– Senedd Cymru am 6:28 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Symudwn yn awr i'r ddadl fer. Galwaf ar Heledd Fychan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi—Heledd Fychan.
Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r rhai ohonoch a fydd yn aros ar gyfer y ddadl heddiw. Hoffwn gadarnhau fy mod wedi rhoddi munud o fy amser i—
A wnaiff yr Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel er mwyn i bawb allu clywed cyfraniad Heledd Fychan?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gadarnhau fy mod wedi rhoddi munud o fy amser i Sioned Williams heddiw.
Bob dydd, ledled y byd, cyfrifir bod 300 miliwn o bobl yn gwaedu oherwydd mislif. Mae’n weithred cyfan gwbl normal—yr un mor normal â mynd i’r tŷ bach—ond am rhy hir o lawer, mae siarad am fislif wedi bod yn tabŵ. Yn wir, er gwaetha’r ffaith bod mwy o drafod agored wedi bod am fislif dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n parhau i fod yn rhywbeth mae nifer o bobl yn anghyffyrddus yn ei drafod, ac o’r herwydd yn rhywbeth mae nifer o ferched a phobl sydd yn cael mislif yn teimlo cywilydd amdano.
Mae hyn am amryw o resymau, megis diffyg addysg ynglŷn â mislif; diffyg mynediad at seilwaith dŵr, glanweithdra a hylendid; ac yn fwy na dim, diffyg mynediad at gynnyrch mislif priodol. Mae gallu rheoli eich mislif yn ddiogel, a chyda hyder ac urddas, yn hollbwysig nid yn unig i iechyd ac addysg, ond hefyd i ddatblygiad economaidd a chydraddoldeb yn gyffredinol. Ond, yn anffodus, hyd yn oed yma yng Nghymru yn 2022, nid yw hyn yn hawl sydd gan bawb ac mae gennym broblem o ran tlodi mislif.
Hoffwn ar y dechrau gydnabod gwaith Llywodraeth Cymru o ran hyn, gan gynnwys y cynllun gweithredu strategol ar gyfer urddas mislif a’r buddsoddiad sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf mewn sicrhau bod mwy o gynnyrch ar gael yn rhad ac am ddim i’r rhai sydd eu hangen yng Nghymru. Rwyf yn llwyr gefnogi gweledigaeth ac amcanion y cynllun, ac yn croesawu'r datganiadau pendant a diamwys sydd wedi bod gan y Llywodraeth o ran hyn. Nid wyf mewn unrhyw ffordd yn amau ymrwymiad y Llywodraeth na’r Gweinidog, a gwn fod y gwaith yn y cynllun yn mynd rhagddo.
Pwrpas y ddadl hon felly yw gofyn i’r Gweinidog a’r Llywodraeth fynd un cam ymhellach a gwneud hwn yn ymrwymiad sydd yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith drwy gyflwyno Deddf benodol cynnyrch mislif fel yr un a ddaeth i rym yn yr Alban ym mis Awst eleni. Byddaf yn canolbwyntio, felly, ar bam fy mod yn grediniol o’r angen am hyn, ac i dynnu sylw at y ffaith, er gwaethaf gwaith clodwiw y Llywodraeth yn y maes hwn, bod tlodi mislif yn parhau yn broblem yma yng Nghymru heddiw, ac yn fater sydd yn parhau i angen sylw ynghyd â gweithredu arno.
Mae gennyf gywilydd i gyfaddef nad oedd tlodi mislif yn rhywbeth roeddwn i wedi bod yn ymwybodol iawn ohono cyn dod yn gynghorydd yn 2017. Roedd yn fater a godwyd gan fy nghyd-gynghorydd Plaid Cymru ar gyngor Rhondda Cynon Taf, Elyn Stephens, pan ofynnodd i ni fel grŵp gefnogi hysbysiad o gynnig roedd hi am ei gyflwyno, yn annog y cyngor i edrych ar ddarparu cynnyrch mislif am ddim ym mhob ysgol uwchradd yn y fwrdeistref sirol, i gydnabod eu bod mor hanfodol â phapur toiled ar gyfer hylendid personol disgyblion benywaidd. Siaradodd yn agored ac yn ddewr am ei phrofiad ei hun o fethu fforddio cynhyrchion, a beth roedd hynny wedi'i olygu i'w hurddas ei hun. Rhannodd hefyd sut yr effeithiodd hyn arni hi, ac eraill roedd hi'n eu hadnabod, a methu mynychu'r ysgol pan oeddent yn cael mislif, ac felly'n colli addysg oherwydd gweithrediad corfforol normal.
