Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 25 Hydref 2022.
Diolch yn fawr iawn, Mark, a diolch i chi hefyd am roi diweddariadau a mewnwelediadau i mi bob amser o'r gwaith sydd wedi'i wneud yn y gogledd, yn enwedig mewn cysylltiad â'r ymgysylltiadau trydydd sector a'r awdurdodau lleol.
Rwy'n gobeithio y gallwn sefydlu perthynas waith newydd dda gyda'r Llywodraeth newydd, y Cabinet newydd a fydd yn cael ei gyhoeddi dros y dyddiau nesaf. Fe gyfeirioch at y llythyr ar y cyd a anfonais at Andrew Stephenson, a oedd wedi'i enwi'n Weinidog dros ffoaduriaid gan y Prif Weinidog blaenorol yn yr adran dai a ffyniant bro, ond mae'n rhaid i mi ddweud, ni chafwyd ateb i'r llythyr hwnnw. Gofynnais i fy swyddogion, ac yn wir gofynnodd Gweinidog yr Alban i'w swyddogion ofyn am gyfarfod brys gyda'r Gweinidog newydd, ond ni chafwyd ymateb. Felly, rydw i, mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol, yn edrych ymlaen at groesawu cyhoeddiad newydd yn syth, a fydd, gobeithio, yn cael ei wneud, y bydd gennym Weinidog dros ffoaduriaid y gallwn godi'r mater hwn gydag ef. Oherwydd y mae angen ymatebion ar frys i'r cwestiynau yr ydym wedi'u gofyn, yn enwedig am y codiad i'r taliad misol o £350 i'r rhai sy'n lletya ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin.
Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn y ffaith bod nifer o elusennau wedi dod at ei gilydd yn Lloegr. Rwy'n credu eu bod wedi ysgrifennu at y cyn Brif Weinidog i ddweud fwy neu lai yr hyn a ddywedom ni, gan adleisio mewn gwirionedd, alwad yr Arglwydd Harrington am daliad cynyddol i helpu'r rhai a oedd yn lletya drwy'r gaeaf. Rwy'n credu bod haelioni y rhai a oedd yn lletya ar adeg o straen economaidd a phwysau costau byw yn rhyfeddol; haelioni'r rhai oedd yn lletya ledled Cymru sydd mewn sefyllfaoedd economaidd-gymdeithasol ac ariannol gwahanol iawn eu hunain. Felly, a gaf i ofyn i chi a'ch cyd-Weinidogion yn San Steffan sicrhau ein bod ni'n cael ymateb cadarnhaol?
Mae arweinyddiaeth leol yn hanfodol, felly rydw i a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac yn wir y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn cwrdd bob pythefnos gydag arweinwyr llywodraeth leol. Mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn, yn enwedig ynghylch fframwaith ar gyfer llety o ran cyfleoedd i symud ymlaen. Cyn belled â bod arweinyddiaeth leol yn gadarn, bydd yn bositif. Mewn gwirionedd, mae Wcráin ar yr agenda fel eitem sefydlog wrth i ni gwrdd bob pythefnos. Mae'r ymateb yr ydym ni'n ei gael oddi wrth arweinyddiaeth leol yn ymwneud â nid yn unig y gefnogaeth y maen nhw'n ei rhoi i'w canolfannau croeso, os oes ganddyn nhw rai yn eu hardaloedd sirol, ond hefyd y ffyrdd y maen nhw'n cefnogi y rhai sy'n lletya hefyd, y rhai sy'n darparu'r gefnogaeth bwysig honno i gynifer o'n gwesteion o Wcráin yng Nghymru.
Mae'n bwysig iawn o ran llety symud ymlaen sy'n cael ei ddarparu ein bod ni'n edrych, fel yr oedd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gallu ei wneud yr wythnos diwethaf, ar y rhaglen gyfalaf llety dros dro gwerth £65 miliwn. Mae hyn yn rhywbeth a fydd yn ein helpu ni i gynyddu llety i gefnogi'r pwysau tai presennol, ynghyd ag ymateb Wcráin. Mae awdurdodau lleol yn dod ymlaen ac yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu'r math hwn o lety. Wrth gwrs, mae pwysau enfawr ar ein rhaglen gyfalaf yr ydych yn ymwybodol iawn ohono, ond llety dros dro yw hwn a all hefyd ddiwallu ystod eang o anghenion tai yng Nghymru. Felly, rydym yn gobeithio y cawn ni'r gefnogaeth, ac mae hynny'n cynnwys cefnogaeth o ran cyhoeddiadau sydd i ddod gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n bryderus iawn ynghylch beth fydd hyn yn ei olygu i gyfalaf, oherwydd bydd hyn yn ffordd bwysig iawn o helpu'r rhai sydd angen tai i symud ymlaen. Mae'n rhaid i ni gofio bod gennym ni dros 8,000 o bobl mewn llety dros dro yn barod, a dyma bwysau tai y mae ein harweinwyr lleol yn eu cefnogi.
Diolch, eto, am nodi gwaith a chefnogaeth y gymdeithas integreiddio Pwylaidd, a gwnaf yn siŵr bod ymateb iddynt. A hefyd, dim ond o ran unrhyw awgrym am ddefnydd arall o lety—rwy'n credu eich bod chi wedi sôn bod rhywun wedi cysylltu â Russell George hefyd ynghylch y defnydd posibl o lety oes fer—dylen nhw fynd at yr awdurdod lleol lle darperir y llety hwnnw.
Wrth gwrs, mae'n her o ran ein cynllun uwch-noddwr. Rydym wedi ymrwymo iddo, mae'n darparu ffordd ddiogel o groesawu pobl o Wcráin sy'n ffoi rhag y gwrthdaro ofnadwy hwnnw. Maen nhw'n dod yma ac maen nhw'n cael y gefnogaeth honno, y gefnogaeth gofleidiol yna yr ydym ni wedi'i darparu. Cofiwch mai'r ymrwymiad gwreiddiol a wnaethom oedd i 1,000 o bobl o Wcráin gael eu cefnogi; nawr rydym yn cefnogi pedair a phum gwaith y nifer gwreiddiol o bobl drwy ein llwybr uwch-noddwr. Mae ein canolfannau croeso bellach yn gweithredu gyda chapasiti llawn, ond rydym yn gweithio'n gyflym i sicrhau bod llwybr dibynadwy at lety tymor hwy i bawb yr ydym yn cynnig llety iddyn nhw.