6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 19 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:45, 19 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi ein calonogi gan brosiect grid ynni'r dyfodol Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio dylanwadu'n rhagweithiol ar fuddsoddiad yn y grid yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym y bydd y cynllun gweithredu a gynhyrchir gan y prosiect yn nodi camau gweithredu ar gyfer rhwydweithiau, ar gyfer Ofgem a Llywodraeth Cymru,

'i alluogi gwaith cynllunio a gweithredu rhwydwaith system gyfan optimaidd, hirdymor.'

Nawr, mae hyn oll yn swnio'n gadarnhaol iawn. Ond wrth gwrs, a dyma faen tramgwydd posibl, bydd camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth y DU hefyd. Felly, Weinidog, pa mor hyderus ydych chi y bydd Llywodraeth y DU yn fodlon cyflawni'r camau hynny? A beth sy'n digwydd os ydynt yn gwrthod cydweithio?

Yn olaf ar y grid, Weinidog, rydych wedi sefydlu gweithgor grid i ystyried a yw eich cynnig gwreiddiol ar gyfer pensaer systemau ynni Cymru yn ymarferol. Efallai y gallech ddweud wrthym pryd y disgwyliwch gael ateb pendant ar hyn.

I symud ymlaen at rwystr allweddol arall i ddatblygu: y drefn gydsynio a thrwyddedu. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod trefn gydsynio effeithlon sydd â'r adnoddau priodol yn hanfodol er mwyn cefnogi twf y sector ynni adnewyddadwy. Mae'r drefn bresennol, wrth gwrs, yn ddiffygiol yn hyn o beth. Clywn am doriadau enfawr yng nghyllidebau awdurdodau cynllunio lleol, ac adnoddau annigonol i CNC, sy'n achosi oedi hir a chostus, weithiau, i brosiectau. Wrth gwrs, nid yw pryderon ynghylch cyllid i awdurdodau cynllunio a CNC yn newydd, ond os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei huchelgais ar gyfer ynni adnewyddadwy, ni all anwybyddu'r pryderon hyn mwyach, ac mae argymhelliad 9 yn ein hadroddiad yn ceisio mynd i’r afael â hyn. Felly, yn eich adroddiad diweddar, Weinidog, ar weithredu argymhellion yr archwiliad dwfn, dywedwch fod angen gwneud rhagor o waith i adolygu anghenion Cyfoeth Naturiol Cymru o ran adnoddau yn y dyfodol. Pa mor hir y bydd yn rhaid inni aros am ganlyniad y gwaith hwnnw, ac a allwn ddisgwyl gweld unrhyw gynnydd yng nghyllideb CNC y flwyddyn nesaf o ganlyniad i hynny?

Ar awdurdodau cynllunio'n benodol—dau gwestiwn plaen yma. A oes ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i ymdopi â'r galw ar eu gwasanaethau? Ac os na, beth y bwriadwn ei wneud ynghylch hynny? Dywedodd rhanddeiliaid wrthym mai dim ond hyn a hyn y bydd cynyddu capasiti ac adnoddau yn ei wneud i wella’r broses gydsynio. Yn y pen draw, mae angen newidiadau deddfwriaethol. Ac rydym yn falch, felly, fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi Bil cydsyniad seilwaith i Gymru yn ei ddatganiad deddfwriaethol ym mis Gorffennaf. Wrth graffu ar y Bil, heb os, fe geisiwn wneud yn siŵr ei fod yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng hybu uchelgais ynni adnewyddadwy Cymru yn ogystal â diogelu ein hamgylchedd mwyfwy bregus.

Yn olaf ar gydsynio, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ei safbwynt y dylid datganoli cydsyniadau ynni'n llawn. Felly, Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth yr ewch ati'n weithredol i'w drafod gyda Llywodraeth y DU? Ac os felly, a fu unrhyw lygedyn o obaith? Efallai y gallech ddweud wrthym.

Mae rhan olaf ein hadroddiad yn canolbwyntio ar gyfleoedd i gynyddu ynni cymunedol a lleol. Mae'n rhaid i’r twf yr ydym yn galw amdano mewn ynni adnewyddadwy fod o fudd i gymunedau ledled Cymru. Nid yn unig fod yn rhaid i gymunedau gael dweud eu dweud mewn prosiectau, mae'n rhaid iddynt fod yn rhanddeiliaid gweithredol, ac elwa ar y buddion cymdeithasol ac economaidd o'r newid i ynni adnewyddadwy. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym, er mwyn cyflawni hyn, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gymell ac annog rhanberchenogaeth, a nod argymhellion 12 a 13 yn ein hadroddiad yw mynd i’r afael â hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion hyn, ac ers cyhoeddi ein hadroddiad, mae wedi cyhoeddi canllawiau ar ranberchenogaeth. Mae hefyd wedi ymrwymo i fonitro ac adrodd yn rheolaidd ar y nifer sy'n manteisio ar ranberchnogaeth o brosiectau ynni, sydd, wrth gwrs, unwaith eto, yn rhywbeth y mae'r pwyllgor yn ei groesawu.

Yn olaf, hoffwn sôn am argymhelliad 17. Roedd hwn yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am Ynni Cymru, gan gydnabod ei rôl yn cefnogi'r gwaith o ehangu ynni adnewyddadwy cymunedol yn arbennig. Roeddem wedi gobeithio y byddai’r argymhelliad hwnnw’n helpu i ateb rhai cwestiynau ynghylch Ynni Cymru, ond ni ddigwyddodd hynny. Er i Lywodraeth Cymru dderbyn ein hargymhelliad, yr ymateb, yn syml, oedd, 'Gwyliwch y gofod hwn'. Felly, Weinidog, rydym yn deall eich bod wedi sefydlu bwrdd interim y datblygwr ynni adnewyddadwy i ystyried cynigion ar gyfer cwmni datblygu. A ydym yn iawn i feddwl mai'r un peth fyddai’r cwmni hwn ac Ynni Cymru? Byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro hynny i’r pwyllgor. Ac a oes unrhyw beth arall y gallwch ei ddweud wrthym heddiw am gynnydd tuag at greu Ynni Cymru?

Lywydd, mae casgliadau’r pwyllgor yn glir. Mae’n rhaid inni achub ar y llu o gyfleoedd sydd gennym yma yng Nghymru i ddatblygu ynni adnewyddadwy. Mae’n rhaid inni gael gwared ar y rhwystrau hirsefydlog sy’n atal datblygu. Ac mae'n rhaid inni wneud hynny, wrth gwrs, gan ddod â'n cymunedau gyda ni gan wybod y byddant yn elwa. Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen inni ganolbwyntio ar y dyfodol ac nid y gorffennol, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddyfodol o ynni adnewyddadwy diogel a fforddiadwy, ac nid tanwydd ffosil dinistriol.