1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 25 Hydref 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, hoffwn eich hysbysu bod gennym ni chwe Aelod rhanbarthol ac un Aelod etholaeth sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r M4, felly mae gennym ni fudd personol, ac mae hynny'n gynnydd i nifer yr Aelodau a ddaeth yn ôl ar ôl etholiadau 2021.
Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi, Prif Weinidog, yw: ar ôl y ffigurau amseroedd aros a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf, un o'r materion mawr y mae llawer o bobl yn cael trafferth ag ef yw cael apwyntiad gyda meddyg teulu. Rwyf i wedi gweld, mewn rhannau eraill o'r DU, bod ymrwymiadau wedi cael eu gwneud, os bydd rhywun angen apwyntiad gyda meddyg teulu, y bydd yn ei gael o fewn deuddydd. A ydych chi'n barod i wneud ymrwymiad tebyg yma yng Nghymru?
Llywydd, mae'n bwysig cael y ffeithiau'n iawn, ac rwy'n hapus i gywiro'r ffaith bod Plaid Geidwadol Cymru wedi ennill un sedd etholaethol ar hyd cyfan yr M4 yn ne Cymru.
O ran apwyntiadau meddyg teulu, gadewch i ni fod yn eglur nad oes unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd yr addewid hwnnw'n cael ei gyflawni. Rwyf i wedi ei glywed yn cael ei wneud gan Weinidogion iechyd Ceidwadol dro ar ôl tro dros fwy na degawd. Dydyn nhw erioed wedi llwyddo i wneud iddo ddigwydd hyd yma; yn sicr dydyn nhw ddim yn mynd i wneud iddo ddigwydd y tro hwn chwaith.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol mai bod y Comisiwn Ansawdd gofal, dim ond yr wythnos diwethaf, wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gyflwr gofal iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr. Disgrifiodd system, fel maen nhw'n dweud, sy'n sefyll yn stond: dim ond dau berson o bob pump sy'n gallu gadael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod i wneud hynny oherwydd bod cyflwr gofal cymdeithasol a gofal sylfaenol yn Lloegr yn golygu na all y bobl hynny adael yr ysbyty. Mae pobl yn Lloegr yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, Llywydd, yn gweithio mor galed ag y gallan nhw. Nid wyf i'n gwneud dim beirniadaeth ohonyn nhw o gwbl. Dim ond eu bod nhw'n wynebu, fel yr ydym ni, rwystrau sylweddol dros ben o ran gallu darparu'r gwasanaeth i bawb yn y ffordd y byddem ni'n dymuno gwneud hynny. Treuliais fore dydd Gwener mewn meddygfa deulu yma yng Nghymru, yn clywed gan feddygon teulu a'r tîm gofal sylfaenol ehangach am yr holl ymdrechion rhyfeddol y maen nhw'n eu gwneud i allu darparu apwyntiadau ar gyfer y boblogaeth y maen nhw'n ei gwasanaethu, ac maen nhw'n gwybod bob dydd, nad ydyn nhw'n gallu gwneud y swydd yn y ffordd y bydden nhw'n hoffi i'r swydd honno gael ei gwneud, ond yn sicr nid yw hynny oherwydd nad ydyn nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud i hynny ddigwydd, ac mae ganddyn nhw gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru i wneud hynny.
Wel, mae'n ddiddorol mai llefarydd iechyd y Blaid Lafur wnaeth yr ymrwymiad hwnnw yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, felly rwy'n siŵr y byddwch chi'n codi'r ffôn ac yn dweud wrtho nad oes modd cyflawni'r ymrwymiad hwnnw, o gofio eu bod nhw'n edrych at Gymru bob tro i weld yr hyn y gellir ei gyflawni ar lefel San Steffan. Roedd hwnna'n sylw diddorol i chi ei wneud yn y fan yna, Prif Weinidog.
Beth am arosiadau o ddwy flynedd? Yn benodol, yma yng Nghymru mae gennym ni ychydig yn llai na 60,000 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy i gael cwblhau eu triniaeth ar y GIG. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn Lloegr, mae'r arosiadau dwy flynedd hynny wedi cael eu dileu, ac yn yr Alban, maen nhw bron wedi cael eu dileu. A wnewch chi roi amserlen i ni o ran pryd fydd hynny'n digwydd yma yng Nghymru, a phryd y gall y 59,000 sydd wedi bod ar restr aros am ddwy flynedd neu fwy ddisgwyl yr un lefel o wasanaeth yma yng Nghymru?