Roeddwn yn aelod o'r gweithgor a sefydlwyd i ymchwilio i'r mater, ac fel rhan o'r gwaith hwn, gofynnwyd am dystiolaeth drwy arolwg gan athrawon a hefyd gan ddisgyblion benywaidd am y sefyllfa fel y'i gwelent bryd hynny. Cymerodd 784 o ddysgwyr benywaidd ran yn yr arolwg, a chynhaliwyd grwpiau ffocws hefyd rhwng disgyblion a'r gweithgor i ddeall yn well beth oedd y problemau. Roeddent yn glir iawn gyda ni fod tlodi mislif yn broblem, gydag un o'r rhai a oedd yn bresennol yn datgan, 'Mae pobl yn colli ysgol oherwydd mislif neu'n gadael yr ysgol yn gynnar os ydynt yn cael damwain neu angen cynhyrchion mislif ac nad oes ganddynt rai—mae'n effeithio ar bresenoldeb.' Roedd hwn yn safbwynt a gefnogwyd gan 64 y cant o benaethiaid, gan godi i 86 y cant o ymatebion gan staff derbynfa a 75 y cant o nyrsys ysgol. Felly, cydnabyddiaeth fod tlodi mislif yn cael effaith uniongyrchol ar bresenoldeb.
Materion cyffredin a oedd yn codi oedd methu gwybod lle i gael gafael ar gynhyrchion am ddim hyd yn oed os oeddent ar gael, neu gael eu gwneud i deimlo gormod o embaras i ofyn yn hytrach na gallu cael gafael arnynt eu hunain. Fe wnaethom ddatgelu tystiolaeth hefyd fod llawer iawn o gamwybodaeth a chamddealltwriaeth ymhlith athrawon gwrywaidd a dynion ifanc am y mislif, gyda rhai'n meddwl y gallech ddewis pryd y byddwch yn gwaedu, ychydig fel dewis pryd y byddwch yn mynd i'r tŷ bach. Golygai hyn fod caniatâd i fynd i'r tŷ bach yn cael ei wrthod i ferched, gan arwain at ddamweiniau hyd yn oed pan oedd ganddynt gynhyrchion at eu defnydd, neu fethu cael gafael arnynt am nad oeddent yn cael mynd â'u bagiau i'r tŷ bach gyda hwy.
Rwy'n falch o ddweud bod hyn wedi arwain at newid polisi yn RhCT, ac roedd yn ffactor a oedd wedi cyfrannu, rwy'n credu, ochr yn ochr ag ymgyrchoedd tebyg eraill ar y pryd, at weld Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo adnoddau i fynd i'r afael â'r mater. Rydym wedi dod yn bell ers hynny, ond er bod cynnydd wedi bod, mae mwy i'w wneud, ac mae'n bwysig ein bod yn dal i siarad am y mislif a'i normaleiddio fel nad yw'r cynnydd hwnnw'n cael ei golli. Ac mae yna lawer o bobl yn gwneud hynny.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau'r Senedd yn gwybod am Molly Fenton, a sefydlodd ymgyrch Love Your Period, ac sy'n gwneud cymaint i chwalu tabŵs a chodi ymwybyddiaeth am y mater hwn. Hoffwn ddiolch iddi am ei gwaith pwysig, a'r modd y mae'n parhau i dynnu sylw at yr heriau i sicrhau bod cynhyrchion am ddim yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen. Dangosodd arolwg diweddar a anfonodd at fyfyrwyr a rhieni ar draws Caerdydd nad oedd 97 y cant o ddisgyblion wedi cael cynnyrch mislif hanfodol gan eu hysgolion i'w helpu drwy wyliau'r haf, sy'n golygu bod gwaith i'w wneud o hyd i wneud mynediad at y cynhyrchion hyn yn haws. Mae'r cynhyrchion bellach ar gael am ddim, ond nid ydynt yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen.
