1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2022.
2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ58587
Diolch. Mae 'Llwybr Newydd', strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn nodi ein cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon, nid yn unig yn Nwyrain De Cymru, ond ledled y wlad.
Diolch am yr ateb.
Cwyn gyffredin yn ystod cymorthfeydd stryd yw cyflwr y rhwydwaith bysiau. Mae’r gwasanaeth hwn yn achubiaeth i gynifer o bobl ac mae hynny’n arbennig o wir ym Mlaenau Gwent, lle mae perchnogaeth ceir yn isel a lle ceir cyfran uwch o bobl hŷn nag mewn llawer o etholaethau eraill. Yn anffodus, pe baech am deithio ar fws rhwng Aber-bîg a Chwm—taith 10 munud mewn car—byddai’n cymryd awr a 44 munud, gan ei fod yn mynd y ffordd hir o gwmpas. A wnewch chi roi syniad o’r broses o gyflwyno amserlen fysiau newydd ynghyd â'r gyllideb ar gyfer hynny? A wnewch chi hefyd ymgynghori â defnyddwyr bysiau yn y cymunedau lle mae llwybrau’n gweithredu fel bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio gyda hwy mewn cof?
Wel, rwy’n angerddol am y rôl y mae’r bws yn ei chwarae yn y system drafnidiaeth gynaliadwy. Mae wedi bod yn rhan o’r ddadl sydd wedi’i hesgeuluso ers yn rhy hir o lawer. Rydym yn ymdrin â gwaddol preifateiddio, sy’n ei gwneud yn anodd iawn mabwysiadu ymagwedd strategol, oherwydd yn y bôn, gall cwmnïau preifat gynnal y gwasanaethau y maent yn dymuno eu cynnal, a gwyddom, ar ôl blynyddoedd o gyni, nad oes gan gynghorau arian i ddarparu gwasanaethau ar gyfer angen cymdeithasol. Felly, mae angen diwygio'r peth yn gyfan gwbl. Rydym yn ymgynghori ar ein Papur Gwyn ar fysiau. Rydym wedi cael llawer o ymatebion cadarnhaol, a byddwn yn cyhoeddi crynodeb ohonynt cyn bo hir, ac yna rydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf, i bennu system fasnachfreinio. A phwrpas hynny yw caniatáu inni nodi, gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol, sut olwg sydd ar rwydwaith o lwybrau, i alluogi bysiau i fod yn opsiwn ymarferol i’r rhan fwyaf o bobl. Gwyddom nad yw oddeutu hanner ein pobl byth yn mynd ar y bws, ac os ydym am gyflawni ein targedau newid hinsawdd, mae’n rhaid i hynny newid. Felly, mae angen iddynt fod yn ddibynadwy, mae angen iddynt fod yn fynych, mae angen iddynt fod yn fforddiadwy. Er mwyn gwneud hynny, mae angen llawer o waith plymio ar y system, ac rydym yn cychwyn ar y daith honno. Yn anffodus, nid yw’n daith gyflym, ond credaf ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
Ddirprwy Weinidog, ym mis Mehefin y llynedd, gofynnais i’r Prif Weinidog am y posibilrwydd y byddai'n cyflwyno cerdyn teithio Cymru gyfan, i ganiatáu i bobl o bob cefndir economaidd-gymdeithasol a phob grŵp oedran gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Byddai cyflwyno cerdyn o’r fath yn sicrhau teithio mwy di-dor i drigolion, cymudwyr, a myfyrwyr, yn ogystal ag annog twristiaeth, a thrwy hynny, yn ysgogi gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, drwy gynyddu nifer y teithwyr a’r galw. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog fod llawer iawn yn werth ei archwilio yn y syniad, a rhoddodd ymrwymiad i archwilio’r posibilrwydd o gerdyn, i wella cysylltedd trafnidiaeth ledled Cymru. Fodd bynnag, Ddirprwy Weinidog, pan gyflwynais gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynlluniau, fe wnaethoch ateb ar 11 Hydref 2022, gan gyfeirio at amrywiol gynlluniau tocynnau teithio consesiynol sy'n bodoli eisoes a dweud eich bod yn archwilio opsiynau ar gyfer tocynnau integredig gyda Trafnidiaeth Cymru. Mae’n swnio'n debyg i mi, Ddirprwy Weinidog, fel pe baech yn arllwys dŵr oer ar y syniad o gerdyn teithio Cymru gyfan. Felly, a fyddech cystal â chadarnhau beth yw eich safbwynt ar hyn, ac a ydych chi wir yn cytuno â'r Prif Weinidog fod hwn yn gynnig sy'n werth ei archwilio?
