Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr, Mabon. Dim ond i ddweud, rwyf i'n cytuno â llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, o ran yr effaith niweidiol y mae tai gwael yn ei chael ar iechyd pobl. Mae llawer o dystiolaeth yn dangos bod tai yn un o'r pethau mwyaf sylfaenol a all wella ansawdd bywyd ac ansawdd iechyd, felly rwy'n cytuno'n llwyr â chi yn hynny o beth. Un o'r rhesymau pam y gwnaethom ni lunio safon tai i Gymru yn y lle cyntaf oedd sicrhau bod y stoc o dai cymdeithasol yn codi hyd at y safon briodol.
Efallai eich bod chi'n gwybod—mae hyn wedi bod yn destun datganiadau eraill yma ar y llawr—ein bod ni'n edrych ar y fframwaith rheoleiddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o wneud yn siŵr bod landlordiaid yn cynnal eu stoc nhw o dai hyd at y lefel yr ydym ni'n ei dymuno, yn rhan o'r fframwaith rheoleiddio. Felly, fe fyddwn ni'n dod â hynny yn ôl i lawr y Senedd maes o law—nid yn hir iawn, gobeithio—ar gyfer gwneud hynny. Rydym ni'n awyddus i safon ansawdd tai Cymru gael ei chadw ar ei lefel bresennol, ond wedyn, Mabon, rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud hefyd, yn y flwyddyn newydd, y byddwn ni'n dod â'r rhifyn nesaf o safon ansawdd tai Cymru ymlaen i godi hyd at y lefel nesaf. Ar hyn o bryd rydym ni'n trafod gyda phob un o'n landlordiaid cymdeithasol ni ynglŷn â sut i wneud hynny, felly fe fydd y sector cymdeithasol yn cael sylw wedyn.
Rydych chi'n ymwybodol ein bod ni ar fin gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, yn amodol ar gytundeb y Senedd ar y gwahanol reoliadau sydd eto i fynd drwodd. Rwy'n fy nghael fy hun yn dweud gyda lwc ar hyn o bryd—mae hyn wedi bod ar ddod ers amser maith. Ond wrth gwrs, holl ddiben Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yw bod â thai yn y sector rhentu preifat sy'n ffit i fod yn gartref, ac mae hynny'n cynnwys y materion y gwnaethoch chi eu codi. Un o'r rhesymau ein bod ni wedi dod i'r adwy i gywiro rhai o gynlluniau Llywodraeth y DU, sef cynlluniau insiwleiddio waliau ceudod, a siarad yn gyffredinol, yw eu bod nhw wedi achosi llwydni a lleithder difrifol iawn. Dyna'r broblem pan fo insiwleiddio waliau ceudod yn mynd o chwith. Mewn gwirionedd, mae hynny'n dangos pam yr ydym ni'n ôl-osod er mwyn optimeiddio, oherwydd mae llawer o insiwleiddiad waliau ceudod wedi cael ei roi i mewn ledled Cymru gydag effaith gadarnhaol iawn. Rydyn ni'n siarad yn aml am y rhai sydd wedi mynd o chwith, y gwir yw nad yw'r un datrysiad yn gweithio ym mhob achos. Felly, mewn rhai tai mae'n beth ardderchog, insiwleiddio waliau ceudod, os caiff ei osod yn gywir a bod y tŷ yn addas ar ei gyfer ac nid yw'n amsugno llaith i'r ceudod a phopeth arall yn sgil hynny. Mewn cartrefi eraill, mae hwn wedi bod yn gam gwag, dinistriol iawn, a dyna pam yr oeddem ni'n dymuno sefydlu'r rhaglen ôl-osod hon er mwyn optimeiddio, neu ôl-osod dwfn fel caiff ei alw mewn mannau eraill, am ein bod ni'n edrych mewn gwirionedd ar bob math o dai yng Nghymru ac rydym ni'n treialu cyfres o dechnolegau ar raglen dysgu a phroses ailadroddol ar gyfer ystyried pob math o dai sydd gennym ni yng Nghymru, gan gynnwys yr hen stoc dai a'r adeiladau rhestredig, beth fydd yn gweithio, beth all ddod â'r math arbennig hwnnw o dŷ hyd at y safon orau y gall ei chyrraedd—efallai na wnaiff hynny'r tro yn A; fe allai hynny fod yn C—ac yna beth i'w wneud â'r mathau hynny o dai na ellir ond eu dwyn nhw hyd at y lefel honno. Rwy'n ffodus iawn mewn rhai ffyrdd, gan fy mod i'n byw mewn tŷ hen iawn, iawn, ac mae'n fraint cael gwneud hynny. Rwy'n ei ystyried yn dŷ yr wyf yn ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ond, wrth gwrs, mae hi'n galetach o lawer i ôl-osod tai o'r fath, ond maen nhw'n rhan o'n diwylliant ni a'n treftadaeth ni. Hen ffermdy ar benrhyn Gŵyr ydyw. Mae'r pethau hyn yn bwysig am resymau eraill hefyd, felly mae hi'n bwysig gwneud hyn yn iawn.
Yna, dim ond i dawelu meddyliau, gwaith ar y cyd yw'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio rhyngof i a'r Gweinidog Economi a'r Gweinidog Addysg, oherwydd rydym ni'n ymwybodol iawn y bydd hi nid yn unig yn codi tai hyd at y safon pan fyddwn ni wedi datrys y materion technolegol i gyd, ond mae hi'n caniatáu i ni roi'r sgiliau i'r rhai sy'n gosod y dechnoleg angenrheidiol. Fe geir ystod lawn o dechnoleg yn hyn, ac felly rydym ni am weithio gyda'n colegau addysg bellach i wneud yn siŵr bod pobl sy'n cael eu hyfforddi i osod boeler nwy, er enghraifft, yn cael eu hyfforddi i osod amrywiaeth fawr o fethodolegau eraill, ac yna fe fyddwn ni'n siarad am raglen ailsgilio wrth i ni symud oddi wrth foeleri nwy i bawb sy'n gweithio yn y diwydiant hwnnw ar hyn o bryd i allu rhoi pympiau gwres ffynhonnell aer i mewn, pympiau gwres o'r ddaear ac amrywiaeth fawr o bethau amgen sydd ar gael.
Ac, fel dywedais i yn fy natganiad, un o'r darnau olaf wedyn yw'r darn sy'n ymdrin â pherchen-feddianwyr. Rydym ni'n siarad â Banc Datblygu Cymru nawr wrth i ni ddechrau gallu cyflwyno'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ynglŷn â pha set o grantiau a benthyciadau a fyddai'n briodol i berchen-feddianwyr, a pha gyngor y gallwn ni roi iddyn nhw drwy'r gwasanaeth cyngor ynni. Felly, rwy'n credu ein bod ni ar yr un dudalen i raddau helaeth ar wahân i'r frawddeg olaf honno, y byddaf i'n parhau i'w chredu.