– Senedd Cymru am 2:36 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae'r argyfwng costau byw yn cael ei yrru i raddau helaeth gan gynnydd mewn prisiau ynni sy'n effeithio ar bris pob math o nwyddau y mae pobl yn eu defnyddio. Er bod hyn yn cael effaith andwyol ar ein safonau byw ni i gyd, mae'n cael effaith ddinistriol ar yr aelwydydd sydd leiaf abl i dalu, gan arwain teuluoedd hyd at dlodi tanwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw yn fynych am dariff ynni domestig cymdeithasol, gan osod tariffau is na safonol ar gyfer gwell diogelwch i gartrefi incwm isel a threth ffawdelw ar yr elw dros ben a welodd cwmnïau ynni. Yn ddiweddar fe ymrwymodd Llywodraeth y DU i osod terfyn o £2,500 ar gyfartaledd yn ei bris tan fis Ebrill 2023. Serch hynny, rwy'n parhau i bryderu nad yw hynny'n rhoi'r gefnogaeth a anelir yn briodol at y rhai sydd â'r angen mwyaf.
Gyda'r ysgogiadau sydd gennym ni, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu yn gyflym i gyflwyno cefnogaeth i helpu deiliaid tai sy'n ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw. Mae dros £380 miliwn wedi cael ei fuddsoddi ers mis Hydref 2021. Rydym ni wedi ehangu'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer y gronfa cymorth dewisol tan fis Mawrth 2023, gan gyflawni £25 miliwn pellach. Mae mwy na 332,000 o aelwydydd wedi derbyn y taliad costau byw o £150, ac mae'r taliad cymorth tanwydd gaeaf o £200 wedi ei dalu i dros 204,000 o aelwydydd. Mae bron i £4 miliwn o gyllid yn galluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno talebau tanwydd a chronfa wres genedlaethol yng Nghymru i aelwydydd sy'n talu ymlaen llaw am eu tanwydd. Mae pedair mil o dalebau tanwydd wedi cael eu rhoi eisoes i gefnogi aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd. Fe fydd rhaglen Cartrefi Clyd, ymgyrch tanwydd gaeaf Nyth, a lansiwyd ar 1 o fis Tachwedd, yn rhoi cyngor y mae taer angen amdano ac yn cyfeirio pobl at wasanaethau cymorth hanfodol. Fe gysylltodd dros 8,000 o bobl ag Advicelink Cymru yn rhan o ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' i hawlio budd-daliadau, gan helpu i hawlio dros £2.1 miliwn o incwm ychwanegol.
Fodd bynnag, nid yw'r system ynni yn gweithio er mwyn deiliaid tai yng Nghymru, ac mae angen diwygiad sylfaenol ar y farchnad ynni. Rwy'n parhau i annog Llywodraeth y DU i gymryd camau. Gydag ysgogiadau cyfyngedig i newid y farchnad ynni, mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru. Mae ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio flaenllaw ni wedi dyrannu bron i £60 miliwn mewn cyllid grant eleni, gyda symiau dangosol o £70 miliwn ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Mae sianelu buddsoddiad y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio drwy gyfrwng landlordiaid cymdeithasol yn cefnogi dull profi a dysgu o ran sut i ddatgarboneiddio cartrefi yn effeithiol ac yn effeithlon. Fe fyddwn ni'n dysgu o'r gwaith hwn i ehangu i'r sectorau rhentu preifat a thai y mae eu perchnogion yn byw ynddyn nhw. Rydym ni wedi gwneud nifer o welliannau i raglen Cartrefi Clyd cynllun Nyth hefyd drwy osod paneli solar ffotofoltaig a storio batri, gan alluogi cartrefi i ddefnyddio ynni o'u ffynhonnell eu hunain. Cafodd dros £394 miliwn ei fuddsoddi i gefnogi mwy na 67,100 o gartrefi incwm is i wella eu heffeithlonrwydd ynni. Mae disgwyl mwy o gyllid o £35 miliwn ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf.
Er ein bod ni'n cefnogi teuluoedd drwy'r cyfnod anodd hwn, ni allwn ni ddiystyru newid hinsawdd a'r her o ddatgarboneiddio 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi cartrefi incwm is sydd mewn tlodi tanwydd er mwyn lleihau eu biliau nhw a'u hallyriadau carbon nhw.
Fe fyddwn ni'n parhau i ddysgu o raglenni blaenorol a chyfredol. Mae sawl cynllun yng Nghymru a'r DU wedi bod o fudd gwirioneddol i aelwydydd agored i niwed. Serch hynny, rydym ni'n ymdrin â gwaddol rhai cynlluniau a gafodd eu cynllunio a'u cyflwyno mewn ffordd wael iawn ddegawd yn ôl. Yn ddiweddar, fe wnes i gymeradwyo £4.5 miliwn ar gyfer cynlluniau yng nghynghorau bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili i atgyweirio dros 150 o gartrefi a gafodd eu siomi yn fawr gan gynlluniau blaenorol Llywodraeth y DU. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'r camgymeriadau hyn i wneud gwahaniaeth sy'n gadarnhaol a pharhaol.
Fy mwriad i yw cyflwyno cynllun newydd sy'n cael ei arwain gan y galw cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar gartrefi mewn tlodi tanwydd. Yn ogystal â hynny, rwy'n bwriadu datblygu dull integredig hefyd ar draws pob deiliadaeth a lefel incwm i annog datgarboneiddio. Fe fydd y gwasanaeth newydd, sy'n cael ei arwain gan alw ac y disgwylir iddo gael ei gaffael y flwyddyn nesaf, yn disodli cynllun presennol Nyth, gan ganolbwyntio yn fwy ar ddatgarboneiddio. Fe fydd y dull integredig ychwanegol yn dilyn hynny, gan ddatblygu o brofiadau'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a mentrau tai eraill yng Nghymru. Y cam cyntaf yw annog landlordiaid i archwilio'r defnydd posibl o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ar gyfer cyflwyno gwelliannau, er enghraifft, o ran gweithredu drwy gymuned fechan gyfan, yn hytrach na bod yn ddatrysiad sydd ar sail daliadaeth yn unig. Fe fydd yr agwedd ddeuol hon yn cefnogi datblygu gweithlu medrus ac yn ehangu'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Fe fydd y dull gweithredu yn cefnogi'r rhai sy'n gallu talu hefyd, gan roi hyder iddyn nhw eu bod nhw'n gwneud y pethau iawn.
