Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 25 Hydref 2022.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n wir bod yr adroddiadau am y rhyfela yn Wcráin a'r dwysáu sydd o ran tactegau ac agwedd cwbl annynol Rwsia yn peri gofid ofnadwy i'r bobl sydd wedi cael lloches yng Nghymru, ac yn debyg, wrth gwrs, o gael effaith ar y niferoedd o ffoaduriaid.
Mae'r newidiadau rŷch chi wedi sôn amdanyn nhw o ran y gefnogaeth fydd ar gael i bobl dan nawdd Llywodraeth Cymru, sydd, wrth gwrs, wedi gorfod gadael popeth, wedi profi trawma a cholled, yn peri peth pryder. Tra'n cydnabod bod angen annog pobl i symud ymlaen, integreiddio i gymdeithas a thalu eu ffordd ble'n bosib, oni ddylid gwneud hynny mor gyflym â sy'n briodol yn hytrach na mor gyflym â phosib? Felly, beth yw llais y ffoadur yn hyn? Pwy sy'n penderfynu pa gostau sy'n cael eu talu a beth yw'r meini prawf? A fyddai tapr o ryw fath o ran y cymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth yn briodol os yw pobl yn ennill cyflog neu o ran eu taliadau credyd cynhwysol?
Ers i'r Gweinidog gyflwyno ei diweddariad diwethaf ar Wcráin, mae mwy a mwy o sefydliadau'r trydydd sector yn pryderu am y bygythiad gwirioneddol o ddigartrefedd sy'n wynebu ffoaduriaid o Wcráin. Yn ôl adroddiad yn The Guardian, gallai 50,000 o ffoaduriaid o Wcráin ledled y Deyrnas Gyfunol fod yn ddigartref y flwyddyn nesaf. Eisoes ers mis Chwefror rydym ni'n gwybod bod 1,335 o aelwydydd o Wcráin, gan gynnwys 945 â phlant, wedi eu cofrestru'n ddigartref. Felly, Weinidog, a yw hi'n adeg ddoeth i wneud y newid yma nawr a ninnau yn wynebu'r gaeaf caletaf ers degawdau a gwyntoedd main y storm economaidd yn arbennig o fygythiol i'r rhai sydd wedi gorfod ffoi, gan adael popeth ar ôl yn eu mamwlad?