Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 12 Hydref 2022.
Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac wrth gwrs fel aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol rwyf wedi gweld tystiolaeth o lygad y ffynnon gan dystion sydd yn y sefyllfa orau i sylwebu ar gyflwr presennol y broses o ryddhau cleifion o ysbytai ledled Cymru.
Ar ôl clywed achosion gan nifer o bobl ledled Cymru, mae'n glir fod hwn yn fater y mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu arno ar unwaith. Fodd bynnag, oherwydd bod y Llywodraeth wedi atal y gwaith o gasglu ffigurau ers mis Chwefror 2020, nid oes unrhyw arwydd gwirioneddol o ba mor fawr yw'r broblem mewn gwirionedd, ac os mai'r achosion a welwn yn ddyddiol yw ein tystiolaeth, rwy'n disgwyl y gallai'r broblem fod yn llawer gwaeth nag a feddyliwyd. Dangosodd y ffigurau diwethaf fod llawer o bobl wedi cael eu hatal rhag gadael yr ysbyty oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal, a bod hynny'n rhoi baich ychwanegol ar argaeledd gwelyau. Mae'r broblem hon yn arwain at fwy o oblygiadau i'r GIG, gan fod nifer y gwelyau sydd ar gael yn ddyddiol yn frawychus o isel ac nid oes unrhyw arwydd y bydd y sefyllfa'n gwella.
Ers i'r Blaid Lafur gymryd cyfrifoldeb am redeg GIG Cymru ym 1999, rydym wedi gweld cwymp o 29 y cant yn nifer y gwelyau sydd ar gael yn ddyddiol. Er bod yr ystadegau hyn yn warthus, mae'r dioddefaint y mae llawer yn ei wynebu oherwydd y mater hwn yn real iawn. Daeth yn amlwg fod claf wedi cael ei orfodi i aros am 41 awr cyn i griwiau ambiwlans drosglwyddo gofal i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, ac o ystyried mai 15 munud yw'r amser targed, mae hyn yn dangos bod ei alw'n fethiant yn feirniadaeth rhy garedig ar y broblem hon. Ac mewn gofal cymdeithasol, mae angen uchelgais arnom i gyflawni system sy'n addas i'r diben fel y gellir rhyddhau cleifion yn ddiogel. Ar hyn o bryd, adnoddau a lefelau staffio isel yw'r prif resymau pam nad yw cleifion yn cael eu rhyddhau, sydd yn ei dro yn creu tagfa yn y system gyfan, gan arwain at adrannau damweiniau ac achosion brys gorlawn ac arosiadau hir am ambiwlansys, ac rydym yn gweld y pethau hyn yn rhy aml.
Rhan o'r rheswm am hynny yw bod lefelau staff gofal cymdeithasol yn isel, ac mae'r amodau a'r cyflogau i staff yn isel. Lle mae Llywodraeth Cymru yn nofio yng ngogoniant eu cyflog byw gwirioneddol ar £9.50 yr awr, nid yw'n ddigon. Felly, rwy'n galw am gysondeb rhwng tâl staff gofal cymdeithasol a graddfeydd cyflog y GIG ac amcangyfrifir y byddai hynny'n costio oddeutu £9 miliwn i'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod modd ei wneud a byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai'r Gweinidog gyfeirio at hyn wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma. Oherwydd gadewch inni beidio ag anghofio nad gweithio naw tan bump o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig y bydd staff gofal cymdeithasol yn ei wneud; maent yn gweithio 24 awr, saith diwrnod yr wythnos, maent yn gweithio ar y penwythnosau, yn y nos, oriau anghymdeithasol ac yn aros dros nos. Felly, rwy'n credu ei bod yn hen bryd iddynt gael eu gwobrwyo am eu hymrwymiad i helpu ein pobl fwyaf agored i niwed a'n bod yn gwneud gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn fwy deniadol.
Gan droi at y gaeaf, os caf, ac fel y soniais yn y pwyllgor iechyd ddydd Iau diwethaf, rwy'n mynd yn bryderus iawn ar yr adeg hon o'r flwyddyn wrth i'r tymheredd ostwng ac wrth i'r nosweithiau dynnu i mewn, a hynny'n syml am ein bod, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn gweld y straeon arswyd yn ddyddiol, wrth i bwysau waethygu yn ystod y misoedd oerach. Mae'n ddigon hawdd siarad am gynlluniau'r gaeaf pan fyddwn yn ei ganol, ond yr hyn a fyddai orau inni ei wneud fyddai cynllunio ar gyfer y gaeaf pan fo'r haul yn tywynnu a sicrhau bod gennym yr adnoddau cywir yn eu lle mewn ffordd ragweithiol, fel y gallwn wneud ein gorau i ddiogelu ein pobl rhag y cyflyrau iechyd y gall tywydd garw'r gaeaf eu hachosi.
Hoffwn orffen fy araith heddiw drwy ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, a staff gweithgar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac wrth gwrs, yr holl dystion sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad hwn y prynhawn yma. Diolch.