Rydym ni'n buddsoddi mewn hwb perfformiad carbon sero net tai newydd i roi arweiniad arbenigol ar bob agwedd ar ddatgarboneiddio cartrefi preswyl. Fe fydd y cynllun hwb yn dechrau gyda landlordiaid cymdeithasol, ond fe gaiff ei ymestyn ar ôl y flwyddyn gyntaf i helpu landlordiaid preifat a pherchnogion tai hefyd. Fe fyddwn ni'n gwneud y mwyaf o'r cyfle a roddwyd gan gynllun rhwymedigaeth y cwmnïau ynni hefyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Mae'r cynllun ECO4 nesaf wedi cael ei lansio, ac mae hwnnw'n werth £4 biliwn dros y pedair blynedd nesaf. Mae datgarboneiddio a gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru ar draws pob deiliadaeth, a sut y gallai hynny gael ei ariannu, yn gymhleth iawn. Nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig mo hyn chwaith. Yn ddiweddar, rydym ni wedi dechrau gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i edrych ar ddewisiadau cyllido ar gyfer y sectorau lle mae pobl yn berchen ar eu tai. Rydym ni'n ymgynnull panel o arbenigwyr o bob rhan o'r sector cyllid hefyd i weithio gyda ni ar werthuso dewisiadau a saernïo'r atebion hynny o ran cyllido hyfyw.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae angen gweithredu ar frys ym mhob rhan o'r gymdeithas i leihau ein hallyriadau ni o nwyon tŷ gwydr a meithrin ein cydnerthedd i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd. Cyhoeddwyd strategaeth ddrafft ar gyfer gweithredu ac ymgysylltu â'r cyhoedd ar 20 o fis Hydref. Dyma un o'r eitemau a fydd yn cael eu trafod yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, sef o 21 Tachwedd hyd 25 Tachwedd, ac, wrth gwrs, fel dywedodd Delyth yn gynharach, mae hi'n Wythnos Hinsawdd Ieuenctid, sy'n braf iawn i'w gweld hefyd yn fy marn i. Rydym ni'n annog pobl i ymuno â ni am wythnos o ddigwyddiadau a thrafodaethau ynglŷn â sut y gallwn ni greu Cymru wyrddach, gryfach, decach. Diolch.
Mae gennyf i lawer o siaradwyr ar yr eitem hon y prynhawn yma, felly, os gwelwch chi'n dda, bawb, a wnewch chi gadw at eich amseriadau chi? Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr nad oes angen i mi atgoffa'r Gweinidog o'r ffaith bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig o ran darparu cartrefi effeithlon o ran ynni, ac mae hynny'n cael ei gadarnhau gan yr ymgynghoriad ar gyfer rhaglen Cartrefi Clyd. Cymru sydd â'r gyfran isaf o anheddau sydd â gradd tystysgrif perfformiad ynni C neu uwch, sef 28 y cant. Er cymhariaeth mae gan Loegr, 30 y cant; yr Alban, 42 y cant; a Gogledd Iwerddon, 49 y cant. Roedd yr arolwg hwn yn nodi mai gan Gymru, ar draws gwledydd Prydain Fawr, mae'r stoc hynaf o anheddau hefyd. Roedd yr arolwg hwn yn canfod bod eiddo mwy newydd yn fwy tebygol o fod â mesurau effeithlonrwydd ynni, fel dangosodd 33 y cant sy'n defnyddio goleuadau ynni isel, o gymharu â 24 y cant o anheddau a adeiladwyd cyn 1919. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod methiant Llywodraeth Cymru i adeiladu cartrefi effeithlon o ran ynni newydd i'r dyfodol yn cael effaith ddinistriol ar ein hymrwymiadau ni o ran newid hinsawdd?
Rwy'n nodi bod dros £394 miliwn wedi cael ei fuddsoddi drwy raglen Cartrefi Clyd, o fis Rhagfyr 2021. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £20.1 miliwn yng nghynllun Nyth yn 2021, gyda £15.7 miliwn yn ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru a buddsoddiad Ewropeaidd yn y cynllun Arbed. Wrth gwrs, mae'r rhaglenni hyn yn bwysig iawn o ran gwella effeithlonrwydd ynni, ond, fel cyfeiriodd y Gweinidog eisoes, er bod Llywodraeth y DU, am ryw reswm, wedi cael ei chrybwyll, nid yw rhai o'r rhaglenni sydd wedi bod yn flaenorol wedi gwneud y cyfan y dylen nhw o reidrwydd. Er hynny, mae'r ffaith bod Cymru yn dechrau o safle anfanteisiol, gyda'r stoc tai hynaf ym Mhrydain, yn golygu y bydd raid i gostau'r prosiect yr ydych chi, Gweinidog, yn bwriadu ei chyflwyno ar gyfer hyn i gyd gynyddu, yn debyg iawn. Os ydym ni wir yn dymuno gwneud hyn mewn ffordd gyflym ac effeithlon o ran cost, mae'n rhaid i ni gynnwys busnesau lleol, gan gynnwys cwmnïau bach a theuluol, ar gyfer adeiladu'r cartrefi newydd y mae cymaint o angen arnom ni ac eraill amdanyn nhw. Felly, a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, yn ogystal ag ôl-osod, fod angen i ni roi'r gallu i'r busnesau bach a chanolig hyn hefyd i ddarparu tai effeithlon o ran ynni i ddiwallu angen cymunedau lleol?
Rydym ni i gyd yn gwybod bod anghyfartaledd amlwg rhwng effeithlonrwydd ynni cartrefi mewn ardaloedd gwledig a threfol. Mae ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o gael anheddau gyda graddau tystysgrif perfformiad ynni is nag ardaloedd trefol, gyda'r gwrthwyneb yn digwydd ar gyfer ardaloedd trefol. Yn ystod y gaeaf, pan fydd pobl yn wynebu biliau uwch yn barod, fe fydd problemau mawr arbennig ni o ran effeithlonrwydd ynni hefyd yn effeithio ar nifer o aelwydydd Cymru a bydd yr effaith yn fwy ar y rhai sy'n agored i niwed. Rwyf i, ynghyd ag Aelodau fel Jenny Rathbone, yn cael pleser o'r ymchwiliad yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd i ôl-osod y stoc dai yng Nghymru. Nid ar chwarae bach yr wyf i'n dweud hyn, ond rwy'n ymwybodol o'r her sydd o'n blaenau ni yma yng Nghymru gyda'r stoc dai, a'r ffaith hefyd nad oes diben pwmpio technoleg newydd i gartrefi os ydyn nhw ar lefelau is na'r rhai sylfaenol ar gyfer effeithlonrwydd ynni. Felly, Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi, yn ystod argyfwng costau byw, y bydd y methiant o ran darparu mwy o gartrefi sy'n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon yn cael effaith fawr ar filiau aelwydydd, ac y gallai hynny fod yn digwydd yn anghymesur gyda phobl yng nghefn gwlad a'r henoed?
Ar bwnc biliau uwch, mae'n rhaid i mi godi mater ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Erbyn hyn, rhagwelir y bydd 45% o aelwydydd yng Nghymru yn mynd i dlodi tanwydd. Yn ei hanfod, fe fydd hyn yn arwain at 98 y cant o aelwydydd incwm is mewn tlodi tanwydd, gyda phedwar o bob 10 o'r rhain mewn tlodi tanwydd difrifol. Mae Llywodraeth Cymru yn mynegi ei bod hi wedi ymrwymo i fod â llai na 5 y cant o aelwydydd mewn tlodi tanwydd erbyn 2035. Mae gan effeithlonrwydd ynni ran bwysig wrth gyflawni hynny. Er hynny, Gweinidog, rwy'n credu o'r dystiolaeth a gawsom ni gan rai, o ystyried maint a chyfradd y problemau yr ydym yn eu hwynebu, mae gwir angen i ni fynd i'r afael â hyn. Ac fe fyddwn i'n dweud hyn â fy holl galon: mae angen i ni wneud hyn yn drawsbleidiol, ond mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn nawr mewn gwirionedd. Diolch i chi.
