1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 26 Hydref 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Fel y gwelsoch, o bosibl, ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, Weinidog, gwnaed gwerth cannoedd o bunnoedd o ddifrod i gar unigolyn a fu'n ymgeisydd etholiadol i gyngor Casnewydd yn 2022, ac nid dyna’r ymosodiad cyntaf ar ei eiddo, gyda'i gartref yn cael ei dargedu, hoelion yn cael eu gwthio i mewn i deiars ei gar, a throlio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr etholiadau cyngor a Senedd diweddar. Felly, o ystyried hyn, Weinidog, beth yw eich barn ynglŷn ag ymgeiswyr cynghorau, sy’n ddigon dewr i gynrychioli eu cymunedau, sy'n gorfod ymdopi â’r gamdriniaeth ffiaidd hon?
Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud—a gwn fod Sam Rowlands yn cytuno â mi ar hyn—fod yn rhaid inni barchu unrhyw un sy’n cynnig eu hunain fel ymgeisydd ar gyfer etholiad cyngor cymuned, cyngor tref neu gyngor sir, gan ei bod yn cymryd elfen o ddewrder i wneud hynny. Ac mae cam-drin unrhyw ymgeisydd yn gwbl annerbyniol, ac mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i atal hynny.
Un o'r pethau rwy'n falch iawn inni allu eu gwneud oedd sicrhau ein bod yn cael gwared ar yr angen i ymgeiswyr ddarparu eu cyfeiriad cartref yn gyhoeddus, sydd, yn fy marn i, yn darparu lefel o ddiogelwch a sicrwydd, er y gwn fod ymgeiswyr yn aml yn adnabyddus iawn beth bynnag yn eu cymunedau, felly mae’n rhaid inni gadw hynny mewn cof. Ac rydym hefyd yn gwneud gwaith ar hyn o bryd i edrych ar arolwg a wnaethom o aelodau'r cyhoedd i fesur eu dealltwriaeth o gynghorwyr a'r rôl y mae cynghorwyr yn chwarae yn eu cymunedau, i weld beth arall y gallwn ei wneud i helpu pobl i ddeall rôl cynghorwyr yn well, a gobeithio y gallai hynny fynd i'r afael â'r bwlch rhwng diffyg dealltwriaeth rhai pobl a’r ymroddiad gwirioneddol aruthrol sydd gan bobl i'r rolau hyn. Ac ni waeth a gânt eu hethol ai peidio yn y pen draw, credaf fod yn rhaid inni roi parch dyledus i'r bobl hynny am gynnig eu hunain.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac am amlinellu rhai o’r camau gweithredu sydd eisoes ar y gweill. Yn amlwg, nid mater diweddar neu fater unigol i un ymgeisydd yn unig yw hwn. Yn etholiadau mis Mai, gwelsom baent yn cael ei daflu dros geir a oedd yn eiddo i gynghorydd hirsefydlog yn Abertawe, a arweiniodd at ddifrod parhaol; gwelsom ddau gynghorydd yng Nghaerffili yn derbyn llythyrau difrïol, yn eu galw'n bob math o bethau, a bu'n rhaid i’r heddlu ymyrryd; yn ogystal, rhannodd cynghorydd o Gaerdydd, a oedd wedi bod yn gynghorydd yma ers amser maith, straeon erchyll am beth o’r gamdriniaeth y bu’n rhaid iddi ei hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, rydych eisoes wedi amlinellu rywfaint o'r gwaith a wnewch a'r camau a roddir ar waith gennych. Byddai'n dda gennyf ddeall pryd y disgwyliwch iddo ddwyn ffrwyth, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld nid yn unig dealltwriaeth o'r mater, ond y camau gweithredu hynny'n cael eu rhoi ar waith, gan fod hyn yn bwysig iawn, fel y dywedwch, ac fel y mae pob un ohonom yn cytuno, ein bod yn amddiffyn ein cynghorwyr lleol, ein hymgeiswyr lleol, rhag yr ymddygiad ffiaidd hwn.
