Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 12 Hydref 2022.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, a diolch i'r ymchwilwyr a'r tîm clercio. Mae hwn yn adroddiad pwysig iawn. Rydym ni'n cael at wraidd y materion sy'n dal ein gwasanaeth iechyd ni yn ôl ar hyn o bryd.
Rydym ni'n sôn am lif cleifion drwy'r system iechyd. Os nad oes yna lif rhwydd drwy'r system, mae gennych chi broblem. Dechreuwn ni wrth ddrws cefn ysbyty, pan fo claf yn barod i adael yr ysbyty cyffredinol ar ôl derbyn triniaeth. Dwi wedi eistedd mewn huddles yn Ysbyty Gwynedd ddwywaith—y cyfarfodydd boreol lle mae staff yn dod at ei gilydd i asesu lle maen nhw arni ar ddechrau diwrnod prysur arall—un o'r ystadegau sy'n cael eu trafod ydy faint o gleifion sy'n barod i adael ar sail meddygol, medically fit for discharge. Mae'n drawiadol i ffeindio bod efallai 80 neu'n fwy o welyau yn yr ysbyty yn cael eu defnyddio gan gleifion sydd ddim angen bod yno. Ac mae'r un yn wir mewn ysbytai cyffredinol ar draws Cymru. Mae hynny'n golygu problem wrth y drws ffrynt: canslo triniaethau achos does yna ddim gwely ar gael, efallai, a rhestrau aros hirach wedyn; mae'n golygu bod cleifion sy'n cyrraedd drwy'r adran frys yn methu symud o'r adran frys i'r ward os oes angen—mae'r ward yn llawn. Mae'r adran frys yn llawn, sy'n golygu bod ambiwlans yn methu dadlwytho claf, yn ciwio tu allan i'r ysbyty, yn methu ag ateb galwadau. Mae o'n gylch dieflig, a thrwy ein gwaith ni fel pwyllgor, wrth gwrs, mi oeddem ni'n trio deall pam mae'r bloc yma wrth y drws cefn, yr oedi wrth ryddhau cleifion, yn digwydd.
Mae'r sylw, yn gyffredinol, mewn blynyddoedd diweddar, wedi troi at wasanaethau gofal. Mae yna argymhellion cadarn yn yr adroddiad yma i'r perwyl yma: sut i sicrhau bod yr NHS ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol cynghorau sir yn gweithio'n well efo'i gilydd i integreiddio iechyd a gofal; sut i sicrhau bod arian integreiddio yn cael ei wario'n effeithiol; a sut i gefnogi staff gofal, eu talu nhw'n iawn, a'u cefnogi nhw'n iawn fel ein bod ni’n gallu recriwtio. Gwnaf i ddim mynd i mewn i fanylion hynny; maen nhw’n argymhellion cynhwysfawr. Mae Llywodraeth Cymru, fel rydym ni wedi ei glywed gan y Cadeirydd, yn cytuno â'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw. Mater i ni fydd dal y Llywodraeth i gyfrif a sgrwtineiddio cynnydd.
Mae pump o'r argymhellion sydd ddim ond yn cael eu derbyn mewn egwyddor, a dwi am droi at un o'r rheini, sef argymhelliad 8:
'Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y bydd yn gweithio gyda byrddau iechyd a phartneriaid eraill i sicrhau bod mwy o gyfleusterau cam-i-fyny/cam-i-lawr mwy priodol ar gael ledled Cymru.'
Mae diffyg darpariaeth cam i lawr yn broblem enfawr. Dydy'r capasiti ddim yno. Ac mae wedi dod yn fwy a mwy clir i fi na allwn ni ddibynnu ar y sector gofal i ddarparu'r capasiti yna ac, a dweud y gwir, nad ydy hi’n deg i ni ofyn iddyn nhw ei ddarparu fo. A dwi’n ofni mai beth rydym ni’n ei weld yn fan hyn ydy canlyniadau degawdau o bolisi gwael. Dwi wedi gweld ffigurau sy’n awgrymu bod gennym ni rhyw 20,000 o welyau ysbyty yng Nghymru ddiwedd y 1980au. Mae yna ystadegau pendant iawn erbyn 1997, pan oedd yna ychydig o dan 16,000. Dipyn dros 10,000 o welyau sydd gennym ni erbyn hyn. Beth rydym ni wedi’i weld ydy rhaglen bwrpasol o gau ysbytai cymunedol, cau gwelyau, lleihau capasiti. A rŵan, ydym ni wir i fod i synnu bod yna broblem capasiti, bod yna lif gwael o gleifion drwy'r system? Mae'r Llywodraeth yn troi at y gwasanaethau gofal, yn dweud bod angen i'r sector hwnnw fod yn derbyn cleifion ynghynt. Mae gen i ofn, fel dwi'n dweud, ein bod ni'n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth sy’n amhosib. Ydy hynny’n tynnu oddi ar argymhellion y pwyllgor? Nac ydy, dydy o ddim, ddim o gwbl. Mae eisiau cryfhau y sector gofal, mae eisiau ei gyllido fo yn iawn ac mae eisiau cefnogi gweithwyr gofal.
Ond drwy gau yr holl welyau, mi oedd Llywodraethau Llafur a Cheidwadol, yn fan hyn ac yn San Steffan, yn helpu i greu y broblem sydd gennym ni heddiw. Mae pobl yn byw yn hirach. Mae mwy o bobl angen triniaeth. A dim ots faint rydym ni’n dymuno, yn hollol, hollol gywir gyda llaw, i bobl allu cael gofal gartref, i fynd gartref mor gyflym â phosibl ar ôl triniaeth ac ati, mae’n synnwyr cyffredin bod yna'n dal fwy o bobl sy’n mynd i fod angen jest ychydig bach o ofal ychwanegol ar ôl triniaeth ysbyty—yr union fath o ofal sy'n gallu cael ei gynnig mewn ysbyty cymunedol. Felly, mi hoffwn i glywed gan y Gweinidog ymrwymiad i raglen newydd o greu y capasiti yna. Mi ddywedith fod yna ddim arian at gael, dwi'n siŵr, ond rydym ni'n sôn yn y fan hyn am welyau sydd gymaint rhatach na gwelyau mewn ysbyty cyffredinol. Rydym ni'n sôn am dynnu'r pwysau oddi ar y pen drud o'r NHS. Gadewch inni weld rhaglen fydd yn creu y capasiti yna, yn hytrach na dim ond gofyn i wasanaethau gofal wneud yr hyn dwi’n ei gredu sy’n amhosib.