– Senedd Cymru am 4:05 pm ar 26 Hydref 2022.
Eitem 7 sydd nesaf, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil manteisio ar fudd-daliadau, a galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8108 Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil defnyddio budd-daliadau.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sicrhau bod mwy o arian yn dod i bocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol;
b) gosod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y defnydd o fudd-daliadau Cymreig a budd-daliadau awdurdodau lleol;
c) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a sicrhau cysondeb drwy Gymru o ran y dull o ymgeisio am fudd-daliadau o'r fath.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar gofynnodd etholwr sy'n ei chael hi'n anodd talu ei biliau, 'Beth yw pwynt Llywodraeth Cymru os na allant ein helpu?' Mae'n gwestiwn dilys, oherwydd pa les yw datganoli os ydym yn ddi-rym i warchod ein dinasyddion mwyaf bregus fan lleiaf? Mae'r cynnig sydd o'ch blaen yn ffordd o wneud y pwerau sydd gennym, yr adnoddau y gallwn eu defnyddio, yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy sicrhau bod pob punt—pob punt Gymreig o gefnogaeth sy'n cael ei chynnig—yn cyrraedd pocedi pobl mor hawdd a chyflym â phosibl. Mae'r diffygion, y gwahaniaethau, a dros y degawd diwethaf o reolaeth y Torïaid yn San Steffan, y creulondeb llwyr sy'n nodweddu system les y DU wedi achosi caledi i ddegau o filoedd o Gymry ac wedi arwain at orfodi Llywodraeth Cymru i gamu i'r adwy lle mae San Steffan wedi gwneud cam â Chymru.
Rhoddodd Deddf yr Alban 2016 bwerau newydd i'r Alban mewn perthynas â nawdd cymdeithasol, gan gynnwys cyfrifoldeb dros fudd-daliadau penodol, y mae Llywodraeth yr Alban yn eu defnyddio i greu system nawdd cymdeithasol yn yr Alban yn seiliedig ar urddas, tegwch a pharch. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro byd dros ddatganoli gweinyddu lles i Gymru, ac rydym yn falch o symud ymlaen ar y mater hwn drwy ein cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond tra byddwn yn aros am gynnydd ar yr uchelgais hwnnw, mae'r cymorth sydd ar gael o goffrau Cymru wedi bod yn cynyddu'n gyflym ac felly'n esblygu'n glytwaith o daliadau a ddarparir yn bennaf gan yr awdurdodau lleol, er nad yn llwyr. Weithiau mae'r taliadau'n ddarostyngedig i brawf modd, weithiau'n gysylltiedig â budd-daliadau penodol, gydag amodau cymhwysedd amrywiol, gwahanol ffurflenni a rheoleidd-dra talu, a dulliau o wneud ceisiadau ar wahân i'w gilydd yn bennaf, dulliau sy'n aml yn gymhleth.
Gadewch inni edrych ar y cynlluniau sydd ar gael i helpu gyda biliau tanwydd er enghraifft. Yng Nghymru, mae gennym gynllun cymorth tanwydd y gaeaf, a ailenwyd yn ddiweddar yn ei ail gyfnod cyflwyno o'r mis Medi hwn yn gynllun cymorth tanwydd Cymru. Gall aelwydydd cymwys ar fudd-daliadau penodol rhwng misoedd penodol hawlio taliad ariannol untro gan eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn wahanol i'r taliad tanwydd y gaeaf a'r taliad tywydd oer sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU. Mae'r cynllun talebau tanwydd yn fath newydd o gymorth i ddarparu cymorth mewn argyfwng i aelwydydd sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu hynni, gan ddarparu talebau ychwanegol i'r rhai ar fesuryddion rhagdalu a gwasanaeth argyfwng i aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy. Ond ni allwch wneud cais; rhaid i aelwydydd gael eu cyfeirio. Mae'r gronfa cymorth dewisol yn darparu dau fath o grant, ac mae un ohonynt, y taliad cymorth mewn argyfwng, ar gael tan ddiwedd mis Mawrth i helpu aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy sy'n dioddef caledi ariannol i dalu am olew ychwanegol ac LPG. Mae'r rhai sydd angen cymorth brys tuag at nwy ychwanegol a mesuryddion rhagdalu trydan yn gallu cael cymorth hefyd, ond os chwiliwch chi am y gronfa cymorth dewisol ar Google, fe gewch dudalen Llywodraeth Cymru nad yw'n crybwyll hyn o gwbl. Unwaith eto, rhaid i geisiadau gael eu gwneud drwy weithiwr cymorth. Felly, fe welwch sut mae pethau: amodau cymhwysedd gwahanol, rheolau gwahanol, prosesau gwahanol ar gyfer gwneud ceisiadau. Ac mae hyn i gyd i fod i helpu pobl sydd mewn argyfwng, sydd, i fod yn onest, heb fod yn y lle iawn yn feddyliol i fynd ar drywydd hyn i gyd tra'u bod yn poeni sut i gadw eu plant yn gynnes. A dim ond cymorth gyda thanwydd yw hyn.
