1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2022.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflenwad cynaliadwy o dai? OQ58556
Rydym yn cefnogi'r sector tai i barhau i gyflenwi cartrefi newydd yng nghyd-destun yr heriau presennol. Mae ein dull newydd o asesu'r farchnad dai leol yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gynllunio cyflenwad tai cynaliadwy a fydd yn ateb yr angen lleol.
Diolch am eich ymateb. Yn ôl ffigurau diweddaraf Stats Cymru, cafodd 7,492 o gartrefi cymdeithasol newydd eu darparu yng Nghymru yn ystod 12 mlynedd gyntaf y Llywodraeth Lafur ddatganoledig, gydag 11 ohonynt yn cyd-fynd â Llywodraeth Lafur y DU—cwymp o 73.45 y cant ar y 28,215 o gartrefi cymdeithasol newydd a gafodd eu darparu yng Nghymru yn ystod 12 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol y DU hyd at 1997. Nododd adolygiad tai y DU yn 2012 mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd flaenoriaeth is i dai yn ei chyllidebau cyffredinol, ac felly erbyn 2009-10, ganddi hi yr oedd y lefel gyfrannol isaf o bell ffordd o wariant ar dai ymhlith y pedair gwlad. Yn 2019, y flwyddyn uchaf ar gyfer cofrestru cartrefi newydd yn y DU ers 2007, gostyngodd y niferoedd yng Nghymru dros 12 y cant. Mae hyd yn oed y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer chwarter 2 eleni yn dangos mai Cymru oedd yr unig genedl neu'r unig ranbarth o 12 yn y DU i weld nifer y tai newydd a gwblhawyd wedi lleihau. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw un o'r ffigurau swyddogol hyn, gallaf eu hanfon atoch.
Felly, os nad ydych yn anghytuno â'r rhain, pryd y gwnewch chi roi'r gorau i ddweud a dechrau gofyn i'r sector tai cyfan, gan gynnwys darparwyr tai traws-sector, sut i fynd i'r afael ag argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy hirsefydlog Llafur yng Nghymru, rhywbeth y dechreuais i a'r sector cyfan—a Phlaid Cymru ar y pryd—rybuddio Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gylch tua 18 mlynedd yn ôl?
Wel, wyddoch chi, Mark, byddwn yn dweud unwaith eto fod gallu'r Ceidwadwyr i ddyfynnu ystadegau y tu hwnt i'r sefyllfa facro-economaidd yn rhyfeddol. Felly, mae'r Llywodraeth hon wedi gosod y lefelau uchaf erioed o gyllid grant tai cymdeithasol drwy'r gyllideb, felly £300 miliwn, a dyraniadau cyllideb ddangosol ddrafft o £330 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf a £325 miliwn ar gyfer y flwyddyn ar ôl honno, yn amodol, wrth gwrs, ar yr anhrefn lwyr a welwn yn San Steffan. Yng ngogledd Cymru mae'r grant tai cymdeithasol wedi cynyddu o £48,533,745 a wariwyd yn 2021-22 i £65,750,153 o ddyraniad yn 2022-23. Felly, cynnydd sylweddol iawn—mae bron iawn wedi'i ddyblu, mewn gwirionedd.
Ni yw'r wlad gyntaf i fandadu bod yr holl gartrefi newydd a ariennir gan y grant tai cymdeithasol wedi'u cynllunio i sgôr EPC A, drwy ofynion ansawdd datblygu Cymru a gafodd eu lansio ym mis Gorffennaf 2021. Mae hyn yn ymwneud â mwy na dim ond adeiladu unrhyw hen dŷ, ei godi rywsut-rywsut a gwneud yn siŵr eich bod yn gallu galw hwnnw'n adeilad newydd. Mae eich Llywodraeth eich hun wedi gorfod penodi ombwdsmon cartrefi newydd oherwydd cyflwr cwbl warthus nifer o'r cartrefi newydd yr oeddech mor hapus i ddarllen yr ystadegau arnynt, Mark. Maent yn hollol warthus. Maent wedi cael eu hadeiladu'n wael, maent yn ddrafftiog, maent yn anodd i fyw ynddynt, ac maent yn llythrennol wedi gorfod penodi ombwdsmon i reoli'r farchnad. Mae'n llawer gwell cael asesiad priodol o'r farchnad dai leol, y lefel gywir o ddeiliadaeth gymysg, a'r lefel gywir o insiwleiddio a niwtraliaeth carbon nag adeiladu unrhyw hen beth yn unrhyw hen le a rhoi tic i chi'ch hun.