1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2022.
3. Pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran cael pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ58553
Nid yw nifer y teithwyr sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi dychwelyd i'w lefelau cyn COVID, ond rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i chwilio am ffyrdd o ddod â phobl allan o’u ceir ac i ddefnyddio dulliau mwy cynaliadwy.
Diolch. Weinidog, rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros adfer gwasanaethau bysiau mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr a Phen-y-fai yn dilyn penderfyniad cwmni bysiau Easyway i roi’r gorau i fasnachu. Nid oes gan bobl heb geir sy’n byw ym Mhen-y-fai a’r ardaloedd eraill yr effeithir arnynt unrhyw ffordd o fynd i siopa, ymweld â’r ysbyty neu gael mynediad at lawer o wasanaethau eraill oni bai eu bod yn talu am dacsi, ac mae diffyg llwybrau teithio llesol hefyd. Rwyf hefyd yn pryderu am golli gwasanaeth sy'n mynd heibio i Ysbyty Glanrhyd. Roedd y llwybrau yr effeithiwyd arnynt yn fasnachol hyfyw, ac nid yw cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dangos llawer o ddiddordeb mewn mynd i'r afael â'r broblem. Sut y gall pobl fod yn hyderus fod trafnidiaeth gyhoeddus yn gynnig deniadol pan ydym yn colli llwybrau bysiau mawr eu hangen, ac a wnaiff y Gweinidog ymyrryd?
Fel y buom yn ei drafod yn gynharach, rydym yn cyflwyno deddfwriaeth i roi system fysiau well, fwy cydlynol ar waith. Ceir nifer o heriau. Fel y nododd, mae llawer o bobl yn dibynnu ar y gwasanaeth bws. Gwyddom nad yw chwarter yr holl aelwydydd yn berchen ar gar. Mae ymchwil gan Trafnidiaeth Cymru o’u teithwyr eu hunain yn awgrymu nad oes car gan 80 y cant o bobl sy’n teithio ar y bws. Felly, mae gennym ymdeimlad go iawn o anghyfiawnder trafnidiaeth yma, anghyfiawnder cymdeithasol, fel y'i hadlewyrchir yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio dulliau trafnidiaeth. Ceir angen arbennig i sicrhau bod gwasanaethau bws o ansawdd da ar gael i bobl ifanc ac i bobl ar incwm is yn enwedig, ond rydym am i'r bws fod yn rhywbeth i bawb, nid i'r rhai nad oes ganddynt ddewis yn unig. Rydym am iddo fod yn ddigon da fel ei bod yn well mynd ar fws nag mewn car. Mae angen cyfres o ddiwygiadau systemig i wneud hynny, ac rydym wedi dechrau'r broses honno.
Dylwn ddweud wrth yr Aelod fod awdurdodau lleol fel Pen-y-bont ar Ogwr yn arfer darparu cymhorthdal i gefnogi llwybrau, ond mae 10 mlynedd o gyni wedi golygu nad yw’r cyllid dewisol a fu ganddynt ar gael mwyach. Nawr, gwn nad yw meinciau’r Ceidwadwyr yn hoffi cael eu hatgoffa o’r ffeithiau ariannol, ond pan fydd arbrofion asgell dde yn cael eu cyflawni yn San Steffan, mae iddynt ganlyniadau i fywydau pobl go iawn. A phan nad oes arian ar gael yn y gyllideb, mae gwasanaethau dewisol—gwasanaethau anstatudol fel llwybrau bysiau—yn cael eu torri. Felly, mae canlyniad i'r polisïau a gyflwynir gennych, ac yna rydych yn cwyno pan fydd y canlyniadau hynny'n cael eu gwireddu mewn bywyd go iawn. Mae arnaf ofn mai rhagrith yw hynny.
Rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r problemau systemig, ond heb y cyllid, ni allwn wneud hynny. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, gwyddom mai’r toriad mwyaf a gawsom i gyllideb Llywodraeth Cymru mewn dros 20 mlynedd o ddatganoli oedd yr un gan y Canghellor George Osborne, pan dorrodd ein cyllideb 3 y cant, ar ôl degawd o gyllidebau cynyddol o dan Lafur. Ers hynny, rydym wedi cael degawd o dorri cyllidebau o ganlyniad i gyni. Ac yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan fod Prif Weinidog y DU a’r Canghellor—y pleidleisiodd llawer o’r Aelodau yma drostynt—wedi dinistrio ein heconomi, rydym bellach yn wynebu toriadau gwariant o nid 3 y cant, ond 15 y cant. O dan y mathau hynny o doriadau, yn syml iawn ni fydd gennym y gallu i ddarparu gwasanaethau bws i’r rhai sydd eu hangen. Felly, mae’n rhaid ichi edrych ar eich cydwybod eich hun, yn hytrach na sefyll yma'n dweud wrthyf y dylwn ymyrryd. Chi a ddylai ymyrryd i wrthdroi'r polisïau hurt hyn yn San Steffan.
Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael pobl o'u ceir yw perswadio pobl i gerdded neu feicio teithiau byr, a gwn eich bod yn cytuno, Weinidog. Yn amlwg, y buddugoliaethau cyflymaf fydd dileu'r defnydd o geir ar gyfer teithio i'r gwaith a theithio i'r ysgol. Mae'n ymwneud â mwy na chreu gwell seilwaith beicio ar ein ffyrdd. Mae angen cynlluniau benthyg hefyd i deuluoedd sydd methu fforddio prynu beic i'w plentyn, ac sy'n cael trafferth talu £3 y dydd am gludiant i'r ysgol.
Mae un o'r ysgolion uwchradd yn fy etholaeth yn cynnig ymgorffori llwybrau beicio diogel yn eu trefniadau pontio ar gyfer plant 11 oed, ond yn anffodus, nid yw'r awdurdod lleol, ar hyn o bryd, yn gallu darparu map o'r llwybrau beicio diogel i ni ar gyfer yr ardaloedd y bydd eu darpar ddisgyblion yn dod ohonynt. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa waith a wnewch gydag awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn meddwl am y broblem hon fel problem ddiwylliannol yn hytrach na dim ond problem ffyrdd—a gweithio gyda'n hysgolion a'n cyflogwyr ar hyn.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr. Rydym yn byw gyda gwaddol diwylliant lle roedd mwy o flaenoriaeth i geir nag i bobl, a lluniwyd rhwydwaith priffyrdd cyfan o gwmpas gwneud i geir fynd yn gyflymach, yn hytrach na meddwl sut i annog pobl i gerdded neu feicio. Fel y gŵyr Jenny Rathbone, mae tua 10 y cant o'r holl deithiau o dan un filltir. Nawr, mae'r rhain yn deithiau y gellid eu cerdded neu eu beicio mewn llawer o achosion ond oherwydd arfer, cânt eu gyrru yn y rhan fwyaf o achosion. Felly, mae gennym her ddiwylliannol, ac yna mae gennym her seilwaith, oherwydd mae pobl yn amharod pan nad ydynt yn teimlo'n ddiogel neu os yw dod allan o'u ceir yn brofiad newydd iddynt.
Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol—un o'r cynghorau mwyaf blaengar yng Nghymru mae'n debyg—ar ddatblygu teithio llesol. Mae ganddo, fel y gwyddoch, rwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i gynhyrchu map bob tair blynedd, yn seiliedig ar ymgynghori â chymunedau, sy'n dangos lle dylai seilwaith y dyfodol fynd. Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno ei fap diweddaraf i ni, ac mae'n dangos bod dull trylwyr wedi ei fabwysiadu i sicrhau bod pob ysgol yn gysylltiedig â'r rhwydwaith teithio llesol arfaethedig. Nawr, bydd rhoi'r rhwydwaith hwnnw ar waith yn cymryd amser. Yn y cyfamser, mae Cyngor Caerdydd, yn rhannol drwy ei adnoddau ei hun, yn gweithio gydag ysgolion unigol, drwy ymyrraeth swyddogion, i geisio gwneud cynlluniau mwy meddal, y tu hwnt i'r seilwaith caled, i annog newid ymddygiad. Felly, rwy'n credu bod gwaith da iawn yn digwydd yng Nghaerdydd.
Maent wedi bod yn gwneud gwaith ar Strydoedd Saffach hefyd, ac rydym wedi bod yn treialu hyn gyda Sustrans yng Nghasnewydd. Mae arian ar gael yn awr, fel rhan o'r prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, i gau strydoedd y tu allan i ysgolion yn ystod amseroedd codi a gollwng. Lle cafodd hynny ei dreialu, mae wedi bod yn hynod lwyddiannus. Mae hwnnw ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru gymryd rhan ynddo. Yn anffodus, ychydig iawn sydd wedi cynnig ceisiadau, ond mae'n agored iddynt wneud hynny'n flynyddol. Rwy'n cyfarfod ag aelodau trafnidiaeth cynghorau yn ystod yr wythnosau nesaf i wthio'r agenda hon yn gyson. Mae'n ymwneud yn rhannol ag adnoddau a gallu swyddogion, ac yn rhannol â diwylliant a pharodrwydd. Ond mae hyn yn hollbwysig fel rhan o'n hagenda i newid dulliau teithio.