Mae Sefydliad Bevan yn dadlau dros yr angen am system fudd-daliadau Gymreig a gwasanaethau datganoledig. Mae ei ymchwil i'r ffordd y cafodd y taliadau cymorth, lwfansau a grantiau Llywodraeth Cymru ac awdurdod lleol hyn eu gweinyddu yn awgrymu y gallai newidiadau i gynlluniau unigol a'u hintegreiddio'n system ddi-dor gynyddu eu cyrhaeddiad a'u heffaith. Pan wnaeth y galwadau hyn am y tro cyntaf, roedd yna 12 grant a lwfans gwahanol, pob un yn cael eu gweinyddu ar wahân, felly, hyd yn oed pan oedd meini prawf cymhwysedd yr un fath, roedd rhaid i bobl wneud cais am bob math o gymorth ar wahân. Fel yn achos yr enghraifft a roddais ynghylch taliadau cymorth tanwydd, mae llawer mwy wedi'u cyflwyno neu gymhwysedd wedi'u ehangu ers dechrau'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Ac felly dim ond cynyddu y mae'r sail a'r ddadl dros greu un system integredig ddi-dor.
Ac nid yw cymorth yn gymorth os nad ydych chi'n gwybod ei fod yno neu os nad yw'n hygyrch. Roedd yr arolwg diweddaraf gan Plant yng Nghymru yn cynnwys y farn hon gan un ymarferydd sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd:
'Nid yw’n ddigon i ddweud bod pobl heb wybodaeth am yr hyn y gallan nhw ei hawlio. Fyddai llawer o’r bobl agored i niwed rwyf fi’n eu gweld yn methu cael hyd i ffordd trwy’r system gymhleth hon heb lawer o gefnogaeth barhaus.'
Dylem gofio hynny wrth nodi bod llai na hanner yr aelwydydd cymwys wedi gwneud cais am rownd gyntaf y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf.
Mae mudiadau fel Home Start Cymru, sy'n gweithio ar draws 18 awdurdod lleol i gefnogi teuluoedd â phlant, yn cytuno bod angen gwella a symleiddio'r sefyllfa. Mewn cyfarfod diweddar o grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dlodi, fe wnaethant rannu safbwyntiau o'u prosiect Cefnogi Pobl Caerffili. Dywedodd un fam nad oedd hi'n gwybod bod dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y taliad costau byw ac felly ei bod ar ei cholled. Dywedodd un arall, 'Cefais daliad o £326 i mewn yr wythnos o'r blaen. Nid wyf yn siŵr ar gyfer beth y mae. Ond mae'r cyfeiriad ar fy nghyfrif banc yn dweud mai dim ond rhif ydyw.' Rhannodd staff pa mor anodd yw cefnogi teuluoedd gyda system mor gymhleth i'w llywio. Un broblem gyffredin yw bod cynghorwyr yn dweud na allant weithredu ar ran teuluoedd i helpu i ddatrys pethau fel hawliadau gostyngiadau'r dreth gyngor; mae angen caniatâd ysgrifenedig.