Diolch i chi, Janet. Nid wyf i'n gwbl siŵr ym mha le yr oedd y cwestiynau yn hynna. Ond, dim ond i ddweud cwpl o bethau, fe ddylech chi fod yn ofalus iawn gydag ystadegau; maen nhw'n dwyllodrus iawn. Roeddech chi'n dewis edrych ar ganran y tai gyda thystysgrifau perfformiad ynni C, ond wrth gwrs, rydym ni ei wedi codi pob cartref cymdeithasol yng Nghymru hyd at safon tystysgrif perfformiad ynni D yn rhan o safon ansawdd tai Cymru. A phe byddech chi wedi gwrando erioed ar unrhyw beth sy'n cael ei ddweud yn y Cyfarfod Llawn, fe fyddech chi'n gwybod ein bod ni ar fin lansio'r safon ansawdd tai nesaf yng Nghymru, yr wyf i wedi cyfeirio ati droeon yn barod. Mae hi'n ymddangos bod hynny wedi mynd heibio i chi.
Nid yw Llywodraeth Prydain, gan eich bod chi wedi codi hyn, wrth gwrs, wedi dod ag unrhyw un o'i thai cymdeithasol hyd at safon tystysgrif perfformiad ynni D. Ni wnaeth unrhyw ymgais hyd yn oed. Mae'r ystadegau yr ydych chi'n eu dyfynnu nhw'n ffafrio'r de-ddwyrain i raddau helaeth iawn. Felly, mae hi bob amser yn bwysig, fel dywedodd athro yn y gyfraith wrthyf i un tro, i rywun ddarllen hyd at ddiwedd y dudalen. Felly, fe fyddwn i'n awgrymu yn gryf eich bod chi'n gwneud hynny wrth edrych ar ystadegau o'r fath.
O ystyried y sylwadau eraill a wnaethoch chi, mae yna dri pheth i'w dweud. Fe wnes i gyfeirio at gynlluniau Llywodraeth y DU oherwydd y nhw sydd wedi bod yn methu a ninnau sydd wedi gorfod dod i'r adwy i achub pobl. Mae hi wedi costio llawer o arian i ni wneud hynny. Ond yn foesol dyna'r peth iawn i'w wneud. Fe ddylai Llywodraeth y DU fod wedi gwneud hyn, yn gwbl eglur.
O ran tlodi tanwydd, gadewch i ni fod yn hollol eglur, mae hynny'n cael ei yrru'n gyfan gwbl gan y ffordd y mae'r farchnad ynni yn cyd-fynd â phris ymylol nwy. Pe byddai Llywodraeth y DU yn dymuno datrys hynny, fe allai hi. Mae ganddi Fil yn mynd trwy'r Senedd yn San Steffan ar hyn o bryd na all datrys hyn. Fe allai hi ddatrys hyn, ac mae hi wedi dewis peidio.
Mae hi'n hollol amlwg yn hurt i godi am ynni adnewyddadwy yn yr un ffordd ag y byddwch yn codi am gyflenwad tanwydd ffosil. O ran ynni adnewyddadwy, yn amlwg, y gost sydd yn hynny yw'r gwariant cyfalaf ar gyfer adeiladu. Mae'r cyflenwad yn rhad ac am ddim wedyn—mae'r gwynt yn rhad ac am ddim, mae'r haul yn rhad ac am ddim. Nid yw'r Canghellor wedi nodi ffordd o drethu hyn eto. Ond, nid yw hynny'n wir am danwydd ffosil. Mae gennych chi fuddsoddiad cyfalaf ymlaen llaw i adeiladu'r gweithfeydd sy'n gyrru hyn, ond mae'r cyflenwad yn costio arian hefyd, a dyna sy'n sbarduno'r problemau yn y farchnad ynni. Felly, mae'r ddau ddatrysiad yn syml iawn. Yn gyntaf i gyd, dylid ariannu ynni adnewyddadwy mewn ffordd briodol. Rwyf i am eich atgoffa chi un waith eto y byddai gennym ni forlyn llanw yn Abertawe pe byddai'r Llywodraeth Geidwadol wedi gwrando ar ei chynghorydd Ceidwadol ei hun ynglŷn â'i adeiladu, fe fyddai cyflenwad gwirioneddol sylweddol o ynni adnewyddadwy gennym ni'n barod. Yn hollol, fe ddywedodd y cyn-Weinidog Ceidwadol a oedd yn argymell hwnnw ei fod yn benderfyniad amlwg ac roedd ef yn hollol iawn. Felly, fe gollwyd llawer o gyfleoedd yma. Ond, y peth sylfaenol yw, os nad ydym ni'n symud, yn symud oddi wrth danwydd ffosil tuag at ynni adnewyddadwy, a'n bod ni'n newid y farchnad ynni i gyd-fynd â hynny, yna fe fyddwn ni'n wynebu'r broblem hon, wel, nes bydd Llywodraeth Lafur unwaith eto. Diolch.
A gaf i ddweud fy mod i wedi mwynhau'r ymateb yna gan y Gweinidog i Janet Finch-Saunders, ac eithrio'r frawddeg olaf? Rwy'n croesawu'r ymateb yna. Mae’n ddihareb, bellach, wrth gwrs, dweud ein bod yn byw trwy gyfnod o newid digynsail. Rhwng Brexit, COVID a rŵan y rhyfel yn Wcráin, mae hyn oll yn cael effaith andwyol ar y gadwyn gyflenwi, gyda chostau deunyddiau crai, cynhyrchu a chludo yn cynyddu'n gyflym.
Rydyn ni'n gwybod o asesiad risg hinsawdd y Deyrnas Gyfunol nad ydy stoc dai'r wladwriaeth hon yn addas i wynebu'r ddau brif fygythiad newid hinsawdd sydd yn effeithio ar ein hiechyd cyhoeddus, sef glaw a llifogydd a ddaw yn sgil gwyntoedd mawr, a gwres eithafol. Mae hyn yn bwysig gan mai yma yng Nghymru y mae’r stoc dai hynaf yn Ewrop, gyda threian o’r stoc dai wedi ei hadeiladu cyn 1919. Mae’r tai yma yn cael eu hystyried yn rhai anodd eu trin. Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, mae nifer o’r tai yn y rhan yma o Gymru hefyd wedi eu cofrestru, fel dwi wedi nodi lawer gwaith. Gyda hen stoc dai o'r fath, a gyda llawer o adeiladau rhestredig na ellir eu hôl-osod yn effeithiol, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod y rhan fwyaf o'r stoc dai nid yn unig yn ynni effeithlon, ond yn sicrhau ansawdd byw uchel i bawb?