Llywydd, yn y ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yr wythnos diwethaf, dangoswyd bod yr arosiadau hir hynny yn parhau i leihau. Maen nhw bellach wedi lleihau bum mis yn olynol. Fe wnaethon nhw leihau eto ym mis Gorffennaf, a chyn belled ag y bo'r system yn gallu parhau yn y ffordd honno, yna wrth gwrs bydd yr arosiadau hir hynny'n cael eu dileu.
Yr hyn yr oedd y ffigurau yn ei ddangos hefyd yw i ba raddau y mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er gwaethaf y pwysau aruthrol sy'n ei wynebu, wedi gallu adfer lefelau gweithgarwch bellach. Roedd gweithgarwch cleifion allanol ym mis Gorffennaf ar 102 y cant o'r lefelau cyn y pandemig. Mewn geiriau eraill, nid yn unig y mae'r system yn darparu popeth yr oedd cyn i'r pandemig daro, ond mae'n dal i weithredu mewn cyflwr lle mae dros 500 o gleifion yn meddiannu gwely yn GIG Cymru heddiw gyda COVID, lle nad yw dros 1,000 mewn gwaith oherwydd COVID—mae'r system yn darparu apwyntiadau cleifion allanol i lefelau uwch na'r hyn yr oedd yn gallu ei wneud cyn i'r pandemig daro. Ac mae llawdriniaethau, gofal cleifion mewnol dewisol, wedi gwella i 92 y cant o'r lefel yr oedden nhw arni cyn y pandemig. Dyna'r lefel uchaf yr ydym ni wedi ei gweld ers i'r pandemig daro, a hyn oll tra bod y system yn parhau i wneud popeth arall y gwnaethom ni ofyn ganddi. Yr wythnos hon, rydym ni wedi mynd dros 500,000 o frechiadau COVID a roddwyd dros gyfnod yr hydref hwn. Pwy sy'n rhan o wneud hynny i gyd? Wel, y meddygon teulu y soniodd yr Aelod amdanyn nhw yn ei gwestiwn cyntaf, a'r holl staff eraill hynny sy'n troi i fyny ar benwythnosau ac yn rhedeg y clinigau sy'n golygu ein bod ni wedi gweld y llwyddiant rhyfeddol hwnnw.
Felly, er bod y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed bob dydd i adennill y tir a gollwyd yn ystod COVID, i ymateb i'r argyfyngau y mae pobl yn eu cyflwyno, i wneud y pethau eraill rydym ni'n eu gofyn ganddyn nhw o ran brechu nid yn unig ar gyfer COVID, ond ar gyfer y ffliw hefyd, rydym ni'n gweld yr arosiadau hir hynny yn parhau i leihau.
Yn fy nghwestiwn cyntaf, Prif Weinidog, gofynnais i chi gefnogi ymrwymiad y dywedodd llefarydd iechyd y blaid Lafur yn San Steffan y byddai Llafur yn ei gyflawni, ac fe ddywedoch chi nad oedd modd ei gyflawni. Yn yr ail gwestiwn, gofynnais i chi roi ymrwymiad a map ffordd i ddileu'r arosiadau dwy flynedd yma yn y GIG. Mae etholwr wedi cysylltu â mi yr wythnos hon, Richard Cooper, a gafodd ei hysbysu, i gael ei lawdriniaethau clun ar y GIG yma yng Nghymru—oherwydd roedd angen llawdriniaeth ar y ddwy glun—gallai ddisgwyl arhosiad o bedair i bum mlynedd i'r llawdriniaethau hynny gael eu cyflawni. Bu'n rhaid iddo ddefnyddio ei gynilion preifat ei hun i fynd i glinig yng Ngwlad Pwyl i gael y llawdriniaeth. Nawr, ni allaf gael ymrwymiad ar amseroedd ymateb meddygon teulu, ni allaf gael ymrwymiad ar arosiadau dwy flynedd gennych chi; beth yw'r cyngor y dylwn i ei roi i'm hetholwyr, fel Richard Cooper, sy'n gorfod defnyddio eu cynilion eu hunain, eu potiau pensiwn, oherwydd na allwch chi ddarparu gwasanaeth iechyd sy'n gallu diwallu anghenion pobl Cymru?