Ac rwy'n credu bod y dyfyniad canlynol gan weithiwr cymorth yn crisialu'r angen am newid fel y mae'r cynnig yn ei argymell: 'Tad sengl oedd un o'r bobl a gefnogais. Er ei fod yn cael credyd cynhwysol ac yn dibynnu ar fanciau bwyd, roedd wedi bod yn talu swm llawn y dreth gyngor ers 14 mis. Fe ganfyddais nad yw cynghorwyr y dreth gyngor yn gofyn a ydych chi ar fudd-daliadau.' Gwyddom mai ôl-ddyledion y dreth gyngor yw'r broblem ddyledion fwyaf i aelwydydd Cymru. Byddai cysylltu cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor â chymhwysedd i gael credyd cynhwysol yn atal pobl rhag mynd i ddyled. Byddai manteision yn sgil gostwng costau gweinyddu a chapasiti'n cael ei ryddhau i awdurdodau lleol a chynghorwyr allu hyrwyddo budd-daliadau, gan roi hwb pellach i'r nifer sy'n eu cael.
Wrth ateb cwestiynau blaenorol yn y Senedd ar wella a sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn eu cael, nododd y Gweinidog y gwaith parhaus, megis gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio sut y gellid datblygu un pwynt mynediad a rhannu arferion gorau drwy gyhoeddi pecyn cymorth ar sut i symleiddio'r broses ymgeisio. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi dweud y gall awdurdodau lleol sicrhau pasbort i'r rhai sy'n gymwys ar gyfer y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor i gynllun cymorth tanwydd Cymru, ond mae llai na hanner ein hawdurdodau lleol yn gwneud hynny. Mae angen dull cyfannol, system gyfan.
Mae'r Gweinidog wedi siarad am y gwaith ar greu siarter ar gyfer darparu'r taliadau hyn. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod ymchwil yn cael ei wneud gan Policy in Practice, a ariennir gan sawl sefydliad, i edrych ar sut y gellir cyflawni dull cyffredin a fyddai'n arwain at ddull 'dim drws anghywir' y gwyddom ei fod mor hanfodol ac effeithiol. Fy nadl i yn hyn o beth yw na fydd siarter, sef canllawiau i bob pwrpas, yn ddigon. Ni fydd yn osgoi loteri cod post; ni fydd yn osgoi'r tyllau yn y rhwyd ddiogelwch hollbwysig honno. Mae angen troedle statudol cadarn ar gyfer system sy'n seiliedig ar hawliau a fydd yn sicrhau cydlyniad ac effeithiolrwydd, ac yn caniatáu i bobl wneud cais am yr holl gymorth y mae ganddynt hawl i'w gael mewn un lle. Ac yng Nghymru, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau rheoleiddio dros lywodraeth leol, felly mae modd cyflawni hyn.
Byddai cost i greu system sy'n siarad â'r holl systemau sydd angen iddi siarad â hwy, ond mae'r manteision yn amlwg. Yn bwysicaf oll, bydd yn helpu'r rhai sydd angen pob un geiniog o help i gadw'r gwres ymlaen, i gadw'r golau ymlaen, i roi dillad am y plant a bwyd yn eu boliau. Diolch.
Cyfraniad diddorol gan Sioned Williams, ac rwy'n rhannu eich angerdd ynghylch sicrhau bod pawb yn cael yr hyn mae ganddynt hawl iddo, ond hynny, wrth gwrs, yw prif sail cynigion Llywodraeth Cymru i geisio helpu pobl drwy'r cyfnod hynod anodd hwn. Dyna pam y mae gennym 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'.
Felly, rwy'n bendant yn cefnogi datganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru, fel yr argymhellwyd gan Sefydliad Bevan, oherwydd rwy'n deall y manteision a ddaeth yn sgil hynny yn yr Alban. Ynghanol yr argyfwng costau byw na fu ei debyg o'r blaen, mae'n edrych yn ddeniadol iawn i gyflwyno Bil o'r fath yma, ond a yw o fewn cwmpas ein pwerau ac a fydd ei angen os oes Llywodraeth yn y dyfodol yn mynd i gytuno i ddatganoli budd-daliadau?