Mae Cymru, wrth gwrs, yn cael ei hystyried yn barth tywydd parth 4, lle mae cysylltiad agos rhwng glaw sy'n cael ei yrru gan wynt, tai o ansawdd isel ac iechyd gwael. Roeddwn wedi fy nhristáu yn ddiweddar o ddarllen am farwolaeth bachgen dwy oed ym Manceinion, Awaab Ishak, efo’r crwner yn cysylltu ei farwolaeth yn uniongyrchol â llwydni a lleithder yn ei gartref. Daeth y cwest o hyd i lwydni helaeth ar waliau a nenfydau'r ystafell ymolchi a'r gegin. Roedd yna hefyd tamp a llwydni mewn cwpwrdd yn yr ystafell wely. Mae’r un peth yn wir am lawer o gartrefi Cymru, gyda llwydni a lleithder yn cyflwyno bygythiad uniongyrchol i iechyd miloedd o bobl mewn tai cymdeithasol ac yn y sector rhentu preifat. Mae'r argyfwng tai yn argyfwng iechyd, a bydd newid yn yr hinsawdd ond yn gwneud hyn yn waeth, felly mae gwneud cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni yn hanfodol nid yn unig i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, ond hefyd ein hargyfyngau iechyd cyhoeddus. Felly, hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymateb i'r argyfwng iechyd trwy eu gweithredoedd yn y sector tai. Yn fwy penodol, beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i leihau presenoldeb tamprwydd a llwydni yn stoc dai Cymru trwy'r rhaglen ôl-ffitio?
Un math o fodel ôl-ffitio y mae arbenigwyr yn y sector yn ei eirioli ydy ôl-ffitio dwfn, lle mae cartrefi unigol yn cael eu trin ar sail unigol. Mae hyn, wrth gwrs, yn galw am nifer helaeth o sgiliau, hyfforddiant sylweddol a gweithlu eang. Byddai rhaglen ôl-osod ar y raddfa yma yn gofyn am raglen sgiliau a hyfforddiant i gael ei chefnogi gan y Llywodraeth. Byddai hyn, yn y pen draw, yn lleihau'r costau'n sylweddol ac yn rhoi hwb economaidd trwy ddatblygu gweithlu medrus ar draws y wlad, gan roi budd economaidd i bob rhan o Gymru.
Roedd y Gweinidog hefyd yn sôn am yr angen i ddatblygu'r gweithlu drwy'r ORP. Mae yma gyfle, felly, i fuddsoddi mewn rhaglen sgiliau a hyfforddiant i gyd-fynd â’r gwaith y mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn y cytundeb â Phlaid Cymru wrth ddatblygu Unnos. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adeiladu gweithlu sy'n gallu diwallu anghenion Cymru o ran cynyddu effeithlonrwydd ynni yn y sector dai drwy ôl-ffitio? Diolch.
Diolch yn fawr, Mabon. Dim ond i ddweud, rwyf i'n cytuno â llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, o ran yr effaith niweidiol y mae tai gwael yn ei chael ar iechyd pobl. Mae llawer o dystiolaeth yn dangos bod tai yn un o'r pethau mwyaf sylfaenol a all wella ansawdd bywyd ac ansawdd iechyd, felly rwy'n cytuno'n llwyr â chi yn hynny o beth. Un o'r rhesymau pam y gwnaethom ni lunio safon tai i Gymru yn y lle cyntaf oedd sicrhau bod y stoc o dai cymdeithasol yn codi hyd at y safon briodol.
Efallai eich bod chi'n gwybod—mae hyn wedi bod yn destun datganiadau eraill yma ar y llawr—ein bod ni'n edrych ar y fframwaith rheoleiddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o wneud yn siŵr bod landlordiaid yn cynnal eu stoc nhw o dai hyd at y lefel yr ydym ni'n ei dymuno, yn rhan o'r fframwaith rheoleiddio. Felly, fe fyddwn ni'n dod â hynny yn ôl i lawr y Senedd maes o law—nid yn hir iawn, gobeithio—ar gyfer gwneud hynny. Rydym ni'n awyddus i safon ansawdd tai Cymru gael ei chadw ar ei lefel bresennol, ond wedyn, Mabon, rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud hefyd, yn y flwyddyn newydd, y byddwn ni'n dod â'r rhifyn nesaf o safon ansawdd tai Cymru ymlaen i godi hyd at y lefel nesaf. Ar hyn o bryd rydym ni'n trafod gyda phob un o'n landlordiaid cymdeithasol ni ynglŷn â sut i wneud hynny, felly fe fydd y sector cymdeithasol yn cael sylw wedyn.
Rydych chi'n ymwybodol ein bod ni ar fin gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, yn amodol ar gytundeb y Senedd ar y gwahanol reoliadau sydd eto i fynd drwodd. Rwy'n fy nghael fy hun yn dweud gyda lwc ar hyn o bryd—mae hyn wedi bod ar ddod ers amser maith. Ond wrth gwrs, holl ddiben Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yw bod â thai yn y sector rhentu preifat sy'n ffit i fod yn gartref, ac mae hynny'n cynnwys y materion y gwnaethoch chi eu codi. Un o'r rhesymau ein bod ni wedi dod i'r adwy i gywiro rhai o gynlluniau Llywodraeth y DU, sef cynlluniau insiwleiddio waliau ceudod, a siarad yn gyffredinol, yw eu bod nhw wedi achosi llwydni a lleithder difrifol iawn. Dyna'r broblem pan fo insiwleiddio waliau ceudod yn mynd o chwith. Mewn gwirionedd, mae hynny'n dangos pam yr ydym ni'n ôl-osod er mwyn optimeiddio, oherwydd mae llawer o insiwleiddiad waliau ceudod wedi cael ei roi i mewn ledled Cymru gydag effaith gadarnhaol iawn. Rydyn ni'n siarad yn aml am y rhai sydd wedi mynd o chwith, y gwir yw nad yw'r un datrysiad yn gweithio ym mhob achos. Felly, mewn rhai tai mae'n beth ardderchog, insiwleiddio waliau ceudod, os caiff ei osod yn gywir a bod y tŷ yn addas ar ei gyfer ac nid yw'n amsugno llaith i'r ceudod a phopeth arall yn sgil hynny. Mewn cartrefi eraill, mae hwn wedi bod yn gam gwag, dinistriol iawn, a dyna pam yr oeddem ni'n dymuno sefydlu'r rhaglen ôl-osod hon er mwyn optimeiddio, neu ôl-osod dwfn fel caiff ei alw mewn mannau eraill, am ein bod ni'n edrych mewn gwirionedd ar bob math o dai yng Nghymru ac rydym ni'n treialu cyfres o dechnolegau ar raglen dysgu a phroses ailadroddol ar gyfer ystyried pob math o dai sydd gennym ni yng Nghymru, gan gynnwys yr hen stoc dai a'r adeiladau rhestredig, beth fydd yn gweithio, beth all ddod â'r math arbennig hwnnw o dŷ hyd at y safon orau y gall ei chyrraedd—efallai na wnaiff hynny'r tro yn A; fe allai hynny fod yn C—ac yna beth i'w wneud â'r mathau hynny o dai na ellir ond eu dwyn nhw hyd at y lefel honno. Rwy'n ffodus iawn mewn rhai ffyrdd, gan fy mod i'n byw mewn tŷ hen iawn, iawn, ac mae'n fraint cael gwneud hynny. Rwy'n ei ystyried yn dŷ yr wyf yn ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ond, wrth gwrs, mae hi'n galetach o lawer i ôl-osod tai o'r fath, ond maen nhw'n rhan o'n diwylliant ni a'n treftadaeth ni. Hen ffermdy ar benrhyn Gŵyr ydyw. Mae'r pethau hyn yn bwysig am resymau eraill hefyd, felly mae hi'n bwysig gwneud hyn yn iawn.