Ar y tri phwynt hynny, Llywydd, yn gyntaf oll, cyn gynted ag y bydd Llywodraeth Lafur, byddwn yn gallu gweithredu addewidion y Blaid Lafur. Rwyf i wedi esbonio i chi—[Torri ar draws.] Rwyf i wedi esbonio i chi pam, o dan eich Llywodraeth chi, gyda chyllidebau'n gostwng o un flwyddyn i'r llall, a nawr cyfnod arall o gyni cyllidol yn ein hwynebu ni i gyd, ni fydd yr addewidion a wnaed gan eich Ysgrifennydd iechyd yn Lloegr yn cael eu cyflawni. Gyda Llywodraeth Lafur, yna bydd y pethau hynny'n wahanol ac yna wrth gwrs byddwn ni'n gweld pethau'n gwella, fel y gwnaethom ni o dan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Ac esboniais i chi bod arosiadau hir yn y GIG yn parhau i leihau, er gwaethaf popeth arall y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud, ac mae popeth arall y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud yn ymestyn i geisio gwneud yn siŵr bod gennym ni wasanaeth orthopedig cynaliadwy yma yng Nghymru. Mae hynny'n her, Llywydd. Mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio. Mae gennym ni fwy o waith y mae angen ei wneud. Mae gennym ni theatrau llawdriniaeth nad ydyn nhw'n gallu cwblhau lefel y gweithgarwch yr oedden nhw'n gallu ei gwblhau cyn y pandemig o hyd, ac eto, fel y dywedais i, ym mis Awst yn unig cyflawnwyd 24,000 o lawdriniaethau yn y GIG yng Nghymru, a 230,000 o apwyntiadau cleifion allanol. Er fy mod i'n gresynu unrhyw un sy'n aros yn rhy hir am y llawdriniaeth sydd ei hangen arnyn nhw, yr hyn rwy'n ei ddweud wrthyn nhw yw bod y system yn gweithio mor galed ag y gall, mae'n ennill tir nid colli tir, a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ariannol ond hefyd yn y staff sydd ei angen arnom ni i wneud yn siŵr bod ein GIG yn parhau i ddarparu'r driniaeth y mae'n ei darparu ar y lefel ddiwydiannol honno yr wyf i newydd ei disgrifio i chi o fis Awst yn unig.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi gwyno'n gwbl briodol bod Prif Weinidog Torïaidd diwethaf y DU wedi methu â chodi'r ffôn i chi, ac yn wir yn trin eich Llywodraeth chi a'r Llywodraethau datganoledig eraill â dirmyg. Sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r berthynas gyda Phrif Weinidog diweddaraf y DU? A wnewch chi benderfynu newid tac efallai a cheisio codi'r ffôn iddo ef, fel y mae arweinwyr Llywodraethau cenedlaethol eraill ar fin ei wneud dros y dyddiau nesaf? Os byddwch chi'n sgwrsio, mae'n siŵr y byddwch chi eisiau ei longyfarch ar fod yr unigolyn Asiaidd Prydeinig cyntaf i gael ei ethol yn Brif Weinidog y DU, sydd wir yn ddigwyddiad hanesyddol ac yn fwy addas fyth ei fod yn ystod Diwali. Ond a fyddwch chi hefyd eisiau tanlinellu mai'r un peth y mae'n rhaid iddo beidio â'i wneud yn ei gyllideb Calan Gaeaf yw cychwyn cyfnod newydd o gyni cyllidol a phlymio'r economi i ddirwasgiad, pobl i dlodi a'n gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, i argyfwng mwy dwys fyth?
Llywydd, rwy'n gobeithio wrth gwrs y bydd Prif Weinidog newydd y DU yn mabwysiadu agwedd wahanol o ran y berthynas â'r Llywodraethau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy'n gweld cyfres o Aelodau Seneddol Ceidwadol o Gymru heddiw yn galw ar Brif Weinidog newydd y DU i achub y blaen yn hynny o beth, ac mae'n gam i Brif Weinidog y DU ei gymryd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd yna gyswllt cynnar gan y weinyddiaeth ddiweddaraf, ac, os oes, yna gallwch fod yn sicr y byddaf eisiau cael perthynas adeiladol gyda Phrif Weinidog newydd y DU. Os caf gyfle, bydd cyfres o bethau y byddaf i eisiau eu rhoi'n gynnar ar ei restr o flaenoriaethau. Dyfodol y Deyrnas Unedig ei hun—byddaf yn ei atgoffa, rwy'n siŵr, mai Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth unoliaethol ddiamwys arall y bydd ganddo gysylltiad â hi, a byddwn eisiau gweithio gydag ef i wneud yn siŵr bod dyfodol llwyddiannus i'r Deyrnas Unedig.