Hefyd, hoffwn anfon fy nghefnogaeth i Molly yn gyhoeddus ar ôl gweld y sylwadau a gafodd eu gadael ar fideo a wnaeth am ei hymgyrch y llynedd ar gyfer Llywodraeth Cymru. Roedd yr ymosodiadau'n hynod o bersonol a chreulon, ac roedd Molly'n ddigon dewr i ailrannu a thynnu sylw at rai ohonynt yn ddiweddar—roeddent yn erchyll, ac ni fyddwn am roi sylw iddynt yn y Siambr hon drwy eu hailadrodd. Ond roedd hyn i gyd oherwydd ei bod hi'n siarad am urddas mislif, yn siarad am weithrediad corfforol normal. Ac mewn trydariad yn ddiweddar, cyfeiriodd at y gân, 'The Man' gan Taylor Swift, a gofynnodd yn syml iawn,
'Pe bawn i'n ddyn, ni fyddai pobl yn canolbwyntio ar ba mor bert yw fy ngwisg, na sut y dangosai fy siâp. A bod yr hyn rwy'n ei wneud yn anhygoel, yn lle cael fy nifrïo am fod yn ormod o geffyl blaen ac am gicio yn erbyn y tresi. Mae'n hurt ac mae angen iddo stopio'.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Molly, a byddwn yn gobeithio y byddai holl Aelodau'r Senedd yn ymuno â mi i gondemnio'r rhai sydd wedi ei beirniadu hi a'r ymgyrch, ac yn addunedu heddiw i gefnogi normaleiddio siarad am y mislif.
Nid rhywbeth sy'n effeithio ar bobl ifanc yn unig yw tlodi mislif, ac rwy'n credu bod angen inni gydnabod y posibilrwydd heddiw hefyd y bydd yr argyfwng costau byw yn arwain at weld mwy o bobl sy'n cael mislif yn methu cael gafael ar y cynhyrchion sydd eu hangen arnynt. Yn anecdotaidd, mae hyn yn rhywbeth a rannwyd fel pryder mewn digwyddiad costau byw a drefnais yn fy rhanbarth yn ddiweddar, lle nododd banciau bwyd ac eraill gynnydd yn y galw am gynnyrch mislif, yn ogystal â chynhyrchion hylendid eraill. Mae adroddiadau diweddar hefyd yn dangos cynnydd yng nghost cynhyrchion mislif, gyda gwefan mysupermarketcompare yn dangos yn ddiweddar fod bocs o 18 o damponau Tampax Pearl Compak Super Plus ar werth mewn un archfarchnad am £1.95 ychydig wythnosau yn ôl, ond erbyn hyn, dim ond pecyn 16 sydd ar gael am £2.60; dyna 65c yn fwy am ddau dampon yn llai, neu 50 y cant yn fwy am bob tampon.
Mae hefyd yn fater sy'n effeithio ar fenywod sy'n ffoaduriaid, fel yr amlygwyd gan elusen Women for Refugee Women, sy'n cefnogi menywod sy'n ceisio lloches yn y DU. Gwelsant fod 75 y cant o fenywod y gwnaethant eu cyfweld yn ei chael hi'n anodd cael padiau mislif neu damponau, gan eu gorfodi i orddefnyddio cynnyrch mislif, addasu deunydd mislif, neu gardota am arian i brynu pad. Ond fel y dywedais yn gynharach, nid nod y ddadl hon yw ceisio perswadio Llywodraeth Cymru fod tlodi mislif yn broblem; rydym i gyd yn ymwybodol iawn o hyn, a byddwn yn gobeithio ein bod i gyd wedi ymrwymo i roi camau ar waith i helpu i ddileu'r broblem. Yn hytrach, mae'r ffocws ar yr angen iddynt gymryd y cam ychwanegol o osod y gwaith hwn mewn cyfraith drwy Fil cynnyrch mislif, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban.
Roedd hon yn ymgyrch a gafodd ei harwain gan Aelod Llafur o Senedd yr Alban, Monica Lennon, a daeth i rym ar 15 Awst eleni. Nod Deddf Cynnyrch Mislif (Darpariaeth am Ddim) (Yr Alban) 2021 yw trechu tlodi mislif, hyrwyddo urddas mislif a thorri'r stigma sy'n gysylltiedig â'r mislif yn yr Alban. O ganlyniad i'r Bil, yr Alban oedd y wlad gyntaf yn y byd i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim i bawb, drwy ei gwneud yn ddyletswydd gyfreithiol nawr i awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chyrff gwasanaethau cyhoeddus penodol ddarparu cynhyrchion i fod ar gael yn hawdd ac am ddim.