Yna, dim ond i dawelu meddyliau, gwaith ar y cyd yw'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio rhyngof i a'r Gweinidog Economi a'r Gweinidog Addysg, oherwydd rydym ni'n ymwybodol iawn y bydd hi nid yn unig yn codi tai hyd at y safon pan fyddwn ni wedi datrys y materion technolegol i gyd, ond mae hi'n caniatáu i ni roi'r sgiliau i'r rhai sy'n gosod y dechnoleg angenrheidiol. Fe geir ystod lawn o dechnoleg yn hyn, ac felly rydym ni am weithio gyda'n colegau addysg bellach i wneud yn siŵr bod pobl sy'n cael eu hyfforddi i osod boeler nwy, er enghraifft, yn cael eu hyfforddi i osod amrywiaeth fawr o fethodolegau eraill, ac yna fe fyddwn ni'n siarad am raglen ailsgilio wrth i ni symud oddi wrth foeleri nwy i bawb sy'n gweithio yn y diwydiant hwnnw ar hyn o bryd i allu rhoi pympiau gwres ffynhonnell aer i mewn, pympiau gwres o'r ddaear ac amrywiaeth fawr o bethau amgen sydd ar gael.
Ac, fel dywedais i yn fy natganiad, un o'r darnau olaf wedyn yw'r darn sy'n ymdrin â pherchen-feddianwyr. Rydym ni'n siarad â Banc Datblygu Cymru nawr wrth i ni ddechrau gallu cyflwyno'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ynglŷn â pha set o grantiau a benthyciadau a fyddai'n briodol i berchen-feddianwyr, a pha gyngor y gallwn ni roi iddyn nhw drwy'r gwasanaeth cyngor ynni. Felly, rwy'n credu ein bod ni ar yr un dudalen i raddau helaeth ar wahân i'r frawddeg olaf honno, y byddaf i'n parhau i'w chredu.
Diolch yn fawr i chi am eich datganiad. Mae hyn yn gofyn cymaint o gwestiynau ag y mae'n eu hateb, ond mae hi'n ddefnyddiol cael gwybod yr wybodaeth a roesoch i ni. Y cyllid hwn o £35 miliwn ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd am y ddwy flynedd nesaf, a yw hynny bob blwyddyn, neu dros y ddwy flynedd?
Dros y ddwy flynedd.
Iawn, £35 miliwn dros ddwy flynedd felly. Iawn, mae hynny'n dda. Rwy'n credu mai un o'r problemau sydd gennym ni yw nad yw pobl yn gwybod sut i ymdrin â hyn—nid arbenigwyr amgylcheddol mohonyn nhw. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi am greu'r ganolfan hon, ond rwy'n pryderu mai dim ond i'r sector tai cymdeithasol yn unig y bydd ar gael yn y flwyddyn gyntaf, oherwydd er bod bygythiad enfawr o'r codiad enfawr ym mhrisiau ynni, mae hwn yn gyfle hefyd i wneud i bobl i ganolbwyntio ar yr angen i ddatgarboneiddio, y mae'n rhaid i ni i gyd ei wneud beth bynnag. Rwy'n credu bod pobl wedi drysu'n lân ynglŷn â'r hyn y dylen nhw ei wneud gyda'u tŷ arbennig nhw ac mae angen iddyn nhw—
Jenny, a wnewch chi ofyn cwestiwn os gwelwch chi'n dda?
—gael cyngor annibynnol ar gyfer gwneud hynny. Felly, y cwestiwn yw pam nad ydych chi'n credu ei bod hi'n bosibl ymestyn hyn i unrhyw un sydd ag angen am y cyngor rhad ac am ddim hwn o'r flwyddyn gyntaf.
Diolch i chi. Mae cymaint o bobl sy'n dymuno gofyn cwestiynau, mae'n rhaid i mi eich cadw chi i'ch amser.
Ateb byr iawn, Jenny, yw oherwydd nad ydym ni wedi dysgu popeth eto o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Felly, mae'r gwasanaeth cyngor ynni ar gael i helpu perchen-feddianwyr, ond fe hoffem ni i hynny fod yn rhywbeth sy'n llawer mwy penodol, ac rydym ni'n dymuno bod yn sicr, pan fydd hwnnw'n gyngor penodol, ei fod yn gywir hefyd. Felly, fe fyddwn ni'n ei dreialu ar gyfer ein darparwyr tai cymdeithasol, y gallwn ni leihau'r risgiau ymhlyg ynddo, cyn i ni allu ei gynnig. Ond fe all pobl sy'n awyddus i wneud hynny nawr gael cyngor gan wasanaeth cynghori ynni Cymru a fydd o natur ychydig yn fwy cyffredinol ynghylch beth y dylen nhw ei wneud i'w cartrefi ar gyfer sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf.
Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Fel gwyddom ni ac fel cafodd ei gydnabod, mae gan Gymru stoc dai hŷn a llai effeithlon o ran ynni o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, a dyna, yn rhannol, pam y gwnes i godi'r pwynt yn gynharach gyda'r Trefnydd mewn cwestiynau am gyfleoedd o ran ECO4. Felly, diolch am gydnabod rhai o'r cyfleoedd hynny yn eich datganiad chi heddiw hefyd.
Cafodd syniad ei wyntyllu yn y gorffennol, Gweinidog, a soniwyd amdano hefyd wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mewn gwirionedd fe allai elfen o'r dreth gyngor gael ei halinio ag effeithlonrwydd ynni cartrefi, yn debyg i'r ffordd y mae trethiant ar geir yn ystyried eu hallyriadau nhw. Fe allai hyn, wrth gwrs, helpu i gymell pobl, ochr yn ochr â grantiau, wneud eu tai nhw'n fwy effeithlon o ran ynni. Rwy'n ymwybodol, fel rwy'n siŵr eich bod chwithau, o ymrwymiad eich Llywodraeth i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru yn y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru. Felly, yn sgil hyn, Gweinidog, beth yw eich barn ar y posibilrwydd o gael elfen o dreth gyngor yn seiliedig ar effeithlonrwydd ynni cartref rhywun? Ac a fyddwch chi'n gwneud unrhyw waith pellach ynglŷn â'r syniad hwn gyda'r Gweinidog llywodraeth leol? Diolch.
