwneud â chynyddu oriau hedfan—mae hynny'n helpu pawb; byddai pob un ohonom yn croesawu hynny. Sut y byddai cau Caernarfon yn gyfystyr ag ehangu’r ddarpariaeth yn y gogledd-orllewin fel modd o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb parhaus yn y ddarpariaeth, neu beth sydd wedi newid ers eich datganiad ym mis Ebrill?