Yn gynharach eleni, ymwelais â'r Alban fel rhan o fy ngwaith yn cynrychioli'r Senedd yng Nghynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon, ac fe'm trawyd yn syth gan y ffaith bod cynnyrch mislif yr un mor hygyrch â phapur tŷ bach lle bynnag yr awn—felly, ym mhob toiled cyhoeddus a ddefnyddiais, gan gynnwys yn y maes awyr. Cymharwch hynny â'n Senedd ni a thoiledau a ddefnyddir gennym ni a staff lle mae cynhyrchion ar gael, ond mewn peiriant ar wal, sy'n golygu, hyd yn oed os gallwch fforddio eu prynu, nad yw bob amser yn bosibl os nad oes gennych ddarnau arian. A allwch chi ddychmygu sefyllfa lle byddem yn ei hystyried yn iawn i roi papur tŷ bach mewn peiriant, a gofyn i bobl dalu am bob dalen? Byddai pobl yn ddig, ac yn briodol felly. Ac eto, dyna sy'n digwydd bob diwrnod gyda chynnyrch mislif yng Nghymru, hyd yn oed yn yr adeilad hwn. A dyna beth mae cyflwyno Bil a deddfwriaeth wedi ei newid yn yr Alban.
Efallai bydd rhai ohonoch yn meddwl pam fod angen deddfu ar y mater hwn, pan fod gennym gynllun gweithredu cadarnhaol ar waith yn barod. Wel, fel y gwyddom ni oll, yn y Senedd hon, mae deddfu yn gwneud gwahaniaeth, ac yn gyrru neges gref sydd yn gallu cael effaith mwy pellgyrrhaeddol ar arferion a disgwyliadau diwylliannol. Mae yna enghreifftiau lu ble arweiniodd newid ddeddfwriaethol at newidiadau diwylliannol sydd wedi effeithio ar fywydau pobl bob dydd—materion fel cosbi plant yn gorfforol, gwaredu bagiau plastig, gwisgo gwregys diogelwch yn y car, ac ati. Mae gosod safonau am y ffordd yr hoffem fyw mewn deddfwriaeth yn sicrhau neges gref a phellgyrhaeddol i’r dyfodol, ac yn sicrhau na fydd unrhyw un yn gorfod colli allan neu deimlo embaras am gael mislif a bod angen deunyddiau mislif yn y dyfodol.
Felly fy apêl i'r Gweinidog heddiw yw: parhewch â'r gwaith gwych rydych eisoes yn ei wneud, ond ewch y cam pellach hwnnw hefyd drwy osod mewn cyfraith yr hawl i gynnyrch mislif am ddim, ble bynnag rydych chi yng Nghymru. Mae cynlluniau gweithredu'n wych ond gallant golli momentwm wrth gystadlu â blaenoriaethau eraill. Dyma'r unig ffordd i wireddu'n llawn ein huchelgais gyffredin i sicrhau urddas mislif i bawb. Ein cyfrifoldeb ni ydyw—boed ein bod yn cael mislif ai peidio—i helpu i ddileu tlodi mislif. Diolch.
Nid mater o gydraddoldeb rhyw yn unig yw hyn, mae hefyd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar fenywod yn anghymesur, ac yn ôl arolwg diweddar gan YouGov, mae un o bob wyth o bobl yn dweud y byddant yn ei chael hi'n anodd fforddio cynnyrch mislif dros y flwyddyn nesaf. Ac wrth gwrs, nid dewis yw'r mislif, ac i lawer o fenywod, mae'n her—mae'n effeithio ar eu hiechyd, eu haddysg, ac weithiau ar eu bywydau cyfan. Canfu Plan International fod 49 y cant o ferched wedi colli o leiaf un diwrnod llawn o ysgol neu goleg oherwydd eu mislif. Mae'n bwysig nodi mai ystadegyn ar gyfer y DU yw'r ystadegyn hwnnw, nid Cymru'n benodol. Efallai fod angen mwy o ddata ar hyn, er mwyn mynd i'r afael yn llawn â'r materion y clywsom amdanynt y prynhawn yma. Os yw'r mislif yn cael ei weld fel tabŵ ac os na chaiff ei drafod, ni fydd merched yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn am gynnyrch mislif, ac felly byddant yn fwy tebygol o aros adref o'r ysgol. Mae cynhyrchion mislif am ddim mewn ystafelloedd ymolchi yn y gweithle yn gallu cael effaith o ran lleihau absenoldeb, oherwydd nad yw pobl yn gorfod dod o hyd i esgusodion i fynd i brynu cynnyrch mislif neu aros adref oherwydd eu pryder ynglŷn â gorfod ymdopi â'u mislif yn y gwaith. Felly, mae'r mislif yn normal a naturiol, dylai fod yn rhan o fywyd bob dydd yn yr ysgol, bywyd gwaith, a bywyd cymdeithasol, ac ni ddylai gael effaith negyddol ar eich bywyd, ble bynnag rydych chi'n byw yng Nghymru.