Ie wir, Sam, rwyf i'n sicr o'r farn fod angen i ni ystyried rhaglen sy'n cymell pobl. Un o ddirgelion y byd i mi—rydych chi a minnau wedi trafod hyn yn rhinwedd eich swydd flaenorol, fel minnau—yw pam nad yw prisiau tai yn adlewyrchu gwelliannau amrywiol. Felly, mae hi'n ddirgelwch mawr i mi pam nad yw tai sydd â band eang yn costio mwy na'r rhai nad oes ganddyn nhw ddim, oherwydd pe bawn i'n prynu tŷ heb unrhyw fand eang, fe fyddwn i'n tynnu'r gost o osod band eang oddi ar bris y tŷ. Felly, nid wyf i'n deall pam nad yw hwnnw wedi bod yn ddylanwad ar y farchnad, ac mae effeithlonrwydd ynni yn union yr un fath â hynny. Pan fyddwch chi'n prynu tŷ, siawns bod y ffaith y bydd eich biliau chi'n costio £18 y flwyddyn o'i gymharu â miloedd o bunnoedd y flwyddyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r swm y byddwch chi'n barod i'w wario. Nid wyf i'n deall pam nad yw hynny wedi dylanwadu ar y farchnad.
Felly, fe fydd angen i ni edrych ar—ac mae Rebecca Evans a minnau wedi dechrau rhai sgyrsiau rhagarweiniol ynghylch sut y gallai hyn weithio eisoes—raglen cymhelliant i berchen-feddianwyr, ond rwyf i am ddweud bod hynny'n gynnar yn y sgwrs honno. Fel cyfeiriais i yn fy natganiad, ceir trafodaethau gyda Banc Datblygu Cymru yn ogystal â chynlluniau benthyciadau a grantiau, oherwydd ein bod ni'n awyddus i wneud hyn yn iawn. Ac fel rwyf i newydd ei ddweud wrth Jenny Rathbone, rydym ni'n dymuno bod yn sicr fod y cyngor yr ydym ni'n ei roi i bobl am fuddsoddi eu harian nhw'n arwain at y canlyniad y maen nhw'n ei geisio o ran effeithlonrwydd ynni, a bod y buddsoddiad cyfalaf y maen nhw'n ei wneud yn cael ei adlewyrchu yn y gwerth y maen nhw'n ei gael yn ôl, gyda biliau ynni sy'n llai, ond o ran gwerth yr ased hefyd. Felly, rydym ni'n gweithio ar hyn, rydym ni'n sicr yn edrych ar gymhellion i bobl, ac mae croeso mawr i bob syniad da.
Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a gynhaliodd ymchwiliad i'r rhaglen Cartrefi Clyd, gan wneud argymhellion o ran dysgu gwersi a gwella fersiwn newydd y rhaglen. Wrth ymateb i'r argymhellion, fe awgrymodd y Llywodraeth y byddai diweddariad ynglŷn â'r fersiwn nesaf yn fuan wedi toriad yr haf. Mae'ch datganiad heddiw, a ninnau nawr ym mis Tachwedd, yn hwyr ac yn niwlog o ran gosod amserlen glir. Os yw'r broses gaffael, fel y sonioch chi, i ddigwydd yn 2023, ai felly wedi mis Ebrill 2024 y bydd y rhaglen newydd yn lansio, flwyddyn yn hwyrach na'r nod? Ac er hefyd i chi sôn am rai newidiadau i'r rhaglen Nest bresennol, pam nad oedd sôn am welliannau brys a gwerthfawr y gellid eu gwneud nawr, o ystyried bod tlodi tanwydd y rhai sy'n gymwys yn dwysáu yn yr argyfwng presennol o fewn y cynllun Nest presennol, er enghraifft, cyfuno gwaith ar ffabrig tai, ar insiwleiddio, gyda'r gwaith o ffitio systemau gwresogi yn y tai lleiaf ynni effeithiol?
Diolch yn fawr am hynna. Fel dywedais i wrth un neu ddau o bobl eraill hefyd, yn gyntaf i gyd rwyf i am ddweud y bydd y rhaglen newydd yn dechrau cyn y gaeaf nesaf. Felly, fe fyddwn ni'n ei chaffael a'i dechrau cyn y gaeaf nesaf, a dim ond ar gyfer bod yn gwbl eglur, fe geir amserlen bendant ar gyfer gwneud hynny ac rwy'n awyddus iawn, yn amlwg, nad ydym ni'n cyrraedd gaeaf arall eto heb ei chyflawni hi. Ond, rydym ni'n awyddus i ddysgu llawer o wersi am rai o'r cynlluniau â bwriadau da a fu yn y gorffennol. Mae gan Siân Gwenllian, fe wn i, broblemau yn ei hetholaeth hi, mae gan Aelodau eraill broblemau, ac mae gennyf innau rai fy hun acw, oherwydd cynlluniau a oedd yn llwyddiannus i raddau helaeth, ond am mai dull un ateb sy'n addas i bawb a fabwysiadwyd, fe achoswyd problemau mewn rhai tai nad oedden nhw wir yn addas i'r cynlluniau, ac ni allwn ni fod o gymorth bob amser. Felly, nid ydym ni wedi gallu helpu pob aelwyd ledled Cymru sydd wedi profi trafferthion oherwydd gwahanol faterion cytundebol cymhleth ynghylch y ffordd y cafodd y rhaglenni hynny eu cyflwyno.
Felly, rwyf i'n wir o'r farn ei bod hi'n bwysig gwneud pethau yn iawn, ac nad ydym ni mewn gwirionedd yn gwneud y sefyllfa yn waeth i leiafrif o bobl na'u sefyllfa wreiddiol nhw. Ac rwy'n awyddus iawn hefyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu datblygu cadwyni cyflenwi ar gyfer hyn yng Nghymru. Felly, wyddoch chi, ar hyn o bryd, mae cyfran o'r dechnoleg hon yn gostus iawn, ac mae'r dadansoddiad yn anodd iawn i'w wneud o ran y budd a ddaw o'r gost honno, hyd yn oed gyda phrisiau ynni fel y maen nhw. Ond, os ydym ni'n gwneud hyn yn iawn, yna fe fyddwn ni'n gallu cael cadwyn gyflenwi yn ei lle sy'n lleihau cost y dechnoleg honno'n llawer cynt nag y byddai'n digwydd fel arall. Fe geir llawer o enghreifftiau o gaffaeliadau gan y Llywodraeth sydd wedi gwneud felly, ac rwy'n awyddus iawn i fod â'r swyddi gwyrdd yng Nghymru yn ogystal ag effeithlonrwydd i dai Cymru.
O ran cynllun Nyth, rydym ni wedi bod yn chwilio am gryn amser am ffordd i wella'r cynllun hwnnw oherwydd, wyddoch chi, yn bennaf, mae hwnnw wedi bod yn rhoi boeleri nwy sy'n fwy effeithlon yn lle boeleri nwy aneffeithlon iawn, ac er bod hynny wrth gwrs yn golygu rhywfaint o fudd i'r aelwyd, oherwydd cost nwy ar hyn o bryd, nid yw'n gwneud cymaint o wahaniaeth â hynny—a beth bynnag, nid yw hynny'n helpu'r argyfwng hinsawdd, sef un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni i gyd. Felly, eto, mae ceisio gweddnewid y rhaglen, fel nad yw hi'n dwyn cyfran o gymorth oddi wrth aelwydydd sydd lleiaf abl i ymdopi, ac nad yw'n gwneud y broblem yn waeth yn y dyfodol chwaith, wedi bod yn fwy problemus nag y byddwn i wedi hoffi i hynny fod, a dyna'r gwir amdani. Felly, yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud yw cael rhai rhaglenni ar waith sy'n helpu'r gyfran fwyaf o bobl i wneud y peth gorau ar gyfer eu cartrefi nhw, boed hynny drwy'r rhaglen landlordiaid cymdeithasol neu drwy ein cynghorau ni neu drwy ein cynlluniau lesio'n ôl ni neu gyda'r sector rhentu preifat.