Wel, rydym yn sicr yn meddwl amdano, ond fel rwyf newydd ei egluro, gan fod gennym system dameidiog sydd wedi'i phreifateiddio, nid yw mor syml ag y mae'n swnio, gan fod gan weithredwyr gwahanol systemau gwahanol, nid oes gennym allu i'w gorfodi, gan mai cwmnïau masnachol ydynt. A holl bwynt newid i system fasnachfraint ledled Cymru, gyda safonau ar gyfer gweithwyr a theithwyr, yw caniatáu mwy o gyffredinedd rhwng gwasanaethau. Ac mae hynny’n cynnwys tocyn bws, trên a theithio llesol cyfnewidiadwy, y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio arno. Ond hyd nes y cawn y gwaith plymio hwnnw'n iawn, ni allwn wneud hynny. Ac mae arnaf ofn mai gwaddol preifateiddio yw'r sefyllfa yr ydym yn byw gyda hi heddiw, ac mae'n un yr ydym yn gweithio'n galed i'w goresgyn.
Gwn ein bod yn awyddus i edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl, ond mae’n werth nodi mai’r rheswm pam fod gennym wasanaeth bysiau o gwbl bellach yw oherwydd y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, a’i gynllun olynol, a gychwynnwyd yn ystod argyfwng y coronafeirws. Ac roedd honno'n enghraifft o Lywodraeth Cymru yn camu i'r adwy i gynorthwyo gwasanaeth preifat. Nawr, credaf fod gan y gwasanaeth preifat le i dalu'n ôl i ni, ac ni chredaf fod hynny'n digwydd. Beth a welwn yng nghwm Aber, er enghraifft? Mae llawer o etholwyr wedi cwyno wrthyf am wasanaethau'n cael eu canslo. A'r hyn y mae gwir angen inni ei weld yw rhyw fath o reolaeth gyhoeddus dros hyn. Nawr, rwyf wedi sylwi bod y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraethiant bysiau a fu'n destun ymgynghoriad yn mynd ymhellach na chynigion y Bil bysiau, felly byddai'n ddiddorol clywed yr ymatebion i'r ymgynghoriad. A wnewch chi roi syniad i ni pryd y byddwch yn eu cyhoeddi? Gwn eich bod wedi dweud y byddwch yn gwneud hynny cyn bo hir, ond a wnewch chi roi syniad clir i ni pryd y byddwch yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad bysiau, a phryd y byddwn yn clywed mwy am gynnydd y Papur Gwyn?
Diolch. Y bwriad yw gwneud hynny y mis hwn. Mae llawer iawn yn digwydd mewn perthynas â'r agenda diwygio bysiau. Rydym yn edrych ar fater tocynnau teithio, rydym yn edrych ar fater rhaglennu—fel y dywedaf, nid yn unig rhoi’r fframwaith deddfwriaethol ar waith ar gyfer caniatáu masnachfreinio, ond gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol ar ble y dylai’r llwybrau hynny fynd. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud gwaith manwl yng ngogledd Cymru fel cam cyntaf ar gyfer y gwaith o fapio ble y dylid cael llwybr bws delfrydol, sydd wedyn yn caniatáu inni gynnwys hynny yn y fasnachfraint, pan fyddwn yn ei chyflwyno a phan fyddwn yn ei gosod.
Rydych yn llygad eich lle ein bod wedi rhoi swm sylweddol o arian i'r diwydiant bysiau—oddeutu £150 miliwn o gyllid brys. Fel y dywedwch, heb hynny, ni fyddai diwydiant bysiau i'w gael yn y rhan fwyaf o Gymru. Fis Mehefin eleni, fe wnaethom gyhoeddi pecyn cymorth pellach o £48 miliwn, ac mae amodau ynghlwm wrtho—mae’n fargen rhywbeth-am-rywbeth. Ac mewn gwirionedd, mae'r berthynas waith a gawsom gyda'r diwydiant wedi bod yn gynhyrchiol iawn, sydd yn fy marn i yn ein paratoi ar gyfer masnachfreinio. Oherwydd am y tro cyntaf, credaf fod y rhwystrau wedi'u dymchwel, lle roedd y sgwrs yn arfer bod, weithiau, yn gynhennus, wrth iddynt hwy fynnu eu hawliau fel gweithredwyr masnachol. Mae bellach yn llawer mwy o bartneriaeth, ac mae gennym fynediad at ddata amser real ar y llwybrau y maent yn eu darparu a'r arian y maent yn ei gynhyrchu, ac mae hynny wedyn yn caniatáu inni lunio system newydd yn llawer gwell.
A bod yn deg â’r diwydiant bysiau, maent yn wynebu pwysau sylweddol, gyda gweithlu sydd wedi bod yn crebachu, gyda gyrwyr bysiau hŷn ddim yn dychwelyd ar ôl y pandemig, anawsterau recriwtio, yn ogystal â chostau cynyddol oherwydd chwyddiant. Felly, mae llawer o bwysau ar y diwydiant. Dyna pam ein bod yn credu mai eu rhoi ar sylfaen fwy cadarn, o dan system fasnachfreinio drefnus a thryloyw, yw’r ffordd i newid dulliau teithio.