3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:50, 8 Tachwedd 2022

A gaf i ddweud fy mod i wedi mwynhau'r ymateb yna gan y Gweinidog i Janet Finch-Saunders, ac eithrio'r frawddeg olaf? Rwy'n croesawu'r ymateb yna. Mae’n ddihareb, bellach, wrth gwrs, dweud ein bod yn byw trwy gyfnod o newid digynsail. Rhwng Brexit, COVID a rŵan y rhyfel yn Wcráin, mae hyn oll yn cael effaith andwyol ar y gadwyn gyflenwi, gyda chostau deunyddiau crai, cynhyrchu a chludo yn cynyddu'n gyflym.

Rydyn ni'n gwybod o asesiad risg hinsawdd y Deyrnas Gyfunol nad ydy stoc dai'r wladwriaeth hon yn addas i wynebu'r ddau brif fygythiad newid hinsawdd sydd yn effeithio ar ein hiechyd cyhoeddus, sef glaw a llifogydd a ddaw yn sgil gwyntoedd mawr, a gwres eithafol. Mae hyn yn bwysig gan mai yma yng Nghymru y mae’r stoc dai hynaf yn Ewrop, gyda threian o’r stoc dai wedi ei hadeiladu cyn 1919. Mae’r tai yma yn cael eu hystyried yn rhai anodd eu trin. Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, mae nifer o’r tai yn y rhan yma o Gymru hefyd wedi eu cofrestru, fel dwi wedi nodi lawer gwaith. Gyda hen stoc dai o'r fath, a gyda llawer o adeiladau rhestredig na ellir eu hôl-osod yn effeithiol, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod y rhan fwyaf o'r stoc dai nid yn unig yn ynni effeithlon, ond yn sicrhau ansawdd byw uchel i bawb?

Mae Cymru, wrth gwrs, yn cael ei hystyried yn barth tywydd parth 4, lle mae cysylltiad agos rhwng glaw sy'n cael ei yrru gan wynt, tai o ansawdd isel ac iechyd gwael. Roeddwn wedi fy nhristáu yn ddiweddar o ddarllen am farwolaeth bachgen dwy oed ym Manceinion, Awaab Ishak, efo’r crwner yn cysylltu ei farwolaeth yn uniongyrchol â llwydni a lleithder yn ei gartref. Daeth y cwest o hyd i lwydni helaeth ar waliau a nenfydau'r ystafell ymolchi a'r gegin. Roedd yna hefyd tamp a llwydni mewn cwpwrdd yn yr ystafell wely. Mae’r un peth yn wir am lawer o gartrefi Cymru, gyda llwydni a lleithder yn cyflwyno bygythiad uniongyrchol i iechyd miloedd o bobl mewn tai cymdeithasol ac yn y sector rhentu preifat. Mae'r argyfwng tai yn argyfwng iechyd, a bydd newid yn yr hinsawdd ond yn gwneud hyn yn waeth, felly mae gwneud cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni yn hanfodol nid yn unig i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, ond hefyd ein hargyfyngau iechyd cyhoeddus. Felly, hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymateb i'r argyfwng iechyd trwy eu gweithredoedd yn y sector tai. Yn fwy penodol, beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i leihau presenoldeb tamprwydd a llwydni yn stoc dai Cymru trwy'r rhaglen ôl-ffitio?

Un math o fodel ôl-ffitio y mae arbenigwyr yn y sector yn ei eirioli ydy ôl-ffitio dwfn, lle mae cartrefi unigol yn cael eu trin ar sail unigol. Mae hyn, wrth gwrs, yn galw am nifer helaeth o sgiliau, hyfforddiant sylweddol a gweithlu eang. Byddai rhaglen ôl-osod ar y raddfa yma yn gofyn am raglen sgiliau a hyfforddiant i gael ei chefnogi gan y Llywodraeth. Byddai hyn, yn y pen draw, yn lleihau'r costau'n sylweddol ac yn rhoi hwb economaidd trwy ddatblygu gweithlu medrus ar draws y wlad, gan roi budd economaidd i bob rhan o Gymru.

Roedd y Gweinidog hefyd yn sôn am yr angen i ddatblygu'r gweithlu drwy'r ORP. Mae yma gyfle, felly, i fuddsoddi mewn rhaglen sgiliau a hyfforddiant i gyd-fynd â’r gwaith y mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn y cytundeb â Phlaid Cymru wrth ddatblygu Unnos. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adeiladu gweithlu sy'n gallu diwallu anghenion Cymru o ran cynyddu effeithlonrwydd ynni yn y sector dai drwy ôl-ffitio? Diolch.