1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2022.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith argyfwng ariannol y DU ar ei chynlluniau presennol ar gyfer defnyddio ei phwerau benthyg? OQ58592
Llywydd, nid yw pwerau benthyca Llywodraeth Cymru wedi newid ers 2016. Dylid diweddaru ein terfynau benthyca blynyddol a chyfanredol nawr yn unol â chwyddiant dilynol, fel yr argymhellir gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Yn y cyfamser, mae cost refeniw benthyca wedi codi'n sydyn, wedi'i achosi gan y difrod a achoswyd gan Brif Weinidog y DU.
Diolch. O ran pwerau benthyca, roeddwn eisiau gofyn am eich myfyrdodau ar gyhoeddiad diweddaraf y Sefydliad Materion Cymreig, 'Fiscal Firepower: Effective Policy-Making in Wales', sy'n galw am ddiwygio pwerau benthyca Llywodraeth Cymru. Hefyd, o ystyried y ffaith hysbys iawn fod Prif Weinidog y DU yn gwrthod ymgysylltu â chi yn rhinwedd eich swydd yn Brif Weinidog Cymru, a bod y polisi drws troi yn ymddangos fel pe bai ar waith yn y Trysorlys, sut mae eich gweinyddiaeth yn ceisio ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym y pwerau ariannol sydd eu hangen arnom i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw?
Wel, Llywydd, roeddwn i'n falch bod yna alwad ffôn gan y Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys i'n Gweinidog Cyllid yn gynharach yr wythnos hon, yn egluro'r gyfres o newidiadau a gafodd eu gwneud gan y Canghellor i'r pethau yr oeddem ni'n cael gwybod y byddai'n digwydd dim ond yr wythnos diwethaf. Ac yr wyf i wedi cael gwybod bod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid—cyfarfod y Gweinidogion cyllid—sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 20 Hydref, yn mynd i fynd yn ei flaen. Felly, rwy'n credu bod hynny'n arwydd da o ddull mwy cadarnhaol o ymgysylltu gan y tîm newydd yn y Trysorlys. Lle yr ydym ni'n gallu, byddwn ni, wrth gwrs, yn mynd ati i wneud yr achos yr ydym ni wedi'i wneud ers peth amser. Roeddwn i'n gyfrifol am drafod y fframwaith cyllidol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, David Gauke. Ers hynny, mae'r arian yng nghyllideb Llywodraeth Cymru wedi cynyddu 40 y cant, ond mae'r holl ffigyrau a gafodd eu trafod yn 2016 wedi parhau i fod lle'r oedden nhw bryd hynny. Felly, cawson nhw eu cynllunio i alluogi Llywodraeth Cymru i ymdrin yn well â'r cyfrifoldebau cyllidol sydd ganddyn nhw—dyma'r terfyn benthyca blynyddol, dyma'r terfyn benthyca cyfanredol, dyma'r swm o arian y gallwn ni ei roi i mewn a'i dynnu o gronfa wrth gefn Cymru. Mae'r rhain yn bethau hollol ymarferol sydd wedi'u cynllunio i wneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus, ac eto, rydym ni'n sownd wrth ffigyrau oedd yn iawn dros bum mlynedd yn ôl, ond yn sicr, nid ydyn nhw'n iawn ar gyfer y gyllideb sydd gennym ni heddiw.
Mae cyhoeddiad Sefydliad Materion Cymreig yn tynnu sylw at hynny i gyd ac yn awgrymu sail wahanol ar gyfer benthyca Llywodraeth Cymru. Mae ein gallu i fenthyg wedi'i gapio'n flynyddol ac ar sail gyfanredol gan Lywodraeth y DU. Mae papur y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu dull benthyca darbodus ar gyfer Llywodraeth Cymru, a fyddai'n golygu y byddem ni yn yr un lle â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent—nid oes ganddo derfyn artiffisial ar faint o gyfalaf y gall ei fenthyg; mae'n rhaid iddo ddangos bod ei fenthyca yn fforddiadwy ac yn ddoeth, ac yna mae'n cael benthyg yr hyn y gall ei fforddio. Nid yw'n ymddangos yn synhwyrol bod y gallu hwnnw sydd yno i awdurdodau lleol ond yn cael ei wrthod i Lywodraeth Cymru, ac rydym ni'n mynd ati i gyflwyno'r achos dros ddiwygio, a byddwn ni'n ei wneud gyda'r set ddiweddaraf o Weinidogion yn y Trysorlys.
Diolch i'r Prif Weinidog.