Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 25 Hydref 2022.
Mae cynghorau Cymru yn ein rhybuddio eisoes eu bod yn mynd i fod yn wynebu diffygion enfawr yn eu cyllidebau o ganlyniad i bandemig COVID, adweithiau'r farchnad i anhrefn San Steffan, yr argyfwng ynni a phwysau chwyddiant oherwydd yr argyfwng costau byw hwn. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio bod cynghorau mewn perygl o gael eu gorfodi i wneud toriadau sylweddol i wasanaethau allweddol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol nawr i sicrhau bod cefnogaeth a thai lleol ar gael i'r rhai sydd eu hangen, yn enwedig o ystyried y newid mewn cefnogaeth a gyhoeddwyd heddiw?
Gofynnais hyn i chi ar ôl eich diweddariad diwethaf i'r Senedd, ond ni wnaethoch fy ateb, felly rwy'n gofyn i chi eto a allem o bosibl ganiatáu i'n hawdurdodau lleol fod yn warantwyr i Wcreiniaid sy'n wynebu sefyllfa lle maen nhw'n gorfod mynd i mewn i'r farchnad rentu, sydd, fel y gwyddom, ar hyn o bryd yn hynod gystadleuol a chostus.