Credaf mai un o'r pethau pwysig y mae'n rhaid inni eu gwneud hefyd yw helpu cynghorwyr i ddeall nad yw'r math hwn o ymddygiad yn dderbyniol, oherwydd yn aml, mae tueddiad ar ran cynrychiolwyr etholedig i feddwl bod camdriniaeth yn rhan o'r swydd, ac ni ddylai fod o gwbl, a gwn fod pob un ohonom yn deall hynny yn y Siambr hon. A dyna un o'r rhesymau, unwaith eto, pam ein bod wedi adnewyddu 'Canllaw'r cynghorydd da' yn ddiweddar, ac mae hwnnw'n ymwneud i raddau helaeth â helpu'r cynghorwyr hynny i ddeall yr hyn sy'n dderbyniol a'r hyn nad yw'n dderbyniol, o ran yr ymateb a gânt, ac o bosibl, y gamdriniaeth a gânt, ac mae hefyd felly yn eu helpu i ddeall pa gymorth a allai fod ar gael iddynt. Felly, byddech yn disgwyl i awdurdodau lleol unigol roi cynlluniau priodol ar waith i gefnogi lles a llesiant y cynghorwyr hynny, ond hefyd i weithio mewn partneriaeth yn lleol â’r heddlu, a all ddarparu cymorth a chyngor ychwanegol, fel y bo'r angen, ar gyfer mathau mwy difrifol o gamdriniaeth, a thrais, bron iawn, mewn rhai achosion, fel yr hyn a ddisgrifiwyd gennych.
Ie. Diolch unwaith eto am hynny, Weinidog, ac mae’n braf gweld hynny. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom o amgylch y Siambr hon yn cytuno bod angen gwneud mwy a bod mwy'n cael ei wneud i sicrhau bod ein hymgeiswyr a'n haelodau etholedig yn cael eu hamddiffyn yn briodol. Ond unwaith eto, yn etholiad mis Mai, gwelsom 74 o seddi un ymgeisydd, gyda llawer o bobl yn awgrymu nad ydynt yn fodlon sefyll gan eu bod yn ofni, ar adegau, y gamdriniaeth a'r ymddygiad tuag at ymgeiswyr. Wrth gwrs, mae'r lefel hon o ddemocratiaeth mor hanfodol nid yn unig ar gyfer darparu gwasanaethau, ond hefyd fel enghraifft o unigolion etholedig yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny'n ddiduedd. Cawsom garfan newydd o gynghorwyr yn cael eu hethol yn etholiadau mis Mai, felly tybed pa waith y gallech fod yn ei wneud gyda hwy i sicrhau eu bod, yn eu swyddi etholedig erbyn hyn, yn teimlo'n hyderus i wneud rhai o'r penderfyniadau anodd hynny heb fygythiad gan bob math o bobl sydd, yn anffodus, yn rhan o'n cymuned?
Diolch unwaith eto am eich cwestiwn pwysig. Fel chithau, roeddwn yn siomedig gyda lefel y seddi un ymgeisydd. Credaf fod cael seddi a ymleddir a rhoi dewis i bobl leol yn beth cadarnhaol iawn, a dyna pam fod y gwaith a wnawn drwy ein rhaglen amrywiaeth a democratiaeth mor bwysig i ehangu mynediad at swyddi etholedig i bawb yn ein cymuned. Rydym wedi cyflwyno ein cronfa mynediad i swyddi etholedig, a fydd, gobeithio, yn cefnogi ystod ehangach o bobl i ddod yn ymgeiswyr, a chawsom rywfaint o lwyddiant gyda hynny. Fe'i gweinyddwyd yn yr etholiad diwethaf gan Anabledd Cymru, ond rydym yn ystyried bellach pa nodweddion gwarchodedig eraill y gallwn eu cynnwys yn y gwaith ehangach hwnnw hefyd. Ond gwn fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol unigol yn gweithio’n galed i gynorthwyo cynghorwyr newydd i ddeall y pethau hyn, a gobeithio, i’w cyfeirio at gymorth lleol os ydynt yn teimlo dan fygythiad neu eu bod yn cael eu tanseilio mewn unrhyw ffordd yn eu rôl benodol, ond rwy'n fwy na pharod i gael sgyrsiau pellach, os oes syniadau da ynglŷn â beth arall y gallwn ni neu awdurdodau lleol ei wneud yn y maes pwysig hwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gyda'i gilydd, mae'r pwysau ariannol sy'n cronni yn y system llywodraeth leol y tu hwnt i unrhyw beth a welsom erioed, yn ôl pob tebyg, er bod pwysau yn y flwyddyn ariannol gyfredol wedi'u gwrthbwyso i raddau gan setliad gwell na'r disgwyl ar gyfer eleni. Mae hynny'n teimlo fel byd gwahanol, onid ydyw—wyth mis yn ôl yn unig, pan gadarnhawyd y setliad hwnnw o 9.4 y cant.
