2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2022.
4. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch y strategaeth arloesi i Gymru? OQ58571
Ie. Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Medi eleni, gyda dros 150 o gyflwyniadau ysgrifenedig yn dod i law. Mae dadansoddiad o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y gweill yn awr a byddwn yn parhau i weithio gydag Aelodau dynodedig Plaid Cymru, yn unol ag ymrwymiad y cytundeb cydweithio, i ddatblygu strategaeth arloesi newydd ar y cyd.
Diolch, Weinidog. Mae prifysgolion Cymru, wrth gwrs, yn hanfodol i'r economi, gan gynhyrchu dros £5 biliwn a bron i 50,000 o swyddi. Hoffwn dynnu sylw at rai pryderon a godwyd ynglŷn â'r strategaeth ddrafft. Yn y cyfarfod grŵp trawsbleidiol STEM fis diwethaf, awgrymwyd nad yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu clustnodi unrhyw arian newydd ar gyfer y strategaeth, gydag argymhellion adolygiad Reid wedi'u diystyru ac nad yw gwyddoniaeth yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth. Mae'r Sefydliad Ffiseg yn nodi bod y strategaeth ddrafft yn cydnabod yr angen yn awr i Gymru ennill mwy o gyllid Ymchwil ac Arloesi'r DU, UKRI, i wneud iawn am golli cronfeydd strwythurol, ond nid yw'n cynnwys mesurau ymarferol i helpu ymgeiswyr o Gymru i ennill mwy o arian, gyda'u glasbrint ymchwil a datblygu yn nodi nad yw cyllid sy'n gysylltiedig ag ansawdd wedi dal i fyny â chwyddiant ers degawd. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cyfeirio at y diffyg presennol o £18 miliwn ar gyfer cyllid ymchwil a datblygu yn ein prifysgolion, sy'n cyfyngu'n sylweddol ar eu gallu i wneud cais am ffrydiau ariannu ar gyfer y DU, gan lesteirio gallu Cymru i ganiatáu i ymchwil sbarduno economi ffyniannus. Ac yn ôl Prifysgol Caerdydd, ceir diffyg blaenoriaethau penodol ac ymrwymiadau ariannol hanfodol yn y drafft presennol. Weinidog, a ydych yn cytuno y dylai strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru sicrhau bod Cymru'n gallu cael adnoddau ychwanegol er budd arloesi yng Nghymru, megis cyllid UKRI a chyllid elusennol ar gyfer ymchwil feddygol? A sut y bydd hyn yn digwydd heb gynnydd i gyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd? Diolch.
Diolch. Felly, mae cynnydd wedi bod yn y cyllid i ymchwil cysylltiedig ag ansawdd, a ddarparodd y Gweinidog addysg i sefydliadau addysg uwch. Rydych yn iawn fod gennym her wirioneddol gyda chael gwared ar gronfeydd strwythurol a dynodi cyllid yn ei le. Mae'n gwbl hanfodol i Gymru fod yn llawer mwy llwyddiannus wrth ennill arian UKRI. Mae hwnnw'n achos sy'n cael ei wneud yn uniongyrchol ac wedi cael ei wneud fwy nag unwaith. Rhan o fy rhwystredigaeth yw fy mod yn teimlo bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud gyda'r Gweinidog gwyddoniaeth blaenorol nad yw bellach yn y swydd; rwyf eto i gyfarfod â'r Gweinidog gwyddoniaeth presennol, ond rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny. Nid pwynt am degwch daearyddol yn unig yw hwn. Mae tegwch daearyddol yn her fawr y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr mewn gwirionedd. Felly, pe baech yn cael y sgwrs hon yng ngogledd Lloegr, byddai gennych yr un broblem, sef nad yw ansawdd yr ymchwil yn cael ei gydnabod yn y ffordd y caiff cyllid ei ddarparu. Mae hefyd yn ymwneud â nid yn unig bod cyllidwyr yn cydnabod yr ansawdd sy'n bodoli, ond hefyd ein bod ni, nid yn unig yn cyflwyno ceisiadau, ond yn cyflwyno ceisiadau da. Mae her reolaidd o fod angen pasio'r prawf ac nad yw'r prawf o reidrwydd yn adlewyrchu ansawdd y gwaith. Mae angen inni fod yn well o ran ansawdd y gwaith, am hyrwyddo hynny, ac yna o ran gwneud yn siŵr ein bod yn llwyddo i sicrhau bod gennym geisiadau llwyddiannus. Mae peth gwaith y gall y Llywodraeth ei wneud ar hynny, ond mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r sector cyfan yn cefnogi hynny ac yn cydnabod bod rhaid iddynt roi peth adnoddau tuag at gael mwy allan o gronfeydd cyllid y DU, sydd wedi cael eu cynyddu mewn gwirionedd. Mae mwy o arian ar gael ar gyfer ymchwil ac arloesi, ac mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn ag ennill cyllid ychwanegol. Pan fydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi, rwy'n disgwyl y bydd wedi nodi safbwynt cliriach ynglŷn â sut yr ydym yn disgwyl ennill cyllid ychwanegol. Cynhaliwyd trafodaeth bwrdd crwn defnyddiol ac adeiladol gan Brifysgol Caerdydd gydag amrywiaeth o bobl ynglŷn â sut i osod y strategaeth arloesi newydd at ei gilydd. Roeddwn i ac arweinydd Plaid Cymru yn bresennol, ac rwy'n edrych ymlaen at gael crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac at allu rhoi datganiad ar ddyfodol y dull strategol yma yng Nghymru.
Yn ôl eich dogfen ymgynghori, rhwng 2014 a 2020 roedd dros 450 o fuddsoddiadau corfforaethol yng Nghymru ar draws ystod eang o sectorau a busnesau, nifer ohonynt yn ymwneud â gweithgarwch ymchwil a datblygu. Fe wnaethant arwain at dros 21,200 o swyddi newydd, gyda 18,300 arall yn cael eu diogelu, gan gynrychioli buddsoddiad cyfalaf o £3.8 miliwn yng Nghymru. Beth y mae hyn yn ei ddweud wrthym am y potensial i gael buddsoddiad pellach o'r math hwn ar gyfer y dyfodol, a sut y mae sicrhau y gall y cymunedau sydd heb elwa hyd yma wneud hynny yn y dyfodol? Diolch.
Rydym yn ffyddiog yn ein huchelgeisiau o ran ein gallu i ddenu busnesau newydd i Gymru, yn ogystal â thyfu ac ehangu busnesau sydd eisoes wedi eu sefydlu yma. Enghraifft dda o hynny yw'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd. Yn ddiweddar, mynychais y seremoni arloesol gyda Jayne Bryant yn ei hetholaeth ar gyfer KLA Corporation—750 o swyddi newydd yn cael eu creu gyda chyflog cyfartalog disgwyliedig o £45,000. Mae hynny'n cynnwys gweithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu hefyd. Mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn cael gweithrediadau ymchwil a datblygu wedi'u lleoli yng Nghymru, nid yn unig y gweithrediadau nad ydynt yn ymchwil a datblygu yn benodol. Mae'n bendant yn ychwanegu gwerth, ac rydym yn chwilio am hynny ym mhob un o'r prosiectau y ceisiwn eu cefnogi, o fusnesau bach, i fentrau canolig a mwy o faint hefyd.