Yn amlwg, mae angen inni wella'r hyn a wnawn ar hyn o bryd, oherwydd mae llawer gormod o bobl yn dioddef yn ddychrynllyd iawn. Ac ar hyn o bryd, mae elusennau, er enghraifft, yn codi'r faner goch dros niferoedd y bobl sy'n cael eu gorfodi i gael mesuryddion rhagdalu am ddim rheswm heblaw eu bod wedi mynd i ddyled ar eu trefniadau presennol. Mae hyn yn destun pryder mawr, ac yn rhywbeth y dylem wneud rhywbeth yn ei gylch yn ôl pob tebyg, oherwydd mae datgysylltu drwy'r drws cefn yn gwbl annerbyniol. Ni fyddem yn gwneud hyn mewn perthynas â dyled dŵr, ac nid oes angen inni ei wneud mewn perthynas â galluogi pobl i gadw'n gynnes a chadw'r golau ymlaen. Ond p'un a oes angen deddfwriaeth arnom i wella'r sefyllfa ai peidio, neu p'un a oes angen cyfarwyddyd pellach arnom gan Lywodraeth Cymru i wella asesiadau awdurdodau lleol o'r mater hwn.
Roeddwn yn bryderus iawn o glywed Sioned yn dweud bod llai na hanner yr awdurdodau lleol yn sicrhau pasbort i'r rheini sy'n derbyn budd-dal gostyngiad y dreth gyngor i fudd-daliadau eraill, fel cynllun taliad tanwydd y gaeaf yng Nghymru. Mae hynny'n peri pryder, oherwydd rwy'n gwybod yn sicr nad yw hynny'n digwydd yng Nghaerdydd lle'r oedd holl denantiaid y cyngor, er enghraifft, wedi cael pasbort awtomatig i gynllun taliadau tanwydd y gaeaf Cymru y llynedd. Nawr, nid oedd y nifer a'i câi y llynedd yn 100 y cant, oherwydd yn amlwg roedd yn rhywbeth a wnaethpwyd mewn amser byr iawn, ond gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun i gynnwys nifer mwy o aelwydydd erbyn hyn—400,000 o aelwydydd incwm isel ar gyfer y gaeaf sydd i ddod—er i'r cynllun ddechrau ar 26 Medi, rwy'n synnu'n fawr fod yn agos at hanner nifer y bobl gymwys eisoes wedi manteisio ar yr hawl. Yn amlwg mae hynny'n adlewyrchu'r angen, ond mae hefyd yn adlewyrchu cymhwysedd pobl i sicrhau eu bod yn ei gael.
Rwy'n credu bod prydau ysgol am ddim i bawb yn gyfle a gollwyd i gael sgwrs briodol gyda rhieni ynglŷn ag a ydynt yn hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol yn Lloegr wedi cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau yn aruthrol o ganlyniad i gael y sgwrs honno—
Jenny, mae angen i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
—am hyn. Yn olaf, os yw cynigion Gordon Brown ar gyfer diwygio cyfansoddiadol yn cynnwys datganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru, a'u bod yn cael eu derbyn gan Lywodraeth yn y dyfodol, a fyddem angen y ddeddfwriaeth hon felly? Ac yn y cyfamser, sut y gallwn wella'r rhan y mae awdurdodau cyhoeddus yn ei chwarae yn y mater pwysig hwn?
Ym mis Ionawr 2019, lansiodd Sefydliad Bevan ei brosiect ar system fudd-daliadau Cymru, gyda'r nod o ddatblygu fframwaith cydlynol a symlach o help yng Nghymru. Roeddent yn dweud hyn:
'Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru yn darparu nifer o gynlluniau gwahanol sy'n amrywio o ddarparu prydau ysgol am ddim i daliadau tai dewisol.'
Roeddent yn ychwanegu:
'Ar hyn o bryd, mae pob un o'r cynlluniau hyn yn cael eu hystyried fel rhai ar wahân i'w gilydd, sy'n golygu bod yn rhaid i hawlwyr wneud ceisiadau lluosog yn aml i gael yr holl gymorth ychwanegol Cymreig y mae ganddynt hawl i'w gael, ac yn creu aneffeithlonrwydd yn y system.'