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Llywydd. A diolch, Heledd, am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn ar gyfer eich dadl fer heddiw. Rwy'n cofio trafod tlodi mislif, tua phedair neu bum mlynedd yn ôl mae'n debyg, gyda Jenny Rathbone, rwy'n meddwl—cynnig a gefnogwyd gan y ddwy ohonom—a dyna'r tro cyntaf i hyn gael ei drafod yn Senedd ddatganoledig Cymru. Roedd yn torri tir newydd ar y pryd, ein bod yn ei drafod, ac fe arweiniodd at weithredu gan y Llywodraeth. A diolch i chi hefyd am gydnabod y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, dros nifer o flynyddoedd bellach, ar fentrau ariannol i fynd i'r afael â thlodi mislif, oherwydd mae dileu tlodi mislif yn golygu sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at golli addysg, at absenoldeb o'r gwaith, neu at dynnu'n ôl o weithgareddau chwaraeon a chymdeithasol yn wir. Fel y dywedodd Sioned Williams, mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol.
Felly, ers 2018, rydym wedi buddsoddi tua £12 miliwn i sicrhau bod cynnyrch mislif ar gael am ddim mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru, ac mewn lleoliadau cymunedol. Ac yn ystod y pandemig COVID-19, cafodd hyn ei ymestyn i ganiatáu mwy o hyblygrwydd i gynghorau lleol, awdurdodau lleol, i sicrhau bod cynhyrchion ar gael i'r rhai oedd eu hangen drwy amryw o ddulliau, gan gynnwys rhoi talebau mewn mannau yng Nghymru lle roedd yn anodd darparu cynnyrch i'w ddosbarthu neu ei gasglu. Ac rwy'n cofio gofyn sut oedd ysgolion yn mynd i gael cynhyrchion roeddem ni'n eu hariannu ac yn eu darparu, a gwneud yn siŵr eu bod ar gael, os nad yn yr ysgol, yna yn y gymuned.
Felly diolch i chi hefyd, Heledd, am dynnu sylw at rôl bwysig aelodau etholedig lleol, yn cynnwys eich cydweithiwr a chi eich hun—ac rwy'n cofio clywed am y fenter yn Rhondda Cynon Taf. Ac wrth gwrs, ledled Cymru bellach, mae'r Aelodau wedi bwrw iddi ar hyn i sicrhau bod y gwaith o ddarparu'r cynhyrchion a'r buddsoddiad a wnawn yn cael ei ddefnyddio'n dda. Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr fod y ddarpariaeth honno'n iawn. A dros y blynyddoedd, rydym wedi siarad â chynghorau ysgolion, rydym wedi siarad â bechgyn yn ogystal â merched, rydym wedi gweithio gydag ysgolion i herio'r anwybodaeth a'r stigma y buom yn ei drafod y prynhawn yma, ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu ymgysylltu â staff yr ysgol gyfan, nid yr athrawon yn unig, ond y penaethiaid a'r arweinwyr a phawb sy'n gysylltiedig.
Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol, fel y dywedwch, mae mater tlodi mislif yn amlycach nag erioed. Felly, rwy'n falch fy mod wedi sicrhau cynnydd o £450,000 i'r grant urddas mislif eleni, i gryfhau ymateb awdurdodau lleol i effaith yr argyfwng costau byw. Mae cyfanswm ein grant urddas mislif ar gyfer y flwyddyn ariannol hon bellach dros £3.7 miliwn. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i sicrhau, yn ogystal â chael cynnyrch ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru, eu bod ar gael, fel y gwyddom i gyd, ar draws amrywiaeth o leoliadau cymunedol, ac mae hyn yn cynnwys banciau bwyd a phantrïau, llyfrgelloedd, canolfannau ieuenctid a hybiau cymunedol. Rwy'n falch fod pob lloches i fenywod yng Nghymru wedi cael cynnig arian i sicrhau bod ganddynt gynnyrch mislif ar gael i gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag cam-drin domestig. Ac mae angen inni sicrhau bod cynhyrchion am ddim ar gael yn llawn ac yn hygyrch mewn mannau dynodedig a bod pobl yn gwybod amdanynt ac nad ydynt dan glo mewn peiriannau y mae'n rhaid ichi dalu amdanynt, fel y dywedoch chi.
