1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2022.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau eiriolaeth? OQ58653
Mae amrywiaeth o wasanaethau yn parhau i gael eu datblygu ledled Cymru. Yn nhymor presennol y Senedd, byddwn, er enghraifft, yn cynyddu mynediad at eiriolaeth iechyd meddwl i fodloni safonau amddiffyn rhyddid newydd a hefyd yn creu gwasanaeth eiriolaeth newydd i rieni y mae eu plant mewn perygl o gael eu symud i ofal cyhoeddus.
Diolch, Trefnydd, am eich ymateb. Rwy'n croesawu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud o ran gwasanaethau eiriolaeth, yn enwedig i blant a phobl ifanc o ran y cynnig gweithredol. Fodd bynnag, dywedodd yr adroddiad diweddar gan Gomisiynydd Plant Cymru, er gwaethaf rhywfaint o welliant, nad yw gwasanaethau eiriolaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd yn benodol ar gael o hyd i bob person ifanc sydd eu hangen. Er enghraifft, dywed yr adroddiad, yn anffodus, mai ychydig iawn o gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran cynorthwyo byrddau iechyd i wella'r cynnig eiriolaeth. Wrth i waith a ddechreuodd yn 2020 i ymgysylltu â byrddau iechyd a darparwyr eiriolaeth arafu oherwydd y pandemig, ac yna, fel y nodwyd yn yr adroddiad, fethu â chael ei ailddechrau ers hynny, Gweinidog, a oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau i ofyn i fyrddau iechyd asesu sut maen nhw'n gweithredu'r cynnig gweithredol ar hyn o bryd, a pha un a yw gwasanaethau yn hygyrch ac yn cynnwys gwasanaethau wyneb yn wyneb? A sut ydych chi'n ymateb i alwad y comisiynydd i'r opsiwn o wasanaethau eiriolaeth gael ei ymestyn i bob person ifanc sydd eu hangen wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd, ac i'r gwasanaeth hwn gael ei hysbysebu a'i hyrwyddo'n dda?
Yn amlwg, gall eiriolaeth gymryd sawl ffurf. Mae'n gallu bod yn anffurfiol, mae'n gallu bod yn ffurfiol. Rwy'n credu eich bod chi'n cyfeirio at ddulliau mwy ffurfiol. Mae gan bob math o eiriolaeth ei fanteision ei hun yn y ffordd y mae'n cynorthwyo unigolion. Mae gennym ni wasanaethau eiriolaeth ar gyfer iechyd. Byddwch yn ymwybodol o'r corff llais y dinesydd newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n disodli ein cynghorau iechyd cymuned. Yn amlwg, bydd y corff llais y dinesydd newydd yn adlewyrchu safbwyntiau a diddordebau pobl Cymru. O ran plant yn benodol, yn amlwg mae gennym ni ddull cenedlaethol o ymdrin ag eiriolaeth statudol ar gyfer plant ac, ers 2017, yn rhan o hynny, rydym ni wedi datblygu cynnig gweithredol o eiriolaeth i blant a phobl ifanc sydd â hawl pendant i gael y cynnig gweithredol hwnnw gan eiriolwr statudol, annibynnol, proffesiynol yn y dyfodol.