Wrth siarad yn seminar fforwm polisi Cymru ar leihau tlodi yng Nghymru, diwygio lles, dulliau lleol o weithredu a strategaethau hirdymor ym mis Mawrth 2019, nodais fod Cartrefi Cymunedol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol i'w galwad ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru er mwyn cydleoli gwasanaethau a'i gwneud yn bosibl i geisiadau am fudd-daliadau awdurdodau lleol gael eu gwneud ar yr un pryd â'r credyd cynhwysol.
Wrth siarad yma ym mis Medi 2020, yn y drafodaeth ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well', roeddwn yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion y dylai sefydlu
'"system fudd-daliadau Gymreig" gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae’n gyfrifol amdanynt... [wedi] eu cydgynhyrchu gyda phobl sy’n hawlio’r budd-daliadau hyn a’r cyhoedd ehangach yng Nghymru'
'a'i fod yn defnyddio pecyn cymorth dull bywoliaethau cynaliadwy Oxfam'.
Ychwanegais, fodd bynnag,
'Mae angen i ni droi geiriau yn weithredu go iawn yn awr fel bod pethau'n cael eu gwneud gyda phobl o'r diwedd yn hytrach nag iddyn nhw.'
'Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cwblhau'r camau sydd i'w cymryd yn dilyn ei hadolygiad o'i rhaglenni a'i gwasanaethau presennol'— ac—
'ni fydd datblygu cyfres o egwyddorion a gwerthoedd ar gyfer seilio system fudd-daliadau Gymreig arnynt a mynd i'r afael â thlodi'n ehangach yn llwyddo heb gynnwys dinasyddion yn y canol.'
Mae hynny dros ddwy flynedd yn ôl.
Wrth siarad yma ym mis Ionawr 2021, gofynnais i'r Prif Weinidog sut roedd yn ymateb i alwadau gan Sefydliad Bevan, Cyngor ar Bopeth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru ar Lywodraeth Cymru i sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer budd-daliadau a chynlluniau cymorth a weinyddir yng Nghymru.
Wrth siarad yma ym mis Gorffennaf 2021, fe heriais Lywodraeth Cymru am y camau a gymerodd i sefydlu system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig, fel yr argymhellwyd yn adroddiad pwyllgor 2019 ar fudd-daliadau yng Nghymru. Gofynnais i'r Trefnydd, a oedd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog,
'pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd ers hynny i droi ei geiriau yn weithredu go iawn'.
Byddwn yn falch o gefnogi'r cynnig fel y'i drafftiwyd yn unol â hynny.
Rwy'n credu bod Sioned wedi taro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd nad yw cymorth yn gymorth os nad ydych yn gwybod ei fod yno. Hoffwn ddiolch iddi am gyflwyno'r cynnig hwn. Y gwir amdani yw y ceir llawer o bobl nad ydynt yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt—budd-daliadau y maent eu hangen yn ddybryd. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i chwilio am y rhai sydd mewn angen a pheidio â disgwyl i'r rhai sydd mewn angen gamu ymlaen.
Ceir stigma cynhenid wrth hawlio unrhyw gymorth; rydym wedi gweld adroddiadau dirifedi'n tynnu sylw at hyn. Clywsom fod y fiwrocratiaeth wrth wneud cais yn gweithredu fel rhwystr; unwaith eto, ceir adroddiadau dirifedi'n tynnu sylw at hyn. Fel y soniodd Sioned, nid yw pobl yn y lle iawn yn feddyliol ac nid oes ganddynt amser i chwilio am ystod fawr o gymorth gan wahanol ddarparwyr. Dyna pam rwy'n cefnogi egwyddor cyffredinoliaeth, dyna pam rwy'n credu mewn prydau ysgol am ddim i bawb a dyna pam rwy'n credu bod gwasanaethau sylfaenol cyffredinol yn hanfodol.