Ac yna'r darn olaf o'r pos hwn yw sut i gymell landlordiaid y sector rhentu preifat i aros yn y sector a buddsoddi yn wirioneddol, yn hytrach na gadael hynny i'r sector yn unig, os ydym ni'n rhoi rhwymedigaethau arnyn nhw. Felly, fe fyddwn ni'n cynnal sgyrsiau gyda landlordiaid y sector rhentu preifat, drwy wahanol sefydliadau, ynglŷn â'r ffordd orau o gymell hynny. Gan mai dim ond un neu ddau o dai y mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yng Nghymru yn berchen arnyn nhw; nid oes gennym ni unrhyw asiantau landlordiaid enfawr, na llawer iawn o landlordiaid enfawr. Felly, mae sicrhau bod y bobl hynny'n aros yn y sector ac nid yn gwneud dim ond gwerthu i'r un sy'n cynnig fwyaf o arian yn rhan bwysig iawn o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud hefyd.
Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog yn fawr. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog mai prisiau ynni sy'n gyfrifol am yr argyfwng costau byw, i raddau helaeth, gan fod cynnydd yn effeithio ar bris nid yn unig nwy a thrydan ond llawer o ddeunyddiau traul eraill. Er bod hyn yn cael effaith andwyol ar safonau byw pob un ohonom, mae'n cael effaith ddinistriol ar aelwydydd sydd leiaf abl i dalu, gan yrru teuluoedd sy'n dioddef caledi i dlodi tanwydd. Rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi teuluoedd incwm is sydd mewn tlodi tanwydd, i leihau eu biliau nhw a'u hallyriadau carbon nhw. Rwy'n cytuno bod datgarboneiddio, gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru ar draws pob deiliadaeth, a sut bydd hynny'n cael ei ariannu yn bethau cymhleth, yn amlwg iawn. Yn Nwyrain Abertawe, fel gŵyr y Gweinidog, fe geir nifer fawr o bobl sydd wedi ymddeol sy'n byw mewn cartrefi y maen nhw'n berchen arnyn nhw sy'n wael iawn o ran bod yn effeithlon o ran ynni. A fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi terfyn ar y cynllun Cymorth i Brynu, sydd â'r effaith o chwyddo prisiau tai, a defnyddio'r arian hwnnw i roi benthyciadau i berchen-feddianwyr a landlordiaid preifat i wella effeithlonrwydd ynni? Ac a fyddai'r Gweinidog yn hoffi dweud rhywbeth am gynllun Pobl yn fy etholaeth i?
Ynglŷn â'r pwynt olaf yna: mae hwnnw'n gynllun gwych, onid ydyw? Felly, mae'r math o weithredu ar y cyd yr ydych chi'n ei weld pan fyddwch chi'n gallu gweithredu'r mathau o gynlluniau effeithlonrwydd ynni ar y cyd yr ydych chi'n eu cael yn yr achos hwnnw yn enghraifft, ac rydym ni'n gobeithio cyflwyno'r model hwnnw. Felly, i Aelodau nad ydyn nhw'n gyfarwydd â hyn, mae gennym ni ystad newydd a hen ystad sydd wedi dod at ei gilydd i greu cynllun effeithlonrwydd ynni sy'n caniatáu i'r rhai sydd â'r gallu i roi paneli solar da ar eu tai nhw i rannu eu hynni nhw â'r cynllun cyfan, i ddarparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan, a'r gweddill i gyd; mae'n caniatáu i nwyddau gwyn ar draws y cynllun fanteisio ar Economy 7. Fe geir cyfres gyfan o bethau y gallwch chi eu gwneud gyda'r nerth cyfunol o ddod ynghyd, yn y pen draw. Felly, mae hwnnw'n gynllun gwych. Rwyf i wedi llwyddo i ymweld ag ef unwaith neu ddwy, ac fe fyddwn ni'n ystyried cyflwyno hwnnw gyda'r cwmnïau sydd wedi bod yn rhan o hwnnw—gyda'r cwmni landlordiaid cymdeithasol a'r cwmnïau ynni sydd wedi bod yn gweithio gyda ni. Felly, mae honno'n enghraifft wirioneddol wych o'r hyn y gellir ei gyflawni.
O ran y Cymorth i Brynu, mae hynny ychydig yn fwy cymhleth. Rydym ni'n defnyddio Cymorth i Brynu i ysgogi gwelliannau eraill yn y diwydiant adeiladu. Felly, mewn gwirionedd, nid yw adeiladwyr nad ydyn nhw'n adeiladu hyd at safonau penodol yn cael manteisio ar Gymorth i Brynu, ac mae hynny wedi bod o gymorth mawr wrth gymell rhai o'r safonau hyn. Rydym ni'n defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol, sydd, Mike, fe wn i eich bod chi'n gyfarwydd ag ef, ond mae honno'n gelfyddyd gyfrin, felly nid yw hi mor hawdd â chyfnewid hynny am fenthyciadau i ddeiliaid tai unigol. Rydym ni er hynny yn bwriadu, gyda Banc Datblygu Cymru, gyflwyno cynlluniau grant a benthyciadau i berchen-feddianwyr o dan yr union amgylchiadau yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw ac, mewn gwirionedd, yn targedu pobl sy'n cael disgownt un meddiannydd, sy'n bobl hŷn sydd yn aml wedi colli partner ac sydd yn yr union sefyllfa honno. Felly, mae gennym ni ffordd o adnabod pobl, er mwyn gallwn ymgynghori yn hyn o beth. Felly, rydym ni'n ystyried gwneud yr union beth.
Dau gwestiwn yn unig sydd gennyf i, yn rhinwedd fy swydd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, ac o'r grŵp y mae'r ddau wedi dod. Fe glywsom ni gyfeiriad yn gynharach at ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd, ac argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y rhaglen yn ymgorffori'r dull ffabrig a'r 'gwaethaf yn gyntaf' o ran ôl-osod, yn ogystal â thargedu'r aelwydydd tlotaf a'r cartrefi lleiaf effeithlon, a bod yn fwy o ran graddfa a gwyrddach o ran ymyriadau, gan ganiatáu i sawl dull gael ei ddefnyddio. Yn eich ymatebion blaenorol chi, rydych chi, rwy'n credu, wedi mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau hyn, ond, yn benodol, sut ydych chi am sicrhau bod y rhaglen yn ymgorffori'r dull ffabrig a'r 'gwaethaf yn gyntaf' yn y tai lleiaf effeithlon?