Mae'n dod yn amlwg fod cynghorau lleol yng Nghymru eleni o bosibl yn wynebu pwysau ychwanegol o dros £0.25 biliwn yn ystod y flwyddyn, a disgwylir diffyg cronnol o dros £800 miliwn erbyn diwedd y cylch gwariant neu gyllido tair blynedd hwn. Mae pob awdurdod bellach yn nodi bylchau yn eu cyllideb, ac ar wahân i brofiad misoedd cynnar y pandemig COVID efallai, mae’r pwysau hyn sy’n cael ei wynebu yn ddigynsail. Felly, ni ellir gorbwysleisio’r risgiau i holl wasanaethau llywodraeth leol, gan gynnwys gwasanaethau statudol pwysig, megis addysg a gofal cymdeithasol. Felly, os yw’r gwasanaethau statudol hynny, fel sy’n cael ei awgrymu, yn wynebu toriadau sylweddol, pa drafodaethau a gawsoch, neu pa ystyriaeth a roddwch i gynghori awdurdodau lleol ynghylch pa wasanaethau statudol y dylent eu blaenoriaethu? Oherwydd mae llawer o'r cynghorau'n dweud wrthyf fod angen arweiniad clir arnynt gan Lywodraeth Cymru. Mewn hinsawdd lle na allant gyflawni'r hyn y disgwylir iddynt ei gyflawni, y neges a gaf yw bod gwir angen i Lywodraeth Cymru nodi'n glir beth y mae disgwyl i gynghorau ei flaenoriaethu er mwyn diogelu gwasanaethau allweddol.
Wel, rwyf wedi cael cyfle i drafod y materion hyn yn fanwl gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn ddiweddar iawn. Felly, fel rydych wedi'i glywed, rydym bellach yn cael cyfarfodydd gydag arweinwyr awdurdodau lleol bob pythefnos. Yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf, mewn gwirionedd, un o'r eitemau mwyaf oedd pwysau cyllidebol, a gwnaethant roi'r ffigurau hynny i mi yn y cyfarfod hwnnw. Cafodd yr is-grŵp cyllid gyfarfod hefyd, yr wythnos diwethaf neu’r wythnos cyn hynny, lle buom yn ymchwilio unwaith eto i’r ffigurau hynny’n fanylach. Yn amlwg, maent yn peri cryn bryder o ran y pwysau a wynebir.
Felly, dywedir wrthyf fod y meysydd allweddol yn cynnwys chwyddo cyflogau, costau ynni, ysgolion, gofal cymdeithasol, yr ymateb i’r sefyllfa yn Wcráin a materion ymfudo ehangach, ochr yn ochr â thai, digartrefedd, ac wrth gwrs, buddsoddiad cyfalaf a’r buddsoddiad cysylltiedig yn y newid yn yr hinsawdd—felly, llawer o feysydd pwysig yno. Mae rhai nad ydynt yn statudol, ond serch hynny, maent yn gwbl hanfodol. Felly, rydym yn cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei wneud yn ymarferol i’w cefnogi. Efallai mai un o’r pethau hynny fyddai eu cynorthwyo gyda'r ymarfer blaenoriaethu yn lleol. Rydym hefyd yn edrych ar y grantiau a ddarparwn i lywodraeth leol. Felly, caiff £1.2 biliwn o grantiau eu darparu i lywodraeth leol bob blwyddyn, ac mae llywodraeth leol yn dadlau efallai y dylai rhai o’r rheini fynd i’r grant cynnal refeniw yn hytrach na thrwy grantiau penodol, felly rwyf wedi dweud y byddwn yn trefnu trafodaethau â pha bynnag Weinidogion perthnasol sydd angen eu cynnwys. A hefyd, edrych eto ar gyfalafu rhai costau—maent wedi gofyn inni edrych ar hynny. Felly, rydym wedi mynd yn ôl at lywodraeth leol i ofyn am ragor o fanylion ynghylch y trafodaethau hynny. Felly, yn amlwg, rydym yn rhoi cymaint o gymorth ag y gallwn i lywodraeth leol ar adeg sy'n peri cryn bryder iddynt hwy ac i ninnau.