Rwy'n credu—yn credu'n gryf—y dylai unrhyw gymdeithas sy'n dosturiol fynd ati i sicrhau bod gan bawb fynediad at yr hanfodion. Os ydym yn mynd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, os ydym yn mynd i ddeffro o hunllef neoryddfrydol y DU heddiw, mae angen atebion radical, wedi'u seilio ar gyffredinoliaeth. Rwy'n gweld hwn fel cynnig sy'n mynd â ni i'r cyfeiriad cywir ac rwy'n cefnogi cynnig fy nghyfaill yn llwyr.
Bûm mewn tair seminar costau byw yng ngogledd Cymru yn ddiweddar, a chyfathrebu ynghylch pa fudd y mae gan bobl hawl iddo oedd y broblem fwyaf. Cafwyd amrywiaeth o awgrymiadau: gwiriwr grant ar-lein, argraffu rhif cyngor CAB ar fagiau presgripsiwn o'r fferyllfa, cael cynghorwyr cymunedol sy'n dod i adnabod y rhai sy'n anodd eu cyrraedd yn y gymuned a rhif un pwynt mynediad, a hoffwn i'r Llywodraeth ysgrifennu at bawb, fel y gwnaethant yn ystod y pandemig—dyna fy awgrym i hefyd.
Trafodwyd hefyd fod angen i drigolion a sefydliadau wybod beth sy'n digwydd. Mae angen inni wneud i bob cyswllt gyfrif, felly mae hynny'n golygu cynghorwyr; swyddfeydd cyngor ar bopeth; gofal cymdeithasol cynghorau; adrannau tai, refeniw a budd-daliadau; a swyddogion cronfa'r loteri. Mae'r rhestr yn parhau: meddygon, banciau bwyd, ymwelwyr iechyd a nyrsys ardal.
Mae darparu budd-daliadau yn flêr, yn fiwrocrataidd ac yn gostus. Mae awdurdodau lleol yn brin o staff; gwelais awdurdod lleol yn hysbysebu am 12 o staff budd-daliadau newydd, ond roedd pob un o'r rheini ar gyflogau isel hefyd, felly nid yw hynny'n helpu. Ond yn y bôn, pe bai ychwanegiad i'r credyd cynhwysol; pe bai gennym incwm sylfaenol cyffredinol; pe bai cynnydd yn incwm pawb i gyd-fynd â chwyddiant; a phe bai gwasanaethau cyhoeddus, sy'n gyflogwyr mawr yng Nghymru, yn cael eu hariannu'n iawn, yn hytrach na chael eu torri flwyddyn ar ôl blwyddyn, byddai gan bobl arian yn eu pocedi i'w wario yn yr economi leol. Byddai hynny'n sicr yn well.
Rwy'n gwrando ac yn dysgu, ac mae'r rhai sydd ag arian yn ei gadw, tra bod y rhai sydd heb lawer o arian yn fwy hael ac yn ei wario—byddant yn prynu tocynnau raffl a byddant yn helpu'r gymuned, gan wario pob ceiniog olaf o'u harian yn helpu eraill, nid yn ei gelcio.
Os nad yw'r newid hwnnw'n digwydd, mae angen inni ddatganoli nawdd cymdeithasol. Rwy'n credu bod angen newid sylfaenol. Mae angen inni gael gwared ar y system fudd-daliadau a biwrocratiaeth unwaith ac am byth. Beth bynnag, diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon ar y cynnig ar gyfer Bil manteisio ar fudd-daliadau. Rwy'n croesawu'r cyfle y mae'r ddadl hon yn ei roi i adrodd ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau ac i adrodd ar y ffyrdd rydym yn gyrru hyn yn ei flaen, mewn cydweithrediad â'n hawdurdodau lleol, yn enwedig. Ni fu erioed mor hanfodol fod pobl yn cael eu hannog i hawlio pob punt y mae ganddynt hawl i'w hawlio.
