1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2022.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i frwydro yn erbyn newid hinsawdd yng Nghymru? OQ58683
Diolch. Y llynedd, fe wnaethom ni godi ein huchelgais i sicrhau allyriadau sero-net erbyn 2050. Cyn COP26, fe wnaethom ni gyhoeddi Sero Net Cymru, ein cynllun lleihau allyriadau. Rydym ni bellach yn canolbwyntio ar gyflawni'r camau gweithredu yn Sero Net Cymru a'n cynllun ymaddasu presennol ar gyfer yr hinsawdd, 'Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd'.
Diolch, Trefnydd, arweinydd y tŷ.
'Rydym ar briffordd i uffern hinsawdd gyda'n troed yn dal ar y sbardun.'
Dyma eiriau dramatig Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig António Guterres, yn annerch dechrau COP27 yn yr Aifft. Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhoi rhybudd plaen ac eglur i'r byd ein bod ni ym mrwydr ein bywydau ac yn colli. Trefnydd, gwn fod Prif Weinidog Cymru yn angerddol, fel rydych chithau, am Gymru yn chwarae ei rhan—rhan sylweddol—yn ymdrechion dynoliaeth i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae sicrhau newid teg a fforddiadwy i ddyfodol carbon isel yn golygu sicrhau bod ffynonellau newydd, glân, fforddiadwy o ynni adnewyddadwy i Gymru. Felly, Trefnydd, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ein bod ni'n cyflawni ein rhwymedigaethau sero-net mewn ffyrdd a fydd o fudd i holl gymunedau Cymru?
Diolch. Mae cyflawni newid teg a fforddiadwy i ddyfodol carbon isel yn golygu sicrhau bod ffynonellau newydd, glân, fforddiadwy o ynni adnewyddadwy ar gyfer Cymru. Mae angen i ni hefyd dyfu economi gydnerth, lle gallwn barhau i nodi a manteisio ar gyfleoedd yn y technolegau a'r marchnadoedd newydd a gwyrdd hynny. Ond, mae'n rhaid iddyn nhw gael eu seilio ar sylfaen ddiwydiannol aeddfed, arloesol a chystadleuol. Rwy'n credu bod y geiriau y gwnaethoch chi eu defnyddio, teg a fforddiadwy, yn bwysig iawn. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ei gwneud yn eglur iawn bod yn rhaid iddo fod yn newid cyfiawn, a bod yn rhaid gadael neb ar ôl.
Byddwch yn ymwybodol o'n harchwiliad trwyadl o ynni adnewyddadwy a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Fe wnaeth hwnnw wir amlinellu'r cyfleoedd sydd ar gael. Trafododd hefyd y rhwystrau sydd, wrth gwrs, yno i'w goresgyn, a'r camau arfaethedig y gallwn ni eu cymryd os ydym ni'n mynd i uwchraddio ein cynhyrchiad ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru. Soniais yn fy ateb cynharach i arweinydd Plaid Cymru bod y Prif Weinidog a minnau wedi mynd i ford gron yn Fforwm Iwerddon-Cymru yng Nghorc gyda chynhyrchwyr a datblygwyr ynni adnewyddadwy, ac maen nhw'n sicr yn gweld y cyfleoedd sydd gennym ni yma yng Nghymru yn hynny o beth.
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi amlinellu polisi ar bwysigrwydd perchnogaeth leol o ddatblygiadau ynni, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y cymunedau hynny'n cadw'r manteision cymdeithasol ac economaidd hynny o fod yn gartref i ddatblygiadau newydd sy'n gysylltiedig ag ynni. Ond, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy a darparu amgylchedd sefydlog ar gyfer y buddsoddiad hwnnw, oherwydd rwy'n cofio pan oedd paneli solar yn boblogaidd, ac yna fe wnaethon nhw ddiddymu'r tariff ar gyfer hynny. Fe es i fferm lle'r oedd ffermwyr wedi rhoi cynllun ynni dŵr ar eu fferm, ac roedden nhw'n awyddus iawn i fynd i'r cwm nesa i helpu ffermwr yno i sefydlu un, ond erbyn hynny roedd y tariff cyfrannol wedi mynd. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Llywodraeth y DU yn camu i'r adwy yn hynny o beth.
Fel y dywedodd Sameh Shoukry, darpar lywydd COP27, dim ond yr wythnos diwethaf,
'Fel y dengys y wyddoniaeth orau sydd ar gael, ni ellir gwrthdroi rhai effeithiau newid hinsawdd erbyn hyn ac mae angen undod a gweithredu byd-eang ar y cyd, nid rhethreg wag'.
Tra dywedir wrth y byd i flaenoriaethu'r argyfwng amgylcheddol, yma yng Nghymru disgrifiwyd ein llywodraethu amgylcheddol gan yr Athro Steve Ormerod fel
'methu ag ymdrin â materion cyfreithiol amgylcheddol sylweddol.'
Er bod ein pwyllgor newid hinsawdd wedi croesawu eich nod i greu Cymru wyrddach, rydym ni wedi bod yn gwbl eglur ei bod hi'n hanfodol bod cyfraith amgylcheddol yn cael ei seilio ar fframwaith llywodraethu cadarn sy'n cynnig trosolwg effeithiol o weithrediad ac atebolrwydd Llywodraeth pan fo'n methu â chyflawni. Yng ngoleuni'r alwad fyd-eang i weithredu ar frys i amddiffyn ein hamgylchedd, pam nad yw eich Llywodraeth—[Torri ar draws.] Ydych chi'n gwrando ar eich Gweinidog? Mae'n ddrwg gen i. Pam nad yw eich Llywodraeth wedi blaenoriaethu gweithrediad y corff trosolwg llywodraethu amgylcheddol statudol a addawodd eich Llywodraeth yn ystod tymor diwethaf y Senedd? Pam ydych chi wedi methu yn hyn o beth, Trefnydd? Diolch.
Wel, pe na baem ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ni fyddai gennym ni unrhyw fylchau yn ein llywodraethu amgylcheddol.