1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2022.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu tai cymdeithasol mewn ardaloedd lle mae galw mawr? OQ58682
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r broses hon drwy oruchwylio'r asesiadau newydd o'r farchnad dai leol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiadau o'r fath, ond, o fis Ebrill 2022 ymlaen, bydd eu cynnyrch yn cael ei adolygu a'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y Gweinidog yn falch o wybod bod Caerffili yn gweithio ar ei gynllun datblygu lleol ar hyn o bryd, a bydd yn cofio sut aeth hynny yn y gorffennol. Felly, rwy'n falch iawn heddiw o fod wedi cael cyfarfod gyda dirprwy arweinydd y cyngor, y Cynghorydd James Pritchard, a aeth â fi drwy rai o'r cynlluniau y maen nhw'n eu gwneud o ran tai. Maen nhw'n awyddus i weld tai yng nghanolbarth a gogledd bwrdeistref Caerffili, a chanolbarth a gogledd fy etholaeth i hefyd, sy'n bwysig iawn i gymryd y pwysau oddi ar y de. Un o'r pethau a ddywedodd yw eu bod nhw hefyd yn adeiladu nawr yn yr ardaloedd hynny o dai cyngor am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, sy'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylid ei ganmol yn enfawr. Dywedodd hefyd, wrth ddatblygu eu cynllun, ei fod eisiau cynnwys gofal iechyd, addysg a seilwaith fel elfennau allweddol sy'n mynd y tu hwnt i alw am dai yn unig i ddiwallu'r angen am dai. A wnaiff y Gweinidog eu cefnogi nhw, felly, gan ddefnyddio adnoddau Llywodraeth Cymru, yn yr uchelgais honno?
Diolch. Wel, mae'n sicr yn dda iawn clywed bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili unwaith eto yn adeiladu tai cyngor. Rwy'n meddwl bod llawer o arbenigedd yr ydym ni wedi ei golli dros y 30 mlynedd diwethaf o ran adeiladu tai cyngor, ac mae wedi bod yn dda gweld ein partneriaid yn dod at ei gilydd ar draws y wlad i gyd yn hynny o beth. Felly, rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i'w gefnogi, ac, yn amlwg, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am dai, yn falch iawn o glywed am hynny hefyd. Rwy'n credu bod y pwynt rydych chi'n ei wneud ynghylch seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus yn bwysig iawn pan fo awdurdodau lleol yn cynllunio datblygiadau tai.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Hefin David, am godi'r cwestiwn hwn. Gweinidog, mae siopau gwag yng Nghymru yn parhau i fod ymhlith yr uchaf yng Nghymru. Yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru, yn ail chwarter eleni, 16.7 y cant oedd cyfradd y siopau gwag. Yn Lloegr, cyflwynwyd pecyn o fesurau i adfywio strydoedd mawr ac ardaloedd siopa drwy gyflwyno hawl datblygiad a ganiateir newydd, gan ganiatáu i siopau gwag ac adeiladau masnachol eraill gael eu trosi i ddefnydd preswyl heb orfod mynd trwy'r broses gynllunio lawn. Ym mis Gorffennaf, adroddwyd y byddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth weithredol i droi swyddfeydd yn llety pe bai cynlluniau o ansawdd uchel ar gyfer gwneud hynny yn cael eu cyflwyno. Felly, Gweinidog, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y mater hwn a'n hysbysu ai bwriad eich Llywodraeth yw cyflwyno mesurau i gyflymu'r broses o drosi adeiladau masnachol i ddefnydd preswyl, i ddarparu mwy o dai cymdeithasol, adfywio ein strydoedd mawr a chael gwared ar falltod adeiladau gwag o'r amgylchedd? Diolch.
Wel, yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi newid defnydd, os hoffech chi, yng nghanol ein trefi. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod arferion siopa wedi newid am byth mae'n debyg, ac yn sicr mae angen i ni wneud rhywbeth ynghylch llawer o adeiladau gwag yng nghanol ein trefi. Yn amlwg, mae gennym ni'r gronfa Trawsnewid Trefi, sydd, yn fy marn i, wedi cael ei defnyddio'n dda gan y Llywodraeth, ac mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn ni'n parhau i'w gefnogi.
Prynhawn da, Gweinidog, gobeithio eich bod chi'n iawn. Hoffwn i godi'r mater o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig. Rydym ni wedi clywed gan Gaerffili, rydym ni wedi clywed am y problemau yn ymwneud â siopau hefyd. Mae'r rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, fel y mae llawer ohonom ni yma, yn cael ei effeithio'n arbennig gan y diffyg eiddo fforddiadwy, ac, fel y gwyddoch chi, her arall yw nad yw awdurdodau lleol wedi gallu adeiladu oherwydd y broblem ffosffad. Yn amlwg mae'n rhaid bod y cyfrifoldeb hwnnw ar awdurdodau lleol i adeiladu mwy o dai cymdeithasol, ond tybed hefyd a allem ni edrych ar y mater o gynlluniau prydlesu sector preifat, a pha waith y gellir ei wneud i gynorthwyo cynghorau i gynyddu nifer yr eiddo sy'n cael eu gwneud ar gael drwy'r cynllun prydlesu sector preifat. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Wel, yn sicr, mae gan ardaloedd gwledig eu heriau unigryw eu hunain, a chyfleoedd hefyd, ac rwy'n credu bod y galluogwyr tai gwledig yn sicr wedi chwarae rhan bwysig. Gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn edrych ar gynlluniau treialu yn yr ardaloedd hyn hefyd. Ac o ran cynllun prydlesu PRS, nod hwnnw yw dod ag eiddo presennol a gwag sy'n eiddo i landlordiaid i'r cynllun, ac, yn amlwg, bydd y dull presennol ar gyfer y cynllun hwnnw yn parhau.