Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 19 Hydref 2022.
Rwyf am ddechrau drwy ddweud bod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig a minnau'n cytuno'n llwyr â'r galwadau a geir yn y ddeiseb hon, ac mae'r ffaith bod cymaint o lofnodion wedi'u casglu yn dangos cryfder y teimlad a geir yng Nghymru ynghylch yr angen i wneud llawer mwy i helpu'r rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron. Rwyf am ddiolch i Tassia a phawb sydd wedi arwyddo'r ddeiseb.
Fel y clywsom eisoes, canser metastatig y fron yw prif achos marwolaeth ymhlith menywod rhwng 35 a 64 oed yn y DU, ac mae angen gwneud llawer mwy i atal y loteri cod post o ran mynediad at ofal priodol. Mae'r ffaith mai un arbenigwr nyrsio clinigol canser eilaidd y fron penodedig sydd gan Gymru yn mynd yn groes i ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar weithwyr allweddol ar gyfer canser metastatig y fron. Mae'n sefyllfa warthus a allai fod yn gadael cannoedd o bobl heb gefnogaeth ddigonol. Ar ben hynny, rwyf hefyd yn meddwl ei fod yn cael yr effaith ganlyniadol o greu'r argraff nad yw'r rhai sydd mewn grym yng Nghymru yn poeni am y rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno nad yw hynny'n wir.
O siarad gyda'r deisebwyr, yr hyn a'm trawodd fwyaf oedd bod llawer ohonynt yn teimlo eu bod wedi gorfod brwydro am eu diagnosis, a bod amharodrwydd i drafod yn y cyfnod cyn y diagnosis, a bod diffyg cefnogaeth a gwybodaeth sylfaenol ar ôl ei chael.
Rydym wedi trafod prinder nyrsys a dosbarthiad anghyson o nyrsys yn adrannau GIG Cymru ac ar draws byrddau iechyd sawl gwaith yn y Siambr, ac rwy'n ofni y bydd y ddeiseb hon yn disgyn ar glustiau byddar ac yn cael ei gweld yn syml fel cwyn arall i ychwanegu at y rhestr. Ond rwyf am annog y Gweinidog i gydnabod y dylai darparu'r nyrsys arbenigol hyn fod yn fwy nag ymarfer ticio bocsys yn unig. Mae llawer o bobl sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yn wirioneddol ofnus am eu bywydau bob dydd, a gall cael y gefnogaeth gywir wella canlyniadau byw gyda chanser metastatig y fron yn sylweddol.
Mae'r ddeiseb hon hefyd yn gofyn am gofrestr genedlaethol o'r rhai sy'n byw gyda chanser metastatig y fron, oherwydd ar hyn o bryd, nid oes digon o ddealltwriaeth o'r darlun cenedlaethol, a fyddai'n caniatáu ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gofal, a dull gwell o fesur effaith ymyriadau, ac ni allaf weld sut nad yw hyn eisoes wedi'i wneud, gyda'r holl offer technolegol sydd gennym at ein defnydd. Nid wyf yn credu bod cost yn broblem hyd yn oed—rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud mwy â chyfyngiadau ein byrddau iechyd o ran dod o hyd i'r amser a'r arbenigedd angenrheidiol i ddod at ei gilydd a llunio a gweithredu modelau casglu data a fydd yn gallu darparu tystiolaeth addas i lywio cynlluniau diagnosis a thriniaeth hirdymor.
Weinidog, dyma lle gofynnir i chi ymyrryd. Mae 'r gymuned sy'n byw gyda chanser metastatig y fron angen eich cefnogaeth. Maent angen i chi ddarparu ysgogiad i sicrhau nad yw byrddau iechyd yn colli cyfleoedd hawdd i wneud diagnosis o ganser metastatig y fron gan adael y rhai sy'n dioddef ar ôl. Weinidog, pe bai cronfa ddata genedlaethol yn cael ei chreu, byddai'n helpu i wella dealltwriaeth o ganser metastatig y fron ymysg y boblogaeth, ac yn sicr byddai hyn yn helpu i ddarparu cynlluniau triniaeth gwell, yn helpu i reoli ac oedi amrywiolion penodol o'r clefyd a lleddfu symptomau, gan ganiatáu i bobl fyw'n dda am gyn hired â phosibl. Rwy'n annog pawb yma i gefnogi'r ddeiseb, ac rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu ei hargymhellion. Diolch.