Rydym bellach yn datblygu map o lefydd yng Nghymru lle mae cynnyrch ar gael, er mwyn rhoi rheolaeth i bobl dros chwilio am gynnyrch a gweld lle maent ar gael yn agos atynt. Bydd hyn yn helpu i ddileu rhwystrau rhag sicrhau urddas mislif gwirioneddol ac yn ei hyrwyddo. Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr wybodaeth wedi'i diweddaru ac yn hawdd ei chael, a byddwch yn gallu defnyddio hidlyddion y map i nodi gwahanol fathau o sefydliadau sy'n darparu cynnyrch mislif a dod o hyd i'r lle agosaf atoch. Oherwydd mae sicrhau bod y cynhyrchion yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen yn hanfodol er mwyn i'r grant lwyddo. Rydym wedi comisiynu gwerthusiad o effaith y grant urddas mislif er mwyn deall sut y gellid gwella'r mesurau presennol i sicrhau ei fod yn cyrraedd cymunedau sy'n agored i niwed ledled Cymru ac mae hefyd yn canolbwyntio cymorth i deuluoedd sydd fwyaf o angen mynediad at y prosiectau a ariannir drwy'r grant. Rydym hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol adrodd ar eu gwariant ddwywaith y flwyddyn yn lle unwaith y flwyddyn, fel y gallwn fonitro'n agos iawn sut mae'r grant yn cael ei ddosbarthu a gwneud addasiadau os oes angen. Rydym yn prosesu'r ceisiadau canol blwyddyn ar gyfer eleni; rydym wedi gweld gwaith addawol yn cael ei wneud, yn cynnwys gwasanaethau tanysgrifio, lle gall rhai mewn angen archebu cynhyrchion yn syth i'w cyfeiriad cartref, yn ogystal â sicrhau, yn achos cynhyrchion mislif brys, eu bod ar gael ledled y gymuned. Felly, gallwch weld o'r enghreifftiau hyn fod awdurdodau lleol, sydd ar y pen cyflenwi, yn dysgu sut y gallant gael y cynhyrchion i bobl o ganlyniad i ymgysylltiad a dysgu drwy gyflwyno'r grant.
Ond mae gennym gyfle hefyd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer ystod ehangach o gynhyrchion, sydd â'r fantais ychwanegol o helpu'r amgylchedd. Felly, eleni rydym wedi cynyddu'r gofyniad i awdurdodau lleol wario canran o'u cyllid ar gynhyrchion ailddefnyddiadwy neu ddi-blastig o 50 y cant i 65 y cant. Mae cost gychwynnol cynnyrch y gellir ei ailddefnyddio yn gallu bod yn rhwystr i rai wrth gwrs, ac rydym am roi cyfle i bobl roi cynnig ar y cynhyrchion hyn heb fod ar eu colled. Efallai na fydd cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn addas ar gyfer pawb, ac nid oes pwysau i newid i'r cynhyrchion hyn; mae'n ymwneud â dewis i'r defnyddiwr, ac efallai y byddant yn dewis parhau i ddefnyddio cynhyrchion tafladwy ond yn dewis rhai sy'n ddi-blastig yn lle hynny, a gall y cynhyrchion hyn hefyd gyfrannu at y gofyniad 65 y cant. Er mwyn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prosiectau hyn, rydym wedi caniatáu i hyd at 20 y cant o'r grant a ddyrannwyd i awdurdodau lleol gael ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddiant neu addysg mewn ysgolion a chymunedau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, dysgwyr ac aelodau o'r gymuned, ac mae'n rhaid i unrhyw hyfforddiant ac addysg ddarparu gwybodaeth am y cyfle i fynd â chynnyrch mislif ailddefnyddiadwy gartref. Mae hyn, unwaith eto, wedi dod o ganlyniad i ddysgu ac adborth gan awdurdodau lleol fod angen yr hyfforddiant a'r addysg honno i ymgysylltu, fel y dywedais, â holl staff a chymuned yr ysgol.