Drwy ein dull gwneud i bob cyswllt gyfrif, rydym yn mabwysiadu safbwynt rhagweithiol ar gyfer adnabod cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau, gan ganolbwyntio ar y gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn eu defnyddio fwyaf. Ac fel y dywedodd yr Aelod sy'n cyflwyno'r cynnig, mae ein budd-daliadau Cymreig, sy'n cynnwys cymorth fel prydau ysgol am ddim, grant datblygu disgyblion—mynediad, y cynllun gostyngiad y dreth gyngor, y gronfa cymorth dewisol a thalebau Dechrau Iach, yn achubiaeth i gannoedd o filoedd o bobl yn ystod yr argyfwng costau byw gwaethaf ers dros 40 mlynedd. Eleni, mae ein cronfa cymorth dewisol wedi cefnogi bron i 148,000 o unigolion bregus gyda mwy na £16.5 miliwn o ddyfarniadau, caiff help tuag at filiau'r dreth gyngor ei hawlio gan 268,000 o bobl, ac mae 73,024 o blant yn cael prydau ysgol am ddim, ac mae'n bwysig ein bod yn cofnodi hynny.
Mae ymwybyddiaeth o'r cymorth ariannol sydd ar gael, boed wedi'i ddatganoli neu heb ei ddatganoli, yn cynyddu mewn cartrefi ar draws Cymru oherwydd llwyddiant ymgyrchoedd fel 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Mae dros 9,000 o bobl hyd yma yn cael cymorth i hawlio dros £2.6 miliwn o incwm ychwanegol yn yr adroddiadau diweddaraf, ac rwy'n diolch i'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, am eu cefnogaeth i'n hymgyrch gyda'n gilydd i annog pobl ledled Cymru i hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo drwy hyrwyddo ein deunyddiau ymgyrchu.
Ond er ein bod yn gwneud gwaith rhagorol gyda'n gilydd i godi ymwybyddiaeth, rwy'n cydnabod bod mwy y gallwn ei wneud i symleiddio system fudd-daliadau Cymru, a dyna lle rydym yn canolbwyntio ein gweithredoedd. Ar hyn o bryd, bydd unigolion yn aml yn gorfod llenwi sawl ffurflen sy'n gofyn am wybodaeth debyg ond sydd angen eu hanfon at adrannau gwahanol. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhwystro pobl rhag manteisio ar eu hawliau, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn gwbl ymrwymedig i weledigaeth gyffredin o system fudd-daliadau Gymreig sydd ag un pwynt cyswllt, lle nad oes raid i unigolyn ddweud ei stori fwy nag unwaith.
Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gweithio gyda fy swyddogion i wneud gwaith archwilio a nodi atebion a fydd yn caniatáu ar gyfer system gydlynol, unedig, ac rwy'n croesawu'r ymchwil ar wahân sy'n cael ei harwain gan Sefydliad Bevan ar y rhwystrau rhag hawlio budd-daliadau Cymreig. Fodd bynnag, tra byddwn yn gweithio tuag at y nod hwn, rydym yn parhau i gyflawni gwelliannau. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y dull o weinyddu budd-daliadau Cymreig yn un sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn dosturiol, yn seiliedig ar hawliau. Mae'r gwaith a wnawn i symleiddio system fudd-daliadau Cymru yn cefnogi ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru ar ddatganoli gweinyddu lles ac archwilio'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar gyfer hyn.
Elfen hanfodol o'r gwaith hwn yw'r siarter fudd-daliadau, cyfres sylfaenol o egwyddorion ar gyfer system fudd-daliadau Gymreig y gwnaethom ei chreu gyda rhanddeiliaid o'n grŵp uchafu incwm. Rydym bellach yn bwrw ymlaen â'n siarter o'r cychwyn cyntaf hyd at ei gweithrediad drwy ymgysylltu â phobl sy'n hawlio budd-daliadau Cymreig a phartneriaid cyflawni. I gyd-fynd â siarter fudd-daliadau, mae gennym becyn cymorth arferion gorau ar gyfer awdurdodau lleol, sy'n cynnig awgrymiadau ymarferol ac arweiniad ar weinyddu budd-daliadau Cymreig. Rydym wedi datblygu'r pecyn cymorth hwnnw mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, gan ddefnyddio'u profiad ymarferol a gweithredol. Credwn mai gweithio ar y cyd â'n cydweithwyr llywodraeth leol yw'r ffordd fwyaf priodol o gyflwyno'r pecyn cymorth yn effeithiol, ac rydym yn gweithio gyda hwy i rannu a chyfnewid arferion da i hybu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau yng Nghymru.
