3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 8 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:58, 8 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i chi am eich datganiad. Mae hyn yn gofyn cymaint o gwestiynau ag y mae'n eu hateb, ond mae hi'n ddefnyddiol cael gwybod yr wybodaeth a roesoch i ni. Y cyllid hwn o £35 miliwn ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd am y ddwy flynedd nesaf, a yw hynny bob blwyddyn, neu dros y ddwy flynedd?