Felly, rydym wedi ymrwymo i ddileu tlodi mislif, ac yn parhau i chwilio am ffyrdd o wella mynediad teg a chyfartal at gynhyrchion, ond rydym yn glir fod dileu tlodi mislif yn mynd ymhell y tu hwnt i ddarparu cynnyrch. Rydym am ddileu'r cywilydd, y stigma a'r tawelwch sydd mor aml yn gysylltiedig â sgyrsiau am y mislif, gan atal rhai rhag cael gafael ar, neu gael cynnig y cymorth a'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt, a mynediad at gynhyrchion efallai, sut i reoli eu mislif yn ddiogel, deall y cylch mislif, cael gwybodaeth a dealltwriaeth i wneud dewis gwybodus am y cynhyrchion y maent yn eu defnyddio a phryd y gallent fod angen cymorth gan weithiwr meddygol proffesiynol.
Felly, rydym ar ddechrau cyfnod newydd yn y daith tuag at urddas mislif cyflawn yng Nghymru, a chyn bo hir byddaf yn cyhoeddi ein cynllun ar gyfer dileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif i bawb erbyn 2027. Mae'r cynllun hwn yn nodi ein huchelgais i sicrhau bod gan fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif fynediad at gynhyrchion hanfodol pan fyddant eu hangen, i ddarparu addysg ac adnoddau i wella dealltwriaeth, a dileu stigma a chywilydd cysylltiedig.
Byddwn yn lansio ymgyrch genedlaethol ac yn galw am weithredu gan bawb er mwyn gwneud Cymru'n genedl sy'n falch o'n mislif. Rydym wedi ymgynghori llawer i'n cael i'r pwynt hwn, ac rwy'n falch iawn o ddweud fy mod wedi ymgysylltu'n helaeth â'n bwrdd crwn o wahanol ddiddordebau a phrofiadau—pobl o awdurdodau lleol, sefydliadau, Plant yng Nghymru ac eraill, gan gynnwys Molly Fenton o'r ymgyrch Love Your Period. Mae Molly wedi bod yn rhan allweddol o'n gwaith. Mae wedi bod yn drawslywodraethol iawn o ran addysg, iechyd a chydweithio gydag adnodd y GIG ar y we, Mislif Fi. Felly, os caf ddweud eto, mewn ymateb i'ch pwyntiau am gyfraniad Molly Fenton, Heledd, rwy'n cymeradwyo eich cefnogaeth a'ch cydnabyddiaeth o'r hyn y mae Molly wedi'i gyflawni, ei chryfder, ei dewrder, ac yn condemnio'r gamdriniaeth a brofodd o ganlyniad i'w safiad ymgyrchu. Mae hi'n parhau i ymgysylltu â ni ac i ddylanwadu arnom, oherwydd rydym angen cyngor arbenigol gan y bobl sydd â phrofiad bywyd ar gyfer datblygu polisi a strategaeth. Mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â'r grŵp ddiwedd y mis hwn, a byddant yn falch iawn o glywed am y ddadl hon heddiw.
Rhaid imi ddiolch i Plant yng Nghymru, Women Connect First a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru—maent i gyd wedi ein cynorthwyo i ymgysylltu â phobl ifanc—a hefyd i bawb y cyfarfuom â hwy drwy ysgolion, ac yn wir, Women Connect First am ein galluogi i gyfarfod â menywod du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn arbennig?
Felly, yn olaf, ar eich galwad am ddeddfwriaeth, nid ydym wedi canfod angen am ddeddfwriaeth ar hyn o bryd, o ystyried ehangder y gwaith a wnawn a'r newid diwylliant y credaf ei fod eisoes yn dechrau, oherwydd mae ein gwaith yn seiliedig ar ddysgu ar y cyd a chydweithio i gyflawni'r cynnydd y gallai deddfwriaeth ei gynnig. Ond rydym yn parhau mewn cysylltiad agos â'n cymheiriaid yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon i ddeall effaith y ddeddfwriaeth ac unrhyw wersi y gallwn eu dysgu. Ond rwy'n falch o'r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru gyda'n gilydd i ddileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif, a diolch i chi am eich cyfraniad heddiw gyda'r ddadl hon, ac rwy'n credu ein bod yn bendant ar ein ffordd i ddod yn genedl sy'n falch o'n mislif. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog, a diolch, Heledd, am y ddadl hon. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.