Yn ail, fel rydym ni wedi clywed hefyd, Mae gan Gymru rhywfaint o'r stoc tai hynaf lleiaf effeithlon yn thermol o'i gymharu â'r DU ac Ewrop. Mae mesurau effeithlonrwydd ynni rhad ac am ddim yn cael eu gwrthod gan lawer o bobl, gan eu bod nhw'n cael eu hystyried yn anhyblyg ac yn anghydnaws â'r adeiladau y maen nhw'n byw ynddyn nhw. Rydych chi wedi egluro yn rhannol eisoes sut y byddwch chi'n teilwra mesurau effeithlonrwydd ynni i addasu i'r gwahanol fathau o adeiladau sy'n bodoli yng Nghymru, ond yn benodol, o ystyried yr oedi tebygol yn y rhaglen Cartrefi Clyd nesaf, pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i alluogi cynllun presennol Nyth i wneud gwelliannau mwy priodol yn y deunyddiau i inswleiddio'r cartrefi mewn tlodi tanwydd sy'n gymwys, gan eu cefnogi nhw hefyd i gael systemau newydd yn lle'r hen systemau gwresogi aneffeithlon yn dilyn terfynu Arbed a'r cynnydd disgwyliedig yng nghyllideb Nyth?
Wel, fe wnaethoch chi ateb eich cwestiwn chi eich hun i ryw raddau nawr, Mark. Ond, fel dywedais i o'r blaen, rydym ni'n edrych yn fanwl ar ddull gweithredu ffabrig a'r gwaethaf yn gyntaf, ond mae hi'n anodd iawn targedu un tŷ yn unig weithiau. Felly, yn fy natganiad i, fe wnes i gyfeirio at y ffaith ein bod ni'n ystyried rhaglenni ynni cymunedol. Rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i lunio map ynni ledled Cymru, fel ein bod ni'n gwybod ymhle mae cymunedau â'r tai lleiaf effeithlon o ran ynni i weld a allwn ni weithredu uwchraddiad cymunedol a fydd yn caniatáu i ni ddefnyddio ysgogiadau tai cymdeithasol i helpu'r gymuned gyfan i godi, os mynnwch chi. Felly, mae hi'n anodd iawn targedu un tŷ yng nghanol clwstwr. Rydym ni hefyd, fel dywedais i sawl tro, yn ceisio sicrhau ein bod ni'n gwneud y peth iawn ar gyfer y tŷ iawn.
O ran Nyth, nid oes gennyf i ddigon o arian i wneud popeth yr hoffwn i ei wneud i dŷ pawb. Felly, mae ceisio gwneud rhywbeth i nifer fawr o bobl yn hytrach na llawer i nifer lai o bobl yn un o'r pethau anoddaf sydd gennym ni o ran taro cydbwysedd. Felly, rydym ni'n ystyried trwy'r amser a yw hi'n well helpu mwy o bobl i wneud un peth nag yw hi i helpu llawer iawn llai o bobl i wneud pob dim, ac mae gennyf i ofn mai dyna un enghraifft o lawer o frwydro i gael y cydbwysedd yn iawn. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda'r pwyllgor o ran gweld ble i daro'r cydbwysedd cywir yn hynny i gyd.
Ac yn olaf, Sarah Murphy.
Diolch. Gweinidog, diolch am ddatganiad heddiw. Mae effeithlonrwydd ynni cartrefi yn parhau i fod yn fater allweddol i fy etholwyr i, yn enwedig gan fod rhai datblygiadau ar y gweill gennym ni ar hyn o bryd, fel adfywio Porthcawl. Fe geir ymdeimlad gwirioneddol yn y gymuned y bydden nhw wrth eu boddau yn eu cael nhw mor wyrdd a'r holl bethau yr oeddem ni'n siarad amdanyn nhw heddiw, mewn gwirionedd—effeithlon o ran ynni, ac adeiladu ar gyfer y dyfodol, ac yn gost-effeithiol. Yn ein digwyddiad Dragon's Den rhanbarth Porthcawl y llynedd, daeth Sero Homes eu hunain i mewn a rhoi cyflwyniad, a gafodd ei fwynhau yn fawr. Rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol ohonyn nhw. A hefyd, rwyf i wedi siarad â sefydliad y drydedd oes ym Mhorthcawl, sy'n pwysleisio'r angen am baneli solar ym mhob cartref, gan gynnwys y rhai a adeiladwyd gan ddatblygwyr preifat, a dyna yw craidd fy nghwestiwn i heddiw. Mae'n ymwneud â'r datblygwyr preifat hynny, oherwydd mae cynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awyddus iawn i sicrhau bod cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yn y sector preifat hefyd yn ateb y gofynion hyn, drwy ofyn iddyn nhw adeiladu tai gyda darpariaethau effeithlon o ran ynni, fel paneli solar, tapiau, ac ati. Felly, a fydd hi'n bosibl i chi gyfarfod â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a minnau, yn enwedig gan ein bod ni'n edrych ar adfywiad Porthcawl ar hyn o bryd, i weld beth allwn ni ei wneud o ran y datblygiad preifat hwn, fel y bydd yn ateb y gofynion hyn i gyd ar gyfer pob un ohonom ni?
Fe fyddwn i'n fwy na pharod i gwrdd â chi a'r cyngor, a'r datblygwr, yn wir, Sarah. Rydym ni wedi cyflwyno newidiadau i Ran L o'r rheoliadau adeiladu. Maen nhw'n niwtral o ran technoleg, felly rydym ni'n dweud bod angen newid o 37 y cant yn yr effeithlonrwydd, ond nid oes angen i chi wneud hynny drwy baneli solar neu bwmp gwres ffynhonnell aer, am yr holl resymau yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw'n gynharach.
Y peth arall yr ydym ni'n bwrw golwg arno yw'r hyn y gallwn ei wneud ynglŷn â sicrhau bod adeiladwyr sy'n adeiladu yn sgil caniatâd cynllunio yn adeiladu yn unol â'r safon ddiweddaraf mewn gwirionedd, oherwydd, ar hyn o bryd, fel mae Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod, pan fyddwch chi wedi dechrau ar gynllun sydd â chaniatâd iddo, fe allwch chi ei gwblhau yn unol â'r safonau yn y caniatâd hwnnw. Felly, mae cartrefi yn parhau i gael eu hadeiladu heb chwistrellwyr ynddyn nhw oherwydd eu bod wedi dechrau adeiladu yn ôl y caniatâd cynllunio ac ni fydd y safonau mwyaf perthnasol yn ofynnol. Nawr, rydym ni wedi ceisio rhoi cymhellion i adeiladwyr tai wneud hynny. Mae fforwm gan Lee Waters a minnau ar gyfer adeiladwyr, ac rydym ni'n cwrdd â nhw'n rheolaidd iawn. Rydym ni'n ceisio pwyso arnyn nhw'n fawr i adeiladu yn unol â'r safon ddiweddaraf. Rwy'n cymryd rhywfaint o gyngor cyfreithiol ynghylch a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i gyfyngu ar faint o amser y gallwch chi fanteisio ar ganiatâd cynllunio pan fyddwch wedi dechrau cyn y bydd angen i chi gydymffurfio â'r rheoliadau diweddaraf am resymau o bob math. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu mynd i'r afael â rhywfaint o hynny yn y Bil diogelwch adeiladau y byddwn ni'n ei gyflwyno, a fydd yn effeithio ar adeiladau uchel iawn gan amlaf, ond bydd ag effeithiau eraill yn llawer mwy eang.
Diolch i'r Gweinidog.