Rwyf i eisiau siarad ag ef am faterion unigol pwysig iawn sy'n bwysig yma yng Nghymru—dyfodol Tata Steel, er enghraifft. Pan ysgrifennais at y Prif Weinidog ond un yn ôl yn gynharach yn yr haf, fe wnaeth fy ateb gan gydnabod difrifoldeb sefyllfa Tata Steel, ond gan ddweud mai mater i Brif Weinidog nesaf y DU fyddai gwneud y penderfyniadau am lefel y cymorth y gellid ei chynnig i'r cwmni; wel, mae'r Prif Weinidog diweddaraf hwnnw wedi mynd a dod ac ni wnaed penderfyniad o'r math hwnnw. Felly, os caf gyfle, byddaf yn sicr yn dweud wrth Brif Weinidog newydd y DU y dylai rhoi sylw i'r mater pwysig iawn hwnnw, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, fod yn uchel ar ei restr o flaenoriaethau. Ac, wrth gwrs, Llywydd, dywedaf hefyd mai'r peth olaf un sydd ei angen ar bobl yng Nghymru neu ar draws y Deyrnas Unedig yw dos pellach o gyni cyllidol Torïaidd.
Rydych chi wedi bod yn galw am etholiad cyffredinol, ac mae dadl na ellir ei hateb dros gael un, o ystyried ein bod ni bellach wedi cael dau Brif Weinidog y DU heb fandad democrataidd. Y gwir amdani yw bod y Prif Weinidog Sunak yn rhydd i anwybyddu hynny, fel y mae'n rhydd i'ch anwybyddu chi. Mae cyfansoddiad anysgrifenedig y DU yn canolbwyntio grym enfawr yn nwylo Prif Weinidog y DU, sy'n esbonio'r llanast rydym ni ynddo. Nawr, mae athrawiaeth goruchafiaeth San Steffan yn golygu bod Prif Weinidog newydd y DU yn rhydd i ddiddymu unrhyw Ddeddf y Senedd hon a diddymu unrhyw rym, er nad oes ganddo unrhyw fandad i wneud hynny, yn sicr nid yma yng Nghymru. Nawr, efallai y bydd y pendil gwleidyddol yn troi yn yr etholiad nesaf, pryd bynnag y daw, ond sut gallwn ni roi'r gorau i fod yn union yr un sefyllfa mewn blynyddoedd i ddod, pan fydd y pendil yn troi'n ôl? Sut ydych chi'n cynnig y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn gwreiddio ein democratiaeth yng Nghymru mewn system wleidyddol lle mae San Steffan yn oruchaf?
Llywydd, rwy'n cytuno bod dadl na ellir ei hateb dros etholiad, ac nid wyf i'n credu bod Prif Weinidog y DU yn y sefyllfa anorchfygol y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'i awgrymu. Efallai y bydd y rhaniadau dwfn y tu mewn i'r Blaid Geidwadol yn cael eu cuddio am ychydig wythnosau eto. Efallai y byddwn ni'n gweld Aelodau Seneddol Ceidwadol yn chwarae pêl-droed yn erbyn ei gilydd ar y lawnt y tu allan i Senedd San Steffan mewn rhyw fath o gadoediad Nadolig, ond, unwaith y bydd y Nadolig allan o'r ffordd, yna mae gen i ofn y bydd y Prif Weinidog newydd yn wynebu'r rhaniadau dwfn iawn, iawn y tu mewn i'r Blaid Geidwadol, fel y mae'r pedwar rhagflaenydd diwethaf wedi ei wneud hefyd. Ac nid wyf i o'r un farn yn union ag arweinydd Plaid Cymru o feddwl na fydd etholiad cyffredinol ar ei ffordd i ni yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Ar ôl yr etholiad hwnnw, bydd cyfle, rwy'n gobeithio, i Lywodraeth Lafur newydd wneud yr union beth y mae Adam Price wedi ei ddweud: gwreiddio datganoli, fel na ellir ei erydu yn y modd rydym ni wedi ei weld ers 2019. Rwy'n credu bod cyfres o ffyrdd ymarferol y gellir gwneud hynny, a phan fydd adroddiad Gordon Brown ar drefniadau'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol yn cael ei gyhoeddi, rwy'n credu y byddwn ni'n gweld nifer o'r syniadau ymarferol hynny. Nid wyf i'n mynd i'w trafod nhw y prynhawn yma o reidrwydd, Llywydd, ond maen nhw yna. Maen nhw yna mewn ffyrdd a fyddai'n sicrhau y gellir trefnu'r pethau a gymeradwywyd mewn dau refferendwm gan bobl yng Nghymru mewn ffordd y gellir darparu'r dewisiadau hynny heb y risg eu bod nhw bob amser o dan bwysau o gael eu herydu.