Iawn, wel, rydych chi'n blaenoriaethu popeth bron iawn, felly nid wyf yn siŵr a yw hynny'n bosibl, ond rwy'n falch fod yr ymgysylltu a'r drafodaeth yn digwydd, gan fod y neges yn glir fod angen iddynt wybod beth yw blaenoriaethau'r Llywodraeth ynghylch yr hyn y gofynnwch iddynt ei gyflawni o dan yr amgylchiadau hyn.
Rwy’n falch ichi ddweud eich bod yn edrych ar yr hyn y gallwch ‘ei wneud yn ymarferol’—eich geiriau chi—i gefnogi cynghorau lleol, gan eu bod yn ymwybodol iawn hefyd fod cyfrifoldebau a rolau a dyletswyddau ychwanegol yn dod tuag atynt gan Lywodraeth Cymru drwy reoliadau, drwy ddeddfwriaeth ac ati. Maent yn gweld pethau fel gorfodi’r gwaharddiad ar blastig untro, y gwn fod pob un ohonom—llawer iawn ohonom—am ei weld yn cael ei roi ar waith. Mae'n bur debyg y gallai hynny arwain at gostau ychwanegol. Meiddiaf ddweud bod rhoi'r terfyn cyflymder 20 mya ar waith hefyd yn golygu gwaith ychwanegol y mae angen ei wneud. Felly, mae cynghorau'n dweud yn glir, heb adnoddau ychwanegol, fod yn rhaid i rywbeth arall fynd.
Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod wedi ymrwymo naill ai i ddarparu'r adnoddau ychwanegol i gyflawni'r dyletswyddau newydd y mae'r Llywodraeth yn gofyn i awdurdodau lleol eu cyflawni, neu os nad ydych yn darparu'r adnoddau ychwanegol hynny, a ydych yn trafod beth arall nad oes angen iddynt ei wneud er mwyn rhyddhau’r capasiti i gyflawni’r dyletswyddau ychwanegol hynny, neu'n wir, a yw’r Llywodraeth yn camu'n ôl, ac edrych ar y darlun ehangach, ac yn mynd ati'n rhagweithiol i amlinellu'r gwaith o gyflawni cyfrifoldebau newydd er mwyn ysgafnhau'r baich gwaith?
Gallaf weld bod llefarydd Plaid Cymru a minnau wedi bod yn cael yr un sgyrsiau ag arweinwyr llywodraeth leol yn ddiweddar, a’ch bod yn clywed yr un neges â minnau i raddau helaeth, sy’n beth cadarnhaol yn fy marn i. Unwaith eto, dyna un o'r pethau eraill rydym yn edrych arnynt o ran yr hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol i gefnogi llywodraeth leol mewn perthynas â'r disgwyliadau ychwanegol a osodwn ar lywodraeth leol, y pethau ychwanegol y gofynnwn iddynt eu gwneud, gan archwilio gyda hwy yn awr beth yn benodol—. Felly, rydych wedi enwi un neu ddau o'r meysydd penodol hynny, ond rydym wedi gofyn i swyddogion archwilio gyda llywodraeth leol beth yn benodol sy'n rhoi pwysau ychwanegol ar eu hadnoddau, ar eu hamser, ar eu cyllid ac ati, i weld a oes rhywbeth y gallwn ei wneud yn ymarferol i'w helpu yn y cyswllt hwnnw hefyd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i chi fod y trafodaethau hynny’n fyw iawn ar hyn o bryd.