Yn ddiweddar, gwelsom nifer o enghreifftiau o arferion gorau, o daliadau newydd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, yn fwyaf arbennig gydag awtomeiddio'r taliad costau byw o £150, a anfonwyd yn uniongyrchol at unigolion cymwys mewn llawer o achosion heb fod angen iddynt wneud cais—dull sydd bellach wedi'i fabwysiadu gan awdurdodau o dan gynllun cymorth tanwydd presennol Llywodraeth Cymru. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae dros 185,000 o daliadau eisoes wedi eu talu mewn llai na mis.
Felly, rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn, boed yn gweithio ar y rheng flaen yn helpu unigolion i hawlio budd-daliadau Cymreig, neu'n gyfrifol am weinyddu'r budd-daliadau hynny, am eu hymrwymiad parhaus i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu hawlio'r hyn sydd ar gael iddynt. Dyna lle rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ni allaf siarad mewn dadl ar fudd-daliadau heb sôn am yr aelwydydd ledled Cymru sy'n wynebu trafferthion ariannol dyddiol, gyda'r lefel uchaf o chwyddiant ers dros 40 mlynedd. Rwy'n gwybod y bydd holl Aelodau'r Senedd ar draws y Siambr yn ymuno â'm galwad ar y Canghellor i wneud y peth iawn a chadarnhau na fyddant yn torri eu haddewidion blaenorol, ac y byddant yn uwchraddio'r holl fudd-daliadau nawdd cymdeithasol 10.1 y cant o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Diolch.
Sioned, fe ddefnyddioch yr holl amser a neilltuwyd i chi ar gyfer agor a chloi i agor y sesiwn, ond rwyf wedi cytuno i neilltuo munud ychwanegol ichi gloi'r sesiwn, felly rwyf am roi amser ichi wneud hynny yn awr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n anodd pan ydych ar Zoom a phan fo gennych COVID.
Hoffwn ddweud wrth Jenny, sy'n dymuno aros, na all teuluoedd aros. Byddai’n well gennyf wrando ar y rheini a chanddynt brofiad bywyd, yn hytrach na Gordon Brown, ynghylch yr atebion sydd eu hangen.
Mark Isherwood, diolch am eich cefnogaeth. Rwy’n cytuno nad yw’r rhain yn syniadau newydd. Mae'n hen bryd gweithredu. Dychmygwch pe bai hyn wedi bod ar waith ychydig flynyddoedd yn ôl, cyn i'r pandemig a'r argyfwng costau byw daro. Clywsom yn y cwestiynau yn gynharach heddiw i Rebecca Evans fod awdurdodau lleol dan gymaint o bwysau; dylem wneud popeth a allwn i'w helpu i ehangu a rhyddhau eu capasiti, a byddai hyn yn gwneud hynny. Gwyddom fod Cyngor ar Bopeth yn nodi cynnydd o 200 y cant, ac roedd hynny yn ôl ar ddiwedd mis Awst a dechrau mis Medi. Mae angen inni ryddhau capasiti’r gweithwyr cymorth hynny i wneud mwy na llenwi ffurflenni.
Weinidog, rwy'n cydnabod yr ymdrech y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud ar wneud y gorau o incwm gyda 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' ac ati, ond gwyddom nad yw canllawiau bob amser yn ddigon. Rydym wedi gweld, pan fuom yn siarad am gost y diwrnod ysgol, nad yw canllawiau ar wisg ysgol bob amser yn cael eu dilyn, a dyna pam nad yw 'mewn llawer o achosion' yn ddigon da. Dyna pam fod angen y math hwn o ddeddfwriaeth—er mwyn rhoi hyn oll ar sylfaen statudol.
Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.