Pan oeddech chi yn Iwerddon yn ddiweddar, fe wnaethoch chi ail-bwysleisio eich barn bod y Deyrnas Unedig, i Gymru, yn bolisi yswiriant gwych, ond sut mae'r polisi hwnnw'n gweithio i ni pan fo modd newid y contract yn gyson dros ein pennau, yn erbyn ein dymuniadau ac yn erbyn ein buddiannau? Fe wnaethoch chi sôn am gyfuno risg drwy'r undeb, ond siawns nad yw digwyddiadau'r wythnosau diwethaf wedi dangos bod yr undeb mewn gwirionedd yn ein hamlygu ni yng Nghymru i risg, i ansicrwydd ac i niwed y gellir ei osgoi. Nawr, rydych chi wedi dweud na fyddech chi byth yn cefnogi Cymru annibynnol, ond a fyddech chi'n derbyn bod rhai amgylchiadau o leiaf—Llywodraeth Dorïaidd arall yn cael ei hethol yn erbyn ein dymuniadau yng Nghymru, neu bleidlais dros annibyniaeth i'r Alban mewn refferendwm—lle gallai annibyniaeth ddod, i Gymru, a hyd yn oed i'ch plaid, yr opsiwn mwy blaengar? Rwy'n deall bod yn well gennych chi undeb barhaus, ond onid yw dweud 'byth' i annibyniaeth yn gwneud dim ond clymu ein hunain i ddyfodol na fydd byth yn eiddo i ni ei benderfynu?
Llywydd, mae'r cwestiwn a ddylai Cymru fod yn annibynnol yn gwestiwn i bobl yng Nghymru, ac rwyf i wedi dweud erioed pe bai plaid yn cynnig hynny fel dewis mewn maniffesto ac y bydden nhw'n ennill mwyafrif y seddi yma yn y Senedd, yna, wrth gwrs, os yw pobl yn dewis y cam hwnnw, yna dyna ewyllys ddemocrataidd pobl yng Nghymru. Eu llais nhw yw'r un pwysig—nid fy un i, pa un a ydw i'n meddwl ei fod yn iawn neu'n anghywir. Lle byddaf yn cytuno ag arweinydd Plaid Cymru yw hyn: pe bai geometreg wleidyddol y Deyrnas Unedig yn newid, pe bai un o'i rhannau cyfansoddol yn dewis gwahanol ddyfodol, nid yw hynny'n gadael yr hyn sy'n weddill heb ei gyffwrdd. Byddai'n rhaid i chi gael cyfres ddifrifol iawn o drafodaethau ynglŷn â'r ffordd orau y gellid cynllunio dyfodol Cymru o dan yr amgylchiadau gwahanol hynny, a dyna pam, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod, rydym ni wedi sefydlu ein comisiwn cyfansoddiadol ein hunain i'n helpu i feddwl pa ddewisiadau fyddai ar gael i Gymru o dan yr amgylchiadau hynny. Gallai annibyniaeth fod yn un ohonyn nhw, fel y bu ers sefydlu ei blaid ac ers iddi roi'r dewis hwnnw gerbron pobl Cymru. Hyd yn hyn, nid yw pobl wedi cael eu perswadio o hynny, a bydd gwahanol fathau o ddyfodol y byddai'n well gan eraill ohonom ni eu hyrwyddo. Ond dyna'r lle iawn i'r penderfyniadau hyn gael eu trafod; dydyn nhw ddim yn fater i mi fel Prif Weinidog na hyd yn oed i bleidiau gwleidyddol yma wneud y penderfyniad hwnnw. Yn union fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru bod dadl na ellir ei hateb dros etholiad cyffredinol i benderfynu cyfeiriad economaidd y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, felly hefyd y byddai'n angen na ellir ei ateb am benderfyniadau o'r fath y mae wedi'u hamlinellu y prynhawn yma i gael eu gwneud gan y bobl sy'n ein rhoi ni yma.