1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2022.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni sgrinio cenedlaethol y GIG ar sail poblogaeth ledled Cymru? OQ58554
Mae sgrinio poblogaeth yn gyfrifoldeb craidd iechyd y cyhoedd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu gwasanaethau sgrinio canser. Mae'n goruchwylio gwelliannau i raglenni, gan gynnwys yr estyniad diweddar yn y garfan oedran sy'n gymwys i gael gwasanaeth sgrinio'r coluddyn yng Nghymru.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae gennym raglen sgrinio ardderchog yng Nghymru. Rwy'n croesawu'r gostyngiad yn yr oedran ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn. Rwy'n credu'n gryf bod sgrinio yn bwysig, ond mae'n anffodus na all pobl gael amser i ffwrdd o'r gwaith i fynd i gael eu sgrinio. A fydd y Prif Weinidog yn cefnogi'r galw i bob un o'r staff a gyflogir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru gael amser i fynd i apwyntiadau sgrinio?
Rwy'n hapus iawn i gadarnhau i'r Aelod bod hawl gan bob person sy'n cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gael amser i ffwrdd i fynd i apwyntiadau sgrinio. Byddwn i wedi meddwl y byddai'n fantais wirioneddol i unrhyw gyflogwr i wneud yn siŵr ei fod yn cefnogi ei staff i wneud hynny. Yr ased pwysicaf sydd gan unrhyw gyflogwr yw'r bobl sy'n gweithio i'r gwasanaeth hwnnw neu'r busnes hwnnw, a bydd y gwasanaethau sgrinio effeithiol iawn sydd gennym yma yng Nghymru yn helpu i gadw'r aelodau staff hynny yn heini ac yn iach ac yn eu galluogi nhw i fod mewn gwaith. Felly, rwy'n credu ei fod nid yn unig er budd yr unigolyn ond er budd y busnes hefyd.
Os caf i, efallai, gyfeirio at yr hyn a ddywedodd Mike Hedges am ymestyn oedran sgrinio'r coluddyn, dim ond i roi un darlun o effeithiolrwydd y rhaglenni hynny. Os yw rhywun â chanser y coluddyn ac mae'r canser hwnnw’n cael ei ganfod yn sgil ymyrraeth frys yn eu bywydau oherwydd pethau eraill sydd wedi mynd o'i le, bydd pump o bob 10 o'r bobl hynny yn goroesi. Os yw rhywun yn cael diagnosis o ganser y coluddyn gan ei feddyg teulu, fe fydd saith o bob 10 o'r bobl hynny yn goroesi. Os cewch ddiagnosis o ganser y coluddyn o ganlyniad i sgrinio, bydd naw o bob 10 o bobl yn goroesi, ac mae hyn yn dangos, onid yw, gwir arwyddocâd y gwasanaethau sgrinio hynny. Ac rydym eisiau gwella'r nifer sy'n manteisio ar sgrinio'r coluddyn a gwasanaethau sgrinio eraill. Felly, mae er budd unigolion yn llwyr, ond mae er budd y bobl sy'n eu cyflogi nhw hefyd i wneud yn siŵr, pan welwch chi ffigurau goroesi o'r math yna, y dylai pobl gael eu rhyddhau pan fo angen eu rhyddhau oherwydd iddyn nhw gael eu gwahodd i gael y gwasanaeth sgrinio hwnnw.
Diolch Prif Weinidog, am y ffigurau yna. Prif Weinidog, yn gywilyddus, rydym yn llusgo y tu ôl i genhedloedd eraill sy'n cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn i bobl 50 oed a hŷn. Mae hwn yn warth cenedlaethol. Mae pobl sy'n byw yn Yr Alban ac yn Lloegr yn cael cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn, ac wedi cael hynny ers blynyddoedd. Mae'n gwbl anghredadwy nad ydych chi wedi ymestyn y rhaglen sgrinio i'r grŵp oedran hwnnw. Beth yw'r her yng Nghymru sy'n ymddangos yn benodol i Gymru, ac a fyddwch chi'n ymrwymo i gyflwyno estyniad i'r gwasanaethau i bobl dros 50 oed? Diolch.
Wel, Llywydd, mae arna i ofn nad ydw i'n adnabod y disgrifiad a gynigwyd gan yr Aelod. Fel y clywsoch chi Mike Hedges yn dweud, mae ystod oedran y bobl sy'n gymwys i gael sgrinio'r coluddyn yng Nghymru yn cael ei ymestyn, ac mae yna gynllun pwrpasol iawn i barhau i leihau'r oedran hwnnw ac, ar yr un pryd, i wneud y prawf ei hun yn fwy effeithiol o ran diagnosis. Mae sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru, yn enwedig ers i'r prawf newydd, y prawf imiwnogemegol ar ysgarthion, gael ei gyflwyno yn Ionawr 2019, yn stori lwyddiannus. Rydym ni'n perswadio mwy o bobl i'w gymryd nag erioed o'r blaen. Mae'r canlyniadau y maen nhw'n eu cael yn fwy cywir nag y buon nhw erioed, ac o ganlyniad i ostwng yr ystod oedran, bydd 172,000 o bobl ychwanegol yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio rhwng mis Hydref, y mis hwn, a mis Medi'r flwyddyn nesaf. Rwy'n credu bod honno'n stori o lwyddiant, ac mae'n deyrnged i'r bobl ymroddedig iawn hynny sydd wedi gweithio mor galed i'w gwneud yn llwyddiant.